Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 23ain Mawrth, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 283 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2015.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2015 fel rhai cywir.

3.

Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2016/17 pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2016/17.  

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod gan y Cyngor ddisgresiwn mewn perthynas â thalu Cyflogau Uwch, fel y nodir gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Dyrannodd y Cyngor 15 o swyddi cyflogau uwch ar gyfer 2015/16, o gymharu â 14 yn 2014/15, gan olygu arbediad o 1 swydd.  

 

Mae Arweinwyr Grŵp wedi ystyried yr adroddiad terfynol ac mae’r Pwyllgor Gwaith yn hapus i’r lefelau presennol gael eu talu i Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a’r Cadeiryddion. 

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ar 10 Mai, 2016 iddo gymeradwyo:-

 

3.1.1  Taliad cyflogau Lefel 1 a Lefel 2 ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Gwaith;

3.1.2  Taliad cyflogau Lefel 1 a 2 ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau;

3.1.3  Taliad cyflogau ar un ai Lefel 1, 2 neu 3 ar gyfer Arweinwyr Dinesig a Dirprwy Arweinwyr Dinesig. 

4.

Cynefino Aelodau Newydd – Etholiad 2017 y Cyngor pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar fframwaith cychwynnol CLlLC ar gyfer ymgynghoriad er mwyn cefnogi gweithgareddau cynefino Aelodau newydd yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2017. Bydd CLlLC yn penderfynu ar lefel yr hyfforddiant gorfodol a’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer Aelodau. 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod disgwyliadau Aelodau wedi codi gan fod y gofynion statudol wedi newid ers 2013. Mae’r fframwaith yn awgrymu’r model ar gyfer hyfforddiant yn dilyn yr etholiadau, gydag opsiynau i deilwra hyfforddiant mewn modd priodol ar gyfer anghenion yr awdurdodau lleol. Nodwyd hefyd y byddai Rhwydwaith Cefnogi Aelodau CLlLC yn ystyried y fframwaith fis nesaf. 

 

Gwnaed y sylwadau canlynol gan Aelodau yn ystod y drafodaeth:-

 

  Mae’r gefnogaeth barhaus, sesiynau cynefino a briffio ar gyfer Aelodau newydd ac Aelodau sy’n dychwelyd yn cael eu gwerthfawrogi o ganlyniad i’r disgwyliadau uwch a roddir arnynt.

  Nododd yr Aelodau fod angen hyfforddiant TG pellach mewn perthynas ag iPads, mynediad i Twitter a Facebook ac e-ddysgu.

 

Gweithred: Fel yr uchod.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi sylwadau’r Pwyllgor uchod ac y dylid cyflwyno adroddiad pellach ar hyfforddiant Aelodau i’r cyfarfod nesaf. 

5.

Dyddiadur Cyfarfodydd 2016/17 pdf eicon PDF 646 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Galendr Blynyddol Cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2016/17 a baratowyd ar y cyd â Swyddogion ac Arweinyddion Grwpiau. 

 

Mae’r dyddiadur cyfarfodydd yn seiliedig ar drefnu’r rhan fwyaf o gyfarfodydd rhwng dydd Llun a dydd Mercher gyda sesiynau briffio aelodau’n cael eu trefnu ar gyfer dydd Iau cyntaf pob mis. 

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio barhau i ddechrau am 2pm. 

 

Gweithred: Fel y nodwyd uchod.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau a chymeradwyo amserlen cyfarfodydd y Cyngor ac adrodd yn ôl i’r Cyngor ym mis Mai, 2016. 

6.

Gwefannau Cynghorau Cymuned pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar gyllid Cynghorau Cymuned i gynnig grantiau o £500 i Gynghorau Tref a Chymuned ei wario ar ddatblygiad gwefannau.  

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod disgwyliad ar y Cynghorau Tref a Chymuned i baratoi ar gyfer Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sy’n nodi fod angen i bob Cyngor Tref a Chymuned gyhoeddi gwybodaeth ar wefan.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn i’r Swyddog Monitro ysgrifennu at y 2 Gyngor Tref a Chymuned, nad ydynt wedi hawlio’r grant hyd yma, er mwyn eu hannog i wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.