Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 3 – Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol 2018/19 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017 fel cofnod cywir.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
Eitem 5 – Amseriad Cyfarfodydd Cyngor
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Cyngor Llawn, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2018, wedi cadarnhau na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i amseroedd cyfarfodydd. |
|
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 PDF 283 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol 2018/19.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod yn rhaid i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gynhyrchu Adroddiad Blynyddol sy’n nodi’r mathau a’r lefelau o daliadau y gall neu sy’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau sydd ar gael ar gyfer eu haelodau ac aelodau cyfetholedig. Mae’r Panel wedi penderfynu ar gynnydd o £200 y flwyddyn i gyflog blynyddol sylfaenol Aelodau Etholedig; bydd y cyflog sylfaenol felly’n £13,600. Uchafswm nifer y cyflogau uwch sydd wedi’u pennu ar gyfer yr Awdurdod hwn ar gyfer 2018/19 yw 16; mae hyn yn cynnwys cyflogau dinesig ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor Sir. Nodwyd nad oes unrhyw gynnydd yn cael ei argymell ar gyfer y swyddi uwch ond y bydd deiliaid y swyddi hyn yn derbyn y cynnydd yn yr elfen sylfaenol o’r cyflog.
Mae’r disgresiwn i dalu gwahanol lefelau o gyflog i Aelodau Pwyllgor Gwaith wedi’i ddiddymu a dim ond un lefel cyflog fydd yn bodoli ar gyfer 2018/19. Mae’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol hefyd wedi penderfynu y bydd trefniadau dwy haen ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu diddymu. Fodd bynnag, mae’r Panel yn cydnabod ei bod hi’n briodol i awdurdodau lleol osod y lefelau tâl ar gyfer Penaethiaid Dinesig a Dirprwy Benaethiaid Dinesig. Mae’r Cyngor hwn ar hyn o bryd yn talu lefel 3 i’r Pennaeth Dinesig a’r Dirprwy. Gofynnwyd am safbwyntiau’r Arweinwyr Grwpiau ac argymhellir fod y lefel presennol o daliadau yn parhau ar gyfer 2018/19 sef Lefel 3.
PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn derbyn yr adroddiad a bod y cyflogau Lefel 3 isaf yn cael eu talu i’r Pennaeth Dinesig a’r Dirprwy Bennaeth Dinesig. |
|
Adroddiadau Blynyddol Aelodau 2017/18 PDF 378 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Adran 5 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn galluogi Aelodau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu gweithgareddau.
Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr amserlen ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2017/18, fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Dywedodd yr Aelodau y dylai ymrwymiadau gwaith a’r angen i gynrychioli’r Cyngor mewn gwahanol gyfarfodydd gael ei gymryd i ystyriaeth yn y canran presenoldeb mewn cyfarfodydd o fewn Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ac i gynnwys, o fewn Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau, y rheswm am absenoldebau Aelodau o Bwyllgorau penodol o ganlyniad i ymrwymiadau gwaith a chynrychioli’r Cyngor ar wahanol gyrff. |
|
Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau 2017/18 PDF 858 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cynnydd o ran cyfleoedd datblygu a gynigwyd i Aelodau Etholedig ers yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2017.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol, rhwng Medi 2017 a hyd at 31 Mawrth, 2018 bod 11 o sesiynau datblygu ffurfiol wedi / yn cael eu cynnig. O’r rhain, roedd 5 sesiwn ar gyfer Aelodau’r Pwyllgorau Sgriwtini, roedd un yn ymwneud â’r Pwyllgor Archwilio, Hyfforddiant Trwyddedu, tra bo’r holl Aelodau Etholedig yn cael gwahoddiad i weddill y sesiynau a gynigwyd (sy’n cynnwys y sesiwn Gynefino Ranbarthol a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Venue Cymru). Lle bo hynny’n berthnasol, gwahoddwyd Aelodau Lleyg y Pwyllgorau Sgriwtini a’r Pwyllgor Safonau i fynychu sesiynau hyfforddiant penodol. Dywedodd hefyd bod ymdrechion wedi eu gwneud i annog Aelodau Etholedig i ymgyfarwyddo eu hunain â’r rhaglenni E-ddysgu sydd ar gael, gyda'r Swyddog E-ddysgu yn darparu nifer o sesiynau hyfforddiant.
PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd o fewn y Cynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau ar gyfer 2017/18. |
|
Siartr Datblygu a Chefnogi Aelodau PDF 419 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Siartr Cefnogi a Datblygu Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rhoddwyd y Siartr i’r Cyngor yn 2014 a’i nod yw darparu fframwaith eang ar gyfer cynllunio lleol, hunanasesu, gweithredu ac adolygu a rhannu arferion da ac arloesol. Rhoddwyd y dyfarniad am gyfnod o 3 blynedd a chynigir fod y Cyngor rŵan yn ceisio ailasesiad.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ac i’r Cyngor geisio ailasesiad o fewn Siartr Cefnogi a Datblygu Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
|
|
Gweddarlledu Cyfarfodydd PDF 677 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â gweddarlledu cyfarfodydd.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, ers Mehefin 2014 bod cyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion wedi cael eu gweddarlledu a bod y gwasanaeth wedi’i ddarparu gan Public.i, roedd gwybodaeth am nifer y gwylwyr ers Ebrill 2016 wedi’i atodi i’r adroddiad. Nodwyd fod y contract presennol â Public.i yn dod i ben ym Mawrth 2018 a bod y gwasanaeth ar hyn o bryd allan i dendr am gyfnod o 3 blynedd hyd at Mawrth 2021.
Gofynnodd y Cynghorydd Dylan Rees am gadarnhad a fyddai’r Pwyllgorau Sgriwtini yn cael eu gweddarlledu pan fyddai materion sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd yn cael eu trafod. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y gellir trafod y mater hwn yn y man.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ac y dylid cyflwyno adroddiad diweddaru pellach i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. |
|
Amserlen Cyfarfodydd 2018/19 PDF 799 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – amserlen o gyfarfodydd Pwyllgorau ar gyfer 2018/19 sy’n adlewyrchu penderfyniad y Cyngor Sir Llawn, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2018 i beidio ag addasu amseriad y cyfarfodydd a lle bynnag bo hynny’n bosibl, i drefnu cyfarfodydd ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher.
PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |