Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 25ain Mawrth, 2019 2.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag

unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 273 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gyynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018 yn gywir.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 12 Rhagfyr 2018 wedi cael ei ganslo, gan fod Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor wedi’i gynnull ar 27 Tachwedd 2018. 

3.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 432 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr Adroddiad Blynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20.

 

  Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Panel wedi cynyddu’r cyflog sylfaenol i Aelod Etholedig £268 y flwyddyn (cynnydd o 1.97%), sy’n dod â chyfanswm y lwfans i Aelodau i £13,868 y flwyddyn. Nodwyd y bydd y nifer uchaf o uwch gyflogau y gellir eu talu yn parhau i fod yn 16, sy’n cynnwys cyflogau dinesig ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor. Bydd cynnydd o £800 yn cael ei wneud i Aelodau’r Pwyllgor Gwaith, ac mae hynny’n cynnwys y cynnydd yn yr elfen cyflog sylfaenol.

 

Mae’r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu peidio cynyddu uwch gyflogau Cadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinydd yr wrthblaid fwyaf, ond bydd y cynnydd o £268 i’r cyflog sylfaenol yn cael ei adlewyrchu yn y cyfanswm a delir.

Ar gyfer 2019/20, mae’r Panel wedi penderfynu cynyddu cyflogau dinesig: bydd cyflog Cadeirydd y Cyngor yn cael ei gynyddu i Fand 3 - £22,586, tra bydd cyflog yr Is-gadeirydd yn cael ei gynyddu i Fand 5 - £17, 568.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd yr atodlen o daliadau i Aelodau ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2019/20, fel y cafodd ei rhagnodi gan y Panel yn ei Adroddiad Ariannol, yn cael ei hadrodd i’r Cyngor Sir ar 14 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r penderfyniadau yn adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20.

 

4.

Strategaeth Datblygu Aelodau 2019/22 pdf eicon PDF 688 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y Strategaeth Datblygu Aelodau ar gyfer 2019/22.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Strategaeth Datblygu Aelodau wedi cael ei haddasu a’i mabwysiadu gan y Cyngor am y tair blynedd nesaf. Mae’r Strategaeth yn amlinellu ymrwymiad y Cyngor i ddysgu a datblygu ei Aelodau, ac mae’n seiliedig ar nifer o egwyddorion allweddol a disgwyliadau a roddir ar Aelodau.

 

Nodwyd mai nod y Strategaeth yw galluogi’r Aelodau i weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni eu rolau fel Cynghorwyr, gan adnabod a chwrdd â’u hanghenion unigol o ran hyfforddiant a datblygu o fewn y rôl honno. 

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd pa mor bwysig yw ymrwymiad yr aelodau i gwblhau hyfforddiant mandadol, a phwysigrwydd Arweinyddion y Grwpiau wrth gadw llygad ar bresenoldeb yr Aelodau mewn sesiynau hyfforddiant.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, unwaith y bydd y Pwyllgor hwn wedi cymeradwyo’r Strategaeth, bydd copi ohoni yn cael ei anfon ymlaen at CLlLC i’w chynnwys yn y cyflwyniad ar gyfer y Siarter Datblygu Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     Nodi cynnwys yr adroddiad.

·     Cymeradwyo’r Strategaeth Datblygu Aelodau ar gyfer 2019/22.

5.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol, fel y'i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol  ar y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau ers cyflwyno’r adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn ar 12 Medi 2018. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y cynigiwyd sesiynau hyfforddiant ffurfiol i’r Aelodau rhwng mis Medi 2018 a diwedd Mawrth 2019, yn ymwneud ag ystod o feysydd pwnc.

           

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y canlynol:-

 

·       Yn ystod 2019/20 bwriedir datblygu a marchnata E-ddysgu ymhellach er

 mwyn annog yr Aelodau i gynyddu eu defnydd o’r modiwlau.  Nodwyd y

 gellid amnewid y llwyfan mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd am

 fersiwn mwy llyfn, sy’n haws cael mynediad ati.

·       Cafodd holiadur sgiliau TGCh ei gylchredeg i’r holl Aelodau ym mis Ionawr

 i sefydlu anghenion hyfforddiant. Mae’r adborth wedi’i ddwyn ynghyd a

 bydd sesiynau hyfforddiant pwrpasol yn cael eu trefnu i gwrdd ag

 anghenion hyfforddiant unigol yr Aelodau.

·       Nodwyd y byddai’r canllawiau i Aelodau ar y defnydd o I-pads yn cael eu

     cyhoeddi’n fuan.

·       Mae rhai Aelodau wedi nodi eu dymuniad i gael hyfforddiant cyfryngau

 cymdeithasol pellach ar Twitter a Facebook.

·       Amlygwyd yr angen i Aelodau gofnodi eu hyfforddiant ar-lein yn syth ar ôl

 mynychu unrhyw sesiynau hyfforddiant. 

·       Mewn perthynas ag Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP), roedd

 rhywfaint o adborth wedi’i dderbyn gan yr Arweinyddion Grwpiau. Bydd y

 Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn monitro cynnydd trwy

 gyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau.   

·       Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y Rhaglen Ddatblygu ar gyfer 2019/20. 

   Bydd adborth a gafwyd ar anghenion datblygu yr Aelodau o ADP,

   arweiniad gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Arweinyddion Grwpiau yn

   cael eu cynnwys yn y Rhaglen.

 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr adborth o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019, lle trafodwyd presenoldeb yr Aelodau mewn cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant yn cael eu monitro trwy Arweinyddion Grwpiau.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau hefyd wedi nodi’r angen i roi sylw i anghenion hyfforddiant Aelodau cyfetholedig, a hyfforddiant corfforaethol perthnasol, a fyddai’n cael ei reoli trwy Swyddogion Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed o ran Datblygu Aelodau.

6.

Materion Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 433 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar faterion yr Aelodau Etholedig, fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r diweddariad ar Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau yn cael ei drafod yn eitem 7 ar y rhaglen.

 

Gan gyfeirio ar Siarter Cymru ar gyfer Datblygu Aelodau gan CLlLC, bydd tystiolaeth gefnogol yn cael ei chyflwyno i CLlLC erbyn diwedd Mawrth 2019.

 

Mewn perthynas â gwiriadau GDG, nodwyd fod yr holl Aelodau wedi cwblhau’r broses gofrestru.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod gwybodaeth mewn perthynas â Bywgraffiad Aelodau nawr ar gael ar wefan y Cyngor o dan yr adrannau presenoldeb mewn Pwyllgorau a chofnodion hyfforddiant.

 

Mewn perthynas â chyrff allanol, mae dolenni yn awr ar gael ar wefan y Cyngor. Nodwyd y bydd angen adolygu’r atodlen o gyrff allanol mewn ymgynghoriad â’r Arweinyddion Grwpiau a’i hadrodd yn ôl i’r Cyngor ym mis Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd fel y manylir yn yr adroddiad.

7.

Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau 2018/19 pdf eicon PDF 445 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Adran 5 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n rhoi dyletswydd ar y Cyngor Sir i sicrhau bod trefniadau mewn lle i’r Aelodau allu cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol ar eu gweithgareddau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddent yn gofyn i’r Aelodau gwblhau adroddiadau drafft erbyn diwedd mis Ebrill 2019, i’w cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 28 Mehefin 2019.

 

Nododd y Pwyllgor, os nad yw aelodau’n mynychu cyfarfodydd Pwyllgor oherwydd ymrwymiadau eraill sy’n gysylltiedig â busnes y Cyngor, dylent dynnu sylw at hynny yn yr Adroddiadau Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r amserlen ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol ar gyfer 2019/20.