Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithwir (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mawrth, 16eg Mawrth, 2021 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor blaenorol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

3.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 319 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a gyhoeddwyd  25 Chwefror 2021, gan nodi’r mathau a’r lefelau o daliadau y gall neu y dylai awdurdodau sicrhau eu bod ar gael i’w Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig.

 

Fe adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y prif newidiadau sy’n berthnasol i’r Cyngor hwn yn weithredol o 1 Ebrill 2021, ac fe’u hamlinellir isod :- 

 

  Bydd y cyflog sylfaenol i aelodau etholedig yn codi £150 i £14,368;

  Bydd uwch gyflogau (taliadau i aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, Cadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinydd yr wrthblaid) yn codi ar yr un gyfradd a’r cyflog sylfaenol (1.06%);

  Bydd cyflogau penaethiaid dinesig a’u dirprwyon yn codibydd Cadeiryddion Pwyllgorau yn derbyn £23,161 (Band 3), a bydd Is-Gadeiryddion yn derbyn £18,108 (Band 5);

  Bydd taliadau i aelodau cyfetholedig yn codi £12 y diwrnod;

  Bydd costau gofal (wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru) yn cael eu had-dalu yn llawn;

  Bydd costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) yn cael eu had-dalu hyd at y gyfradd uchaf gyfwerth i’r Cyflog Byw, ar yr adeg y ceir y costau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r penderfyniadau o fewn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2021/22.  

4.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 279 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi - Adnoddau Dynol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad diweddaru gan y Rheolwr Hyfforddiant AD ar ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD mai ychydig iawn o sesiynau hyfforddi a gynigwyd i Aelodau Etholedig yn ystod chwarter olaf 2019/20 oherwydd y pandemig. Y bwriad yw rhoi Cynllun Datblygu a Hyfforddiant Aelodau diwygiedig at ei gilydd, a fyddai’n cynnwys unrhyw gyfleoedd hyfforddi perthnasol na gyflawnwyd yn ystod 2019/20, hyd at etholiadau 2022.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod pynciau a’u hamlygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a swyddogion o fewn y Cyngor wedi eu cynnwys o fewn y Cynllun Datblygiad drafft, ynghyd ag adborth o Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau unigol.  

 

Nodwyd fod y modiwlau E-Ddysgu ar blatfform Porth Dysgu'r Awdurdod yn parhau i fod ar gael. Amlygwyd bod y modiwlau'n darparu hyblygrwydd ar gyfer hyfforddiant ar-lein, a'u bod ar gael yn rhithiol.

 

Cyfeiriwyd at ddatblygiad a chyhoeddiad Bwletin dwyieithog i Aelodau Etholedig, sydd â’r nod o ddarparu gwybodaeth am ddigwyddiadau hyfforddi a chyfleoedd datblygiad i Aelodau. Yn dibynnu ar y gwerth tybiedig a'r adborth a gafwyd, cynigiwyd y gallai Bwletin gael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu bob chwarter.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar anghenion hyfforddi Aelodau unigol, fel â ganlyn: -

 

  Gwnaed cais i sesiynau hyfforddi gael eu cynnal wyneb yn wyneb fel sesiynau grŵp ar MS Teams neu Zoom yn hytrach na chyrchu cyrsiau E-Ddysgu ar-lein yn unigol. Y Rheolwr Hyfforddiant AD i drafod gyda Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

  Amlygodd Aelodau faterion Iechyd Meddwl oedolion a Diogelu fel pynciau posib i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu. Esboniodd y Rheolwr Hyfforddiant AD fod adran benodol ar gyfer Aelodau Etholedig yn mynd i gael ei datblygu ar y Porth Dysgu a fydd yn galluogi mynediad at fodiwlau/gwybodaeth hyfforddi, ynghyd â gwybodaeth ar iechyd a llesiant, yn debyg i beth sydd ar gael ar hyn o bryd i staff. 

  Awgrymwyd bod sesiynau hyfforddiant wyneb yn wyneb ar-lein yn cael eu recordio yn y dyfodol er mwyn rhoi hyblygrwydd ac opsiynau chwarae’r fideo. Teimlodd yr Aelodau yn gyffredinol fod gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno’r bersonol yn haws i’w gofio, ac yn rhoi cyfle i ofyn a chael atebion i gwestiynau yn ystod trafodaethau.  Dywedodd y Rheolwr Hyfforddiant AD y byddai hyn yn ddibynnol ar ddarparwyr hyfforddiant yn cytuno i ganiatáu i’w sesiynau gael eu recordio.

  Gwnaed cais i adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn, yn rhoi manylion data ystadegol dienw ar y nifer sy'n cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi gorfodol.

 

Anogwyd yr aelodau i gyflwyno eu hanghenion hyfforddi unigol erbyn diwedd mis Mawrth, fel y gallai unrhyw ofynion gael eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu, i'w cyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Dylai Aelodau roi eu mewnbwn ar eu hanghenion hyfforddi ynghyd â hyfforddiant gorfodol erbyn diwedd Mawrth 2021.

  Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.