Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·      16 Mawrth 2021

·      18 Mai 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-

 

  16 Mawrth 2021

  18 Mai 2021

 

3.

Datganiad Amrywiaeth pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi bod yn rhoi sylw i amrywiaeth mewn llywodraeth leol ac wedi cytuno i annog pob Cyngor i fabwysiadu Datganiad Amrywiaeth fel rhan o’r ymrwymiad gan awdurdodau lleol i hyrwyddo amrywiaeth, cyn etholiadau 2022.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod gweithgor wedi’i sefydlu er mwyn casglu tystiolaeth am dangynrychiolaeth o fewn democratiaeth. Cyflwynodd y grŵp ei ganfyddiadau i CLlLC yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2021. Roedd yr adroddiad yn cydnabod fod pobl o wahanol gefndiroedd yn cael eu hannog i sefyll ac mae ymgyrch cenedlaethol wedi’i gynllunio er mwyn hyrwyddo hyn.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Cyngor yn cefnogi’r Datganiad Amrywiaeth, sy’n gyson â nodau strategol yr Awdurdod i adlewyrchu’r gymuned leol. Nodwyd fod y Cyngor yn gobeithio cynyddu nifer y merched, pobl ifanc, pobl anabl a phobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig sy’n sefyll yn yr etholiad.

 

Yn dilyn cyfarfod Cyngor y CLlLC ym mis Mawrth eleni, gofynnir i Gynghorau lleol fabwysiadu Datganiad Amrywiaeth a pharatoi cynllun gweithredu. 

 

Nododd y Pwyllgor nad yw’r lwfansau a delir i Aelodau Etholedig yn ddigonol er mwyn annog pobl ifanc a’r rhai hynny sydd o oed gwaith i sefyll yn yr etholiad. Bu Aelodau hefyd bwysleisio pwysigrwydd annog pobl o wahanol oedrannau, cefndiroedd a lefelau profiad i sefyll yn yr etholiad.

 

Gofynnodd Aelod am i’r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod heddiw, mewn perthynas â lwfansau Aelodau, i gael eu crybwyll pan fydd y mater yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn. Nodwyd y bydd cynllun gweithredu yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cefnogi’r Datganiad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Argymell bod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r Datganiad Amrywiaeth drafft yn ei gyfarfod mis Medi, a 

  Dirprwyo hawl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gytuno cynllun gweithredu i gefnogi’r datganiad yn ei gyfarfod nesaf.