Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Neuadd Gymuned Talwrn Community Hall

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croeso

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol i Neuadd Gymuned Talwrn ar gyfer y cyfarfod hwn o Bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb wedi’i dderbyn.

 

2.

Cofnodion Cyfarfod 11 Gorffennaf, 2013 pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2013.  

 

Materion yn codi –

 

           Yng nghyswllt cyfranogiad y Trydydd Sector ym mhroses Sgriwtini’r Awdurdod cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) bod yr Adain Sgriwtini wedi bod mewn cyswllt gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn i fynd a’r mater hwn yn ei flaen.  Eglurodd y Swyddog bod y Pwyllgor Gwaith yn diweddaru ei Raglen Waith drwy ei gyfarfodydd misol sydd yn eu tro yn bwydo i mewn ac yn rhoi gwybodaeth ar gyfer blaenoriaethau’r Rhaglen Waith Sgriwtini.  Fel sydd wedi ei gytuno mae Rhaglen Waith ar y Cyd gyda’r Trydydd Sector yn seiliedig ar allbynnau’r Pwyllgor Cyswllt yn dechrau cael ei datblygu a bydd hyn yn hwyluso ymwneud y Trydydd Sector yn nhrefniadau democrataidd y Cyngor, gan gynnwys Sgriwitini.

 

Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod wedi trafod y mater gyda’r Rheolwr Sgriwtini ac y byddai’n hoffi cael sicrwydd y bydd cynnydd pendant yn cael ei wneud.  Fodd bynnag, rhaid i gyfranogwyr tebygol o’r Trydydd Sector fod wedi eu hyfforddi’n briodol er mwyn sicrhau eu bod yn dod ag ystod eang o brofiad ac arbenigedd i’r trafodaethau sgriwtini ac na fyddant ond yn bresennol yno fel cynrychiolwyr eu sefydliad unigol.  Mae gan y Trydydd Sector, fodd bynnag, gronfa o unigolion sydd â dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i weithredu fel cynrychiolydd ac i weithio mewn partneriaeth.  Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod yn ymwybodol bod y mater hwn wedi bod yn mynd yn ei flaen am beth amser ond mae’n golygu mwy na dim ond dewis unigolion i ymgymryd â’r rôl ond gwneud yn siŵr bod grŵp o bobl wedi eu hyfforddi ar gael ac yn gallu gweithredu’n effeithiol. 

 

Cytunodd Arweinydd y Cyngor gyda’r dadansoddiad a wnaed ac atgoffodd y Pwyllgor nad yw Pwyllgorau Sgriwtini yn bwyllgorau gwleidyddol a’u bwriad yw defnyddio profiad ac arbenigedd eu haelodau i allu gwneud gwell penderfyniadau.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn y byddai’n cydlynu’r broses o ddewis cynrychiolwyr sgriwtini addas pan fydd yn amserol i wneud hynny.

 

Nodwyd y sefyllfa.  Dim camau gweithredu pellach yn codi.

 

           Gan gyfeirio at y Cytundeb Compact a’r Polisi Gwirfoddoli dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) wrth y Pwyllgor ei fod wedi cael trafodaethau gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn ynglŷn â lansio’r Cytundeb Compact yn ffurfiol gyda hynny wedi ei drefnu ar gyfer 7 Tachwedd.  Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod Arweinydd y Cyngor wedi ei wahodd i fod yn rhan o’r lansiad fyddai hefyd yn gymorth i bwysleisio cymeriad partneriaeth y Compact fel cytundeb tair ffordd.  Cafwyd diweddariad i’r Aelodau gan y Cyfarwyddwr Cymuned ar weithredu’r Polisi Gwirfoddoli a dywedodd bod y flaenoriaeth yn parhau yn un o godi ymwybyddiaeth Penaethiaid Gwasanaeth o’r polisi a nodi’r gwirfoddolwyr sydd ar hyn o bryd yn weithredol yn y system a sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i gefnogi’r grŵp hwnnw ac i nodi cyfleon wedi hynny.

           Gan gyfeirio at y Côd Cyllido, dywedodd Prif  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Bwrdd Gwasanaeth Lleol

Derbyn cyflwyniad gan Mr Trystan Pritchard, Rheolwr Uned Partneriaeth Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Tristan Pritchard, Rheolwr Uned Partneriaeth Gwynedd a Môn i’r cyfarfod a gwahoddwyd ef i annerch yr Aelodau ynglyn a gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd.

 

Cafwyd diweddariad gan Reolwr yr Uned Bartneriaeth ar y datblygiadau hyd yn hyn ar ôl y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd (BELLC) drwy gyfeirio at y canlynol –

           Un o’r strategaethau allweddol yn cynnwys Plant a Phobl Ifanc, Diogelwch Cymunedol, Iechyd a Lles a’r Strategaeth Gymunedol i ffurfio un Strategaeth Integredig i Wynedd a Môn.  Mae’r broses hon wedi ei chynllunio, ei gyrru a’i chraffu drwy greu Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd gyda’r sector gwirfoddol yn bartner llawn.

           Sefydlu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd fel y brif bartneriaeth strategol i’r holl wasanaethau o fewn ei ddyletswyddau, h.y. Plant a Phobl Ifanc, Iechyd a Lles, a Diogelwch Cymunedol.

           Modus Operandi lle mae’r BELLC yn nodi’r blaenoriaethau o fewn y Cynllun Integredig yn cael ei gefnogi gan is-strwythur yn ffocysu ar ganlyniadau.  Y Cynllun Integredig yw’r prif gerbyd ar gyfer gwireddu’r blaenoriaethau a osodwyd.

           Ffocws ar wella ymgysylltiad, cydberchnogaeth a dileu ffiniau sefydliadol.

           Y Cynllun Integredig fel rhaglen ataliol.  Blaenoriaethau cynnar y BELLC sy’n cynnwys yr Iaith, Tlodi, yr Economi a chryfhau ymgysylltiad.

           Nodau ac Amcanion yr Uned Partneriaeth ar y Cyd, yn cynnwys ychwanegu gwerth ac arwain ar faterion sydd angen ymyrraeth strategol ar y cyd.

           Strwythur llywodraethu gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd yn gosod y cyfeiriad strategol; Bwrdd Darparu er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol a Grwpiau Darparu / Prosiect yn cyflawni canlyniadau.  Mae’r strwythur llywodraethu wedi ei ddylunio fel bod y pwyslais yn fwy ar gyflawni canlyniadau nag ar gylch o gyfarfodydd gyda’r BELLC yn comisiynu amcanion clir mewn meysydd penodol i’w gwireddu gan y grwpiau darparu a phrosiect .

           Camau nesaf, yn cynnwys ffurfio Cynllun Integredig Sengl gyda’r broses honno eisoes yn cael ei gweithredu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau i Reolwr yr Uned Bartneriaeth ar y wybodaeth a gyflwynwyd.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor yn y man gael cyflwyniad ac/neu wybodaeth ar weithgareddau uniongyrchol y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd.  Dywedodd Rheolwr yr Uned Bartneriaeth y byddai’n hapus i wneud hynny unwaith y byddai’r grwpiau thematig/prosiect wedi mynd drwy’r sianelau adrodd yn ôl ac y byddai hefyd yn rhannu’r Cynllun Integredig Sengl drafft gyda’r Pwyllgor.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn - cyn i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd ddod i fodolaeth roedd yna strwythur lleol o grwpiau thematig gyda’r sector gwirfoddol fel rhan o’r strwythur hwnnw.  Roedd ganddo rai pryderon gyda’r trefniadau’n cael eu taenu dros y ddwy sir y byddai rôl y sector gwirfoddol yn lleihau a phwysleisiodd ei bod yn bwysig parhau i ymgynghori gyda’r sefydliadau llai. 

 

Dywedodd y Rheolwr Uned Partneriaeth mai’r nod yw cadw gweithgaredd lleol a bod gwaith yn cael ei wneud ar ddatblygu model gwahanol o weithio, e.e. drwy weithdai.  Tra bod yna risg y bydd cysylltiadau lleol yn cael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Fframwaith ar gyfer Darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig pdf eicon PDF 498 KB

Y Cyfarwyddwr Cymuned i adrodd ar y ddogfennaeth ynghylch yr uchod.

Cofnodion:

 

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor ddogfen ymgynghori ar y Fframwaith Darparu Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig ynghyd â gohebiaeth a datganiad ysgrifenedig gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.  Roedd y dogfennau yn nodi’r amcanion o roi’r Fframwaith ymlaen mewn ymateb i’r galw cynyddol am wasanaethau gan boblogaeth sy’n heneiddio yn ogystal â manteision integreiddio o ran creu mwy o gysondeb o ran canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol, newid yn ffocws y gofal o’r ysbytai i’r cartref  a chanolbwyntio ymyrraeth gynnar, ail-alluogi a gofal canolraddol mewn un system.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod yr amserlen ar gyfer ymateb i’r ddogfen uchod yn gyfyngedig a dywedodd wrth y Pwyllgor bod grŵp tasg eisoes wedi ei sefydlu ers mis Mawrth i hyrwyddo’r gwaith o integreiddio gwasanaethau gyda’r Sector Iechyd.  Eglurodd bod disgwyl i bob Cyngor a Bwrdd Iechyd Lleol partner gyflwyno datganiad wedi ei gytuno a’i arwyddo ar gyfer integreiddio gwasanaethau i bobl hyn gydag anghenion dwys erbyn diwedd mis Ionawr 2014.  Cynigiodd y dylai grŵp o bartneriaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol, sector annibynnol, aelodau etholedig a’r swyddogion gyfarfod i sefydlu gwaelodlin gychwynnol ar gyfer symud ymlaen gyda gwasanaethau integredig gydag iechyd erbyn diwedd mis Rhagfyr 2013 o safbwynt cael dealltwriaeth o’r hyn sydd eisoes yn ei le a pha waith integreiddio pellach sydd ei angen ac yn bosibl.  Dywedodd ei bod, fel y swyddog proffesiynol, yn cefnogi’r cynigion a’i bod yn awyddus i symud ymlaen gyda hwy ac i ddefnyddio’r trefniadau o fewn y Pwyllgor Cyswllt fel marciwr.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, gofynnwyd cwestiynau am y sefyllfa ynglŷn ag adnoddau; ynglyn â chronni adnoddau ac a oedd yna ddigon o adnoddau ar gael i weithredu’r cynigion yn y Fframwaith yn llawn.  Crybwyllwyd hefyd sut y gallai canlyniad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ddylanwadu ac/neu ffitio i mewn gyda chynigion y Fframwaith o ran yr hyn y gall y Comisiwn ei weld fel y cerbyd gorau ar gyfer darparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod yn rhaid i’r pwynt cychwyn fod ar ffurf trafodaeth ynglyn â beth sydd angen rhoi sylw iddo ym Môn ac i berthnasu cynigion y Fframwaith i’r cynlluniau cyfredol ym Môn.

 

Nodwyd beth oedd gofynion y dogfennau.

 

Camau Gweithredu yn Codi: Y Cyfarwyddwr Cymuned i gydlynu trefniadau ar gyfer cyfarfod gyda phartneriaid mewn ymateb i gynigion Fframwaith gyda golwg ar sefydlu gwaelodlin i wasanaethau integredig ym Môn mewn paratoad ar gyfer rhyddhau Datganiad o Fwriad erbyn diwedd Ionawr 2014.

5.

Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol y Cyngor

Rheolwraig Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol y Cyngor i gyflwyno trosolwg o’r Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol.

 

 

Cofnodion:

 

Oherwydd absenoldeb Reolwr y Rhaglen Drawsnewid Gorfforaethol, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) grynodeb i’r Pwyllgor o nodau ac amcanion rhaglen Trawsnewid Corfforaethol yr Awdurdod a’r strwythur ar gyfer ei darparu.  Cyfeiriodd at y tri Bwrdd Rhaglen a’u themâu o amgylch rhagoriaeth gwasanaeth; menter, a thrawsnewid busnes ac i is-strwythur y byrddau prosiect sy’n ffocysu ar themâu penodol.  Ehangodd Arweinydd y Cyngor ar y ffrydiau gwaith sydd o dan bob Bwrdd Rhaglen.

 

Holodd Prif Swyddog Medrwn Môn a fydd y Rhaglen Drawsnewid Gorfforaethol yn cael effaith ar gysylltiadau’r Awdurdod gyda’r gymuned a gyda’r Trydydd Sector o ran cyflwyno ffyrdd newydd o gefnogi’r sector a chymunedau.  Dywedodd y byddai’n gwerthfawrogi cael trafodaeth ynglyn â’r mater hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod ffrwd waith wedi ei sefydlu sy’n delio â gofal cwsmer ac y byddai’r Trydydd Sector yn cael ei gynnwys mewn ymgynghori yn gysylltiedig â’r broses o nodi ffyrdd o wasanaethu’r cyhoedd yn well wrth i hynny esblygu a symud yn ei flaen.

Nodwyd yr wybodaeth.

 

Camau Gweithredu’n Codi: Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) i baratoi crynodeb/ siart llif o strwythur y Rhaglen Drawsnewid Gorfforaethol i’w chylchu i aelodau sector gwirfoddol y Pwyllgor er gwybodaeth.

6.

Materion Cyllidol

Ystyried materion cyllidol yn codi.

Cofnodion:

 

Dywedodd y Prif Swyddog Medrwn Môn - wrth i baratoadau i ffurfio cyllideb 2014/15 fynd yn eu blaen, y byddai’r Trydydd Sector yn dymuno fod yn effro i brif themâu'r trafodaethau fel bod sefydliadau’n ymwybodol o’r rhagolygon ac yn gallu cynllunio yn unol â hynny.  Dywedodd y byddai’n beth da pe bai dyheadau’r Trydydd Sector yn cael eu bwydo i mewn i’r broses a bod y sector yn cael gwybod am ddatblygiadau yng nghyswllt cyfleon a bwriadau comisiynu’r Awdurdod.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod gwaith ar adolygu contractau’r Trydydd Sector yn parhau ac wedi cynnwys peth gwaith adferol yn ogystal â chryfhau’r prosesau.  Oherwydd materion capasiti mae’r dyddiad cwblhau’r gwaith wedi ei ailosod i Hydref/Tachwedd.  Cadarnhaodd y Swyddog bod gohebiaeth wedi ei hanfon i’r Trydydd Sector ynglyn â sefyllfa ariannol ddangosol y Cyngor gyda thoriadau o tua 5% yn cael eu disgwyl.  Dywedodd bod yr Adran hefyd yn y broses o adolygu meysydd lle mae gweithgaredd a gwariant y Trydydd Sector yn cyd-fynd gyda bwriadau strategol a blaenoriaethau gwasanaeth.  Dywedodd bod yna nifer o feysydd lle gellid gwneud arbedion ond nad oes yr un ohonynt yn cynnig cyfleon hawdd - eisoes fe gytunwyd gyda’r Trydydd Sector y bydd blaenoriaethau’n cael eu rhannu ac mae ymdrechion yn cael eu gwneud i gryfhau’r broses naturiol o ymgysylltu tra hefyd yn cydnabod bod yna le i wella ar yr ochr ffurfiol h.y. ar y prosesaucaled”.  Y mae’n broses heriol i nodi arbedion o fewn Gwasanaethau Oedolion; mae cyfarfod o’r Bwrdd Pobl Hŷn eisoes wedi edrych ar wariant a chynlluniau ariannol mewn manylder gyda golwg ar ganfod ffordd o ddarparu gwasanaethau sy’n gynaliadwy.  Mae’r sefyllfa a’r broses ar draws y cyfan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gymhleth.  Mae rhai sefydliadau sector gwirfoddol unigol nad ydynt wedi ymateb i’r cais am wybodaeth ond mae ymdrechion yn cael eu gwneud i roi sefydlogrwydd i’r rhai y mae eu gweithgareddau yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd yn rhaid canfod arbedion o tua 5% a’i bod felly yn debygol y bydd yna doriadau yn y cyllid sy’n cael ei ddyrannu.

 

O safbwynt ymgynghori a chodi ymwybyddiaeth ynglyn â’r hyn sy’n digwydd gyda’r sefyllfa ariannol a phethau eraill, cafwyd awgrymiadau ynglyn â sut i gyrraedd at gymunedau e.e. drwy wahoddiad i gyfarfodydd o’r Pwyllgor Cyswllt ym mha gymuned y bynnag y byddant yn cael eu cynnal a thrwy lythyr newyddion Medrwn Môn ac ar y wefan.

 

Nodwyd y sefyllfa. 

 

Dim camau gweithredu pellach yn codi.

7.

Cyfarfod Nesaf y Pwyllgor Cyswllt

Cytuno ar leoliad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Gwener, 17 Ionawr, 2014.

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal am 2:00 p.m. dydd Gwener, 17 Ionawr, 2014 yn Neuadd Sefydliad y Merched, Llanfairpwll.