Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Llynnon , Uned Fusnes Bryn Cefni, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Cyswllt am y flwyddyn i ddod.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol am y flwyddyn i ddod.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mummery i’w ragflaenydd yn y Gadair, Mr. Islwyn Humphreys am ei ddoethineb a’i gyfarwyddyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Cyswllt am y flwyddyn i ddod.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Islwyn Humphreys, Samariaid yn Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol am y flwyddyn i ddod.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion Cyfarfod 19 Mawrth, 2014 pdf eicon PDF 177 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2014 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol.

 

Materion yn codi -

 

  Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod ef a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro yn awr yn cynnal cyfarfodydd yn fisol i drafod blaenoriaethau’r Cyngor ac er mwyn sefydlu’r lle gorau i ddefnyddio arbenigedd a mewnbwn y sector gwirfoddol. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro bod Pwyllgor o Gadeiryddion ac Is- Gadeiryddion Sgriwtini a gynhaliwyd ynghynt yr wythnos honno i ystyried ffyrdd o gryfhau’r broses sgriwtini wedi rhoddi ystyriaeth i ffyrdd o weithio’n fwy agos gyda’r sector gwirfoddol a chydranddeiliaid eraill i ganfod beth sydd yn bwysig iddynt hwy. Mae ymgysylltu ymhellach â chydrandeiliaid ar y gweill er mwyn cael dealltwriaeth o’u pryderon a thrwy hynny gyfoethogi’r proses sgriwtini. Cyfeiriodd Prif Swyddog Medrwn Môn at y cysyniad o gael Panel y Dinesydd.

  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y Rhaglen Gofal Canolraddol yn mynd rhagddi a bod Swyddogion ac Aelodau yn y cyd-destun hwn yn lobïo dros barhad cyfleon sy’n deillio o’r math hwn o gynllun - gofynnir i’r sector gwirfoddol roi ei lais i’r ymdrechion hynny. Mae gwell setliad ariannol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn debygol y flwyddyn nesaf a bydd yn rhoi cyfle i hyrwyddo gofal o fewn y gymuned. Y farn yw bod y fenter hon wedi bod yn llwyddiannus a bod y cyllid sy’n ei gefnogi yn gyllid i’r holl bartneriaid sydd â rhan ac y mae wedi dod a manteision i bawb yn ei sgil.

  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y Bwrdd Integredig wedi ei sefydlu a’i fod yn weithredol; a bod tri sesiwn datblygu wedi eu cynnal a phedwerydd yn cael ei gynllunio. Byddir yn canolbwyntio ar gyd-leoliad gyda golwg ar rowlio allan raglen cyd-leoliad yn seiliedig ar yr egwyddor o bwy ddylai fynd i ble. Mae rhai elfennau o gyd-leoli eisoes yn ei lle e.e. nyrsys cymunedol yn Llangefni.

5.

Compact Lleol - Côd Cyllido

Derbyn diweddariad ar y Côd Cyllido gan y Cyfarwyddwr Cymuned.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod ymdrechion wedi eu gwneud i hwyluso llwybr y Compact Lleol drwy’r Cyngor Sir. Cafodd papur briffio ei gyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a chanlyniad hynny fu i weithgor gael ei sefydlu i edrych ar drefniadau ariannol gyda golwg ar roi yn eu lle drefniadau corfforaethol i nodi partneriaethau, cytundebau a chyfraniadau ariannol i gynnwys yr ystod cyfan o grantiau i drydydd partïon. Mae cwestiynau i’w gofyn ynglŷn â natur y gwasanaethau y mae’r Awdurdod yn dymuno i’r sector eu darparu; ymhle yn y gymuned y mae angen i’r isadeiledd a’r gefnogaeth gael ei atgyfnerthu a chomisiynu a darparu gwasanaethau o  ran pwy yw’r darparwr gorau. Tra bod ymdrechion hefyd wedi eu gwneud i nodi cyfleon ar gyfer gwirfoddoli, awgrymir mai’r cyntaf ddylai fod y ffrwd waith blaenoriaethol ar hyn o bryd. Rhaid pwysleisio nad oes unrhyw faterion mewn perthynas â derbyn egwyddorion y Compact a bod y drafodaeth ynglŷn â threfniadau llywodraethu oherwydd eu bod yn ymwneud â phartneriaethau’r Cyngor.

 

Rhai pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth -

 

  Yr angen i gwblhau trefniadau o amgylch y Compact a’r Côd Ariannu er mwyn iddynt gael eu sefydlu’n derfynol.

  Byddai’n weithred o ewyllys da i’r Côd Ariannu gael ei dderbyn gan mai côd corfforaethol ydyw sy’n ffurfioli trefniadau cyllido’r awdurdod gyda’r sector gwirfoddol drwy’r Adran Gymunedol.

  Bod y gwaith mewn perthynas â mireinio anghenion o ran comisiynu a darparu, a gyda gwerthuso buddsoddiadau yn y sector gwirfoddol yn rhoi cyfle ar gyfer amlygu beth sydd gan y sector i’w gynnig. O ystyried angen y sector am sicrwydd a sefydlogrwydd o ran cynllunio i’r dyfodol, mae’r gwaith o amgylch egluro’r gofynion o ran mewnbwn y sector a ffurfio strategaeth ar y cyd gyda’r sector yn bwysig.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI: Y Cyfarwyddwr Cymuned i wneud datganiad ynglŷn â’r sefyllfa yn y cyfarfod nesaf.

6.

Y Cynllun Corfforaethol 2013-17

Derbyn diweddariad ar y Rhaglen Waith gan y Cyfarwyddwr Cymuned.

 

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2014/04/02/f/n/i/cynllun-corfforaethol-2013---2017.pdf

 

 

Cofnodion:

Cytunwyd i ystyried eitem 9 ar y rhaglen - Y Cynllun Corfforaethol a’r Ymgysylltiad/Ymgynghoriad Cymunedol yn y cyd-destun hwn.

 

Cafwyd adroddiad gan Lyndsey Campbell-Williams, Swyddog Prosiect ar gynnig i ffurfioli arferion ymgysylltu ac ymgynghori’r Awdurdod ar draws ffrydiau gwaith oedd yn gysylltiedig â’r Cynllun Corfforaethol trwy weithio mewn partneriaeth ffurfiol â lleisiau cymunedol sydd yn brosiect y sector gwirfoddol yn delio â 9 o’r cymunedau mwyaf anodd i ymgysylltu â hwy ym Môn a beth fyddai’n dilyn o ran ymarfer yn nhermau egwyddorion cyfarwyddo, trefniadau llywodraethu a deilliannau targed. Cylchredwyd copi o gynllun Mapio Asedau Adeiladu Cymunedau Seiriol.

 

Rhai pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth

 

  Cadarnhad o ba mor gynhyrchiol a fu’r model yn ymarferol mewn gosodiadau lleol hyd yn hyn.

  Y gallai wasanaethu fel templed corfforaethol ar gyfer ymgynghori/ ymgysylltu gyda’r Cyngor gyda hynny’n golygu y gallai holl wasanaethau’r Cyngor ac nid y rhai o fewn yr Adran Gymuned yn unig fabwysiadu’r model arfaethedig i bwrpasau ymgynghori ac ymgysylltu.  Os gellir dangos ei fod yn gweithio’n effeithiol o fewn y Cyngor yna fe all gael ei addasu a’i ymestyn o fewn iechyd a gwasanaethau eraill.

  Y gall gael ei ddatblygu i ffurfio rhwydwaith a thrwy hynny ei gwneud yn bosibl i ymgynghori ar nifer o faterion ar yr un pryd.

 

Cytunwyd i nodi’r cynnig a’i gefnogi.

7.

Cyllideb 2015/16 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig pdf eicon PDF 233 KB

Cyfarwyddwr  Cymuned i adrodd.

 

(Adroddiad i gyfarfod 14 Gorffennaf y Pwyllgor Gwaith ynghlwm)

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 Dros Dro fel oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2014. Roedd yr adroddiad yn rhoi cefndir a gwybodaeth gyd-destunol i ddarparu cyllideb y Cyngor am 2015/16 ac yn nodi’r nodweddion allweddol o fewn y proses ddarparu.

 

Y prif bwynt a godwyd yn y drafodaeth a ddilynodd oedd yr angen i Medrwn Môn fel yr asiantaeth ymbarél ar gyfer cyrff gwirfoddol lleol a gyda rhai ohonynt yn dibynnu ar gyllid grant awdurdod lleol i gael gwybod ar y cyfle cyntaf am fwriadau cyllido’r awdurdod am 2015/16 fel y gallent wneud eu cynlluniau, ac er mwyn pontio unrhyw fylchau all ddod i’r amlwg o ganlyniad i ostyngiad mewn cyllid. Nodwyd y bydd gweithdy ar y gyllideb i Aelodau Etholedig yn cael ei gynnal ar 3 Hydref ac y byddai’n darparu cyfle priodol i amlygu’r mater o ystyried y disgwyliadau cynyddol sydd ar y sector gwirfoddol o ran ei fewnbwn a’i ran gyda darparu gwasanaethau wrth i’r Cyngor geisio rheoli cyllideb sy’n lleihau.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Deilyddion Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a Pherfformiad Corfforaethol i amlygu i’r Gweithdy ar y Gyllideb i’w gynnal ar 3 Hydref, y pwysigrwydd o roi i Medrwn Môn fel y corff cefnogol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol lleol wybodaeth amserol am y gyllideb fel rhan integrol o’r broses o gynllunio’r gyllideb.

8.

Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd & Môn pdf eicon PDF 343 KB

Cyflwyno adroddiad ar y daith trawsnewid gan Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth adroddiad gan Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn yn nodi’r camau cychwynnol yn siwrnai trawsnewid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr Partneriaethau adroddiad ar y siwrnai drawsnewid gychwynnol mewn tair cam ar y broses o ffurfio’r blaenoriaethau.

 

Y prif bwyntiau a godwyd yn y drafodaeth a ddilynodd oedd ffurfio trefniadau sgriwtini cadarn ac effeithiol i’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a’r dulliau lle gallai’r sector gwirfoddol gael mewnbwn i’r broses. Pwysleisiwyd y gellir ystyried y Bwrdd Gwasanaethau Lleol fel grym er daioni a fforwm sy’n edrych i gydlynu a darparu gwell canlyniadau ar y cyd, mae angen iddo allu dangos ei fod yn darparu gwerth ychwanegol ac nad yw’n haen ychwanegol o fiwrocratiaeth.

 

Cytunwyd i nodi’r cynnydd hyd yn hyn ac yn benodol mewn perthynas â thrawsnewid Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn ar y cyd.

9.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cymuned.

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned ar y sefyllfa o safbwynt y disgwyliadau oedd yn codi o’r ddeddf uchod a’r materion oedd o gwmpas darparu’r rhaglen waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac i Ynys Môn.

 

Nododd y Pwyllgor y corff o waith aruthrol y mae gweithredu’r rhaglen waith yn ei olygu a’i oblygiadau pell gyrhaeddol o safbwynt sut y mae’r Cyngor yn cyflawni ei fusnes a’r effaith ddilynol a gaiff ar ei bartneriaid. Dywedodd Cyfarwyddwr Cymuned y byddai’n gwerthfawrogi pe gallai’r sector gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddi ynglŷn â lle y mae’n gweld bod ei gryfderau a’i wendidau yn y cyd-destun hwn. Awgrymwyd - o ystyried ei effaith ar sut y mae’r Cyngor yn bwriadu darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, y dylid cael cyflwyniad i godi ymwybyddiaeth yn gyffredinol o fewn y Cyngor ynglŷn â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r hyn y mae’n ei olygu yn ymarferol gyda gwybodaeth ynglŷn â’r manylion o amgylch gweithredu i’w rhannu mewn cyfarfodydd dilynol.

10.

Polisi Gwirfoddolwyr

Derbyn diweddariad ar weithredu.

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod Polisi Gwirfoddoli wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor a bod hyfforddiant i reolwyr wedi ei gynnal yn ystod misoedd yr haf i’w dilyn gan archwiliad o waith

 

trefniadau sydd angen ei ailddechrau. Roedd y safbwynt wedi ei gymryd y dylai adolygiad o’r trefniadau ariannol gael blaenoriaeth ac y gellir edrych ar agweddau o wirfoddoli lle y mae wedi ei nodi a bod angen gwirioneddol i wneud hynny. Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i gymryd y camau hyn.

11.

Papur Gwyn ar Adolygu Llywodraeth Leol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad ar ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad.

 

(Adroddiad i gyfarfod y Cyngor Sir ar 30 Medi, 2014  ynghlwm ).

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd yn dweud bod y Cyngor Sir wedi ystyried ei opsiynau mewn perthynas â’r Papur Gwyn mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi ac wedi cadarnhau yn ffurfiol ei safiad i beidio ag uno’n wirfoddol â Chyngor Gwynedd. Roedd y Cyngor hefyd wedi penderfynu ceisio cael trafodaethau pellach gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn y byddai, fel sefydliad, yn ystyried y Papur Gwyn ond ei bod yn bwysig iddynt gefnogi sefyllfa’r Cyngor ar hyn o bryd.

12.

Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 437 KB

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro i adrodd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth Flaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Hydref 2014 i Mai 2015. Cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol bod trafodaeth reolaidd yn digwydd gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn ar gynnwys y Rhaglen Waith fel bod y sector gwirfoddol yn cael ei hysbysu o’r sefyllfa ddiweddaraf.

13.

Cyfarfod Nesaf

16 Ionawr,  2015 mewn lleoliad i’w gadarnhau.

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal am 2pm ar 16 Ionawr 2015 yn y Ganolfan Biwmares.