Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Canolfan Biwmares

Cyswllt: Mrs Shirley Cooke 01248 752514 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion Cyfarfod 2 Hydref 2014 pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 2ail Hydref, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Dywedodd y Prif Swyddog Medrwn Môn bod Aled Roberts wedi cyflwyno ymddiheuriad yn y cyfarfod diwethaf ac nad oedd hynny wedi ei gynnwys yn y cofnodion.

 

Eitem 9 – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod gwaith mewn llaw i sefydlu Bwrdd Darparu ar gyfer Ynys Môn, a bod y cyfarfod cyntaf o’r Bwrdd wedi ei drefnu i’w gynnal ym mis Chwefror 2015.

 

3.

Polisi Ymgysylltu

Trafod yr uchod.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymuned at Fframwaith Ymgysylltiad Cymunedol ac Ymgynghori’r Cyngor sydd wedi ei ddatblygu gyda chymorth Medrwn Môn.  Roedd y fframwaith yn seiliedig i raddau helaeth ar y model ar gyfer ymgysylltu ag oedolion hyn yn ward Seiriol.  Cyfeiriwyd hefyd at y trefniadau llywodraethu oedd yn sylfaenu’r model, oedd yn cynnwys sefydlu Cyd Fwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori rhwng y Cyngor a Medrwn Môn i fod a throsolwg o drefniadau ymgysylltu ar draws gwasanaethau ac i wneud y defnydd gorau o adnoddau.  Ymhellach i hyn byddai Gweithgor Ymgysylltu ac Ymgynghori’n cael ei sefydlu rhwng y Cyngor a Medrwn Môn er mwyn cefnogi’r Bwrdd a hefyd i gyd-gysylltu gweithgareddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

4.

Côd Cyllido

Derbyn diweddariad ynglyn â’r Côd Cyllido.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymuned at yr adolygiad o’r Côd Ymarfer Cyllido fel rhan o’r Cytundeb Compact a chyflwynodd adroddiad yn manylu ar gynnydd gyda threfniadau cyllido’r Trydydd Sector ar draws y Cyngor.  Bwriad yr adolygiad oedd darparu eglurder ynglŷn â gwasanaethau a gomisiynwyd gan y Trydydd Sector, dyraniad y Cyngor o gyllid grant i’r Trydydd Sector, trefniadau llywodraethu i fonitro perthynas y Cyngor gyda’r Trydydd Sector ac i argymell gwelliannau i arferion yn y dyfodol.  Roedd y gwaith wedi nodi’r buddsoddiad sylweddol o tua £6,850,000 a ddarparwyd i’r Trydydd Sector o gronfeydd y Cyngor yn 2014/15.

 

Amlygodd Medrwn Môn y pwysigrwydd o sicrhau bod y trefniadau comisiynu yn ddigon clir a hefyd y cyfleon i’r sector wneud bid am gyllid.  Gofynnodd Medrwn Môn hefyd i’r Cyngor symud ymlaen mor fuan ag oedd yn bosibl i weithredu ar ganfyddiadau’r adolygiad.  Rhoddodd yr Arweinydd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’r Pwyllgor Gwaith yn rhoi sylw i faterion o’r fath mor fuan â phosibl gan sicrhau y byddai hyn yn cael ei gynnwys ar y Flaenraglen Waith.

 

5.

Cyllideb y Cyngor 2015/16

Ystyried y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2015/16.

 

Dogfen Ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor :

 

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2015/01/05/g/e/v/CynigionCyllideb_201516_Cymraeg.pdf

 

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor amlinelliad o gyd-destun a chefndir y cynigion yng Nghyllideb 2015/16.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynigion i sicrhau arbedion effeithlonrwydd i gyfarfod â’r bwlch cyllidebol o tua £4 miliwn yn 2015/16.  Rhagwelir y bydd y bwlch cyllido yn cyfateb i oddeutu £15,000,000 dros y tair mlynedd nesaf.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd wedyn at y cynnydd arfaethedig o 5% yn y Dreth Gyngor i gyfarfod â’r bwlch cyllidebol a’r rhestr o arbedion effeithlonrwydd o dan y gwahanol benawdau fel ag yr oeddent wedi eu rhoi ymlaen gan y gwasanaethau i ymgynghori arnynt.

 

Roedd y Cyngor yn cydnabod yr angen i ystyried goblygiadau’r cynigion i leihau cyllid y Trydydd Sector gan 5% ac y byddai yn cael effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth.

 

Nododd Prif Swyddog Medrwn Môn bod angen cael trafodaeth lawn gyda’r Cyngor ar unrhyw gynigion oedd yn cael effaith gymunedol ehangach, a dywedodd y byddai’r Trydydd Sector yn ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD disgwyl am yr ymateb ffurfiol gan Medrwn Môn.

 

6.

Rhaglen Ranbarthol a’r Trydydd Sector

Prif Swyddog Medrwn Môn i roi trosolwg o raglen y Trydydd Sector ym Môn ac yng nghyd-destun y Rhaglen Rhanbarthol.

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad gan Brif Swyddog Medrwn Môn ar y cyd-destun rhanbarthol mewn perthynas â strwythur y Trydydd Sector yn y dyfodol a’r gostyngiad tebygol yn y nifer o CVCs.  Cyfeiriodd hefyd at ohebiaeth gan y Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi, i gael gweld y gwaith a wnaed yn Ward Seiriol i hyrwyddo cydgysylltiad lleol fel rhan o’r prosiect Lleisiau Lleol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

7.

Lleisiau Lleol

Derbyn diweddariad.

Cofnodion:

Roedd yr eitem wedi cael ei drafod o dan 3 uchod.

 

8.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 461 KB

Cyflwyno copi o Flaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith fel a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Ionawr, 2015.

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Chwefror i Fedi 2015 fel oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 12 Ionawr 2015.

 

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chylchu i Medrwn Môn yn fisol er mwyn diweddaru’r Sector ar faterion fydd yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgorau Sgriwtini.

 

Cyfeiriwyd hefyd at gyfarfod ar y cyd gyda Chynghorau Tref a Chymuned a’r Trydydd Sector ar 18 Rhagfyr 2014, fel rhan o sesiwn briffio i godi ymwybyddiaeth a chyfleon i ychwanegu gwerth i waith y Pwyllgorau Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

Y Cyfarfod Nesaf

Penderfynu ar ddyddiad a lleoliad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt.

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal am 2.00 pm ar 9 Gorffennaf 2015 yn Neuadd y Pentref, Rhosneigr.

 

Mewn paratoad ar gyfer siapio gwaith y Pwyllgor, argymhellodd y Cyfarwyddwr Cymuned y dylid cynnal gweithdy i hwyluso trafodaeth ar feysydd sydd angen cael sylw gan y Cyngor a Medrwn Môn.