Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Aled Morris Jones i'r cyfarfod fel yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2015.
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2015 fel rhai cywir.
Materion yn codi o'r cofnodion:-
Eitem 4 – O ran trefniadau ymgysylltu a'r gwaith a wnaed yn Ward Seiriol, adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn, nad yw Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Thlodi yn medru ymweld â Ward Seiriol ar 5ed Tachwedd fel y cynlluniwyd. Dywedodd ei bod yn awyddus iawn i aildrefnu ei hymweliad yn ddiweddarach.
Eitem 5(a) – Adolygiad o'r Trydydd Sector – Adroddiad Terfynol
Nododd y Cyfarwyddwr Cymuned y byddai statws yr adroddiad drafft yn cael ei newid o ddrafft i derfynol ac y byddai dwy elfen i'w hystyried, sef: -
1. Sicrhau bod camau gweithredu yn yr adroddiad terfynol yn cael sylw. 2. Sicrhau bod gwybodaeth allweddol yn cael ei chadw'n gyfoes ac y rhennir gwybodaeth.
Eitem 5(a) 1. Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor
Mewn perthynas â’r cyfarfodydd, gofynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd am farn y Pwyllgor ynghylch a ddylid newid y trefniadau presennol o gynnal tri chyfarfod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yn parhau i gynnal cyfarfodydd deirgwaith y flwyddyn.
Enwebu Aelod Arweiniol
Eitem 5(a) 3. Enwebu Aelod Arweiniol
Cynghorodd Arweinydd y Cyngor bod yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn cael ei enwebu’n Aelod Arweiniol.
Eitem 7 – Trefniadau Caffael y Cyngor
Adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn, y byddai sesiwn briffio i gefnogi'r Trydydd Sector, yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd. |
|
Cynllunio Cyllideb 2016/17 (a) Derbyn diweddariad gan Arweinydd y Cyngor ar y broses pennu cyllideb a’r rhaglen arbedion ar gyfer 2015/16.
(b) Y Cyfarwyddwr Cymuned i adrodd ar ymgynghoriad arfaethedig gyda’r Trydydd Sector. Cofnodion: (a) Rhoddodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad ar y broses o osod y gyllideb a’r rhaglen arbedion a dywedodd fod y Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal cyfres o weithdai Aelodau i ystyried sut dylid mynd i’r afael â bwlch ariannu o 5.7 miliwn ar gyfer 2016/17. Ar ben hynny, byddai'r Pwyllgor Gwaith yn cyfarfod ar 9fed Tachwedd i ystyried cynigion y gyllideb a byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn digwydd yn ystod mis Tachwedd / Rhagfyr 2016, a byddai'r Sector Gwirfoddol yn cael ei friffio.
Yn deillio o'r drafodaeth yng nghyd-destun cyllidebau llai wrth fynd ymlaen, nodwyd bod lle i Medrwn Môn drafod cyfleoedd ariannu drwy'r Ymddiriedolaeth Elusennol. Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn y byddai hyn yn cael ei ystyried gan y Trydydd Sector.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Côd Ymarfer Cyllido a Rhwymedigaethau (a) Derbyn unrhyw sylwadau neu newidiadau i’r Côd Ymarfer drafft.
(b) Cytuno proses ar gyfer mabwysiadu’r Côd yn ffurfiol.
(c) Derbyn diweddariad ar ganlyniadau’r gweithdy ar y cyd a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2015. Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cymuned ddiweddariad yn dilyn y gweithdy ar y cyd a gynhaliwyd ar 1af Hydref. Bu croeso mawr i’r gweithdy hwn gan y 3ydd sector fel sail ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.
Amlygwyd y pwyntiau canlynol: -
• Angen annog arfer cyson gan swyddogion y Cyngor a'r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau bod y fframwaith yn cael ei weithredu; • Angen gwybodaeth amserol ynglŷn â blaenoriaethau’r Cyngor a’r goblygiadau ar gyfer comisiynu a chyllidebau; • Cyfleoedd pellach am ddysgu a chefnogaeth ar y cyd gan sefydliadau, e.e. "Canolfan Cydweithredol Cymru"; • Y sgôp i wasanaethau caffael y Cyngor ddarparu canllaw ar drefniadau caffael y Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn am adborth gan Medrwn Môn ar y ddogfen ddrafft cyn iddi gael ei chadarnhau gan y Pwyllgor hwn ac mewn adolygiadau blynyddol dilynol. |
|
Budd Cymunedol Derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn.
Cofnodion: Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn, at yr adroddiad ar Fuddion Cymunedol sy'n deillio o'r prosiect Wylfa Newydd a baratowyd gan yr Adran Datblygu Economaidd ym mis Chwefror, 2014, a gwnaeth gais i’r Pwyllgor hwn gael derbyn gwybodaeth maes o law ar y gwaith a wnaed fel rhan o'r Prosiect Lleisiau Lleol yng ngogledd Ynys Môn. |
|
Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cymuned.
Cofnodion: Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned ar ddarpariaeth gwybodaeth gan asiantaethau allweddol a chyfleoedd hyfforddi cyn y daw’r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016.
Cyfeiriwyd yn benodol at y trefniadau ar draws Gogledd Cymru a gwybodaeth allweddol ar wefan Cyngor Gofal Cymru.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Gallu a Gwydnwch y Trydydd Sector PDF 2 MB Y Cyfarwyddwr Cymuned i adrodd.
(Gweler ynghlwm – adroddiad gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ar Alluogrwydd a Chydnerthedd y Trydydd Sector ym Mhowys) Cofnodion: Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cymuned at adroddiad gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ar Allu a Gwydnwch y Trydydd Sector ym Mhowys. Cytunwyd y byddai’r Cyfarwyddwr Cymuned a chynrychiolwyr o Medrwn Môn yn cyfarfod i ymchwilio i fanteision cynnal ymarfer tebyg ar Ynys Môn.
Dywedodd Ms Lyndsey Williams, Prosiect Lleisiau Lleol y byddai sesiwn hyfforddi ar Ddysgu a Gweithredu ar y Cyd yn cael ei chynnal ar 3 Tachwedd, 2015 yng Ngwesty Carreg Bran, Llanfairpwll mewn cysylltiad â'r gwaith a wnaed yn Ward Seiriol i wreiddio ymgysylltu â'r gymuned.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 495 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Medi 2015.
Cofnodion: Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Hydref, 2015 i Fai, 2016 fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ar 21 Medi, 2015.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at Raglenni Gwaith y ddau Bwyllgor Craffu a gwaith parhaus gyda Medrwn Môn i ddefnyddio'r prosiect Lleisiau Lleol i lywio trafodaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Materion Eraill Cofnodion: Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Pwyllgor hwn ar waith y Tasglu Ffoaduriaid a sefydlwyd gan y Prif Weinidog.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a disgwyl am ragor o wybodaeth maes o law. |
|
Cyfarfod Nesaf Cofnodion: PENDERFYNWYD y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal yn Neuadd Bentref Penysarn ar 15 Ionawr, 2016.
Cyn dod â’r cyfarfod i ben, cyfeiriodd y Cadeirydd at ymddeoliad Mrs Gwen Carrington yn fuan a dymunodd gofnodi gwerthfawrogiad y Pwyllgor a diolch iddi am ei chefnogaeth a'i chyfraniad at waith y Pwyllgor hwn.
|