Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Canolfan Ebeneser, Llangefni
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Mawrth, 2018. |
|
Is-Gadeirydd Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Gohiriwyd ethol yr Is-Gadeirydd tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
• Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017.
• Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol a drefnwyd ar gyfer 13 Gorffennaf, 2017 a 11 Ionawr, 2018. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Yn codi o’r cofnodion:-
Eitem 6 – Lleisiau Lleol
Cafwyd diweddariad gan Ms Lindsey Williams, Medrwn Môn ar y prosiect Lleisiau Lleol, a ddaeth i ben ddiwedd Mawrth, 2017. Dywedodd fod cyllid wedi'i ymestyn, o dan y Portffolio Lleisiau Lleol newydd, tan 31 Mawrth, 2018, gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer y prosiect "Llais Ni" (Cyngor Ieuenctid Môn). Nodwyd y byddai'r portffolio yn parhau i fod yn rhan o brosiectau sy'n ymwneud ag adeiladu cymunedau ar ôl Mawrth 2018, a byddai'r gwaith a fabwysiadwyd yn flaenorol gan Lleisiau Lleol yn parhau drwy'r Bwrdd Gwasanaeth ac Ymgysylltu. |
|
Grwp Trydydd Sector Derbyn adroddiad cynnydd gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn. Cofnodion: Ni thrafodwyd yr eitem hon. |
|
Cynllun Gweithredu Drafft ar gyfer Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol Cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a’r Bwrdd Iechyd (BIPBC). Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog Medrwn Môn fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu i'r Pwyllgor o'r enw 'Gyda’n Gilydd', sef dogfen ar gyfer y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Medrwn Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Nododd bod y Cynllun Gweithredu yn ddogfen weithredol sy’n esblygu'n barhaus.
Gweithredu:
• Y Prif Swyddog, Medrwn Môn i drafod Y Cynllun Gweithredu drafft ymhellach gyda swyddogion o'r Cyngor; • Cyflwyno diweddariad pellach i'r cyfarfod nesaf. |
|
Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor PDF 253 KB I adolygu’r uchod. Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd 'Gylch Gorchwyl’ y Pwyllgor fel y gellid adolygu ei gynnwys.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn at Eitem 2 - bod dwy sedd wag ar hyn o bryd ar gyfer aelodaeth y Trydydd Sector ar y Pwyllgor Cyswllt. Nodwyd fod gan y Sector dri aelod etholedig ar y Pwyllgor ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD: -
diwygio 'Cylch Gorchwyl' y Pwyllgor fel a ganlyn: -
• Adrannau 3-8 – newid y gair 'Bwrdd' i 'Pwyllgor'; • Adran 6 – bod y Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn gyda’r amod y gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol os bydd angen. • Bod y Prif Swyddog, Medrwn Môn yn hysbysebu'r ddwy swydd wag am gynrychiolwyr Trydydd Sector ar y Pwyllgor Cyswllt. |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 786 KB Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Ionawr, 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi 2018 er gwybodaeth ac i’w nodi.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Rhaglen Waith yn cael ei diweddaru bob mis, a'i chyflwyno i'r Trydydd Sector er gwybodaeth. Mae hyn yn rhoi syniad da i’r Sector o’r hyn sy’n digwydd, ynghyd â gwybodaeth sylfaenol i gefnogi ymgysylltu / mewnbwn gyda'r Sector. |
|
Y Cyfarfod Nesaf Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth, 10 Gorffennaf, 2018 am 2.00 o’r gloch.
Cofnodion: Cytunwyd y dylid cynnal cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt am 2.00 pm ar 10 Gorffennaf 2018 yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. |