Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 12fed Tachwedd, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem.

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

2.

Gwerthuso Opsiynau ar gyfer Casglu Gwastraff pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasaneth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mewn perthynas â’r uchod.

 

MAE GWAHODDIAD WEDI EU HANFON I HOLL AELODAU’R CYNGOR I FYNYCHU’R CYFARFOD MEWN PERTHYNAS A’R EITEM HON.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mewn perthynas â’r Gwerthusiad Opsiynau ar gyfer Casglu Gwastraff.

 

Rhoes y Cadeirydd groeso i Mr. Adrian Gibbs, Euromia Research & Consulting, Ms. Kelly Thomas, WRAP Cymru a Mr. Andrew Dutton, Biffa Municipal i’r cyfarfod. Dywedodd hefyd fod holl Aelodau’r Cyngor Sir wedi cael gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor Sgriwtini ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem hon.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff  fod Gwasanaeth Rheoli Gwastraff Ynys Môn bellach wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol lle bydd angen newid sylfaenol yn y modd o ddarparu’r gwasanaeth i gwrdd â thargedau tymor hir. Mae heriau mawr yn bodoli o ran cwrdd â thargedau ailgylchu statudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) i’r dyfodol ac yn sgil yr angen i weithredu gwasanaethau’n fwy effeithlon oherwydd toriadau yn y gyllideb.   Mae casglu a phrosesu defnyddiau i’w hailgylchu yn llawer rhatach na chasglu a chael gwared ar / trin gwastraff gweddilliol ‘bag du’. Felly, os oes modd cyflwyno systemau casglu newydd lle gellir cyfyngu ar lefel y gwastraff gweddilliol mewn rhyw ffordd, bydd hynny’n golygu y byddai modd ailgylchu mwy o wastraff a gostwng costau’n gyffredinol. 

 

Mae LlC wedi pennu targedau statudol ar gyfer awdurdodau lleol i ailgylchu, ailddefnyddio ac adennill gwastraff; sef 58% o wastraff cyhoeddus ar gyfer 2015/16; 64% ar gyfer 2019/20 a 70% ar gyfer 2024/25. Gall methiant i gwrdd â’r targedau statudol hyn olygu bod LlC yn rhoi dirwy o £200 y dunnell yn seiliedig ar nifer y tunelli y mae’r awdurdod yn brin o’r targed statudol a restrir. Yn achos Ynys Môn, mae hyn yn golygu y byddai’n rhaid i’r Cyngor dalu oddeutu £80k mewn dirwyon am bob 1% y mae’n brin o’r targed ailgylchu. Amcangyfrifir bod perfformiad Ynys Môn o ran ailgylchu ar hyn o bryd yn 55% ar gyfer 2015/16.    

 

I sicrhau’r cyfle gorau posib o ran cwrdd â’r targed ailgylchu statudol o 58% ar gyfer 2015/16, mae’r Adain Rheoli Gwastraff ar hyn o bryd yn cludo rhywfaint o’i wastraff gweddilliol i’w drin yn hytrach na defnyddio safleoedd tirlenwi, lle mae rhywfaint o’r deunydd ‘pen pellaf’, sef y lludw a gynhyrchir yn sgil llosgi’r gwastraff mewn llosgydd yn cael ei gyfrif tuag at gyfraddau ailgylchu. Gobeithir y bydd y dull hwn yn sicrhau y gellir cwrdd â’r targed o 58% ar gyfer 2015/16.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff hefyd fod Swyddogion y Cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda Rhaglen Newid Cydweithredol WRAP Cymru (a gyllidir gan LlC i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddylunio a darparu gwasanaethau ac i lunio strategaethau), Biffa a swyddogion o awdurdodau lleol eraill yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf i drafod pa opsiynau sydd ar gael i sicrhau’r cynnydd mawr sydd raid wrtho yn y cyfraddau ailgylchu.   Mae'r rhan fwyaf o gynghorau ar draws Cymru yn edrych ar opsiynau i gyfyngu ar wastraff gweddilliol ac mae amryw ohonynt wrthi’n cyflwyno biniau llai neu’n casglu gwastraff gweddilliol bob 3 wythnos  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Monitro Galwadau Rhanbarthol Gogledd Cymru Galw Gofal/Care Connect pdf eicon PDF 499 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ar yr uchod.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion mai prosiect cydweithio anstatudol sy’n cael ei gynnal o fewn fframwaith cyfreithiol yw Galw Gofal – Gwasanaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Monitro Galwadau. Mae’r cydweithio’n seiliedig ar fodel lle mae yna awdurdod arweiniol ac mae’r swyddogaethau i gwrdd ag ymrwymiadau’r cytundeb, darparu’r gwasanaeth, gan gynnwys darparu gwasanaethau cymorth TG, Cyllid, Cyfreithiol ac ati, wedi cael eu dirprwyo i Gonwy gan ddefnyddio pwerau yn Adran 101 Deddf Llywodraeth Leol 1972, Adran 2 Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac Adran 47 Deddf Gofal 1990. Dyddiad cychwyn y cytundeb oedd 1 Mehefin 2011; mae cyfnod cychwynnol y cytundeb yn bum mlynedd a ddaw i ben ar 31 Mai, 2016. 

 

Mae’r gwasanaeth Galw Gofal yn monitro’r gwasanaethau canlynol :-

 

·      Larymau Cymdeithasol/Teleofal/Teleofal Symudol gyda Thraciwr GPS;

·      Teleiechyd, monitro arwyddion bywyd;

·      Gwasanaeth Galwadau Ffôn i weld a yw pobl yn iawnGalw rhagweithiol;

·      Gweithio unigol a thracio GPS;

·      Cardiau Gofalwyr;

·      Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Arferol gan gynnwys Gwasanaethau Tai a chynnal a chadw eiddo, Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol EDT ac ati;

·      Adfer ar ôl Trychineb a Pharhad Busnes

 

Nodwyd bod cyfanswm nifer y cysylltiadau ar ddiwedd mis Mawrth 2015 yn 21,436 gan gynnwys 50 o gwsmeriaid Teleiechyd; twf 10% yn nifer y cysylltiadau ers cychwyn y cynllun yn 2011.  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cymryd galwadau’r ganolfan alwadau yn ystod y dydd gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn darparu’r gwasanaeth yn ystod y nos.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn bod Gwasanaeth Monitro Galwadau Galw Gofal yn wasanaeth gwerth chweil ac y dylid adnewyddu’r cytundeb rhwng y partneriaethau.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad i barhau gyda’r cytundeb partneriaeth y tu draw i’r cyfnod cychwynnol o 5 mlynedd.

 

GWEITHREDU : Nodi bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwaith i’w drafod.

 

4.

Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â chais a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Plant am gynrychiolaeth o blith yr Aelodau Sgriwtini i wasanaethau ar y Bwrdd Rhaglen arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Plant. 

 

Ar 23 Hydref, trafodwyd y cais yn y Fforwm Cydlynu Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini a thybiwyd ei bod yn briodol penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, y Cynghorydd  G.O. Jones fel cynrychiolydd yr Aelodau Sgriwtini a’r ail gynrychiolydd fyddai Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd Llinos M. Huws. 

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd G.O. Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Cynghorydd Llinos M. Huws, Arweinydd yr Wrthblaid i wasanaethau ar y Bwrdd Rhaglen Gwasanaethau Plant.

 

GWEITHREDU : Fel a nodir uchod.