Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Ebrill, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2016 fel rhai cywir yn amodol ar y canlynol: -
Eitem 5 - Cymunedau yn Gyntaf
Adroddodd y Swyddog Sgriwtini ei fod wedi anfon e-bost at y Sarsiant Non Edwards, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn ynghylch digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi. Rhagwelir y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cydgysylltu â'r Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau'n Gyntaf Môn ynghylch y mater hwn. |
|
Ymgynghoriad ar Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr yn Ynys Môn - Y Broses Ymgynghori PDF 300 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr lle mae angen wedi ei nodi ac i ddarparu digon o safleoedd priodol yn eu Cynllun Datblygu Lleol.
Cynhyrchwyd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a Gwynedd 2016 (Yr Asesiad) ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, ac fe'i cymeradwywyd gan Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ar 8 Chwefror 2016.
Nododd yr Asesiad newydd yr angen canlynol ar Ynys Môn:
1. Safle preswyl parhaol i gwrdd ag anghenion teithwyr yr oes newydd ar y safle a oddefir yn ffordd Pentraeth; 2. Dau safle i’w defnyddio fel mannau aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar hyd yr A55, un yng Nghaergybi a'r llall yng nghanol yr Ynys i ddarparu ar gyfer pobl sy'n teithio i Iwerddon ac oddi yno, ynghyd â phobl sy'n teithio o amgylch y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol.
Roedd yr ymarfer ymgynghori yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a chynhaliwyd sesiynau galw i mewn (a fynychwyd gan oddeutu 215 o oedolion); Cyfarfodydd Cynghorau Tref / Cymuned; a mynychodd swyddogion ddau gyfarfod cyhoeddus. Nodwyd yr ystyriwyd safbwyntiau busnesau ar stadau diwydiannol hefyd.
‘Roedd y ddogfen ymgynghori gyda mapiau a holiadur ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor ac yn y sesiynau galw i mewn. Anfonwyd copïau at fusnesau, tirfeddianwyr a thenantiaid cyfagos.
Cyflwynwyd Mr Bryn Hall gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol. Ef yw’r eiriolwr annibynnol a gyflogir gan Unity, sef sefydliad sy'n arbenigo mewn ymgynghori gyda chymunedau sipsiwn a theithwyr. ‘Roedd Mr Hall wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau teithwyr a sipsiwn yn ystod y broses hon, ac mae'r Pwyllgor wedi gofyn am atborth ar y mater.
Crynhodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a'r broses ymgynghori a gynhaliwyd fel a ganlyn: -
• Amlygwyd pwysigrwydd deall cefndir ac anghenion gwahanol sipsiwn a theithwyr. • Ystyriwyd bod yr eiriolwr annibynnol wedi gwella’r cyfathrebu gyda'r gymuned o Deithwyr yr Oes Newydd ar Ffordd Pentraeth, o ran bod yn annibynnol a gwyntyllu eu barn. • Dylid rhoi gwybod i bobl leol, gan gynnwys ffermwyr, ar unwaith am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol. • Mae Uwch Swyddogion a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed mewn cyfarfodydd ac mae gwersi wedi eu dysgu y gellir eu cynnwys mewn prosesau ymgynghori yn y dyfodol. • Nod y Cyngor yw cynnal ymarfer ymgynghori pellach yn ystod y mis nesaf.
Cododd yr aelodau y materion canlynol: -
• Nid yw'r matrics sgorio yn caniatáu ar gyfer rhoi rhesymau pam mae rhai safleoedd yn anaddas. • Angen i'r Aelodau fod yn rhan o'r broses ymgynghori o'r cychwyn cyntaf. • Codwyd cwestiwn ynghylch a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Ardal Caergybi PDF 320 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
(Atodiad a gohebiaeth ynglwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu fod yr Asesiad a gynhaliwyd yn 2016 o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Gwynedd ac Ynys Môn wedi nodi gwersylloedd anawdurdodedig yng Nghaergybi, gan greu’r angen am safle aros dros dro.
Canolbwyntiodd y broses ymgynghori ar dri safle: -
Safle 1 - Plotiau Gwag, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi; Safle 2 - Tir yn union i'r dwyrain o B & M, Caergybi; Safle 3 - Tir i'r de o Alpoco.
Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu fod ffactorau arwyddocaol wedi eu hamlygu, a hynny’n dilyn proses ymgynghori drylwyr. ‘Roedd y ffactorau hynny’n awgrymu bod y tri safle yn anaddas ar Man Aros Dros Dro i sipsiwn a theithwyr. Adroddodd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Chyngor Tref Caergybi yn ogystal â Chynghorau Cymuned yn y Fali a Threarddur. Dywedodd fod yna dystiolaeth o'r ymarfer ymgynghori fod yr angen i gael safle i sipsiwn a theithwyr yng Nghaergybi yn parhau, a hynny oherwydd y cynnydd yn nifer y teithwyr sy'n mynd drwy'r porthladd.
Cododd yr Aelodau y materion canlynol: -
• Mynegwyd pryder am gymunedau sipsiwn a theithwyr sy’n byw yn lleol, a’r rhagfarnau y maent yn eu hwynebu yn sgil hiliaeth a’r ffaith bod pobl leol yn eu camddeall. Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd i leddfu pryderon am ragfarnau ac i atal agweddau hiliol a gododd yn ystod yr ymgynghoriad. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol nad oedd yr ymateb hwn tuag at sipsiwn a theithwyr yn anarferol, a’i fod yn seiliedig ar gymysgedd o sylwadau dilys, canfyddiadau a rhagfarnau, gan nad yw pob sipsi a theithiwr yn integreiddio i mewn i’r gymuned leol. Bydd yn cymryd amser i oresgyn rhagfarnau ac i ennill ymddiriedaeth. Mae’r teithwyr sipsiwn sy’n aros am noson neu ddwy yng Nghaergybi yn byw yn rhywle arall, ac maent yn ymweld â Chaergybi am gyfnod byr wrth iddynt deithio i Iwerddon; mae’n annhebygol felly y bydd cyfleon yn codi iddynt ddod i adnabod pobl leol, er bod angen i ni barhau i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â rhagfarn. • Nodwyd y byddai angen asesu patrymau teithio rhwng Caergybi ac Iwerddon. Mae cyfrifoldeb ar Stena, sy'n berchen ar lawer o dir yng Nghaergybi, fel awdurdod porthladd, i fod â rhan yn y broses o ddarganfod datrysiad. Bydd y Prif Weithredwr a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ceisio cynnal trafodaethau gyda Stena. • Codwyd cwestiwn ynghylch pam na chafodd y safleoedd yr ystyrir eu bod yn anaddas eu hadnabod fel rhai anaddas yn gynharach. Nodwyd bod y broses wedi dechrau ym mis Ionawr ac ‘roedd raid i’r Cyngor lynu wrth yr amserlen ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. • Cyfeiriodd Aelodau at y graff sy'n dangos ardal ehangach ar gyfer safle posib y tu allan i ddalgylch tref ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Canolbarth yr Ynys PDF 302 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
(Atodiad a gohebiaeth ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Eiddo (Eiddo) fod dau safle wedi eu hadnabod ar Stad Ddiwydiannol Mona fel rhan o'r broses ymgynghori. Dywedodd y Swyddog fod gwersyll anawdurdodedig wedi sefydlu ym Mona yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod nifer o ffactorau pwysig wedi eu hamlygu o ran iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn bennaf gan y Llu Awyr Brenhinol parthed diogelwch awyrennau a diogelwch personol unigolion sy’n gwersylla ar y tir. Cyfeiriodd y Llu Awyr Brenhinol at faterion sy'n ymwneud â thresmasu a sbwriel yn cael eu chwythu o gwmpas a allai achosi damweiniau neu ddifrod i awyrennau.
PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -
• Bod Pwynt 1 yr adroddiad yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwaith, h.y. na ddylid bwrw ymlaen gyda’r un o'r ddau safle a gafodd eu cynnwys yn y broses ymgynghori ac na ddylid ‘chwaith eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. • Bod pwyntiau 2 a 3 yn cael eu trin fel sylwadau mewn perthynas â'r dasg o nodi safle arall. |
|
Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Ardal y Fenai PDF 367 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.
(Atodiad a gohebiaeth ynghlwm)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn) bod angen i'r Cyngor nodi safleoedd sy'n addas i’r pwrpas. Ystyriwyd tir yn y Gaerwen a Phenhesgyn a safle’r gwersyll anawdurdodedig cyfredol ym Mhentraeth fel safleoedd posib, yr oedd angen iddynt fod yn ddigon mawr i gartrefu pedair aelwyd. Nid oedd y safle yn y Gaerwen yn addas oherwydd cost darparu cyflenwad dwr.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad oes unrhyw broblemau sy’n ymwneud â throsedd ac anhrefn ar y safle ym Mhentraeth. Eu hunig bryder yw materion diogelwch y ffyrdd, os bydd plant yn byw ar y safle.
Cododd yr aelodau y materion canlynol: -
• Mae'r teithwyr wedi dweud y byddai’n well ganddynt aros ar y safle ym Mhentraeth. Roedd yr Aelodau'n bryderus y gallai symud y teithwyr fod yn wastraff arian oni bai eu bod yn fodlon symud i safle newydd. • Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddod o hyd i safle addas ar gyfer y teithwyr ac i weithredu mewn ffordd gyfrifol, gan na fyddai’n ddiogel i’w gadael ar y safle ym Mhentraeth. • Nodwyd bod y safle ym Mhentraeth yn ddatblygiad a oddefir, felly nid oes gan y Cyngor bwerau gorfodi i droi’r teithwyr allan heb baratoi safle addas parhaol yn gyntaf. • Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sut y byddai'r teithwyr yn ymateb i reolau a rheoliadau. Yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r teithwyr, ‘roedd swyddogion yn teimlo y byddai'r teithwyr yn derbyn y byddai yna reolau ar gyfer safle swyddogol a fyddai’n cael ei fonitro gan y Cyngor, ond ei bod yn bwysig bod y teithwyr yn ymgysylltu’n llawn o ran cytuno’r rheolau gyda’r Cyngor.
Dywedodd yr Eiriolwr Annibynnol ei fod ef a Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu wedi ymweld â’r teithwyr ym Mhentraeth ac wedi trafod materion gyda nhw. Dywedodd fod y teithwyr wedi cael gwybod am yr ymgynghoriad o adroddiadau papur newydd, a bod ymweliadau gan bobl leol cyn i’r ymgynghoriad ddechrau wedi eu gofidio, a bod hynny wedi gwneud drwg i’r broses ymgysylltu. Dywedodd ymhellach fod y teithwyr angen sicrwydd gan y Cyngor ac y dylid eu cynnwys yn y broses gynllunio. Cyfeiriodd at y gwaith ymgynghori sydd wedi cael ei wneud a bod sgôp bellach ar gyfer gwella cyfathrebu.
‘Rhoddwyd caniatâd i aelodau o'r cyhoedd sef Mr Lawrence Gain, Mr Gareth Morgan, Mr Wyn Jones, Mrs Foulkes a phreswylydd lleol wneud sylwadau yn y cyfarfod ac fe ddaru nhw leisio eu pryderon i'r Pwyllgor.
Pwyntiau a godwyd: -
• Materion Iechyd a Diogelwch ynghylch ansawdd aer a llygredd ym Mhenhesgyn; • Mae angen trafodaethau pellach gyda chymunedau lleol; • Maint a chost y datblygiad arfaethedig ym Mhenhesgyn; • Mae’r safle ym Mhentraeth yn flêr; • Mae mynediad i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |