Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 19eg Gorffennaf, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 14 KB

Cyflwyno, i’w cadarnau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Mai, 2016

·           Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 13 Mai, 2016

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·        Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016

·        Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 13 Mai, 2016

4.

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Dros Dro - Canol yr Ynys pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) bod tri safle wedi eu hystyried: -

 

Safle 1 - Llain o dir rhwng yr A55 / A5 rhwng Llanfairpwll a Chroesffordd Star;

Safle 2 - Darn o dir ar fân-ddaliad yn y Gaerwen;

Safle 3 - Tir ger yr A5 wrth Fferm Cymunod, Bryngwran. 

 

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth, nododd yr Aelod Portffolio yr ystyrir  bod y safle ym Mryngwran yn anaddas oherwydd materion a godwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â'r ffaith nad yw’r fynedfa i'r safle  yn cwrdd â’r gofynion sylfaenol o ran y llain welededdRoedd safleoedd 1 a 2 ar ôl i’w hystyried fel mannau aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) bod y cyfnod ymgynghori wedi cynnwys digwyddiadau galw heibio a chyfarfodydd gyda Chynghorau Cymuned sy’n cynrychioli’r ardaloedd lle gallai’r safleoedd gael eu lleoli. Cwblhawyd holiaduron ar-lein a chafwyd gohebiaeth gan nifer o drigolion a busnesau.  Cafwyd ymatebion hefyd gan ymgyngoreion sector cyhoeddus ac roedd yr ymatebion hynny wedi eu cynnwys gyda'r adroddiad i'r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd y Swyddog bod ffactorau o blaid ac yn erbyn y safleoedd yn y Gaerwen a Star. Y Cyngor Sir sydd biau’r mân-ddaliad yn y Gaerwen ar hyn o bryd ac ni fyddai mynediad i’r safle trwy'r A55 yn amharu ar bentrefi lleol. Fodd bynnag, mae angen ystyried pa mor agos ydyw at y Parc Gwyddoniaeth. Mae Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi nodi Cyfyngiad Mawr; nid yw hynny ynddo’i hun yn golygu y gellir diystyru’r safle hwn oherwydd y gallai cynnal archwiliadau archeolegol fesul cam, ynghyd â rhoi sylw gofalus i ddyluniad y safle fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Mae llai o bryderon datblygu  economaidd a thechnegol am y safle yn Star ond byddaicostau ychwanegol o ganlyniad i'r angen i brynu dau ddarn o dir ar wahân i sefydlu safle.

 

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Mr. Mark Inwood annerch y cyfarfod fel un sy’n byw yn yr ardal ac sy’n cynrychioli trigolion Star, Gaerwen.  Dywedodd Mr. Inwood y gwnaed llawer o waith ac ymdrech i ddeall y polisïau o ran sut mae'r Cyngor wedi mynd ati i wneud penderfyniad mewn perthynas â’r safle yn Star.  Dywedodd nad yw trigolion Star ar hyn o bryd  yn gallu derbyn y polisïau a ddefnyddiwyd gan yr awdurdod; nid oes cyfeiriad ynghylch a yw'r safle o fewn Ardal Gwarchod Tirwedd. Mae gan y trigolion nifer o bryderon  ynghylch y broses asesu ac un o’r rhai mwyaf yw nad oes unrhyw asesiad risg wedi cael ei wneud ar y safle yn Star; ym marn Mr. Inwood mae’n rhaid cynnal asesiad o'r fath yn unol â’r gyfraith. Dywedodd Mr. Inwood ymhellach nad oedd gohebiaeth ddiweddar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Dros Dro - Ardal Caergybi pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol mewn perthynas â’r ddau safle a nodwyd, sef  yn Fferm Tyddyn Lantern, Caergybi a’r hen fferm oddi ar Ffordd Cyttir, Caergybi. Yn dilyn yr ymgynghoriad nododd yr ystyrir nad yw’r un o’r ddau safle yn addas i’w clustnodi fel  safleoedd aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod patrwm wedi dod i'r amlwg gyda Theithwyr Gwyddelig sy’n teithio i Iwerddon ac oddi yno ac sy’n aros mewn amryw o leoliadau ger y porthladd yng Nghaergybi am gyfnod byr h.y. diwrnod neu ddau.  Roedd hyn wedi sefydlu bod angen cynnwys safle aros dros dro yng Nghaergybi yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad wedi dangos yn glir nad yw'r un o’r ddau safle a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad yn briodol, a hynny am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Fodd bynnag,roedd y broses ymgynghori wedi bod yn werthfawr gan ei bod wedi darparu gwybodaeth bellach i swyddogion am y patrymau teithio i’r Porthladd ac oddi yno.  Dywedwyd ymhellach bod angen cynnal trafodaethau gyda chwmnïau mawr sy'n bwriadu datblygu yng Nghaergybi mewn perthynas â sicrhau bod tir ar gael i greu safle aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr yng nghyffiniau Caergybi.

 

Dywedodd y Swyddog ymhellach bod angen ystyried datrysiad tymor byr trwy osod biniau i leihau gwastraff domestig a gwastraff anghyfreithlon mewn lleoliadau lle mae teithwyr yn sefydlu gwersylloedd anawdurdodedig yng Nghaergybi.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r holl argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

6.

Strategaeth Iaith Gymraeg 2016 - 2021 (Drafft) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) mewn perthynas â'r uchod.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) y cefndir i’rMesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 mewn perthynas â’r Strategaeth Iaith Gymraeg. Dywedwyd bod y Strategaeth yn amlinellu'r dull y bwriedir ei ddefnyddio i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a hwyluso defnydd ehangach o’r iaith o fewn yr ardal a chynnal / cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn diwedd 2021.  Mae Fforwm Iaith Strategol Ynys Môn- y crybwyllir ei haelodaeth o fewn yr adroddiad- wedi cael ei sefydlu i nodi blaenoriaethau a llunio Strategaeth Iaith Gymraeg. Bwriedir creu cynllun gweithredu ar gyfer yr ail flwyddyn cyn diwedd blwyddyn gyntaf y Strategaeth.  Cyfrifoldeb y Fforwm Iaith Strategol fydd monitro cynnydd yn erbyn targedau a osodwyd.  Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod Cyfrifiad 2011 yn dangos y bu gostyngiad yn nifer ysiaradwyr Cymraeg ar yr Ynys a gweledigaeth y Cyngor yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i o leiaf 60.1% erbyn Cyfrifiad 2021.

 

Dywedwyd ymhellach fod yna gynnig i gynnig 'pecynnau croeso' i newydd-ddyfodiaid i'r Ynys i esbonio iaith a diwylliant Cymru.  ‘Roedd y Cadeirydd yn dymuno cofnodi llwyddiant  tîm pêl-droed Cymru yn ystod Pencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar a sut mae Cymru wedi cael proffil uwch oherwydd ei diwylliant a’i iaith.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth fod Fforwm Iaith Ynys Môn wedi cytuno i ganolbwyntio ar dair thema: -

 

·       Plant, Pobl Ifanc a'r Teulu

 

Nod:

 

·      Cynnydd yn nifer y teuluoedd lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith gyda phlant, gyda chynnydd yn y cyfleoedd a’r cymorth i’r iaith gael defnyddio’n gymdeithasol;

·      Sicrhau bod gan bob plentyn yr hawl i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd 16 oed;

·      Cynyddu capasiti a'r defnydd o'r iaith Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu a dysgu ymhlith plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau addysg a chymdeithasol.

 

·       Y Gweithlu, Gwasanaethau Iaith Gymraeg, y Seilwaith

 

Nod:

 

·      Hyrwyddo a chynyddu argaeledd gwasanaethau iaith Gymraeg, cynyddu'r cyfleoedd / disgwyliadau i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a gweithio gyda'n gilydd i nodi cyfleoedd i brif ffrydio'r iaith o fewn datblygiadau a gweithgareddau.

 

Er bod yr Awdurdod yn anelu at gynyddu datblygiad yr iaith Gymraeg yn y gweithle, dywedodd y Swyddog y gobeithir codi proffil yr iaith Gymraeg yn y Cynghorau Tref / Cymuned ar Ynys Môn. Mae'r Cynllun Strategol wedi nodi bod angen Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg o fewn y Cynghorau Tref / Cymuned.  

 

·       Y Gymuned

 

Nod:

 

·      Hyrwyddo a marchnata gwerth a phwysigrwydd y Gymraeg;

·      Hyrwyddo a nodi cyfleoedd i gryfhau'r iaith Gymraeg o fewn y cymunedau a nodi bylchau yn y ddarpariaeth.

 

Adroddodd y Swyddog ei bod yn bwysig bod y Cynllun Strategol yn cydymffurfio â'r polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol i gael nifer ddigonol o dai ar gyfer trigolion lleol er mwyn gwella ffyniant ieithyddol yr Ynys.   Nodwyd hefyd bod angen i g  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Datblygu Sgriwtini gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Derbyn cyflwyniad gan y Ganolfan Dros Sgriwtini Cyhoeddus mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cafwyd gweithdy i’r Pwyllgor dderbyn cyflwyniad gan Ms Rebecca David-Knight, Prif YmgynghoryddCanolfan Cymru ar gyfer Craffu Cyhoeddus.

8.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor

hyd at fis Ebrill 2017.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn ystyried y dylai'r Pwyllgor gael cyflwyniad gan y datblygwyr mawr sy'n bwriadu datblygu ar yr Ynys ynghylch posibiliadau cyflogaeth, budd  cymunedol a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Ymatebodd y Swyddog Sgriwtini ei fod yn ystyried y dylai unrhyw gyflwyniadau gan ddatblygwyr mawr gael eu rhoi yn y sesiynau briffio misol i’r Aelodau ac y dylai unrhyw bynciau penodol a godwyd yn y cyfarfodydd briffio  gael eu cynnwys ar ôl hynny ar Raglen Waith y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Waith at fis Ebrill 2017.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.