Rhaglen a chofnodion
Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir. |
|
Cyd-Brotocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Anawdurdodedig PDF 121 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Tai ar wersylloedd anawdurdodedig yng Ngogledd Cymru.
Yn 2013, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ddogfen o’r enw ‘Canllawiau ar Reoli Gwersylla Diawdurdod’ a gafodd ei gylchredeg i’r holl awdurdodau yn 2015. Mae’r Canllawiau yn rhoi cyngor ar rôl y Bwrdd Iechyd, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr o ran cynorthwyo’r awdurdodau lleol mewn perthynas â gwersylloedd anawdurdodedig, ac yn argymell fod pob awdurdod yn mabwysiadu protocol ar gyfer eu sefydliadau.
Datblygwyd Cyd-Brotocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Sipsiwn a Theithwyr Anawdurdodedig gan Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru yn unol ag egwyddorion cyson cytunedig, gan ddarparu fframwaith ar gyfer cynnal safonau a lleihau effeithiau negyddol gwersylloedd.
Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai bod Fforwm Prif Weithredwyr Gogledd Cymru wedi ystyried y Protocol, a dywedodd y byddai’n croesawu sylwadau’r Pwyllgor arno cyn iddo gael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.
Rhoes y Pennaeth Gwasanaethau Tai grynodeb o’r adroddiad. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithredu’r protocol ar hyn o bryd, sydd yn gyson o ran ei amcanion, ac yn deg i deithwyr, busnesau a pherchnogion tir lleol. Mae’r protocol yn gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau’r Cyngor mewn perthynas â gwersylloedd anawdurdodedig ar dir y Cyngor a thir preifat.
Rhoes y Rheolwr Datblygu a Strategaeth Tai ddiweddariad ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â theithwyr sy’n byw mewn gwersylloedd yn ardal Caergybi ar hyn o bryd. Adroddodd fod rhybuddion wedi eu cyflwyno i deithwyr mewn dau leoliad gwahanol, ond eu bod wedi symud i leoliad arall erbyn hyn. Adroddodd y Rheolwr hefyd ei bod mewn cysylltiad ag Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Conwy er mwyn derbyn cyngor cyfreithiol ar faterion yn ymwneud â theithwyr.
Trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn:-
• Mae teithwyr yn tueddu i wersylla ar dir y Cyngor yn hytrach nag ar dir preifat, gan fod teithwyr yn ymwybodol bod y Cyngor yn wynebu proses gyfreithiol hirfaith er mwyn eu troi nhw allan. • Mewn perthynas â busnesau ar safle Mona, dylai’r Cyngor ofyn i fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru geisio barn y Ffederasiwn Busnesau Bach, er mwyn tynnu eu sylw at y Protocol, ac i roi cyfle iddynt gynnig sylwadau. • Nodwyd bod swyddogion prosiect yn y broses o fapio safleoedd ar gyfer datblygu safleoedd teithwyr awdurdodedig, a ddylai fod yn weithredol ymhen deuddeng mis. • Mewn perthynas â’r gwersylloedd newydd, nodwyd bod swyddogion y Cyngor yn ymweld â, ac yn asesu, safleoedd teithwyr o fewn diwrnod neu ddau iddynt gael eu meddiannu. Mae’n rhaid i’r Protocol fod yn hyblyg a rhoi ystyriaeth i anghenion lleol. Gall gorchmynion gorfodaeth amrywio oherwydd bod y Llysoedd ar gau ar benwythnosau.
Mynychodd y Rheolwr Datblygu a Strategaeth Tai Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn rhan o’r broses o lunio’r Protocol. Roedd trafodaethau’r Fforwm yn canolbwyntio ar brofiadau amrywiol awdurdodau lleol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd). Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) yn rhoi trosolwg o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd yn ystod 2015/16 a’r datblygiadau ar gyfer 2016/17.
Mae gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn bob blwyddyn i gyflwyno trosolwg o’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â hwy. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag Adran 19 a 20, Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006. Mae’n ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a’r diwygiadau dilynol yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i’r agenda diogelwch cymunedol yn lleol.
Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ymdrin â:-
• Throsedd ac Anhrefn • Camddefnyddio Sylweddau • Lleihau aildroseddu • Cyflawni asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith a wneir ar sail ranbarthol bellach) • Rhoi cynlluniau ar waith i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)
Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai at y negeseuon cadarnhaol a dderbyniwyd a welir ym mhwynt 4 yr adroddiad fel a ganlyn:-
• Mae troseddau meddiangar yn Ynys Môn yn isel o gymharu ag ardaloedd eraill; • Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ers 2012; • Mae’r niferoedd o bobl yn adrodd am drais yn y cartref ar gynnydd ers 2012, ac mae hynny i’w groesawu; • Mae nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu hadrodd wedi aros yr un fath; • Mae ail-droseddu wedi gostwng.
Adroddodd y Swyddog Cefnogi, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) bod cais wedi ei wneud, yn ystod y cyfarfod blaenorol ddeunaw mis yn ôl, am fwy o ddata ar berfformiad, ac mae hyn bellach wedi ei gynnwys yn yr atodiadau i’r adroddiad. Amlinellodd y Swyddog Cefnogi yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif gerrig milltir y daethpwyd ar eu traws yn ystod 2016/17 sydd i’w gweld mhwynt 6 yr adroddiad.
Cododd yr Aelodau y materion a ganlyn:-
• Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi arwain mewn perthynas â throsglwyddo rhai gwasanaethau i system ranbarthol, mabwysiadu strwythur rhanbarthol mewn rhai meysydd gwaith y byddent yn atebol amdanynt. • Cymharwyd lefelau ail-droseddu yn Ynys Môn gydag ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru a dengys y ffigyrau dueddiad tuag at i lawr, gyda chynnydd bychan o safbwynt aildroseddu ymysg oedolion. • Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oes cynllun strategol yn ei le er mwyn ymdrin â throseddwyr yn CEM Berwyn, Wrecsam yn y dyfodol. Awgrymwyd fod cynrychiolydd o’r carchar newydd yn dod i gyfarfod y Cyngor Sir neu’r Pwyllgor Sgriwtini i roi cyflwyniad ar waith ataliol a chydweithio. Mae Bwrdd Rhanbarthol Goruchwylio Carchar yn bodoli eisoes, a bydd cyrff eraill yn gweithio o’r carchar o fewn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Her (GwE) yn amlinellu dadansoddiad o ganlyniadau gwaith a ymgymerwyd gan y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion (GwE) mewn ysgolion categori oren a choch yn Ynys Môn yn ystod y cyfnod 2014/16.
Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y broses hunan arfarnu a gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor sgriwtineiddio’r agweddau allweddol canlynol:-
• Sut mae’r Awdurdod yn monitro ac yn herio gwaith GwE? • Sut mae’r Awdurdod yn gwybod os yw’n cael gwerth am arian gan GwE? • Sut mae’r Awdurdod yn sicrhau bod gwaith GwE wedi’i alinio gyda chynlluniau a bwriadau lleol a bod yr agweddau allweddol sydd angen sylw yn cael eu targedu’n effeithiol? • Pa wahaniaeth y mae cefnogaeth GwE wedi’i gael ar ddeilliannau, safonau cyflawniad ac ansawdd arweinyddiaeth yn ysgolion categori oren a choch yn Ynys Môn? • Ym mha ysgolion y gwelir y gwahaniaethau amlycaf? • Pa agweddau sydd angen eu blaenoriaethu wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau gwelliannau pellach?
Adroddodd yr Uwch Ymgynghorydd Her fod GwE yn cydweithio â nifer o ysgolion, rhai ohonynt fel astudiaethau achos, sydd yn ddienw. Nodwyd bod yr adroddiad wedi’i seilio’n bennaf ar berfformiad ysgolion cynradd, ond cyfeiriwyd hefyd at y ddwy ysgol uwchradd categori melyn/coch yn Ynys Môn y llynedd. Dim ond gydag un o’r ddwy ysgol uwchradd y bu GwE’n gweithio ac arweiniodd hynny at welliant sylweddol rhwng 2015/16. Roedd yr ysgol arall, a oedd yn rhan o’r blaengaredd cenedlaethol ‘Her Ysgolion Cymru’, a oedd yn cael ei arwain a’i fonitro gan y Gweinidog Addysg, wedi gwneud llai o gynnydd.
Rhoes yr Uwch Ymgynghorydd her grynodeb o berfformiad yn erbyn dangosyddion yn ysgolion Ynys Môn. Dywedodd mai prif gyfrifoldebau GwE oedd darparu arweiniad a chefnogaeth a gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i roi sylw i unrhyw heriau, er mwyn datblygu system addysg fydd â’r cynhwysedd, y sgiliau a’r hyder i ymgymryd â rhaglen hunan-wella.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol:-
• Mae hybiau Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio’n dda, ond mae angen parhau i’w gwella. Mae’r model cefnogi ysgolion a ddefnyddir ar hyn o bryd wedi cael ei addasu o ganlyniad i ganfyddiadau Estyn. • Cyfeiriwyd at adroddiad Estyn, Ebrill 2016, a oedd yn nodi bod gormod o ffocws wedi ei roi ar wella ysgolion yn y categori oren/coch o gymharu â grwpiau eraill. Nodwyd bod ysgolion yn y categori hwn angen cefnogaeth fwy dwys er mwyn datblygu eu gallu i wella yn unol ag anghenion penodol. Mae ysgolion gorau’r Awdurdod yn rhagori o safbwynt perfformiad ac nid ydynt angen yr un lefel o gefnogaeth. • Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ar y modelau categoreiddio ysgolion. Nodwyd bod yr Ymgynghorwyr Her yn trafod a monitro gwaith a pherfformiad ysgolion. Er bod cam 1 y broses gategoreiddio yn cael ei yrru gan ddata, Ymgynghorwyr Her ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyflwyno’r Rhaglen Waith gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai 2017.
Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 22 Tachwedd 2016 gyda’r eitemau canlynol ar agenda’r cyfarfod:-
• Trawsnewid Gwasanaethau Ieuenctid • Cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ynys Môn
Bydd cynrychiolydd o BIPBC a swyddogion y Cyngor yn bresennol i roi cyflwyniad ar gydweithio rhwng BIPBC a’r Cyngor Sir. Nod y sesiwn fydd sgriwtineiddio integreiddio gwasanaethau ac awgrymu sut y gellir eu gwella er budd pobl Ynys Môn.
Cytunodd y Pwyllgor mai ‘Trawsnewid Gwasanaethau Ieuenctid’ fyddai’r eitem gyntaf ar yr agenda, ac y byddai’r eitem BIPBC yn cychwyn am 3.15 pm, a gwahoddir Aelodau’r Panel Sgriwtini Corfforaethol i fod yn bresennol.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith a gyflwynwyd.
|
- Anrhegion a Lletygarwch
- Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
- Calendr
- Canlyniadau'r Etholiad
- Cofnodion, agendau ac adroddiadau
- Cyfansoddiad
- Cynghorau tref a chymuned
- Cyrff allanol a chyrff eraill
- Chwilio
- Eich AS ac aelod o'r Cynulliad
- E-ddeisebau
- Eich Cynghorwyr
- Eich Cynghorwyr yn ôl aelod portfolio
- Lwfansau Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Pwyllgorau