Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodir uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 24 Ionawr, 2017. Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2017 eu cadarnhau fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad cynnydd Safonau Addysg PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.
Nododd y Pennaeth Dysgu mai prif ddiben yr adroddiad yw trafod y cynnydd o ran safonau ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16. Disgwylir y bydd Ynys Môn yn 10fed allan o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru o ran y dangosyddion perfformiad a nodir gan Estyn.
Rhoddodd Mr. Elfyn V. Jones, - Uwch Ymgynghorydd Her gyda GwE, drosolwg o berfformiad yr awdurdod lleol yn y cyfan o’r cyfnodau allweddol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru.
Asesiad Cyfnod Sylfaen
Mae’r prif ddangosydd ar gyfer y cyfnod allweddol Sylfaen yn siomedig gan fod Ynys Môn wedi disgyn yn is na’r targed ym mhob categori o gymharu â’r lefelau perfformiad Cenedlaethol; mae hyn yn gosod yr awdurdod lleol yn llawer is na’r disgwyl ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16. Fodd bynnag, nododd na chafodd y lefelau targed hyn eu hamlygu fel pryderon yn ystod Archwiliadau Estyn.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y data a gyflwynwyd i’r Pwyllgor a nododd fod Ysgolion Môn, yn y cyfnod Sylfaen yn 21ain allan o 22 awdurdod lleol mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg. Mynegodd bryder am ddilysrwydd yr asesiad. Dywedodd y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod asesiadau diwedd cyfnod sylfaen yn ddilys ac yn ddibynadwy.
Asesiad Cyfnod Allweddol 2
Mae perfformiadau cyfnod allweddol 2 yn is nac yn 2015 ond mae dal 2.7% yn uwch na’r targedau a osodwyd gydag Ynys Môn yn 9fed o’r holl awdurdodau yng Nghymru.
Asesiadau Cyfnod Allweddol 3 a 4
Mae perfformiad cyfnod allweddol 3 yn uwch yn Ynys Môn na’r meincnod yng Nghymru a osodir gan Lywodraeth Cymru.
Mae yna agweddau cadarnhaol o ran perfformiad cyfnod allweddol 4 ar Ynys Môn ond mynegodd yr Uwch Ymgynghorydd Her siom yn gyffredinol gan fod yr ysgolion uwchradd mewn safle ychydig yn is yn y rhan fwyaf o ddangosyddion allweddol gan fod y cynnydd cenedlaethol wedi bod yn uwch.
Does dim un o’r 5 ysgol uwchradd yn Ynys Môn wedi cyflawni’r trothwy o 70% uwchben y prif ddangosyddion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag fe gyflawnodd 3 ysgol uwchradd hyn mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
Codwyd y materion canlynol gan yr Aelodau:-
• Cyfeiriodd y cwestiynau at y ffaith y cafodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2016, sicrwydd y byddai prosesau ar gyfer asesu plant mewn ysgolion a safoni data yn cael eu rhoi mewn lle ac y byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i athrawon er mwyn codi safonau yn ysgolion yr Ynys. Ymatebodd yr Uwch Ymarferydd Her gan ddweud bod Ymgynghorwyr Her bellach yn gweithio’n wahanol gydag ysgolion er mwyn gwella safonau o fewn y gwahanol gamau allweddol. Mae’r unigolion hyn yn hyfforddi athrawon ar hyn o bryd ac maent wedi eu hawdurdodi i ymweld ag ysgolion yn amlach er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sydd wedi’u hadnabod. Cynhaliwyd trafodaethau gyda Phenaethiaid o ran y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Blynyddol y Grwp Adolygu Cynnydd Ysgolion PDF 68 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu a’r Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod. Nododd y Pennaeth Dysgu bod Grŵp Adrodd ar Gynnydd Ysgolion wedi’i sefydlu ym mis Tachwedd 2012 a hynny yn dilyn argymhellion mewn adroddiad Estyn ar ansawdd gwasanaethau Addysg ar gyfer plant a phobl ifanc ar Ynys Môn. Nod y Grŵp yw cynorthwyo’r Gwasaneth Addysg i wella perfformiad ysgolion ar yr Ynys drwy gynyddu a datblygu atebolrwydd Lleol ar gyfer perfformiad ysgolion a rhoi gwybodaeth i aelodau lleol am y gyrwyr perfformiad allweddol a’r heriau sy’n wynebu ysgolion ar Ynys Môn. Bu’r Grŵp Adolygu YN adnabod ysgolion yr hoffent eu hadolygu a gwahoddwyd Penaethiaid, Cadeirydd a Llywodraethwyr a’r Ymgynghorydd GwE perthnasol (Gwella Gwasaneth Ysgolion Rhanbarthol) i fynychu er mwyn trafod safonau cyrhaeddiad, materion cynhwysiant, presenoldeb a rheolaeth adnoddau sy’n cynnwys agweddau cyllidol a rheoli.
Roedd prif negeseuon y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion ar gyfer 2016 fel â ganlyn:-
• Gweithiodd ysgolion yn dda gyda GwE ac roeddent yn ganmoliaethus am ansawdd y gefnogaeth a ddarparwyd. Roedd gan yr holl ysgolion dystiolaeth o ddefnyddio cynlluniau datblygu/gwella i ddatrys meysydd gwan o berfformiad ac i wella perfformiad; • Cydweithiodd ysgolion yn dda ag ysgolion eraill ar yr Ynys er mwyn gwella arferion da ond mynegodd un ysgol ei siom am effeithlonrwydd y cynllun lleol; • O dan system raddio ysgolion yn ôl codau lliw Llywodraeth CymrU, roedd rhai ysgolion wedi eu categoreiddio yn well nag eraill, ond mae pob ysgol wedi ymrwymo i wella safonau addysg ar gyfer pob disgybl. • Roedd cynrychiolwyr ysgol a fynychodd y Grŵp Adolygu yn agored wrth adnabod gwendidau ym mherfformiad yr ysgolion ac roeddent yn gallu darparu esboniad dilys dros hyn e.e. cynnydd yn y niferoedd sydd ag anghenion arbennig, disgyblion sydd â sgiliau Cymraeg llai datblygedig neu swyddi gwag sydd angen eu llenwi. • Cyfeiriodd ysgolion at anawsterau recriwtio wrth geisio dod o hyd i athrawon profiadol a Phenaethiaid er mwyn ceisio llenwi swyddi gwag. Roedd gan rai ysgolion amheuon am y posibilrwydd o gyflwyno asiantaeth recriwtio genedlaethol i lenwi swyddi dros dro ond ystyriodd eraill nad oedd bai ar y broses recriwtio ond ei fod yn fwy o adlewyrchiad o’r broblem genedlaethol o ran y nifer cyfyngedig o athrawon profiadol sy’n barod i lenwi swyddi gwag a swyddi penaethiaid, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg; • Mae gan ysgolion enw da yn eu cymunedau; • Mae’r gefnogaeth yn parhau ar gyfer addysg grefyddol a’i bwysigrwydd wrth ddatblygu gwerthoedd cymdeithasol ac ymddygiad cadarnhaol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i barhau â gwaith y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion.
GWEITHRED: Fel yr uchod |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd mewn perthynas â’r uchod.
Nododd y Rheolwr Datblygiad Economaidd y sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) er mwyn cydlynu’n well y datblygiad economaidd strategol ar sail ranbarthol mewn ymateb i’r pwysau ar arian cyhoeddus. Mae cydlyniant a darpariaeth rhanbarthol o ran cyflogaeth a sgiliau yn un o’r meysydd allweddol ar gyfer yr NWEAB. Mae Llif Gwaith Sgiliau a Chyflogaeth yr NWEAB wedi eu mabwysiadu a’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru fel un o’i dair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ledled Cymru.
Croesawodd y Cadeirydd Mr Iwan Thomas, Rheolwr Rhaglen Rhanbarthol – Sgiliau a Chyflogaeth o’r NWEAB i’r cyfarfod. Rhoddodd Mr Iwan Thomas gyflwyniad i’r cyfarfod ar Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Tynnodd sylw at y ffaith mai nod yr NWEAB yw gwella a diweddaru cronfa sgiliau’r ardal a datblygu cyflogaeth yng Ngogledd Cymru. Gyda’r cyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael ar yr Ynys dros y deng mlynedd nesaf, bydd angen i gyflogwyr gael cymorth pellach er mwyn gyrru darpariaeth sgiliau sy’n ymateb i’w hanghenion. Bydd y rhai hynny sy’n chwilio am waith angen y sgiliau er mwyn cael mynediad i gyflogaeth gynaliadwy, tra bydd y rhai hynny sydd mewn gwaith angen cymorth pellach er mwyn gallu datblygu eu potensial i allu cystadlu am gyfleoedd cyflogaeth mewn gwahanol brosiectau mawr a fydd yn cael eu sefydlu ar yr Ynys h.y. y sector ynni ac amgylchedd, uwch weithgynhyrchu, adeiladwaith, sectorau creadigol a digidol, gofal iechyd a chymdeithasol, twristiaeth a lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Nododd Mr. Thomas yr heriau rhanbarthol canlynol a oedd yn bodoli o ran sgiliau a chyflogaeth:-
• Cyflogwyr i fynd i’r afael â chynllunio olyniaeth yn ogystal â gweithlu sy’n heneiddio mewn sectorau allweddol; • Cadw pobl ifanc mewn cyflogaeth gynaliadwy o fewn y rhanbarth wedi iddynt gwblhau eu hastudiaethau; • Datblygu model broceriaeth sgiliau rhanbarthol yn seiliedig ar yr hyn a ddarparwyd wrth adeiladu Carchar Gogledd Cymru. • Cynyddu’r niferoedd sy’n astudio pynciau STEM a hyrwyddo’r pynciau hynny a sicrhau bod gan bobl sgiliau sy’n cyd-fynd â gofynion cyflogwyr; • Darparu datrysiadau sgiliau rhanbarthol ar gyfer prosiectau trawsnewid ochr yn ochr â hyrwyddo agosrwydd lleol; • Cefnogi datblygiad cynaliadwy ac arloesedd yn ein sectorau twf er mwyn darparu llwybrau gyrfa deniadol.
Cododd yr Aelodau y materion canlynol:-
• Mae angen annog pobl ifanc sydd wedi gadael Ynys Môn i fynd i Brifysgolion a Cholegau i ddychwelyd ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth posibl a fydd ar gael yng Ngogledd Cymru ac Ynys Môn; • Mae angen cynnwys Cymunedau’n Gyntaf Môn yn y rhestr o bartneriaid allweddol ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru; • Mae angen i Ffeiriau Gyrfa mewn ysgolion uwchradd roi cyngor i ddisgyblion am y pynciau sydd angen iddynt eu hastudio er mwyn gallu cystadlu am y cyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael yng Ngogledd Cymru; • Tra bod angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod pynciau STEM ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cyfarfod nesaf I nodi bydd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn cael ei gynnal ar 15 Mawrth, 2017 am 2.00 o’r gloch y.p. Cofnodion: Nodi y cynhelir cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor hwn ar 15 Mawrth, 2017 am 2:00pm. |