Rhaglen a chofnodion

Trosedd ac Anhrefn; Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 12fed Tachwedd, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi, 2019.

4.

Adroddiad Blynyddol - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf eicon PDF 661 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn ei bod yn ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol, yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a diwygiadau wedi hynny i Ddeddfau’r Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i’r rhaglen  diogelwch cymunedol lleol. Mae'n ddyletswydd ar y Bartneriaeth i ddelio â: -

 

  • Trosedd ac Anhrefn
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Lleihau aildroseddu
  • Cyflwyno asesiad strategol i nodi blaenoriaethau (gwaith sy'n cael ei wneud yn rhanbarthol bellach)
  • Rhoi cynlluniau ar waith i ddelio â'r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol).

 

Nodwyd bod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gweithio i gynllun blynyddol sy'n seiliedig ar gynllun rhanbarthol tair blynedd (‘roedd adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn 2018/19 a chynllun 2019/20 ynghlwm wrth yr adroddiad). Nodwyd y saith blaenoriaeth ganlynol gan y Bartneriaeth sy'n seiliedig ar asesiad strategol rhanbarthol, cynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a chynllun y Bwrdd Cymunedau Diogel rhanbarthol: -

 

  • Lleihau troseddau a chanddynt ddioddefwyr (troseddau meddiangar yn unig)
  • Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Cefnogi pobl fregus i’w hatal rhag bod yn ddioddefwyr trosedd
  • Codi hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig
  • Codi hyder i adrodd am gam-drin rhywiol
  • Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal
  • Lleihau Aildroseddu

 

Cafodd y prif negeseuon sy'n deillio o weithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2018 eu cynnwys yn yr adroddiad.

Cyfeiriodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn at ystadegau troseddu yn yr adroddiad. Nododd fod y Swyddfa Gartref yn cymharu'r troseddau mewn ardaloedd sy'n debyg; edrychir ar ystadegau troseddau Ynys Môn a’u cymharu â saith ardal debyg yn y DU. Bu newid yn ystod y flwyddyn hon yn arferion cofnodi’r Heddlu oherwydd y gall un digwyddiad arwain at gofnodi mwy nag un trosedd erbyn hyn. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau bod achosion o dorri i mewn i annedd, adeiladau allanol neu sied bellach yn cael eu categoreiddio fel byrgleriaeth ddomestig yn ystadegau'r Heddlu. Dywedodd Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn fod digwyddiadau byrgleriaeth yn isel ar Ynys Môn.

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a'r cwestiynau sgriwtini yn yr adroddiad a chododd y materion a ganlyn:

 

·      Gofynnwyd a oes adnoddau digonol yn y Tîm Diogelwch Cymunedol i gyflawni'r gwaith y mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi'i nodi. Ymatebodd y Prif Weithredwr trwy ddweud mai dim ond un Swyddog sydd yn gweithio o fewn y Tîm Diogelwch Cymunedol ar hyn o bryd ond mae trafodaethau yn parhau o ran disodli'r rôl prosiect a monitro yn y tîm yn dilyn ymadawiad deilydd y swydd ym mis Rhagfyr 2018. Holodd y Cadeirydd pwy fydd yn penderfynu a fydd y rôl prosiect a monitro yn cael ei disodli. Ymatebodd y Prif Weithredwr mai Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar y Tîm Diogelwch Cymunedol ond mae Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Trefniadau Llywodraethu pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi ei sefydlu yn 2016 yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er mwyn pennu'r blaenoriaethau ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cynhaliwyd asesiad llesiant ar draws meysydd llesiant yng Ngwynedd ac Ynys Môn a arweiniodd at gyfres o sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori. Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth i gyflawni'r amcanion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae'r Is-grwpiau canlynol hefyd wedi'u sefydlu o dan Amcan 1 - Cymunedau sy'n ffynnu ac sy'n llewyrchus yn y tymor hir:-

 

·           Is-grŵp Iaith Gymraeg - Mae'r is-grŵp wedi penderfynu canolbwyntio'n bennaf ar brosiect penodol o’r enw 'Arfer' sy'n edrych ar newidiadau ymddygiad yn y gweithle ac a all arwain at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg gan yr unigolion hynny nad ydyn nhw'n teimlo'n hyderus i ddefnyddio’r Iaith. Disgwylir i’r prosiect ‘Arfer’ redeg am 12 mis yn y lle cyntaf;

·           Is-grŵp Newid Hinsawdd - Mae'r is-grŵp wedi canolbwyntio ar ddeall y data a'r dystiolaeth sydd ar gael gan sefydliadau sy’n aelodau o’r grŵp fel y gellir ei ddefnyddio i siapio rhagolygon a modelau newid hinsawdd. Bydd yr is-grŵp hwn hefyd yn canolbwyntio ar y cymunedau a’r asedau sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae’r is-grŵp hefyd wedi defnyddio ‘Fairbourne’ fel achos o arfer da ac er mwyn dysgu gwersi ar agweddau fel ymgysylltu a gwell cydweithredu er lles cymunedau;

·           Cartrefi i bobl leol - Ar hyn o bryd mae Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn bwriadu datblygu tai arloesol. Mae'r is-grŵp yn cynnig dwyn ynghyd gynlluniau cyrff cyhoeddus a rhoi trefniadau ar waith i weithio gyda'i gilydd i ystyried nifer llai o fodelau arloesol. Penodwyd Swyddog Rheoli Prosiect, ar sail rhan-amser, i yrru'r gwaith yn ei flaen;

·           Tlodi - Mae tlodi yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Bwrdd ond nid oes is-grŵp yn arwain ar y gwaith ar hyn o bryd. Cytunwyd bod cyfle trwy'r Bwrdd i fynd i'r afael â'r gwaith sydd eisoes wedi cychwyn yn y ddau awdurdod cyn ystyried opsiynau i'r Bwrdd weithio mewn ffordd fwy integredig a chydlynol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ymhellach fod Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gorllewin wedi'i sefydlu o fewn Amcan 2. Mae'r is-grŵp yn cadw trosolwg ac yn sicrhau y cyflwynir y datblygiadau a'r newidiadau y mae gofyn eu gwneud. Mae’r is-grŵp hefyd yn darparu’r arweinyddiaeth a’r llywodraethiant ar gyfer yr is-grwpiau sy’n gysylltiedig â’r gwaith sef plant, oedolion, anabledd dysgu iechyd meddwl a thrawsnewid cymunedol. Nododd fod y Bwrdd wedi derbyn cyllid o  gyllideb drawsnewid ‘Cymru Iachach’. Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor hefyd at waith a wnaed, o ganlyniad i'r cyllid, mewn Ward yn Ysbyty Gwynedd i nodi'r problemau a'r heriau sy'n bodoli yn yr Ysbyty. Mae'r Bwrdd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 981 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor ac atodiadau yn cynnwys eitemau a raglennwyd ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini tan fis Rhagfyr, 2019 ac o fis Ionawr i fis Ebrill 2020.

Nododd y Rheolwr Sgriwtini fod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 12 Rhagfyr, 2019 wedi'i aildrefnu i’w gynnal ar 21 Ionawr, 2020.

PENDERFYNWYD nodi'r Flaenraglen.

GWEITHREDU:  Fel uchod.