Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 28ain Tachwedd, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr ymddiheuriadau fel y maent wedi eu nodi uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 66 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi, 2013.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi, 2013, yn amodol ar newid Eitem 6 bod cynrychiolwyr o’r sefydliadau yn cael gwahoddiad i ddod i’r cyfarfod ym Mawrth 2014 ac nid Mawrth 2013.

4.

Diweddariad gan Uned Partneriaeth pdf eicon PDF 322 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan Mr Trystan Pritchard, Uwch Reolydd Partneriaethau ar strwythurau a threfniadau ariannol y bartneriaeth, gan gynnwys dyraniadau grant. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am y cynnydd a wnaed hyd yma ar ddatblygu drafft cychwynnol o Gynllun Integredig Sengl ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd.

 

Roedd yr Aelodau yn ystyried y dylid gwahodd y Rheolydd Cyflawni ar gyfer Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc a’r Rheolydd Cyflawni ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd, Gofal a Lles i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Cynnal cyfarfod arbennig ym mis Chwefror i drafod fersiwn derfynol y Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd.

5.

Trosolwg Blynyddol - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

CyflwynwydDiweddariad Blynyddol ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn, bob blwyddyn, i roi trosolwg o’i gweithgareddau. Mae hynny’n sicrhau bod y Bartneriaeth yn cwrdd â’i chyfrifoldebau dan Adrannau 19 a 20 Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2006 a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Ymddiheurodd Mr Trystan Pritchard, Uwch Reolydd Partneriaethau ar ran Ms Catherine Roberts, Rheolydd Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a oedd wedi methu dod i’r cyfarfod oherwydd salwch.  Dywedodd Mr Pritchard fod gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i’r rhaglen diogelwch cymunedol leol.  Cyflwynodd y Prif Arolygydd Dros Dro, Simon Barrasford (Heddlu Gogledd Cymru) sy’n gyfrifol am Ynys Môn a Mr Geraint Hughes (Gwasanaeth Tan ac Achub) fel partneriaid allweddol yn y cynllun.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffigyrau trosedd ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd a bod 434 yn llai o droseddau wedi eu cofnodi llynedd, sy’n ostyngiad o 23%.  Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro Simon Barrasford ei fod yn fodlon bod y ffigyrau trosedd yn gywir a bod gwaith partneriaeth gyda gwahanol sefydliadau wedi cyfrannu at ostyngiad yn y ffigyrau trosedd ar gyfer Ynys Môn.

 

Dywedodd Mr Trystan Pritchard fod ailstrwythuro sylweddol wedi digwydd yn y Bartneriaeth dros y 18 mis diwethaf, ar sail ranbarthol a lleol. Mae’r holl arian grant a dderbynnir gan y PDC wedi bod yn destun newidiadau.  Mae’r adnoddau cefnogol wedi gostwng ac mae rhai prosesau ailstrwythuro rhanbarthol ar ôl i’w cwblhau.  Nodwyd rhestr o’r prif weithgareddau yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb PENDERFYNWYD nodi’r adolygiad.

 

GWEITHREDU: Cyhoeddi datganiad i’r wasg yn dweud bod y Pwyllgor hwn yn croesawu’r gostyngiad yn y ffigyrau trosedd yn Ynys Môn.

 

6.

Cymunedau'n Gyntaf Ynys Môn pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r cynnydd gyda gweithredu’r Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn Ynys Môn.  Dangoswyd DVD a baratowyd gan wirfoddolwyr y Rhaglen i’r Pwyllgor.

 

Nodwyd bod staff o’r hen Bartneriaethau Cymunedau’n Gyntaf wedi trosglwyddo i Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf ar 1 Chwefror 2013.  Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf yn cael ei reoli gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr sy’n cynnwys yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddogion fel sylwedyddion.  Fel cwmni a gyfyngir â gwarant ac elusen, mae’r sefydliad yn gallu denu cyllid allanol ychwanegol na fyddai’r Awdurdod efallai yn gymwys i wneud cais amdano fel corff cyhoeddus a hynny er mwyn darparu gwasanaethau Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal.

 

Codwyd y materion isod gan Aelodau’r Pwyllgor:-

 

  Mynegwyd pryder nad oedd neb o Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf yn y Pwyllgor i’w cynrychioli;

  Mynegwyd pryderon nad oedd cofnodion Bwrdd Cymunedau’n gyntaf Môn Cyf yn ddogfennau cyhoeddus. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai ei bod hi a’r Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn y cofnodion. Nododd ei bod wedi cael cyngor cyfreithiol nad oedd yn unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol ar Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf i gyhoeddi eu cofnodion.

  Nododd yr Aelodau eu siom mai tlodi oed yr unig feincnod yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i ddynodi ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a gofyn i Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf gyhoeddi cofnodion eu cyfarfodydd Bwrdd ar eu gwefan ond gan adael allan unrhyw faterion cyfrinachol fel sy’n briodol.

 

GWEITHREDU: Derbyn Adroddiad Blynyddol ar y rhaglen Cymunedau’n gyntaf yn Ynys Môn.

7.

Dogfen Ymgynghorol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Ms Dawn Docx, Dirprwy Brif Swyddog Tân a Mr Richard Fairhead i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y Ddogfen Ymgynghori mewn perthynas â’r amcanion gwella arfaethedig ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am 2014-15. Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar

9 Rhagfyr 2013.

 

Dywedodd Ms Docx mai’r amcanion arfaethedig ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yw:-

 

  Cynorthwyo i gadw pobl a chymunedau’n ddiogel trwy rwystro marwolaethau ac anafiadau yn sgil tannau damweiniol mewn lleoedd byw;

  Sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael y gwasanaeth gorau posib o fewn y cyfyngiadau ariannol a defnyddio amrywiaeth o ddatrysiadau rheoli i sicrhau’r gwasanaeth tân ac achub fwyaf posib yn yr ardal.

  Gweithredu cynllun ariannol 3 blynedd am y cyfnod 2014/15 i 2016/17 sy’n cyllido lefel gyfredol y gwasanaeth, ond sy’n ceisio cyfyngu’r gost o wneud hynny i’r hyn sy’n cyfateb i £1 ychwanegol y flwyddyn i bob pen o’r boblogaidd.

 

Aeth Ms Docx ymlaen i esbonio sut roedd gwasanaeth wedi gwneud cynnydd da i gyflawni’r amcan cyntaf trwy gynnal archwiliadau diogelwch cartref ac addysgu’r cyhoedd dros y saith mlynedd diwethaf, gyda nifer y tanau yng Ngogledd Cymru wedi gostwng gan bron i 50% dros yr un cyfnod.

 

Esboniodd hefyd bod yr Awdurdod Tân ac Achub wedi rhewi ei gyllideb am y tair blynedd diwethaf.  Roedd hyn yn golygu gorfod gwneud arbedion o 7.5% yn y gyllideb er mwyn cynnal lefel y gwasanaethau i’r cyhoedd.  Roedd yr Awdurdod Tân ac Achub yn credu nad oedd y sefyllfa hon yn gynaliadwy dros y tair blynedd nesaf ac efallai y bydd yn rhaid cynyddu’r gyllideb.  Fodd bynnag, roedd awydd cryf i gyfyngu unrhyw gynnydd i’r eithaf.

 

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Cefnogi gweithredu cynllun ariannol 3 blynedd am y cyfnod 2014/15 i 2016/17 sy’n cyllido lefel gyfredol y gwasanaeth, ond sy’n ceisio cyfyngu’r gost o wneud hynny i swm sy’n cyfateb i £1 ychwanegol bob blwyddyn fesul pen o’r boblogaeth.

8.

Diweddariad gan y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ac Unrhyw Gyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Holodd yr Is-Gadeirydd a fyddai’r Pwyllgor hwn yn cael diweddariad ynghylch y Byrddau Trawsnewid.  Ymatebodd y Swyddog Sgriwtini trwy ddweud bod disgwyl i Swyddogion o’r Tîm Trawsnewid ddod i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2014 i adrodd ar y gwaith a wnaed gan y Byrddau Trawsnewid ers Medi 2013.

 

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith ddrafft gan y Swyddog Sgriwtini.

 

Nodwyd y byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ym mis Chwefror 2014 i drafod yr eitemau isod:-

 

Cynllun Integredig Sengl

Cytundeb Partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd

Cytundeb Partneriaeth Gogledd CymruCanolfan Alwadau Galw Gofal

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.