Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 13eg Mawrth, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn :-

 

·        Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Ionawr, 2014.

·        Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 4 Chwefror, 2014

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·        Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, 2014.

 

Materion yn codi

 

Cymunedau’n Gyntaf – Ynys Môn

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod Cymunedau’n Cyntaf Cyf wedi gwrthod y cais gan y Pwyllgor hwn i gyhoeddi eu cofnodion o gyfarfodydd y Bwrdd ar eu gwefan.  Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees ei fod yn siomedig yn hyn o beth.

 

·        Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2014.

 

3.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 24 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

 

4.

Prosiect Trîn Gwastraff Rhanbarthol Gogledd Cymru

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Amgylchedd a Thechnegol a’r Prif Swyddog Rheoli Gwastraff.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol a’r Prif Swyddog Rheoli Gwastraff.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff gyflwyniad ar gefndir y Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) a’r angen i gael gwared o wastraff gweddilliol er mwyn cyfarfod a thargedau cael gwared ar wastraff Llywodraeth Cymru.  Nododd bod 45% o’r gwastraff gweddilliol ym Môn yn cael ei drosglwyddo i dirlenwi.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y dylai pob awdurdod lleol fod â’r nod o ailgylchu hyd at 70% o’u gwastraff erbyn 2025.  Bydd Awdurdodau’n wynebu dirwyon posibl o £200 y dunnell am fethu â chyfarfod â’r targed hwn.  Ar hyn o bryd mae Ynys Môn yn ailgylchu hyd at 55%.  Dywedodd y Swyddog ymhellach bod gallu cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn gofyn am i wastraff gweddilliol gael ei losgi ac i gynhyrchu ynni ar ôl hynny.  Mae 5 allan o’r 6 Awdurdod yng Ngogledd Cymru yn y Prosiect.

 

Dywedodd y Rheolwr Prosiect i’r broses gaffael PTGGGC  ddechrau gyda chyhoeddi’r OJEU ym mis Gorffennaf 2010.  Roedd y Bartneriaeth wedi hysbysebu’r contract ar sail technoleg a safle niwtral a thrwy hynny roi’r cyfle gorau i’r farchnad ddod â’r datrysiad mwyaf amgylcheddol, economaidd a thechnolegol ddilys gerbron y Bartneriaeth.  Ym mis Rhagfyr 2013, cyflwynodd Cwmni ‘X’ dendr terfynol ar gyfer y cyfleuster Ynni newydd o wastraff ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy fydd yn gallu prosesu 175,000 tunnell y flwyddyn.  Rhoddodd Mr Owen a Mr Jonathan Bebb o Amec (Ymgynghorwyr Technegol) gyflwyniad manwl ar gefndir y cyfleuster arfaethedig gan amlygu’r  risgiau allweddol a materion Iechyd a Diogelwch i'r Pwyllgor.

 

Amlinellodd Mr. Rehamn o Grant Thornton (Ymgynghorwyr Ariannol) a Mr. John Bruce o Pinsent Masons (Ymgynghorwyr Cyfreithiol) rai manylion am ymrwymiadau ariannol a chyfreithiol a’r gwaith enfawr sydd wedi ei wneud i gael y contract gorau bosibl ar gyfer Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru.

 

Rhestrir isod rhai o’r prif faterion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:-

 

·        Materion Iechyd a Diogelwch;

·        Ymrwymiadau Ariannol;

·        Ymrwymiadau Cyfreithiol;

·        Cyfyngiadau ar ddeunyddiau gwastraff fydd yn cael eu llosgi;

·        Materion Llygru’r Aer;

·        Diogelu Iechyd;

·        Manteision Cymunedol;

Manteision Rhyng-awdurdod;

 

Roedd Y Cadeirydd yn dymuno iddo gael ei gofnodi bod angen amlygu’r cymalau dirwyo (fel oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad) yng nghyswllt tynnu yn ôl o’r prosiect.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion oedd ynddo.

 

GWEITHREDU: Bod yr adroddiad a’r argymhellion yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn yn y man.