Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 25ain Gorffennaf, 2013 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Dywedodd y Cadeirydd bod cais wedi ei dderbyn y dylai’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol ddechrau am 2.00pm fel y byddai’n dechrau ar yr un amser â’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a hefyd er mwyn hwyluso presenoldeb Aelodau sy’n gweithio.

 

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn unrhyw eitem of fusnes.  

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 45 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Mehefin, 2013

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2013.

 

Nodwyd bod Eitemau 4 a 5 wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf, 2013 yn dilyn argymhellion y Pwyllgor hwn.

 

4.

Diweddariad Uned Partneriaethau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau.

Cofnodion:

(Dywedodd y Cynghorydd D.R. Hughes ei fod yn cael ei gyflogi gan Medrwn Môn ond roedd o’r farn y gallai gyfrannu i’r cyfarfod).

 

Cyflwynwyd - adroddiad a chyflwyniad gan Mr. Trystan Pritchard, Uwch Reolwr Partneriaethau ynglŷn â gwaith  Uned Partneriaeth Môn a Gwynedd oedd newydd ei sefydlu. 

 

Dywedodd Mr. Pritchard bod yr Uned Bartneriaeth wedi ei sefydlu er mwyn ymwneud â’r canlynol:-

 

·                Uno’r strategaethau Plant a Phobl Ifanc, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Diogelwch Cymunedol a Chymuned a gweithio tuag at un cynllun integredig sengl i Wynedd a Môn;

 

·                Y broses yn cael ei chynllunio, ei gyrru a’i monitro drwy sefydlu Bwrdd Gwasanaeth Lleol ar y Cyd i Wynedd a Môn;

 

·                Y Bwrdd Gwasanaeth Lleol ar y Cyd fydd y bartneriaeth statudol i’r holl ardaloedd o fewn ei gylch gorchwyl.

 

Rhoddodd gefndir y strwythur, ei nodau a blaenoriaethau’r Uned Bartneriaeth. 

 

Codwyd rhai materion gan yr Aelodau a gofynnwyd am fwy o wybodaeth i’r Pwyllgor Sgriwtini hwn ym mis Tachwedd, parthed:-

 

·                Y strwythur staffio, y dyraniad grant a dderbyniwyd a’r cyfraniad gan Gyngor Sir Ynys Môn i’r Uned Bartneriaeth;

 

·                Gwybodaeth yng nghyswllt strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd a’r Bwrdd Darparu;

 

·                Cyfeiriodd yr Aelodau at y blaenoriaethau ehangach y cyfeiriwyd atynt yn ystod y cyflwyniad oedd yn cynnwys yr Iaith Gymraeg, Tlodi a Chludiant.  Nodwyd, a hynny oherwydd amgylchedd gwledig Gwynedd a Môn, bod angen i gysylltiadau cludiant fod yn flaenoriaeth o fewn cymunedau gweledig lleol;

 

·                Codwyd materion yn ymwneud a Cham-drin yn y Cartref a’r ffigyrau oedd wedi eu hadrodd yn flaenorol i’r Pwyllgor Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth y byddai’n paratoi adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn dwyn sylw at yr holl wybodaeth berthnasol ym mis Tachwedd.

 

·                Roedd yr Aelodau yn dymuno iddo gael ei nodi mai blaenoriaeth y Pwyllgor Sgriwtini hwn yw annog cydweithio casglu a herio data fel y gellir trafod yn fanwl y materion sydd o bwysigrwydd i’r Cyngor hwn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Cymuned ei bod yn bwysig i’r Bartneriaeth ymgysylltu gyda gwasanaethau er mwyn derbyn data ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r cyflwyniad.

 

CAMAU GWEITHREDU : Gofyn i’r Rheolwr Partneriaeth fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn ym mis Tachwedd ac i adrodd ar y materion a godwyd ac a nodir uchod.

 

 

5.

Datganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar yn Ewrop 2013 pdf eicon PDF 397 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Oedolion).

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Oedolion) ynglŷn â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Oedolion) bod y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, gydag awdurdodau lleol i gyd yn bartneriaid strategol allweddol yn y rhaglen, yn cysylltu gyda sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a’r Rhwydweithiau Ewropeaidd i sicrhau bod gan Gymru gyfle i gyfrannu a chydweithio ar lefelau lleol a chenedlaethol. 

 

O dan nawdd Arlywyddiaeth Wyddelig yr Undeb Ewropeaidd, casglodd uwch gynrychiolwyr gwleidyddol rhai dinasoedd, cymunedau ac ardaloedd Ewropeaidd at ei gilydd mewn cyfarfod ar ‘Gymunedau Oed Gyfeillgar’ yn ninas Dulyn ym Mehefin 2013.  Gwahoddwyd Cymru i ymuno â datganiad cyhoeddus o arwyddo cyfres gyffredin o egwyddorion a gweithrediadau fydd yn cael eu galw yn Datganiad Dulyn. 

 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gwneud cynnig i’r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru gefnogaeth am ddim am ddiwrnod neu hyfforddiant datblygu ar newid demograffig ac/neu greu cymunedau oed gyfeillgar; bydd hyn yn cefnogi’r Cyngor yn ei Raglen Trawsnewid Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn.

 

Dywedodd y Swyddog ymhellach bod y Cyngor yn ddiweddar wedi cadarnhau penodiad y Cynghorydd R Ll Jones fel yr Eiriolwr Pobl Hŷn.  Amlinellodd rôl yr Eiriolwr Pobl Hŷn i’r Pwyllgor. 

 

Nodwyd y bydd yr adroddiad yn cael ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith sydd i’w gynnal 9 Medi, 2013 yn dilyn derbyn sylwadau’r Pwyllgor hwn.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn llwyr gefnogi’r adroddiad a PHENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion oedd ynddo a’u hanfon i’r Pwyllgor Gwaith.

 

GWEITHREDU : Argymell i’r Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn :-

 

·                    ystyried rhinweddau bod yn rhan o rwydwaith rhagoriaeth ac arloesed Cymru ac Ewrop gyfan i greu cymunedau Oed Gyfeillgar erbyn 2020;

 

·                    cefnogi’r cytundeb i wneud datganiad cyhoeddus o fwriad fel oedd i'w weld yn y Datganiad Dulyn arfaethedig (gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gydlynu cynrychiolaeth drwy drefniadau o bell);

 

·                    cefnogi’r cytundeb i gymryd rhan yn y rhwydwaith thematig ar greu Cymunedau Oed Gyfeillgar wedi eu cydlynu gan y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru (yn cael ei lletya gan Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn);

 

·                    cefnogi trafodaeth bellach drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i Gymru gyfrannu at addasu canllawiau’r WHO i gymunedau drwy ddefnyddio cymunedau Cymreig fel safleoedd peilot;

 

·                    cefnogi derbyn cynnig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef cefnogaeth am ddim am ddiwrnod/hyfforddiant datblygu fydd yn cael ei negodi gan  Eiriolwr Pobl Hŷn y Cyngor sydd newydd ei benodi.

 

 

6.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 502 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith ddrafft gan y Swyddog Sgriwtini.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini mai pwrpas y rhaglen waith yw nodi blaenoriaethau’r Pwyllgor yn y flwyddyn ddinesig gyfredol.  Bydd y Rhaglen Waith yn cael ei hadrodd yn ôl i bob cyfarfod o’r Pwyllgor i sicrhau bod y Rhaglen Waith yn gyfredol a’i bod ar gael yn gyhoeddus yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.  Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor hefyd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.  Nodwyd bod y Rhaglen Waith ddrafft yn ddogfen y gellir ei hadolygu/diwygio fel y bernir yn briodol yn ystod y flwyddyn ddinesig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned y dylai’r Pwyllgor Sgriwtini hwn sgriwtineiddio’r partneriaethau rhanbarthol i weld sut mae’r partneriaethau hynny yn gweithio. 

 

Nododd y Cadeirydd y byddai o fantais i’r Pwyllgor ymweld â’r partneriaethau h.y. partneriaethau adfywio, partneriaethau cael gwared ar wastraff, partneriaethau iechyd ac ati.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd y byddai’n hoffi cael cyfle i graffu sut y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ariannu hyfforddiant i Aelodau ac awgrymodd y gellid gwahodd aelod o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn.

 

Awgrymodd yr Aelodau ymhellach bod angen gwahodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prif Ysgol Betsi Cadwaladr i’r Pwyllgor hwn fel y gallent ofyn cwestiynau mewn perthynas â’r problemau diweddar yn y Bwrdd Iechyd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned y byddai sesiwn friffio gyda’r Aelodau o fantais cyn cyflwyno cwestiynau i Fwrdd Iechyd Prif Ysgol Betsi Cadwaladr.  Nododd y gallai staff o’i hadran hi fod ar gael i hwyluso Aelodau i baratoi ar gyfer y cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prif Ysgol Betsi Cadwaladr.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

CAMAU GWEITHREDU :

 

(1)   Bod Rhaglen Waith Ddrafft y Pwyllgorau Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

(2)   Ymgorffori awgrymiadau’r Pwyllgor hwn ynglŷn ag eitemau i’w trafod fel a nodwyd uchod, i mewn i’r Rhaglen Waith Ddrafft.

 

7.

Diweddariad gan y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ac unrhyw gyhoeddiadau

Derbyn adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor, Is-Gadeirydd a Rheolwr y Rhaglen Gorfforaethol.

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini wrth y Pwyllgor bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi trefnu 6 gweithdy (gyda dau ohonynt eisoes wedi eu cynnal) i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau Sgriwtini.  Rhoddodd y Swyddog fanylion am y gweithdai a phwy fyddai’n cynrychioli’r Cyngor ym mhob sesiwn. 

 

Rhoddodd yr Is-Gadeirydd adroddiad byr ar y gweithdy a fynychodd ar 1 Gorffennaf 2013 oedd yn cynnwys problemau tai ac yn arbennig digartrefedd.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs. Danielle Edwards, Rheolydd Rhaglen Gorfforaethol i’r cyfarfod i roi eglurhad ar y 3 Bwrdd Rhaglen oedd wedi eu sefydlu’r ddiweddar.

 

Cyfeiriodd y Rheolydd Rhaglen Gorfforaethol at y Cynllun Trawsnewid i’r Cyngor ac amcanion y Cyngor i yrru’r Cynllun ymlaen trwy holl wasanaethau’r Cyngor.  Y rôl i’r Pwyllgorau Sgriwtini yw ychwanegu gwerth naill ai o fewn y Byrddau Rhaglen Trawsnewid neu drwy’r broses sgriwtini.  Mae’r Aelodau a benodwyd o’r ddau Bwyllgor Sgriwtini yn gallu lleisio’r materion a godwyd yn y cyfarfodydd maent yn eu cynrychioli.  Nododd hefyd bod y Byrddau Trawsnewid yn gallu argymell materion i’r Uwch Dim Arweinyddiaeth ac wedi hynny i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddwyd ymhellach bod partneriaethau allanol yn allweddol yng ngwaith y Cynllun Trawsnewid fydd yn ychwanegu gwerth i’r awdurdod i gyflawni prosiectau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diolch i’r Rheolydd Rhaglen Corfforaethol am ei chyflwyniad.

 

GWEITHREDU : Bod adroddiad diweddaru ar waith y 3 Bwrdd Prosiect yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

 

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi bydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher, 25 Medi, 2013 am 1.00 p.m.

Cofnodion:

Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 25 Medi, 2013 am 2.00p.m.

 

Roedd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn dymuno cofnodi eu siom ynglŷn â’r presenoldeb yn y cyfarfod heddiw.