Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 25ain Medi, 2013 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr John Griffiths, W T Hughes ac R O Jones ddiddordeb oherwydd eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ac na fyddent yn mynegi barn ynglyn a datblygiadau y cyfeirir atynt yn yr adroddiadau i’r Pwyllgor.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 25 Gorffennaf, 2013.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2013.

 

MATERION YN CODI

 

Nododd y Swyddog Sgriwtini y bydd cynrychiolwyr o Uned Partneriaeth Gwynedd a Môn yn mynychu cyfarfod mis Tachwedd o’r Pwyllgor hwn i ymateb i faterion a godwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2013.

 

4.

Datblygu Economaidd yn Ynys Môn : Trosolwg, Cyfleon a Heriau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y pennaeth Gwasanaeth (Datblygu Economaidd) mewn perthynas â’r uchod.

 

Cafwyd adroddiad bod Ynys Môn wedi dioddef economi yn edwino a phocedi o ddifreintio cymdeithasol-economaidd sylweddol. Rôl y Cyngor Sir, mewn partneriaeth gyda’r gymuned a chydranddeiliad allweddol yw sicrhau y gwneir y mwyaf o unrhyw gyfleon tebygol wrth ymateb mewn ffordd effeithiol i’r heriau hyn. Bydd amcanion y Cyngor yn cael eu darparu’n bennaf drwy’r Fframwaith Ynys Fenter, sef gweledigaeth yr Awdurdod o gael economi gref a bywiog i greu swyddi  a ffyniant i drigolion a chymunedau lleol.

 

Sefydlwyd y Fframwaith Ynys Fenter i alluogi rhyngweithio, alinio a chydlyniad drwy dri maes   rhaglen benodol: Rhaglen Ynys Ynni, Cynllun Rheoli Cyrchfan a’r Rhaglen Adfywio Ehangach. Wrth ddarparu’r Fframwaith Ynys fenter, mae i’r Uned Datblygu Economaidd rôl fel hwylusydd ac arweinydd i ddatblygu cyfleon trawsnewid, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod trigolion yn cael eu cadw yn y pictiwr, yr ymgynghorir â hwy a’u bod yn cael cyfle i siapio dyfodol cymdeithasol ac economaidd yr Ynys lle bo hynny’n briodol. Mae’r berthynas hon yn allweddol er mwyn cynnal a chadw a   datblygu enw da’r Cyngor Sir gyda datblygwyr tebygol a gyda chymunedau lleol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth amlinelliad o’r gwaith adeiladu niwclear newydd tebygol yn Wylfa, Fferm Wynt Rhiannon yn y Môr a Phentref Hamdden Penrhos gyda’r potensial o greu 2,500 net o swyddi ychwanegol erbyn 2025, ynghyd â 6,000 o swyddi adeiladu a chyfraniad mawr i’r GVA. Gallai hyn gynrychioli cyfraniad o £2.34 biliwn i Ynys Môn ac i’r economi isranbarthol yn y cyfnod   hyd at 2025. Bydd y prosiectau a fwriedir ar gyfer Ynys Môn a Gogledd Cymru yn rhai sylweddol o ganlyniad i’r cyfleon fydd yn gysylltiedig â’r Fframwaith Ynys Fenter, ynghyd â’r Rhaglen Ynys Ynni, statws Parth Menter, Rhaglenni Llywodraeth Cymru, ffrydiau cyllido Ewropeaidd yn awr ac i’r dyfodol a’r buddsoddiad sylweddol sy’n cael ei ragweld gan y sector preifat.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Aled M Jones y byddai’r datblygiadau tebygol a sylweddol ar yr Ynys yn creu mewnfuddsoddiad anhygoel. Mae’r Uned Datblygu Economaidd yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd busnesau a thrigolion lleol yr Ynys yn elwa oddi wrth ddatblygiadau o’r fath.

 

Cyfeiriodd hefyd at y datganiad diweddar bod y tir sydd ym mherchnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn ger yr A55 yng Ngaerwen wedi ei ddewis fel y safle a ffefrir ar gyfer y Parc Gwyddoniaeth Menai newydd. Fe allai’r datblygiad fod yn brosiect newydd mawr i’r Ynys. Bydd Uned Datblygu Economaidd y Cyngor Sir felly yn parhau i weithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru i fynd a phethau ymlaen ymhellach gyda’r prosiect hwn. Y nod yw sicrhau y bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn ategu nod Llywodraeth Cymru o sefydlu’r Ynys fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni carbon isel drwy statws Parth Menter a gweledigaeth Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Menter Môn pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor.

 

Amlinellodd Mr Jones gefndir y ddau gwmni Menter Môn ac Annog Cyf. Cyfeiriodd at gyfrifon y ddau gwmni yn 2012 yn dilyn eu harchwilio. Mae gan Menter Môn y dasg anodd o sicrhau ei fod yn gwasanaethu tri chydranddeiliad pwysig, y cymunedau y mae’n ei wasanaethu, (y rhai sy’n elwa o’i waith), buddsoddwyr sy’n buddsoddi yn ei waith a’r Cyfarwyddwyr sy’n dibynnu ar ei lywodraethu o ddydd i ddydd.

 

Mae model busnes 5 mlynedd y gr.Np ar gyfer Cynllun Busnes 2010/2014 yn cynnwys y cydrannau

canlynol:-

 

  Ymgeisio am a sicrhau gweithgaredd cyllid grant parhaol er mwyn cyflawni’r prif nod o ddatblygu economi’r Ynys, yn arbennig ei ardaloedd gwledig;

  Gweithredu busnesau menter gymdeithasol drwy Annog Cyf, sy’n creu swyddi, sydd o fudd i’r economi a pharatoi ar gyfer y dyfodol;

  Ymestyn y model busnes yn ddaearyddol i ardaloedd eraill o’r sir;

  Gwella adeiladau, asedau hylifol a chapasiti ennill Menter Môn;

  Datblygu eiddo a brynwyd fel y gall y gr.Np a'r economi leol elwa o'u gweithrediad wedi hynny h.y. gwneud i asedau a brynwyd weithio er budd pawb.

 

Rhoddodd Mr Jones amlinelliad o’r gobeithion gyda Chynllun Busnes 2015/2020 Menter Môn a sut y gall y Cyngor Sir a Menter Môn weithio gyda’i gilydd i’r dyfodol, yn arbennig gyda Chynllun Datblygu Gwledig yr UE a Chronfeydd Strwythurol UE. Nododd bod y cwmni, ers ei ddechreuad wedi arallgyfeirio, wedi tyfu a sefydlu model busnes gyda’r nod o gryfhau ei sylfaen ymhellach ond y mae hefyd yn ddibynnol ar ei allu i sicrhau grantiau allanol. Cyfeiriodd hefyd at y grant arian cyfatebol a roddwyd i Menter Môn gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn oedd wedi lluosi i £2m yn y grant Cynllun Datblygu Gwledig i gymunedau gwledig.

 

Roedd y Cadeirydd o’r farn y dylai’r Pwyllgor hwn allu ymweld â rhai o’r cymunedau gwledig oedd wedi elwa o grantiau CDG i weld y gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i’r cymunedau hyn.

 

Adroddwyd ar Gynllun Busnes 2015/2020 Menter Môn ac amlinellwyd sut y gall y Cyngor Sir a Menter Môn gydweithio a chydweithredu yn y dyfodol:-

 

  Cynllun Datblygu Gwledig UE – cyd-weithio agos gyda’r Cyngor Sir i sicrhau bod yr Ynys yn derbyn y manteision mwyaf posibl o’r rhaglen. Mae Menter Môn yn awyddus i sicrhau bod  yr AERP a’r awdurdod yn cymryd rhan lawn yn y rhaglen LEADER.

 

  Cronfeydd Strwythurol UE - cydweithio ar bethau arloesol gyda’r Cyngor Sir i ganfod dulliau newydd o gael manteision i’r Ynys megis: -

 

  Sicrhau bod manteision cymunedol yn newid bywydau a gobeithion pobl yn ogystal â gwella isadeiledd;

  Cyllido a chynhyrchu datblygu economaidd yn seiliedig yn y gymuned yn deillio o ynni adnewyddadwy, defnyddio pwerau codi cyfalaf Awdurdod Lleol a thir ym mherchnogaeth yr Awdurdod Lleol;

  Trosglwyddo gwasanaethau anstatudol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 451 KB

Cyflwyno’r Rhaglen Waith i’w chymeradwyo neu ei diwygio.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Rhaglen Waith drafft gan y Swyddog Sgriwtini.

 

Gofynnodd yr Aelodau am i gynrychiolwyr o’r mudiadau canlynol gael eu gwahodd i fynychu’r Pwyllgor hwn:-

 

Gwasanaeth Ambiwlans CymruMawrth 2013 

Mr Iwan Williams, Datblygu SgiliauMawrth 2013

 

Gofynnodd yr Aelodau hefyd am i lythyr gael ei anfon i’r Asiantaeth Safonau Dreifio i ofyn pam eu bod yn cymryd mwy o amser i apwyntiadau prawf car / theori gael eu cynnal yn yr iaith Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

7.

Diweddariad gan y Cadeirydd ac Is-Gadeirydd ac Unrhyw Gyhoeddiadau

Derbyn adroddiad llafar gan Gadeirydd y Pwyllgor a’r/neu Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad manwl ar Gynhadledd yn Venue Cymru, Llandudno y bu ynddi ar 13 Medi, 2013.

 

Roedd y Seminar yn cynnwys Byrddau Gwasanaeth Lleol a Sgiliau Gwrando Actif o fewn Rhaglen Cefnogi Sgriwtini Cymru yn cael ei rhoi gan Ms Rebecca Knight. Dywedodd y Cadeirydd bod Ms Knight wedi cytuno i roi Seminar i’r Pwyllgorau Sgriwtini ar ddyddiad i’w drefnu.

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi bydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 28 Tachwedd, 2013 am 2.00 p.m.

Cofnodion:

 

Nodwyd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal ar

28 Tachwedd, 2013 am 2.00p.m.