Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y cânt eu cofnodi uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y Rhaglen.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 26 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mawrth, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2014.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno cofnodion bod y cyfarfod hwn, yn ei farn ef, wedi sgriwtineiddio’n llwyddiannus y pwnc a oedd i’w drafod gan y Pwyllgor.

 

4.

Enwebiad y Pwyllgor ar y Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 46 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar yr uchod.

 

PENDERFYNWYD ailbenodi’r Cyngohorydd Dylan Rees i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol.

5.

Cynllun Integredig Sengl pdf eicon PDF 545 KB

Derbyn adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad a chyflwyniad gan Uwch Reolydd Partneriaethau Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau fod Canllawiau Statudol Llywodraeth Cymru yn rhoi dyletswydd gynllunio strategol ar Awdurdodau Lleol i baratoi Cynllun Integredig Sengl ar gyfer eu hardaloedd.  Mae’r Cynllun yn gyfle i ddatblygu mentrau ataliol ac ymyrraeth gynnar  i ddechrau mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chylchoedd o ddibyniaeth ar y gwasanaethau statudol craidd fel y cytunwyd eisoes gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.  Yn ogystal, rhaid iddo gwrdd â’r cyfrifoldebau statudol o ran Plant a Phobl Ifanc; Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a Diogelwch Cymunedol. Bydd y Cynllun hefyd yn rhoi sylw i ddibenion blaenorol y Strategaethau Cymunedol.

 

Gwnaeth Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn nifer o benderfyniadau arwyddocaol mewn perthynas â’i weledigaeth a’i gyfeiriad strategol yn y dyfodol ac amlygwyd hynny yn yr adroddiad.

 

Yn unol â’r gwaith comisynu a gwblhawyd ar wahân, mae prosiectau eisoes wedi eu sefydlu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn ac ar hyn o bryd, bwriedir parhau â’r ffrydiau gwaith hyn er mwyn caniatáu i siwrnai drawsnewid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol esblygu a throsi’n flaenoriaethau ac yn ffrydiau gwaith penodol. O’r herwydd, bydd angen adolygu blaenoriaethau a rhaglenni gwaith y Cynllun Integredig Sengl yn ystod y flwyddyn nesaf i adlewyrchu uchelgais, gweledigaeth a chyfeiriad strategol newydd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Amlinellwyd yr amserlen i’r Pwyllgor fel y caiff ei nodi ar Dudalen 4 yr adroddiad..

 

Dyma oedd y gyrwyr allweddol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn :-

 

  Effeithiau demograffig;

  Pwysau ariannol yn dwysáu;

  Pwysau cynyddol ar wasanaethau rheng-flaen;

  Disgwyliadau’r dinasyddion;

  Y dirwasgiad economaidd yn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau;

  Ymateb i’r newidiadau deddfwriaethol sy’n sail i’r gwasanaethau statudol;

  Trawsnewid gwasanaethgwahanol fodelau o ddarparu gwasanaethau;

  Blaenoriaethu gwariant cyhoeddus i osgoi canlyniadau negyddol;

  Llawer yn gyffredin ar draws y ddwy Sir.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

  Mae partneriaethau wrthi’n cael eu hadolygu ar draws Gogledd Cymru ar hyn o bryd wrth i’r ffocws gynyddu ar integreiddio gwasanaethau.  Gofynnwyd a oedd y Cynllun Integredig Sengl yn gynamserol ar hyn o bryd ac a fyddai’n ddoeth disgwyl am ganlyniadau’r adolygiad hwn o’r partneriaethau. Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaeth fod 2 o’r 3 adolygiad wedi cael eu comisiynu.  Mae’r adolygiad y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor wedi cael ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd  Betsi Cadwaladr.  Disgwylir y daw rhai argymhellion Rhanbarthol o’r adolygiad yn y man.  Cyfeiriodd hefyd at Adroddiad Williams a oedd yn pwysleisio’r angen am bartneriaethau lleol ar lefelau lleol ac isranbarthol.

 

  Heriodd yr Aelodau a oedd angen paratoi Cynllun newydd a gwahanol erbyn y flwyddyn nesaf oherwydd y bydd Cynlluniau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ffurf Cynllun Lles.  Gofynnwyd hefyd a oedd angen paratoi Cynllun Integredig Sengl ar hyn o bryd.  Dywedodd yr Uwch Reolydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithreidig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cafodd y wasg a’r cyhoedd eu hanfon allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth i rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”

7.

Clirio Ffeiliau o Hen Ysgol y Graig, Llangefni

Cyflwyno adroddiad cynnydd mewn perthynas â’r mater uchod yn dilyn cais gan y Pwyllgor Gwaith ar 22 Ebrill, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Rheolydd Trawsnewid Asedau Corfforaethol yn amlinellu’r camau gweithredu angenrheidiol a’r ystyriaethau sydd ynghlwm wrth sicrhau cydymffurfiaeth gydag argymhellion Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gynhaliodd archwiliad llawn o’r modd y mae’r Cyngor yn rheoli Diogelu Data, Rheoli Cofnodiadau a Diogelwch Gwybodaeth Bersonol. Un o’r camau angenrheidiol oedd symud yr holl ffeiliau a oedd yn cael eu storio yn adeilad Hen Ysgol y Graig.

 

Roedd yr Aelodau’n pryderu fod y risgiau’n parhau oherwydd lleoliad ffeiliau storio’r awdurdod.

 

Yn dilyn y drafodaeth PENDERFYNWYD monitro’r mater yn ofalus er mwyn cydymffurfio gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

GWEITHREDU : Monitro’r mater yn dilyn ailymweliad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth â’r Cyngor ym mis Medi.

 

8.

Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Dim diweddariad gan y Cadeirydd na’r Is-gadeirydd.

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd – y Rhaglen Waith ddrafft.

 

Nodwyd y bydd adroddiad diweddaru ar y Cynllun Integredig Sengl yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn yr hydref.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.