Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 25ain Medi, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel a nodir uchod.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 56 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2014.

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Gorffennaf, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

  Cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2014

  Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2014.

3.

Taith Drawsnewid Bwrdd Gwasanaeth Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad diweddaru gan yr Uwch Reolydd Partneriaethau, Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â’r camau cychwynnol yn siwrnai trawsnewid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn wedi’i sefydlu yn Ebrill 2013.  Nododd bod y Byrddau Gwasanaeth Lleol yn fyrddau strategol lefel uchel a’u haelodaeth yn cynnwys Prif Weithredwyr ac Arweinwyr y prif sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus.

 

Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau bod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi mabwysiadu agwedd gychwynnol o 3 cham i’w siwrnai drawsnewid ac roedd manylion am hynny yn yr adroddiad. Roedd Cam 2 y siwrnai yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd - sesiwn thematig i nodi blaenoriaethau allweddol y Bwrdd am y ddwy flynedd nesaf. Byddai’r Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 26 Medi (Cam 3) i gwblhau’r gwaith trawsnewid cychwynnol.

 

Un o’r ffrydiau gwaith fydd yn cael ei blaenoriaethu yn ystod y misoedd nesaf fydd datblygu ymhellach drefniadau sgriwtini gan aelodau etholedig fel sylfaen ar gyfer gwaith Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn.  Y cam nesaf oedd cynnal trafodaethau manwl gyda Chyngor Gwynedd er mwyn :-

 

  Cadarnhau cytundeb / cymeradwyaeth y ddau Awdurdod Lleol i drefniadau sgriwtini Aelodau Etholedig ar y cyd fel sylfaen ar gyfer gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

  Trafod rhaglen o themâu i’w sgriwtineiddio drwy’r trefniadau / proses ar y cyd ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Lleol / Cynllun Integredig Sengl / Partneriaethau Strategol.

 

Nododd y Swyddog ymhellach y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn un statudol erbyn 2016.

 

Yn dilyn sesiwn o gwestiynau ac atebion, PENDERFYNWYD :-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad a thrawsnewid y Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.

 

  Bod trefniadau sgriwtini ar y cyd i Aelodau Etholedig yn cael eu datblygu ymhellach a’u trefnu fel sylfaen ar gyfer gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

GWEITHREDU : Bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yng nghyswllt y Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn; siwrnai trawsnewid Bwrdd Gwasanaethau Lleol a threfniadau sgriwtini Aelodau Etholedig ar y cyd.

4.

Cymunedau'n Gyntaf Ynys Môn - Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 377 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd groeso i gynrychiolwyr o Cymunedau’n Gyntaf Môn i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd ar weithrediad y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf ym Môn.

 

Dywedodd Rheolwr Grantiau’r Cyngor (y mae ei swydd yn cael ei chyllido’n rhannol gan Cymunedau’n Gyntaf Môn) mai’r Cyngor Sir yw’r Corff Darparu Arweiniol am £1.658m o gyllid am y cyfnod 1 Chwefror 2013 i 31 Mawrth 2015 ac mai Cymunedau’n Gyntaf Môn Cyf., yw’r sefydliad darparu. Roedd dadansoddiad o’r gwariant ar gyfer cyllideb 2013/14 a 2014/2015 ynghlwm yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn wedi datblygu’n gyflym iawn dros y deunaw mis diwethaf a bu cynnydd yn y nifer o staff sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd ac yn y cyllid y bu modd ei sicrhau. Mae’r sefydliad yn darparu ystod o wasanaethau a gweithgareddau cefnogol i wardiau etholiadol Kingsland, Morawelon, Ffordd Llundain, Porth-y-Felin, Maes Hyfryd a’r Dref yng Nghaergybi yn ogystal â Ward Tudur yn Llangefni.  Caiff Cymunedau’n Gyntaf Môn ei reoli gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr gwirfoddol ac y mae’r Bwrdd hefyd yn cynnwys sylwedyddion gan gynnwys y Deilydd Portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, Pennaeth y Gwasanaethau Tai a’r Rheolwr Grantiau.

 

Dewiswyd Cymunedau’n Gyntaf Môn gan Lywodraeth Cymru fel yr unig glwstwr yng Ngogledd Cymru i dreialuCynllun Aelwydydd Di-waitho’r enw LIFT.  Bydd y cynllun yn darparu £228k o gyllid hyd Mawrth 2016 i dargedu ac i weithio’n benodol gydag aelwydydd lle mae oedolion wedi bod allan o waith am 6 mis neu fwy gyda golwg ar eu cael yn ôl i waith, profiad gwaith neu hyfforddiant.  Mae DVD ar gael yn dangos astudiaethau achos.

 

Mae’r Academi Wirfoddol Gymunedol wedi mynd o nerth i nerth ac fe all yn awr ddarparu hyfforddiant achrededig i bobl 14-64 oed gan dargedu’r rhai sy’n lleiaf tebygol o fynychu darpariaeth coleg priflif.  Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i sicrhau bod y llefydd gweigion sydd ganddynt yn cael eu cyfatebu gyda’r cyfranogwyr yn yr Academi.

 

Mae’r banc bwyd Pantri Pobl wedi cyrraedd penllanw yn ystod Awst 2014 gyda dros 1,000 o brydau’n cael eu darparu. Mae pobl sy’n derbyn budd-daliadau a hefyd pobl sy’n gweithio a chyda theuluoedd sy'n ei chael yn anodd cael digon o arian i brynu bwyd.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at esiamplau o blygu rhaglen rhwng Cymunedau’n Gyntaf Môn a’r Gwasanaethau Tai a bod angen gwneud mwy i hwyluso hyn ar draws y Cyngor.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

  Cwestiynodd yr Aelodau a fyddai adroddiad cyllideb mwy cynhwysfawr ar gael i’r Awdurdod.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) bod y datganiad

 

cyfrifon blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lleol a’i fod hefyd yn cael ei archwilio gan Lywodraeth Cymru. Nododd y gallai copi o’r cyfrifon gael ei roi i’r Pwyllgor hwn er gwybodaeth neu i Bwyllgor Archwilio’r Cyngor.

 

  Dywedodd yr Aelodau bod cymunedau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Strategaeth Dai Leol ar gyfer Ynys Môn pdf eicon PDF 626 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Tai).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad mewn perthynas â’r Strategaeth Dai Leol i Ynys Môn 2014/2019.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio (Gwasanaethau Cymdeithasol a Tai) i’r Strategaeth Dai Leol fod yn destun ymgynghori cyhoeddus ers dechrau Awst 2014 a bydd yn cau ddiwedd mis Medi. Nododd y bydd sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn cael ei gynnwys yng Nghynllun Gwaith terfynol y Strategaeth, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref 2014 ac wedyn i’r Cyngor llawn ar 4 Rhagfyr 2014. Mae Partneriaeth Dai wedi cael ei sefydlu i ddarparu ac i fonitro’r Strategaeth Tai Leol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Tai) bod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi dod yn gyfraith yn gynharach ym mis Medi a’i bod yn rhoi sylw i’r elfennau allweddol isod:-

 

  Cyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol i landlordiaid sector rhent preifat ac asiantiaid gosod a rheoli;

  Diwygio cyfraith digartrefedd, yn cynnwys gosod dyletswydd gryfach ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd a chaniatáu iddynt ddefnyddio llety addas yn y sector preifat.

   Rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle bo angen wedi ei nodi;

  Cyflwyno safonau i awdurdodau lleol ar renti, taliadau gwasanaeth ac ansawdd llety;

  Diwygio’r system Nawdd Cyfrif Refeniw Tai.

  Rhoi pwerau i awdurdodau lleol godi mwy na’r gyfradd safonol o Dreth Gyngor ar eiddo sy’n wag am dymor hir a mathau penodol o ail gartrefi;

  Sefydliadau Tai Cydweithredol i helpu gyda’r ddarpariaeth o dai;

  Newidiadau i’r Ddeddf Diwygio Prydlesi, Tai a Datblygiad Trefol 1993.

 

Nododd y bydd gweithdai yn cael eu trefnu ar gyfer Aelodau Etholedig yn ystod y misoedd i ddod i roi ystyriaeth fanwl i oblygiadau’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 newydd i awdurdodau lleol.

 

Rhoddodd Rheolydd y Strategaeth Dai a Datblygu sylw i’r materion allweddol yn y Strategaeth Dai Leol fel yr oeddynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad i’r Pwyllgor.

 

Rhai materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor :-

 

  Mae angen tai fforddiadwy i bobl leol a rhaid mynd i’r afael ag anghenion tai.

  Bydd angen rhoi ystyriaeth i’r mewnlifiad o weithwyr i adeiladu’r orsaf newydd yn Wylfa a’r tai y byddant eu hangen.

  Rhaid i’r adnoddau a’r capasiti gael eu cefnogi gan y Cyngor Sir er mwyn gallu cyflawni anghenion Deddf Tai (Cymru) 2014 newydd a’r Strategaeth Tai Leol.

 

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn argymell y dylid mabwysiadu’r Strategaeth Dai Leol i Fôn 2014/2019 gan y Cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

 

  Bod gweithdy’n cael ei drefnu cyn y cyfarfod o’r Cyngor llawn i gael trafodaeth lawn ar y Strategaeth Dai.

 

GWEITHREDU : Nodi y bydd y Strategaeth Dai Leol yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor llawn i’w fabwysiadu.

6.

Ffioedd Cychod Siarter/Pleser 2014/15 pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu Twristiaeth ac Arforol mewn perthynas â Ffioedd Cychod Siarter/Pleser 2014/2015.

 

Adroddwyd - ar wahân i’r ffioedd blynyddol ar gyfer gweithredwyr cychod pleser masnachol (edrych ar olygfeydd/pysgota/tripiau antur), mae’r holl ffioedd a  thaliadau arforol eraill (angori/cofrestru a lansio ac ati) wedi eu mabwysiadu gan yr Awdurdod ac wedi eu hôl-ddyddio o 1 Ebrill 2014. Cafwyd trafodaethau dros nifer o fisoedd gyda’r gweithredwyr ynglŷn â’r mater hwn.

 

Mae anghytuno ynglŷn â’r ffioedd a’r taliadau arforol ym Mhorth Amlwch lle mae anghysondebau hanesyddol gyda’r ffioedd angori a hefyd y taliadau i gychod teithio trwyddedig (cychod siarter) yn amlwg.  Roedd Atodiad 1 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn dangos dadansoddiad 5 mlynedd o ffioedd ym Mhorth Amlwch. Ni chafodd ffioedd cychod siarter 2013/14 eu mabwysiadu erioed ac maent yn parhaumewn anghydfodgyda’r gweithredwyr.  Roedd Atodiad 2 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad SWOT o’r pedwar porthladd/harbwr arforol lle mai’r awdurdod yw’r Awdurdod Porthladd statudol h.y. Porth Amlwch, y Pier ym Miwmares, Pier San Siôr, Porthaethwy ac y mae un cwch siarter yn gweithredu o’r Doc Pysgod yng Nghaergybi.

 

Cyfeiriodd y Swyddog y Pwyllgor at Atodiad 3 i’r adroddiad oedd yn rhoi 6 opsiwn ar gyfer Ffioedd Cychod Siarter / Pleser.  Nodwyd mai Opsiwn 3 oedd yr opsiwn oedd yn cael ei ffafrio sef un taliad blynyddol o £840 neu daliad blynyddol llai o £420 gyda ffi o 26c y teithiwr.  Rhywbeth i weithredwyr y Cychod Siarter fyddai dewis y naill opsiwn neu’r llall.

 

Materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor :-

 

  Os mai Opsiwn 3 fyddai’r opsiwn fyddai’n cael ei ffafrio, byddai hyn yn golygu y byddai rhaid iddynt dalu cyfanswm o £1,340. Mae gweithredwyr y Cychod Siarter eisoes yn talu ffi angori o £500.  Gofynnwyd cwestiynau am ba gyfleusterau yr oedd gweithredwyr ym Mhorth Amlwch yn eu derbyn am y swm o £1,340 gan nad yw’r cyfleusterau yno o safon uchel o’u cymharu ag ardaloedd eraill.  Roedd y Swyddogion yn cytuno nad oedd y cyfleusterau ym Mhorth Amlwch cystal â rhai mewn lleoliadau eraill.

 

  Gofynnwyd cwestiynau pam nad yw’r Cychod Pysgota Masnachol sy’n pysgota ym Môr Iwerddon yn gorfod talu am angori ym Mhorth Amlwch.  Dylid ystyried codi tâl ar y cychod hyn yn unol â Phorthladdoedd eraill ym Mhrydain. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cynaliadwyaeth) y byddir yn rhoddi ystyriaeth ddyledus i’r mater.

 

  Mae’r ffioedd angori i’w gweld fel petaent yn wahanol mewn ardaloedd angori eraill.  Rhoddodd yr Aelodau esiamplau o ffioedd angori ar hyd arfordir Gogledd Cymru.  Holodd yr Aelodau o ble yr oedd y ffioedd angori hyn wedi deillio? Dywedodd y Swyddogion fod y rhain yn ffioedd hanesyddol a’i bod yn anodd iawn cymharu ffioedd ar hyd arfordir Gogledd Cymru.  Gan ddefnyddio Biwmares fel  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhaglen Waith Bwrdd Cyflawni Integredig Ynys Môn ar gyfer Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol pdf eicon PDF 220 KB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad ar raglen waith y Bwrdd Cyflawni Integredig Ynys Môn ar gyfer Gwasanaethau Iechyd  a Gofal Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Gwasanaethau Oedolion) mai nodau ac amcanion y Bwrdd Cyflawni Integredig (BCI) yw gweithio tuag at gael gwasanaethau mwy integredig. Mae hyn yn cynnwys gwell aleiniad o ran cynlluniau busnes, cyllidebau a diwylliannau sefydliadol. Bydd y BCI yn cynnwys rhoi ystyriaeth i agweddau arloesol i fframweithiau cyllidebol cronedig ar gyfer Ynys Môn i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.  Bydd y BCI yn cymryd arno  rôlFforwm Sirol’ a bydd yn cymryd y cyfle i adolygu ei swyddogaeth yn dilyn cyhoeddi ailstrwythuriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a hefyd adolygu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

Mae strwythur poblogaeth sy’n newid yn golygu mwy o bwysau a mwy o alwadau ar ystod o wasanaethau e.e. gofal iechyd, gwasanaethau cartref a phreswyl, tai, lles a gwasanaethau eraill a ddefnyddir gan y boblogaeth.  Mae hyn yn gofyn am weithredu ar y cyd ac ymyrraeth gynnar i rymuso a chefnogi pobl.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr. J. R. Jones, Medrwn Môn i ymateb i’r mater hwn. Dywedodd Mr. Jones bod angen cryfhau prosesau gweithio mewn partneriaeth gyda’r trydydd sector yng nghyswllt y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer y Bwrdd Darparu Integredig fel y gall y Bwrdd helpu gyda datblygu gwasanaethau Iechyd A Gofal Cymunedol ym Môn.

 

GWEITHREDU : Dim.

8.

Gwasanaeth Awdurdod Tan ac Achub Gogledd Cymru - Ymgynghoriad ar y Cynllun Gwella 2015/16

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr. Simon Smith, Prif Swyddog Tân, Ms Dawn Docx, Dirprwy Brif Swyddog Tân, Ms. Alwen Davies, Swyddog Cyswllt Aelodau a’r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies (Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru) i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Mr Simon Smith a Ms Dawn Docx gyflwyniad byr i’r Pwyllgor ar yr ymgynghori a wnaed ar gynllun gwella Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru 2015/2016. Eglurwyd bod yr Awdurdod Tân ac Achub wedi rhewi ei gyllideb am y 3 blynedd diwethaf. Roedd hyn wedi gofyn am arbedion o 7.5% yn y gyllideb er mwyn cynnal y gwasanaethau i’r cyhoedd. Rhoddodd y cynrychiolwyr o’r Awdurdod Tân ac Achub amlinelliad o’r taliadau cyfredol o’r dreth gyngor i breswylwyr yr ynys ac uchafswm y cynnydd a fwriedir mewn blynyddoedd i ddod.

 

Yn dilyn sesiwn o gwestiynau ac ateb PENDERFYNWYD :-

 

  Diolch i’r cynrychiolwyr o’r Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu cyflwyniad.

  Disgwyl i’r cyfnod ymgynghori ar y Cynllun Gwella 2015/16 ddod i ben a bod y mater yn cael ei gyfeirio i’r Cyngor Sir i’w ystyried wedi hynny.

 

GWEITHREDU : Y bydd y Cyngor Sir yn ystyried y canlyniad a’r goblygiadau ariannol yng nghyswllt yr ymgynghori ar Gynllun Gwella Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru 2015/2016.

9.

Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y bydd yr Is-Gadeirydd a’r Cynghorydd John Griffith a’r Swyddog Sgriwtini yn mynychu Pwyllgor Sgriwtini Gwasanaethau Cyngor Gwynedd ar 2 Hydref 2014. Rhoddwyd gwahoddiad iddynt fel sylwedyddion i gyflwyniad gan gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

10.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwydRhaglen Waith ddrafft.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod cais wedi ei dderbyn i gynnwys yr eitemau canlynol ar raglen y cyfarfod nesaf i’w gynnal ar 27 Tachwedd 2014 :-

 

  Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol 2013/2014 – Adroddiad Cwynion Blynyddol.

  Diogelu Oedolion

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai eitemau ar gyfer eu sgriwtineiddio yn y dyfodol gynnwys y canlynol:-

 

  Strategaeth Llety Gweithwyr Wylfa

  Argaeledd Safleoedd i Sipsiwn am arhosiad byr a pharhaol ar yr ynys.

  Perfformiad Ambiwlans yr ynys i gynnwys gwahoddiad i gynrychiolwyr o Wasanaethau Ambiwlans Cymru fod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU : Gofyn i’r Swyddog Sgriwtini wneud trefniadau i’r eitemau uchod gael eu trafod mewn cyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.