Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 24ain Gorffennaf, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 34 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mai, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai, 2014.

4.

Canolfan Gyfathrebiadau Heddul Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru. 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i’r Uwch Arolygydd Alex Goss (Pennaeth yr FCC) a Mr Paul Shea (Rheolwr y Ganolfan Alw) i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar Ganolfan Gysylltiadau Heddlu Gogledd Cymru.

 

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Goss bod y cyflwyniad wedi ei roi i bob un o’r Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru er mwyn egluro’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan Ganolfan Gysylltiadau Heddlu Gogledd Cymru.  Caiff y ganolfan alw ei rhannu gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dywedwyd bod y Ganolfan Alw yn ateb galwadau argyfwng a rhai nad ydynt yn alwadau argyfwng gan y cyhoedd, swyddogion ac asiantaethau eraill aifod hefyd yn cynnal ymchwiliadau neu ymchwiliadau gwybodaeth gyfrinachol cyn/yn ystod ymateb gan yr heddlu. Mae 55 aelod staff yn y cyfleuster ac mae’n darparu gwasanaeth dwyieithog.  Yn 2013 fe dderbyniwyd dros 500,000 o alwadau yn y ganolfan.

 

Fel esiampl o ddefnydd amhriodol o’r cyfleusterau dywedwyd wrth y Pwyllgor bod dros 22,000 o’r galwadau yn rhai nad ydynt angen i’r Heddlu fod yn bresennol; mae galwadau o’r fath yn bennaf yn rhai sydd yn gofyn am rif digwyddiad ar gyfer hawliadau yswiriant neu ar gyfer anghydfodau sifil.

 

Rhai materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

  Mae angen gwneud mwy o waith cyhoeddusrwydd i leihau’r defnydd amhriodol a wneir o’r system alw argyfwng 999 yng nghyswllt materion nad ydynt yn rhai brys.  Dywedodd y Swyddogion bod ymgyrch ar droed ar hyn o bryd yng nghyswllt y defnydd amhriodol a wneir o’r system alw mewn argyfwng.

  Gofynnwyd cwestiynau am gyllid posibl gan yr awdurdod heddlu tuag at gyfleuster Camerâu Diogelwch sydd wedi dod i ben yn ddiweddar ym Môn. Dywedodd y Swyddogion bod yr Awdurdod Heddlu hefyd yn dioddef toriadau ariannol ac nad oedd cyllid ar gyfer y cyfleuster Camerâu Diogelwch.

  Mynegwyd pryderon am yr amser sy’n pasio cyn y bydd aelodau o’r cyhoedd yn derbyn galwad gan yr Awdurdod Heddlu yn dilyn adrodd am ddigwyddiad. Dywedodd y Swyddogion eu bod yn derbyn y feirniadaeth a bod yn rhaid gwella’r gwasanaeth.

 

Diolchoddy Cadeirydd i’r Uwch Arolygydd Alex Goss a Mr Paul Shea (Rheolwr y Ganolfan Alw) am eu cyflwyniad.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cyflwyniad.

 

GWEITHREDU: Dim

5.

Trefniadau Rhanbarthol a Lleol i Ddiogelu Plant ac Oedolion pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mewn perthynas  â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mai amcan y Byrddau Diogelu Plant Lleol (BDPL) oedd cydlynu a sicrhau effeithlonrwydd gweithgareddau diogelu partneriaid.  Mae ei swyddogaeth statudol wedi’i amlinellu yn y Ddeddf Plant 2004. Bu tri Bwrdd Diogelu Plant isranbarthol yn eu lle ers peth amser ar draws Gogledd Cymru.  Yn dilyn cyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru yn Hydref 2011, mae’r tri BDPL isranbarthol wedi cymryd camau i hyrwyddo mwy o integreiddiad a chydweithrediad ac i symud tuag at y strwythur rhanbarthol ymlaen llaw i’r Ddeddf

 

Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles sydd ar ddod. Mae’r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn bwriadu rhoi diogelu oedolion ar safle statudol tebyg i’r hyn sy’n bodoli ar gyfer plant, yn cynnwys yr angen i gael Byrddau Diogelu Oedolion.

 

Ers dechrau 2013 bu system dwy haen o Fyrddau Diogelu yn eu lle ar draws Gogledd Cymru. Bwriedir y bydd swyddogaethau statudol yn gorwedd gyda Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru (BDPGC) ac y bydd grwpiau isranbarthol yn sicrhau bod yr ymarfer lleol yn cyfarfod â’r angen lleol.

 

Mae’r strwythur newydd yn mynd i’r afael â’r pryderon a nodwyd ar y cychwyn:-

 

  Bod anghenion lleol, diwylliant a iaith yn cael eu cefnogi drwy’r grwpiau darparu diogelwch lleol;

 

  Gall Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol barhau i adrodd i Aelodau Etholedig mewn ardaloedd Awdurdod Lleol;

 

  Bydd strwythurau Lleol a Rhanbarthol yn cael eu cefnogi gan gynrychiolwyr ar wahanol lefelau, gyda hynny’n lleihau’r pwysau ar gynrychiolwyr uchel iawn;

 

  Bydd y Bwrdd Rhanbarthol yn gallu gwneud penderfyniadau a hyrwyddo cynnydd cyflymach.

 

Rhai materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

  Gofynnodd yr Aelodau am gael eglurhad ynglŷn â’r datganiad oedd yn yr adroddiad oedd yn dweudtra hefyd yn datrys y tensiynau rhwng y byrddau rhanbarthol a lleol’.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) nad oedd y tensiynau yn ymwneud â chyfraniad unigol ond yn rhan o’r broses newid o sefydlu’r balans mwyaf priodol rhwng agweddau rhanbarthol a lleol. Mae’r Bwrdd yn erfyn ychwanegol i ddod â phob sefydliad i gyfrif ar y ffordd yr ydym yn cydweithredu o fewn diogelu plant ac nid yw’n tanseilio cyfrifoldeb statudol pob partner a chyfrifoldebau statudol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd y Swyddog y bydd hyn yn cael ei wneud yn glir yn yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig bod y strwythur ar gyfer y Byrddau Diogelu Plant Rhanbarthol yn cael ei adnabod fel Bwrdd Diogelu plant Gogledd Cymru fel oedd i’w weld yn yr adroddiad.

 

CAMAU GWEITHREDU: Bod sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a 8 Medi 2014.

6.

Comisiynu Gwasanaeth Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc yn Rhanbarthol pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Plant) bod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi comisiynu gwasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc, mewn cydweithrediad â’r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Orllewin Cymru.  Daw’r contract i ben ym Mawrth 2015.  Mae’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi cytuno i gomisiynu eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar sail ranbarthol.

 

Sefydlwyd prosiect rhanbarthol yn Mai 2013 gyda Grŵp Tasg o aelodau o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, o Iechyd a’r Sector Gwirfoddol.  Prif nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r bylchau a’r dyblygu yn y ddarpariaeth o eiriolaeth annibynnol i grwpiau bregus o blant a phob ifanc fel y cawsant eu rhestru yng nghyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.

 

Ers cwblhau’r adroddiad hwn roedd angen nodi rhai datblygiadau perthnasol:-

 

  Roedd Comisiynwr Plant Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi adroddiad Lleisiau Coll, Yr Hawl i Wrandawiad.  Mae’r Comisiynydd yn disgwyl i bob Awdurdod Lleol ymateb i’w argymhellion erbyn 4 Medi 2014.

 

  Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried trefniadau comisiynu pob Awdurdod Lleol o safbwynt eiriolaeth broffesiynol a faint o arian a fuddsoddir.  Maent hefyd wedi sefydlu Grŵp Gweinidogol Arbenigol ar Eiriolaeth (MEGA).  Maent wedi rhoi nifer o argymhellion ymlaen a disgwylir i’r Awdurdod Lleol ymateb iddynt.  Mae hyn yn cynnwys clustnodi arian i allu gwario ar eiriolaeth beth bynnag fo’r pwysau ariannol.  Mae’r Awdurdod Lleol wedi derbyn llythyr gan Llywodraeth Cymru yn ein hannog ni i barhau gyda’r buddsoddiad cyfredol mewn eiriolaeth.

 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud a’i gyflwyno i’r Panel Rhiant Corfforaethol yn y man.

 

Mae gwaith wedi ei wneud gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Plant Gogledd Cymru i gytuno ar gyllidebau i ddatblygu disgrifiad a manyleb y gwasanaeth. Mae llawer o drafod wedi bod ynglŷn â dyraniadau cyllid yn seiliedig ar wahanol fformiwlâu.  Mae Penaethiaid y Gwasanaethau Plant wedi cytuno ar gap cyllidebol o £100,000 i’r contract ac yn seilio eu cyfraniadau cyllideb ar ganran o’r grant RSG. Bydd yr ymrwymiad ariannol canlynol yn cael ei wneud gan bob awdurdod lleol:-

 

Ynys Môn      -           £10,450

Gwynedd               -   £19,220

Conwy                   -   £16,110

Sir Ddinbych -           £15,770

Sir y Fflint      -           £20,440

Wrecsam       -           £18,020

 

Nododd y Swyddog y gall y bydd yr Awdurdod Lleol yn gweld hyn fel cyfle i arbed, ond ei barn broffesiynol hi oedd bod angen i’r gwasanaeth fuddsoddi yn ei drefniadau cyfranogi ac y bydd y trefniant hwn yn rhyddhau rhai adnoddau i alluogi’r Gwasanaeth i gryfhau’r trefniadau lleol ar gyfer eiriolaeth a chyfranogiad. Mae’n fwriad sefydlu swydd Eiriolwr/Cyfranogiad Person Ifanc rhan amser ym Môn a bydd adroddiad gwerthuso opsiwn pellach yn cael ei gyflwyno ar hyn i’r Pwyllgor perthnasol yn y man.

 

PENDERFYNWYD cefnogi, mewn egwyddor, y trefniadau comisiynu ar gyfer y gwasanaethau eiriolaeth a’r broses o dendro am wasanaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol rhanbarthol i blant a phobl ifanc.

 

CAMAU GWEITHREDU: I  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol - Diweddariad ar Gynnydd pdf eicon PDF 225 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd a’r Rheolwr Rhaglen Gorfforaethol mewn perthynas â’r uchod.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd a’r Rheolwr Rhaglen Gorfforaethol mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) bod y Cynllun trawsnewid yn nodi tri Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol i fod a throsolwg ac i yrru rhaglenni newid a phrosiectau yn y Cyngor a gyda byrddau rhaglen partneriaid cydweithredu allanol.  Y 3 Bwrdd yw:-

 

  Bwrdd Rhaglen Ynys Fenter

  Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaeth

  Bwrdd Rhaglen Trawsnewid Busnes

 

Mae’r Byrddau yn darparu trosolwg a chyfeiriad ac yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith ar brosiectau a rhaglenni newid cyllid.  Ceir cynrychiolaeth o’r ddau Bwyllgor Sgriwtini ar y Byrddau Rhaglen. Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’r Awdurdod yn mynd drwy gyfnod o ddysgu ond drwy gydol y cyfnod hwn mae llawer o bethau wedi eu gwneud ar draws rhaglen uchelgeisiol o drawsnewid gyda’r Byrddau Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol yn cadw trosolwg ac yn gyrru’r rhaglenni.

 

Mae’r Awdurdod wedi penderfynu ar PRINCE 2 fel yr amgylchedd ar gyfer darparu prosiectau.

 

Rhai materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

  Roedd rhai Aelodau o’r farn nad oedd yr adborth o’r Byrddau Rhaglen yn ddigonol i Aelodau Etholedig eraill.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r gost, gwerth am arian sydd wedi deillio o’r Byrddau Rhaglen hyn.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) mai cyfrifoldeb y cynrychiolwr Sgriwtini ar y Byrddau yw rhoi adborth i’w Bwyllgorau perthnasol. Roedd yn credu bod gan y Pwyllgorau Sgriwtini rôl o fewn y Byrddau Rhaglen.  Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Gorfforaethol bod cofnodion yr holl Fyrddau Rhaglen ar wefan y Cyngor.

 

  Holodd Prif Swyddog Medrwn Môn a oedd yna rôl i sefydliadau/partneriaethau allanol oherwydd bod ganddynt brofiad helaeth o fewn y maes. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) bod yna fanteision mawr o weithio gyda’r trydydd sector mewn prosiectau o’r fath.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

CAMAU GWEITHREDU: Bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn derbyn adroddiadau diweddaru ar y tri Bwrdd Prosiect.

8.

Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddiweddariad i’w adrodd gan y Cadeirydd na’r Is-Gadeirydd.

 

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd – y Rhaglen Waith ddrafft.

 

Nodwyd y bydd y Strategaeth dai yn cael ei gynnwys ymysg yr eitemau i'w trafod gan y cyfarfod ar 25 Medi, 2014.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini ei fod wedi derbyn e-bost gan y Cynghorydd Carwyn Jones yn gofyn am i eitem gael ei rhoi ar raglen y Pwyllgor Sgriwtini yng nghyswllt gwahodd cwmnïau ynni i annerch y cyfarfod h.y. Celtic Array / y Grid Cenedlaethol.  Roedd Aelodau'r Pwyllgor o'r farn y dylai’r mater gael ei gyfeirio i’r Ymddiriedolaeth i’w ystyried a hynny oherwydd bod gan y cwmnïau hyn ddiddordeb mewn tir sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini ymhellach bod gwahoddiad wedi ei dderbyn gan Gyngor Gwynedd i'r Pwyllgor hwn fynychu eu Pwyllgor Sgriwtini Gwasanaethau hwy ar 2 Hydref 2014. Bydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn mynychu i roi cyflwyniad i'r cyfarfod.  Nodwyd y dylai unrhyw gwestiynau gael eu hanfon cyn y cyfarfod a’u cyflwyno i’r Swyddog Sgriwtini erbyn 8 Medi 2014.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried ymestyn gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor i gynnwys Pwyllgorau Sgriwtini.  Roedd yr Aelodau’n yn ystyried y dylai'r cyfarfodydd a enwyd ar gyfer eu gwe-ddarlledu gael eu treialu am 12 mis cyn ystyried gwe-ddarlledu’r Pwyllgorau Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Derbyn yr adroddiad;

 

  Y dylai’r e-bost a dderbyniwyd gan y Cynghorydd Carwyn Jones fel a nodwyd uchod gael ei gyfeirio at Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn;

 

  I dderbyn y gwahoddiad gan Gyngor Gwynedd i fynychu eu Pwyllgor Sgriwtini Gwasanaethau yn Hydref 2014;