Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau fel uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd G.O. Jones yn dymuno iddo gael ei nodi ei fod ar hyn o bryd yn cael ei gyflogi yng Ngorsaf Ynni Wylfa.

3.

Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwcliar Newydd yn Wylfa pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) a Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.

 

Papurau cefndir ychwanegol:-

 

http://www.ynysmon.gov.uk/busnes/ynys-ynni/newyddion-ynys-ynni/gorsaf-niwclear-newydd-yn-wylfa-canllawiau-cynllunio-atodol/123431.article?redirect=false

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i’r Swyddogion perthnasol i’r cyfarfod ynghyd â Mr. Alex MellingAmgylchedd ac Isadeiledd AMEC i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy ac Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - o ystyried maint, cymhlethdod ag amserlenni’r Adeilad Niwclear Newydd arfaethedig, roedd paratoi a mabwysiadu’r CCA yn weithgaredd blaenoriaethol i’r Cyngor Sir.  Bydd y CCA yn cyfrannu tuag at sicrhau bod yr effeithiau tebygol sy’n wybyddus yng nghyswllt yr Adeilad Niwclear Newydd a’i ddatblygiadau cysylltiedig yn cael eu nodi, eu hosgoi, eu lliniaru ac y ceir iawndal lle bo hynny’n bosibl; a bod y manteision cymdeithasol-economiadd sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer yn cael eu llawn sylweddoli.

 

Roedd y gwaith o baratoi’r CCA wedi ei gyd-lynu gan y Gwasanaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol o dan gyfarwyddyd nifer o Uwch Swyddogion y Cyngor Sir.  Bu AMEC Environment and Infastructure (y rhai sy’n darparu cefnogaeth ac arbenigedd amlddisgyblaethol i’r Cyngor Sir) yn gyfrifol am ddrafftio’r ddogfen.    Roedd adnoddau i gyllido’r gwaith o baratoi’r CCA wedi eu sicrhau drwy’r Cytundeb Perfformiad Cynllunio gyda Pŵer Niwclear Horizon.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Datblygu (Strategaeth) gyflwyniad sleidiau i’r Pwyllgor a nododd egwyddorion cyfarwyddo eang y prosiect CCA, sef:-

 

·                Cefnogi’r Rhaglen Ynys Ynni a’r Parth Menter;

·                Creu Swyddi Lleol a Sgiliau a Datblygu;

·                Logisteg Cyflogaeth;

·                Cadwyn Gyflenwi Leol;

·                Cefnogi Twristiaeth;

·                Cynnal a Gwella Cyfleusterau Cymunedol;

·                Iechyd a Lles;

·                Cydlyniant Cymunedol;

·                Llety Gweithwyr;

·                Cynnal a Chryfhau’r Iaith Gymraeg a’r Diwylliant;

·                Cludiant a Chyfleustodau;

·                Cadw a Gwella’r Amgylcheddau Naturiol a Hanesyddol;

·                Ymrwymiadau Cynllunio a Manteision Cymunedol;

·                Defnyddio Pwerau’r Cyngor;

·                Gwastraff;

·                Newid yn yr Hinsawdd.

 

Nododd bod 7 Parth wedi eu nodi sy’n ceisio cyfarwyddo datblygiadau cysylltiol yr Adeilad Niwclear Newydd i aneddiadau mwyaf Ynys Môn ac ar hyd coridorau cludiant allweddol (h.y. ardaloedd y mae’n fwriad gan y Cyngor eu ffafrio a’u cefnogi).

 

Cafwyd cyflwyniad byr gan Mr. Alex Melling o AMEC i’r Pwyllgor ar y CCA ddrafft.

 

Dechreuodd y gwaith ymgynghori ffurfiol ar y CCA yn Chwefror 2014 ac roedd 52 o ymatebion unigol wedi eu derbyn.  Roedd natur y sylwadau a dderbyniwyd yn cynnwys yr angen i:-

 

·                Sicrhau swyddi i bobl leol, yn arbennig pobl ifanc;

·                Gwneud y mwyaf o gyfleon contract a chadwyn gyflenwi i fusnesau lleol;

·                Darparu hyfforddiant sgiliau priodol;

·                Sicrhau bod y gweithwyr adeiladu’n cael eu lletya mewn lleoliadau addas;

·                Lleihau unrhyw effeithiau negyddol i sector twristiaeth yr Ynys;

·                Lleihau effeithiau gwelliannau ffyrdd ar hyd yr A5025;

·                Lleihau effeithiau posibl ar gymunedau lleol a’r Iaith Gymraeg.

 

Materion a godwyd gan Aelodau:-

 

·                Pryderon yn ymwneud â diffyg crybwyll yr A5025 o Amlwch i Porthaethwy yn y CCA.  Dywedodd y Swyddogion y bydd y gweithwyr fydd yn teithio i’r safle yn cael eu cludo o leoliad canolog oherwydd materion diogelwch ac i esmwytho’r traffig ar rwydwaith cludiant yr Ynys;

 

·                Materion a godwyd yng nghyswllt capasiti ac arbenigedd o fewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.