Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol gan y Cynghorydd Dylan Rees mewn perthynas ag eitemau 5 ac 13. Cymerodd ran yn y trafodaethau ond ni phleidleisiodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 47 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Mai, 2015.

·           Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Mai, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

·         Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai 2015 yn gywir.

      Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai 2015 yn gywir.

 

4.

Enwebu Aelod i'r Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 46 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini yn gwahodd y Pwyllgor i enwebu un aelod o’r Pwyllgor i wasanaethu ar y Panel Rhiant Corfforaethol o fis Mai 2015 hyd at fis Mai 2016. Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o gylch gorchwyl a phwrpas y Panel Rhiant Corfforaethol ac yn argymell y dylid ailenwebu’r aelod cyfredol, sef y Cynghorydd Dylan Rees.

 

PENDERFYNWYD ailenwebu’r Cynghorydd Dylan Rees yn aelod o’r Panel Rhiant Corfforaethol.

5.

Adolygiad Blynyddol o Bartneriaeth Dai Ynys Môn pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r adolygiad Blynyddol o Bartneriaeth Dai Ynys Môn.

 

Dywedodd Rheolydd y Strategaeth Dai a Datblygu mai hwn yw’r adroddiad

blynyddol cyntaf ar waith Partneriaeth Dai Ynys Môn a fydd yn golygu y gall y

Pwyllgor hwn fonitro cynnydd y Bartneriaeth. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r

gwaith a wnaed gan y Bartneriaeth yn ei blwyddyn gyntaf. Sefydlwyd Partneriaeth Dai Ynys Môn oherwydd bod gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i ddarparu’r cartrefi a’r gwasanaethau tai y mae’r ynys eu hangen.

 

Mae’r Bartneriaeth hefyd yn cynorthwyo’r Cyngor i gwrdd â’i amcanion corfforaethol gan gynnwys:-

 

Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion Hŷn.

Adfywio ein Cymunedau a Datblygu’r Economi.

Cynyddu ein Hopsiynau Tai a Gostwng Tlodi

Canolbwyntio ar y Cwsmer, y Dinesydd a’r Gymuned.

 

Cafwyd pum cyfarfod o’r Bartneriaeth hyd yma gyda chyfarfodydd wedi’u rhaglennu i’w cynnal yn chwarterol. Gwnaed cyflwyniadau i’r Bartneriaeth ynghylch materion sydd o bwys mawr neu sy’n cael effaith ar dai yn Ynys Môn sef:-

 

Wylfa Newydd a llety i weithwyr

Tai Gofal Ychwanegol ar Ynys Môn

Strategaeth Cartrefi Gweigion

Rhan II Deddf Tai (Cymru) – atal digartrefedd

 

Tynnwyd sylw yn yr adroddiad at lwyddiannau allweddol y Bartneriaeth yn ystod ei blwyddyn gyntaf.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

Holwyd a fyddai’r posibilrwydd y byddai ffoaduriaid yn adsefydlu yng Nghymru yn fater i Bartneriaeth Dai Ynys Môn. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai mai mater i’r Awdurdod Lleol ei ystyried fyddai hwnnw;

Holwyd a oedd y Bartneriaeth wedi trafod dynodi safleoedd posib ar yr ynys ar gyfer Teithwyr. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod grŵp o Swyddogion o’r Cyngor Sir yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod Safleoedd Teithwyr posib.

Holwyd ynghylch statws yr iaith Gymraeg yn y Bartneriaeth a sut mae’r iaith yn cael ei hymgorffori yn ei strategaeth ac a yw’n dylanwadu ar y Polisi Tai. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer Cymdeithasau Tai yn dweud fod rhaid iddynt ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Dywedodd bod tair Cymdeithas Dai yn gweithio gyda’r Cyngor Sir a bod eu gweinyddiaeth fewnol yn ddwyieithog.

Holwyd faint o bobl sydd ar y rhestr aros am gartref. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y byddai’n darparu manylion mewn adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

PENDERFYNWYD:-

 

   Nodi cynnwys yr adroddiad;

   Bod dadansoddiad o nifer y bobl ar y rhestr aros yn cael ei     ymgorffori mewn adroddiad i gyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol.

 

GWEITHREDU: fel sydd wedi ei nodi uchod.

6.

Diweddariad Blynyddol - Trefniadau Diogelu ar gyfer Oedolion Bregus ym Môn pdf eicon PDF 397 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad diweddaru blynyddol gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â Threfniadau Diogelu ar gyfer Oedolion Bregus yn Ynys Môn.

 

Dygodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sylw at y prif faterion yn yr adroddiad. Nododd mai amcan Polisi a Gweithdrefn Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Bregus rhag camdriniaeth yw llywio gwaith diogelu a wneir gan bawb sy’n ymwneud â lles oedolion bregus ac sy’n cael eu cyflogi yn y sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu a gwasanaethau eraill. Amlygwyd crynodeb o’r cyfeiriadau POVA yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chododd y materion a ganlyn:-

 

Holwyd sawl achos a brofwyd yn erbyn staff y GIG, y Sector Annibynnol a Staff Gofal Cymdeithasol. Dywedodd y Swyddogion y gellid cael y ffigyrau a nododd y byddant yn cael eu darparu ar gyfer y Pwyllgor gyda hyn.

Holwyd faint o amser a gymerir i ddelio gydag achosion o ymosodiad honedig. Ymatebodd y Swyddogion bod ymholiadau cychwynnol yn digwydd cyn pen 1/2 wythnos pan fyddir yn delio gydag achosion annibynnol. Gall achosion a gyfeirir i sylw’r Heddlu neu achosion y mae angen gwneud ymchwiliadau manwl yn eu cylch gymryd 3/4 mis. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd yn paratoi adroddiad ar y drefn ar gyfer delio gyda chamdriniaeth honedig ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a chytuno i’r datblygiadau a amlygwyd yn Rhan 4 yr adroddiad.

 

GWEITHREDU:

 

Darparu ffigyrau i’r Pwyllgor hwn ynghylch achosion sydd wedi’u profi o gam-drin oedolion bregus.

Bod y weithdrefn ar gyfer delio gydag achosion honedig o gam-drin oedolion bregus yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor hwn gyda hyn.

7.

Adroddiad Blynyddol - 'Gwrando ar Gwynion a Dysgu oddi wrthynt' pdf eicon PDF 256 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - yr Adroddiad Blynyddol - ‘Gwrando ar Gwynion a Dysgu oddi wrthyntgan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod dyletswydd i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini perthnasol yr Awdurdod Lleol i fonitro trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol gyda chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr. Ystyrir ei bod yn hollbwysig cadw cofnod o sylwadau a chwynion fel bod modd i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ddysgu gwersi ohonynt fel rhan o’r gwaith o wella’r ddarpariaeth gwasanaeth. Cafwyd dadansoddiad manwl gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion o nifer y cwynion a dderbyniwyd gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chododd y materion a ganlyn:-

 

Codwyd cwestiynau ynghylch y weithdrefn i drigolion oedrannus mewn cartrefi gofal wneud cwyn os ydynt yn dymuno. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod staff yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld â chartrefi gofal yn rheolaidd. Nododd hefyd fod yr adran yn cyflogi pobl annibynnol ar hyn o bryd i asesu unrhyw gwynion a all fod gan drigolion cartrefi gofal; mae hyn yn cydymffurfio gyda’r meini prawf a bennwyd gan y Comisiynydd ar gyfer Pobl Hŷn.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymuned) yn dymuno cofnodi ei gwerthfawrogiad i’r Swyddog Cwynion a Datblygu Gofal Cwsmer (Adran Gwasanaethau Cymdeithasol) am ei gwaith yn delio’n fedrus bob amser gyda chwynion a gyflwynir i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Nodi natur y cwynion a gafwyd yn ystod 2014/15 am y gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol;

Nodi perfformiad yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithredu’r Weithdrefn Sylwadau a Chwynion ac yn delio gyda chwynion;

Nodi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer datblygu’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol gyda sylwadau a chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.

 

GWEITHREDU: Dim.

8.

Panelau Canlyniad Sgriwtini - Diweddariad pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolydd Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r Panelau Canlyniad Sgriwtini a sefydlwyd gan Bwyllgorau Sgriwtini’r Awdurdod Lleol.

 

Cafwyd trosolwg gan y Swyddog Sgriwtini o’r Panelau Canlyniad Sgriwtini a sefydlwyd gan y ddau Bwyllgor Sgriwtini, sef 7 ohonynt ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Nodi’r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â gwaith y saith Panel Canlyniad Sgriwtini;

Cefnogi ymdrechion y Swyddogion i gyflwyno adroddiadau diweddaru chwarterol ar waith y Panelau Canlyniad Sgriwtini i’r ddau Bwyllgor Sgriwtini, y Gweithgor Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth;

Cryfhau ymhellach yr aliniad a’r synergedd rhwng y Swyddogaeth Sgriwtini a Blaenoriaethau Strategol y Cyngor fel y manylir ar hynny ym mharagraff 4 yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Bod adroddiadau diweddaru yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn chwarterol ar waith y Panelau Canlyniad Sgriwtini.

9.

Diweddariad ar Drefniadau Sgriwtini Arfaethedig Y Bwrdd Gwasanethau Lleol ar y Cyd pdf eicon PDF 30 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad wedi’i ddiweddaru ar y trefniadau sgriwtini ar y cyd a fwriedir ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Dygodd y Swyddog Sgriwtini sylw at y prif faterion yn yr adroddiad a nododd y bydd canllawiau pellach mewn perthynas â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cyhoeddi yn hydref 2015 ac fe ddylent roi rhagor o eglurder ynghylch sut i fwrw ymlaen gyda sgriwtineiddio’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol pan ddaw’n weithredol ym mis Ebrill 2016. Ar hyn o bryd mae’r ddeddfwriaeth yn glir y bydd aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer yr ardal yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Dywedodd Uwch Reolydd Partneriaethau Gwynedd ac Ynys Môn fod canllawiau statudol mewn perthynas â Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol(Cymru) 2015 – Goblygiadau ar gyfer Sgriwtiniyn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd tan 16 Tachwedd 2015. Nododd bod angen cryfhau’r elfen sgriwtini yn y canllawiau a bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi’r mater hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth bwysig ac roedd yn gobeithio y byddai’r Uwch Reolydd Partneriaethau yn rhoi adroddiad diweddaru yn dilyn y Gynhadledd Genedlaethol a gynhelir ar 26 Tachwedd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad diweddaru.

 

GWEITHREDU: Bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn y dyfodol mewn perthynas â’r uchod.

10.

Cyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu'r Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgol y mae wedi bod yn ei fynychu yn un addysgiadol iawn a’i fod yn edrych ymlaen at gymryd rhan yng ngham nesaf y broses ymgynghori.

11.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 156 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhaglen Waith ddrafft.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini y bydd angen i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ystyried tair eitem newydd:-

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladrdiweddariadi’w drafod yn y cyfarfod ar 17 Tachwedd 2015.

Gwerthuso Opsiynau Casglu Gwastraff Wythnosoltrefnir cyfarfod arbennig.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymruymateb i’r digwyddiad tân diweddar yn Llangefnii’w drafod yn y cyfarfod ar 17 Tachwedd 2015.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod yn dymuno cael adroddiad diweddaru yn rheolaidd gan y Grŵp Tasg a Gorffen sy’n delio gyda dynodi safleoedd ar gyfer Teithwyr. Nododd bod Deddf Tai Cymru yn dweud bod rhaid i bob Awdurdod Lleol ddynodi safle ar gyfer teithwyr yn eu hardaloedd.

Dywedodd y Cynghorydd R.O. Jones ei fod yn dymuno gweld eitem ar y Gwasanaeth Ambiwlans ar Raglen Waith y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith drafft ac ymgorffori’r eitemau a godwyd ar gyfer trafodaeth mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn y dyfodol fel y nodir uchod.

12.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 25 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

13.

Moderneiddio Gwasanaeth Warden mewn Tai Gwarchod y mae'r Cyngor yn berchen arnynt

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â moderneiddio’r Gwasanaethau Warden mewn Tai Gwarchod y mae’r Cyngor yn berchen arnynt.

 

Cafwyd adroddiad manwl gan y Prif Swyddog Datblygu (Gwasanaethau Tai) ar y ddau opsiwn ar gyfer moderneiddio’r Gwasanaethau Warden yn y Cyngor Sir.

 

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb PENDERFYNWYD:-

 

Nodi’rsefyllfa a ffafrio Opsiwn 1 yn yr adroddiad.

Nodi y caiff y mater ei drafod gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer gwneud penderfyniad.

 

GWEITHREDU: Nodi y bydd y penderfyniad mewn perthynas â moderneiddio Gwasanaethau Warden mewn Tai Gwarchod y mae’r Cyngor yn berchen arnynt yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Gwaith.

 

(Roedd y Cynghorydd Carwyn Jones yn dymuno cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y penderfyniad).

 

(Ymatalodd y Cynghorydd John Griffith ei bleidlais)

 

(Wedi iddo ddatgan diddordeb personol ymatalodd y Cynghorydd Dylan Rees ei bleidlais ar yr eitem hon).