Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cofnodion

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Medi, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi, 2015.

4.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr pdf eicon PDF 101 KB

Derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Strwythur yr Ardal ac wedi hynny derbyn cwestiynau ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd.

 

(MAE GWAHODDIAD WEDI EU HANFON I HOLL AELODAU’R CYNGOR I FYNYCHU’R CYFARFOD MEWN PERTHYNAS A’R EITEM HON).

Cofnodion:

Rhoes y Cadeirydd groeso i Mrs. Ffion Johnstone, Mr. Andrew Jones, Mr. Geoff Lang, Ms. Alison Cowell a Mr. Wyn Thomas fel cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod. Nodwyd nad oedd Mr. Simon Dean, y Prif Weithredwr Dros Dro yn gallu bod yn y cyfarfod oherwydd ei fod wedi cael galwad i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru. 

 

Nododd y Cadeirydd ymhellach fod holl Aelodau’r Cyngor Sir wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon a’u bod wedi cael cyfle i gyflwyno cwestiynau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn y cyfarfod. Roedd ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd wedi cael ei anfon at Aelodau’r Cyngor Sir.

 

Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dwyn sylw at yr isod :-

 

Egwyddorion Gweithredu

 

·           Ymgysylltu gyda’r cyhoedd a staff;

·           Gweledigaeth Gogledd Cymru – Darparu Gwasanaethau yn Lleol;

·           Dadansoddiad o anghenion y boblogaeth a chleifion, ‘beth sy’n bwysig’;

·           Atal salwch a lleihau dibyniaeth;

·           Comisiynu gwybodus ar gyfer gofal sylfaenol;

·           Diwylliant ardal-eang o Weithio mewn Partneriaeth;

·           Llwybrau’n cael eu harwain gan y gymuned – y cartref yw’r rhagdybiaeth gyntaf;

·           Datblygu’r Gweithlu – dadansoddiad o’r cymysgedd o sgiliau, swyddogaethau generig ac uwch;

·           Cynllunio Olyniaeth;

·           Sefydlu’n gadarn drefniadau ar gyfer diogelu Plant ac Oedolion;

·           Diogelwch cleifion, rheoli risg ac ansawdd y gwasanaeth;

·           Cynllunio gweithredol a busnes cadarn, rheolaeth ariannol, atebolrwydd a rheoli perfformiad.

 

Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd

 

·           Cleifion a chymunedau’n llai dibynnol;

·           Clystyrau’n dylanwadu ar y system;

·           Perthnasau o ymddiriedaeth ar lefel leol;

·           Gwasanaethau cymunedol craidd a thimau integredig cadarn;

·           Gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau lleol gyda phartneriaid a staff yn cymryd perchenogaeth a chymunedau lleol yn eu deall, cynllunio ar y cyd;

·           Gweithlu wedi ei ysbrydoli a chanddo’r sgiliau priodol;

·           Gwasanaethau wedi eu moderneiddio drwy dechnoleg ac arloesedd;

·           Gwella enw da Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;

·           Gwneud penderfyniadau ar lefel leol a dylanwadu ar y cyfeiriad strategol.

 

Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb a mynegwyd y sylwadau a’r pryderon a ganlyn :-

 

·           BIPBC yn gwneud newidiadau dros dro i Wasanaethau i Ferched a Gwasanaethau Mamolaeth yng Ngogledd Cymru. Pryderon ar Ynys Môn bod gwasanaeth mamolaeth arbenigol yn Ysbyty Gwynedd mewn perygl. Dywedodd BIPBC mewn ymateb eu bod ar hyn o bryd wrthi’n gweithio drwy’r ymatebion i’r ymgynghori ar wasanaethau mamolaeth yng Ngogledd Cymru ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi wedyn ar yr asesiad o’r effaith ar ansawdd ac iechyd a’i gyflwyno i’r Bwrdd Iechyd yn gynnar ym mis Rhagfyr. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwahodd y Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynecoleg i weithio ochr yn ochr â Thîm Clinigol y Bwrdd ar draws Gogledd Cymru i edrych ar wasanaethau cyfredol y Bwrdd Iechyd i Ferched a’r Gwasanaeth Mamolaeth. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y gwasanaethau Obstetreg yng Ngogledd Cymru. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn bod angen cadw’r Gwasanaethau i Ferched a’r Gwasanaethau Mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor;  

 

·           Mae’r Cyngor Sir, drwy ei Raglen Drawsnewid ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i oedolion, yn ymrwymedig i ddatblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol ar hyd a lled  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru pdf eicon PDF 944 KB

(EITEM I DDECHRAU AM 3.45 o’r gloch y.p.)

 

Trafod yr ymgynghoriad ar sut i gynnal y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru ac wedi hynny derbyn cwestiynau ar y ddarpariaeth yn lleol.

 

(MAE GWAHODDIAD WEDI EU HANFON I HOLL AELODAU’R CYNGOR I FYNYCHU’R CYFARFOD MEWN PERTHYNAS A’R EITEM HON).

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Simon Smith, Prif Swyddog Tân a Mr Kevin Roberts, Uwch Reolwr Gweithrediadau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Croesawodd hefyd y Cynghorydd Peter Lewis, Dirprwy Gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r cyfarfod.  Estynnodd groeso hefyd i’r Cynghorydd Llinos Jones ac i Faer Cyngor Tref Llangefni a'r Cynghorydd Margaret Thomas. Nododd ymhellach fod pob Aelod o'r Cyngor Sir wedi eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y broses ymgynghori a gynhelir ar hyn o bryd ar yr Amcanion Gwella drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16.  Roedd y cyflwyniad yn amlygu'r materion canlynol: - 

·           Mae costau rhedeg y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Ngogledd Cymru o gwmpas £32m - sy'n gyfwerth â £ 46 y flwyddyn ar gyfer pob un o drigolion Gogledd Cymru;

·           Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn bwriadu ymgorffori strategaeth ariannol 3 blynedd i rewi'r gyllideb.  Dros y 5 mlynedd diwethaf  mae’r Gwasanaeth Tân wedi gwneud arbedion o £3 miliwn, sef 10% o'r gyllideb;

·           Yr amcan yw parhau i helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag tân yn eu cartrefi gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymweld â chartrefi ac yn darparu larymau tân yn rhad ac am ddim;

·           Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu ysgolion i addysgu plant am y peryglon sy'n gysylltiedig â thanau;

·           Gwelwyd gostyngiad o 50% yn nifer y digwyddiadau Tân yng Ngogledd Cymru;

 

Cafwyd sesiwn holi ac ateb a chyflwynwyd y sylwadau a'r pryderon canlynol ynghyd â chwestiynau gan gynrychiolwyr o Gyngor Tref Llangefni: -

·           Digwyddiad Tân yn y siop Pysgod a Sglodion yn Llangefni

 

·           Dylid ystyried cael  gorsaf dân gyda chriw llawn yn Llangefni i ddiogelu’r dref sydd â stad ddiwydiannol, adeiladau Cyngor a phentrefi gwledig o’i chwmpas. Ymatebodd y Gwasanaeth Tân ac Achub fod yna 10 o bobl yn y criw wrth gefn yn Llangefni ac nid oedd hanner y criw ar gael yn ardal Llangefni ar ddiwrnod y tân oherwydd eu bod yn eu prif leoedd gweithio. Ni fu criw cyflawn erioed yng ngorsaf dân Llangefni.  Byddai costau sy’n gysylltiedig â darparu gorsaf dân gyda chriw cyflawn yn golygu na fyddai’n opsiwn realistig.  Pe bai Gorsaf Dân sy’n debyg i honno yng Nghaergybi - sydd â 'chriw dydd' a chyflenwad llawn o staff yn ystod y dydd a chriw ‘wrth gefn’ ar gyfer gyda’r nos - yn cael ei ystyried ar gyfer tref Llangefni, byddai’r gost i'r Awdurdod Tân tua £ 750k y flwyddyn. 

 

·           20 munud i’r Gwasanaeth Tân gyrraedd y tân.  Ymatebodd y Gwasanaeth Tân ac Achub mai nod y Gwasanaeth Tân yw bod y peiriant agosaf yn cyrraedd y tân cyn gynted ag y bo modd.  Nid yw’r Swyddfa Gartref bellach yn argymell cyfnod penodol o amser ar gyfer cyrraedd tân.  Hyd at 10 mlynedd yn ôl ‘roedd y gorsafoedd tân ar Ynys Môn yn cael eu categoreiddio ar sail  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – y Rhaglen Waith ddrafft.

Cyfeiriodd y Swyddog Sgriwtini at yr eitemau sylweddol a nodwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf a gynhelir  2 Chwefror, 2016, fel a ganlyn: -

·           Adolygiad o Wasanaethau Ieuenctid

·           Adolygiad o Wasanaethau Diwylliannol

·           Cynllun ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

 

Nodwyd y bydd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd, ynghyd â'r Swyddog Sgriwtini, yn trafod eitemau eraill posib ar gyfer y cyfarfod nesaf yn y man.

 PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Waith ddrafft ac ymgorffori'r eitemau posibl yn dilyn trafodaeth gyda'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd.