Eitemau
Rhif. |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau
Cofnodion:
|
2. |
Datganiad o Ddiddordeb
Derbyn
unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan
unrhyw Aelod neu Swyddog mewn
perthynas ag unrhyw eitem o
fusnes.
Cofnodion:
Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
3. |
Cofnodion PDF 52 KB
Cyflwyno,
i’w cadarnhau, gofnodion y
cyfarfodydd a ganlyn :-
·
Cofnodion y cyfarfod a gafwyd
ar 12 Tachwedd, 2015.
·
Cofnodion y cyfarfod a gafwyd
ar 17 Tachwedd, 2015.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar :-
·
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd, 2015.
·
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2015.
|
4. |
Sicrhau gwasanaethau cynaladwy ac effeithlon i’r dyfodol : Trawsnewid y Gwasanaeth Ieuenctid PDF 316 KB
Cyflwyno adroddiad gan y
Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Dysgu mewn
perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid fod Strategaeth Gwasanaeth
Ieuenctid Cymru am 2014-2018 yn cydnabod yr angen i’r
gwasanaeth barhau i fod yn wasanaeth addysgol strategol yn hytrach
na bod yn rhan o’r ddarpariaeth hamdden. O fewn y strategaeth
mae pwyslais cynyddol ar leoli gweithwyr ieuenctid mewn ysgolion i
gefnogi pobl ifanc i aros mewn addysg a hyfforddiant ffurfiol.
Mae'r strategaeth yn cydnabod tri maes penodol a amlygwyd yn yr
adroddiad fel rhai y dylid canolbwyntio gwasanaethau arnynt.
Dywedwyd bod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20
Gorffennaf 2015, wedi rhoi caniatâd i’r Gwasanaeth
Ieuenctid gynnal ymgynghoriad ar Fodelau Darparu i’r Dyfodol.
Roedd canfyddiadau’r ymgynghoriad wedi’u hatodi wrth yr
adroddiad. Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad mae’r
opsiynau i'w hystyried yn cynnwys:-
• Penodi gweithwyr llawn amser a leolir ym mhob ysgol uwchradd
i gyflawni ystod o flaenoriaethau;
• Strwythur llai o glybiau, i’w rhedeg gan Weithwyr
Ieuenctid yr Ysgolion a thîm llai o staff rhan amser;
• Y posibilrwydd o helpu cymunedau pentrefi llai i redeg
clybiau ieuenctid gwirfoddol, y byddai’r gwasanaeth ieuenctid
yn eu cefnogi ond nid yn eu cyllido;
• Ymestyn rôl y Gweithiwr Prosiect Alcohol i gynnwys
materion Camddefnyddio Sylweddau, a’r camfanteisio rhywiol
cysylltiedig sy'n deillio o’r gamdriniaeth hon;
• Gweithio gyda'r Adran Addysg i ddatblygu’r ysgolion i
gymryd mwy o gyfrifoldeb am Ddatyblygu Achredu;
• Bod swydd hanner amser yn cael ei chreu ar gyfer Gweithiwr
Ymgysylltu i weithio gyda phobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn
Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant, a gaiff ei hariannu drwy Grant
Ymgysylltu a Datblygu.
Adolygu hyn ymhen dwy flynedd i benderfynu a oes angen adolygu'r
gwasanaeth ieuenctid ymhellach i gynnwys y gwaith hwn yn y
ddarpariaeth graidd, yn hytrach na gwaith arall a gyllidir gan
grant.
Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctid mai Ynys Môn a Gwynedd sydd
wedi cadw’r
rhwydwaith mwyaf o glybiau gwledig bach drwy Gymru, ond y bu
gostyngiad o 17% yn y niferoedd sy'n mynychu clybiau ieuenctid
rhwng 2013/14 a 2014/15. Byddai hyn ynddo’i hun wedi bod yn
yrrwr ar gyfer adolygu’r modd y mae'r awdurdod yn ymgysylltu
â phobl ifanc, ac mae wedi ysgogi’r gwasanaeth, drwy
waith y Bwrdd Trawsnewid, i ddechrau’r ailstrwythuro drwy
ymgynghori'n eang â phobl ifanc, a gofyn iddynt pa wasanaeth
sydd ei angen arnynt ar
gyfer y dyfodol. Bydd angen cyplysu hyn â rhaglen yr Awdurdod
o nodi blaenoriaethau tra’n gweithredu rhaglen helaeth o
arbedion effeithlonrwydd.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a
ganlyn:-
• Barn a gofynion pobl ifanc yw’r ystyriaethau pwysicaf
o fewn y Gwasanaeth Ieuenctid;
• Holwyd faint o bobl ifanc sy’n mynychu Clybiau
Ieuenctid gwledig ar yr Ynys. Ymatebodd y Prif Swyddog Ieuenctid
bod gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n mynychu Clybiau Ieuenctid
gwledig yn peri pryder a rhagwelwyd y bydd angen ystyried cau 4 o
Glybiau Ieuenctid eraill eleni;
• Holwyd am y posibilrwydd o ailgyflwyno'r Bws Allgymorth ar
gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig fel y gallant fynychu
Clybiau ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.
|
5. |
Asesiad Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a Gwynedd 2016 PDF 2 MB
Cyflwyno adroddiad gan y
Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn
perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Tai mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tai fod cynnal Asesiad o
Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (yr Asesiad) yn ofyniad
statudol er mwyn canfod nifer y Sipsiwn a Theithwyr sydd angen
lleiniau yn awr neu dros y 5 mlynedd nesaf (anghenion preswyl).
Mae'r Asesiad hefyd yn pwyso a mesur yr angen am safleoedd tramwy i
Sipsiwn a Theithwyr sy'n pasio drwy ardal yr awdurdod lleol ond
sydd â'u prif breswylfa yn rhywle arall. Mae'r astudiaeth
wedi cydymffurfio'n llawn â chanllawiau statudol gan
Lywodraeth Cymru. Fel yr argymhellwyd yn y canllawiau, sefydlwyd
Grŵp Llywio gydag Aelodau a Swyddogion o Gyngor Gwynedd a
Chyngor Sir Ynys Môn, ynghyd ag aelodaeth o'r gymuned Sipsiwn
a Theithwyr. Mae'r Grŵp wedi cyfarfod yn rheolaidd i
oruchwylio'r astudiaeth. Fel sy'n ofynnol, roedd y dystiolaeth a
ddefnyddiwyd yn yr asesiad yn cynnwys cyfweliadau un-i-un gyda
Sipsiwn a Theithwyr, data eilaidd gan gynnwys cofnodion o’r
cyfrifiad a chofnodion addysg, ynghyd â manylion am
wersylloedd anawdurdodedig a oedd wedi digwydd yn ardal yr
astudiaeth. Roedd yr argymhellion ar gyfer ardaloedd Gwynedd ac
Ynys Môn wedi eu cynnwys yn rhan 6.2 Atodiad 1 sydd ynghlwm
wrth yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar yr
argymhellion sy'n berthnasol i Ynys Môn fel y nodir yn yr
adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tai ei bod wedi ymweld
â'r teithwyr ar
safle Ffordd Pentraeth ar sawl achlysur a’i bod wedi siarad
â phobl sy'n byw ar y safle. Fodd bynnag, o'r pedair aelwyd
ar y safle, dim ond 2 berson lenwodd yr holiadur yr oedd
Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid ei ddefnyddio yn y broses
asesu.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a
ganlyn:-
• Mynegwyd pryderon dwys nad ymgynghorwyd digon gyda’r
gymuned leol, busnesau lleol a'r gymuned sipsiwn a theithwyr;
• Ystyriwyd nad oedd y Cyngor Sir wedi ceisio cael unrhyw
gydlyniant cymunedol gyda'r gymuned leol a'r gymuned sipsiwn a
theithwyr i ddeall eu hamrywiol anghenion ac i integreiddio
â'r gymuned;
• Mae’r trigolion ar safle Ffordd Pentraeth wedi dweud
nad ydynt yn dymuno newid eu ffordd o fyw;
• Mae'r adroddiad a drafodwyd yn y cyfarfod yn dweud bod angen
4 llain; mae cyfanswm o 7 o garafanau ar safle Ffordd
Pentraeth;
• Nid yw trigolion safle teithwyr Ffordd Pentraeth yn
ymwybodol o'r cynrychiolydd Sipsiwn a Theithwyr ar Grŵp Llywio
Gwynedd ac Ynys Môn; roeddent wedi dweud wrth eu Cynghorydd
lleol y byddent yn hoffi gweld un o drigolion safle Ffordd
Pentraeth yn cael ei enwebu i wasanaethu ar y Grŵp
Llywio;
• Byddai Safle yn ne Ynys Môn yn cael ei ffafrio gan
drigolion safle Ffordd Pentraeth os yw'r Awdurdod yn bwriadu dynodi
safle fel safle parhaol i sipsiwn / teithwyr;
• Ystyriwyd nad oedd digon o ddata wedi cael ei gasglu oddi
wrth deithwyr yr oes newydd ar Ynys Môn gan mai dim ond dau
holiadur a gwblhawyd. Ymddengys bod Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i
gael mwy ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.
|
6. |
Grwp Adolygu Cynnydd Ysgolion - Diweddariad PDF 89 KB
Cyflwyno adroddiad gan y
Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth
Dysgu a’r Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â'r
uchod.
Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion
wedi cael ei sefydlu ar 21 Tachwedd, 2012 gan y Pwyllgor Sgriwtini
Addysg a Hamdden yn dilyn argymhellion a wnaed gan Estyn ar ansawdd
y Gwasanaeth Addysg i blant a phobl ifanc ar Ynys Môn. Nod y
grŵp yw cynorthwyo'r Gwasanaeth Addysg i wella perfformiad
ysgolion ar yr Ynys, drwy gynyddu a datblygu atebolrwydd lleol am
berfformiad ysgolion a gwella gwybodaeth aelodau lleol am yrwyr
perfformiad allweddol a'r heriau sy'n wynebu ysgolion ar Ynys
Môn. Gyda sefydlu strwythur newydd ar gyfer Pwyllgorau
Sgriwtini yn ystod mis Mai 2013, cytunwyd y byddai Aelodau'r
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Sgriwtini
Partneriaeth ac Adfywio yn parhau â gwaith y Grŵp
Adolygu Ysgolion.
Dywedodd bod yr Uwch Reolwr Safonau Ysgolion a Chynhwysiad yn rhoi
arweiniad i'r Panel ynghylch pa ysgolion y dylid eu gwahodd i
ymddangos ger eu bron. Roedd rhestr o'r ysgolion a oedd wedi
ymddangos gerbron y Panel yn ystod 2015 i’w gweld yn yr
adroddiad. Mae'r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r
Ymgynghorydd Her GwE perthnasol (Gwasanaeth Gwella Ysgolion
Rhanbarthol) yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod o'r Panel i
drafod safonau cyrhaeddiad, materion cynhwysiad, presenoldeb a
rheoli adnoddau sy'n cynnwys agweddau ariannol a
rheolaethol. Po leiaf
yw'r ysgol, y mwyaf tebygol ydyw y bydd ei pherfformiad yn amrywio,
a gallai’r perfformiad hwn amrywio'n sylweddol o flwyddyn i
flwyddyn ac effeithio ar ei chategoreiddiad cyffredinol o fewn y
model cenedlaethol. Mae lleiafrif o ysgolion yn cael anawsterau o
ran cynnal lefelau staffio cyson o ganlyniad i gyfnodau mamolaeth
ac absenoldebau arbennig, ac mae effeithiau hynny’n fwy amlwg
yn yr ysgolion llai.
Yn dilyn penodi swyddog newydd i’r swydd Uwch Reolwr Safonau
Ysgolion a Chynhwysiad, bydd nifer o ysgolion yn cael eu gwahodd i
ymddangos gerbron y Panel rhwng mis Ionawr 2016 a Rhagfyr
2016.
Fel yr Aelod Portffolio (Addysg), dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes
mai ei nod yw codi safonau addysg ar Ynys Môn. Mae nifer o
ysgolion ar yr Ynys wedi gwella ac mae gwaith y Grŵp Adolygu
Ysgolion wedi cynhyrchu tystiolaeth bod y gwasanaeth wedi gwella.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion a
ganlyn:-
• Holwyd a oedd anawsterau wrth recriwtio Penaethiaid ar Ynys
Môn ac a oedd digon o athrawon yn dod trwodd sy’n
dymuno cael eu hystyried i fod yn Benaethiaid. Ymatebodd y Pennaeth
Dysgu fod anawsterau gyda recriwtio Penaethiad ac y gellir
priodoli’r rheini i’r pwysau sy'n gysylltiedig
â'r swydd a’r ffaith y byddai angen, o bosib, i’r
Pennaeth ddysgu dosbarthiadau am 90% o'r amser hefyd;
• Holwyd hefyd am ysgolion yn dysgu o brofiadau ysgolion
eraill ac ymgorffori arferion da gan ysgolion sy'n perfformio'n
dda. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu fod ymgorffori arferion da a rhannu
profiadau rhwng ysgolion yn hollbwysig h.y. mae ysgol sy’n
perfformio'n dda o ran 'sgiliau ysgrifennu' yn gallu cael cymorth
gan GwE, i ddatblygu pecynnau cymorth i ...
Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.
|
7. |
Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol (TYRh) – Trefniadau at y Dyfodol PDF 80 KB
Cyflwyno adroddiad gan y
Pennaeth Adfywio Economaidd a
Chymunedol mewn perthynas
â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Adfywio
Economaidd a Chymunedol mewn perthynas â'r uchod.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Mrs
Sasha Davies, Cyfarwyddwr Strategol (Economi a Lle), Cyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhoddodd Mrs Davies gyflwyniad ar
y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol fel yr Uwch Swyddog Cyfrifol am
Ffrwd Waith yr UE.
Nodwyd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw'r Corff Arweiniol yn
ystod rhaglen 2014/2020. Dosbarthwyd copi o'r cyflwyniad
i'r Aelodau yn y cyfarfod.
Adroddwyd y bydd y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol
mewn sefyllfa i sicrhau bod modd i’r holl weithgareddau
arfaethedig weithio’n integredig ar draws yr holl ffrydiau
ariannu. Bydd yn nodi hefyd a oes darpariaeth gyfatebol eisoes yn
bodoli neu’n cael ei datblygu. Bydd y Tîm yn gallu
gweithio'n strategol ac yn llyfn gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru a’i ffrydiau gwaith, yn ogystal â
sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth er mwyn hwyluso
dealltwriaeth o’r cynigion am gyllid Ewropeaidd, ac yn benodol sut
maent yn cyfrannu at y weledigaeth o fuddsoddiadau dwys ac
integredig sy’n targedu blaenoriaethau strategol yn y
rhanbarth.
Mae'r Cynllun Busnes yn cael ei asesu gan SCEC ar hyn
o bryd a disgwylir iddo gael ei gymeradwyo yn ystod mis Chwefror
2016.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a diolch i Mrs Sasha
Davies am ei chyflwyniad i'r Pwyllgor.
GWEITHREDU: Bod cyfarfod o’r Pwyllgor hwn yn
derbyn diweddariad ar y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol yn y
dyfodol.
|
8. |
Diweddariad gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd
Derbyn adroddiad llafar
gan y Cadeirydd/Is-Gadeirydd.
Cofnodion:
Dywedodd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd eu bod yn
mynychu cyfarfodydd misol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y
Pwyllgorau Sgriwtini. Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 25
Chwefror, 2016.
Atgoffwyd yr aelodau i gysylltu â'r Swyddog Sgriwtini os
ydynt yn dymuno cynnwys unrhyw eitem ar Raglen y Pwyllgor Sgriwtini
Partneriaeth ac Adfywio.
|
9. |
Rhaglen Waith PDF 161 KB
Cyflwyno’r
Rhaglen Waith gan y
Swyddog Sgriwtini.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – y Rhaglen Waith ddrafft.
Amlinellodd y Swyddog Sgriwtini yr eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf
y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio:-
Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
Trawsnewid Gwasanaethau Diwylliannol
Dogfen Bolisi – Partneriaethau
Dywedodd y Swyddog Sgriwtini ymhellach y byddai angen trafod
adroddiad ychwanegol yn y cyfarfod nesaf, sef Adroddiad Blynyddol
Cymunedau’n Gyntaf. Cytunwyd y dylai'r cyfarfod ddechrau am 2
o’r gloch.
PENDERFYNWYD derbyn y Rhaglen Waith
ddrafft.
|