Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
Dydd Gwener, 13eg Mai, 2016 3.30 o'r gloch

Mae cyfarfodydd y Cyngor bellach yn cael eu ffrydio’n fyw ar ein sianel YouTube.

Gallwch hefyd weld rhestr o’r cyfarfodydd a fydd yn cael eu cynnal cyn hir.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 59 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Ebrill, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2016 fel rhai cywir yn amodol ar y canlynol: -

 

Eitem 5 - Cymunedau yn Gyntaf

 

Adroddodd y Swyddog Sgriwtini ei fod wedi anfon e-bost at y Sarsiant Non Edwards, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn ynghylch digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi. Rhagwelir y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cydgysylltu â'r Rheolwr Clwstwr ar gyfer Cymunedau'n Gyntaf Môn ynghylch y mater hwn.

4.

Ymgynghoriad ar Safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr yn Ynys Môn - Y Broses Ymgynghori pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer sipsiwn a theithwyr lle mae angen wedi ei nodi ac i ddarparu digon o safleoedd priodol yn eu Cynllun Datblygu Lleol.

 

Cynhyrchwyd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a Gwynedd  2016 (Yr Asesiad) ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, ac fe'i cymeradwywyd gan Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ar 8 Chwefror  2016.

 

Nododd yr Asesiad newydd yr angen canlynol ar Ynys Môn: 

 

1.    Safle preswyl parhaol i gwrdd ag anghenion teithwyr yr oes newydd ar y

  safle a oddefir yn ffordd Pentraeth;

2.   Dau safle i’w defnyddio fel mannau aros dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar hyd yr A55, un yng Nghaergybi a'r llall yng nghanol yr Ynys i ddarparu ar gyfer pobl sy'n teithio i Iwerddon ac oddi yno, ynghyd â phobl sy'n teithio o amgylch y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol.

             

Roedd yr ymarfer ymgynghori yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid a chynhaliwyd sesiynau galw i mewn (a fynychwyd gan oddeutu 215 o oedolion); Cyfarfodydd Cynghorau Tref / Cymuned; a mynychodd swyddogion ddau gyfarfod cyhoeddus. Nodwyd yr ystyriwyd safbwyntiau busnesau ar stadau diwydiannol hefyd.

 

Roedd y ddogfen ymgynghori gyda mapiau a holiadur ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor ac yn y sesiynau galw i mewn. Anfonwyd copïau at fusnesau, tirfeddianwyr a thenantiaid cyfagos.

 

Cyflwynwyd Mr Bryn Hall gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol.  Ef yw’r eiriolwr annibynnol a gyflogir gan Unity, sef sefydliad sy'n arbenigo mewn ymgynghori gyda chymunedau sipsiwn a theithwyr.Roedd Mr Hall wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau teithwyr a sipsiwn yn ystod y broses hon, ac mae'r Pwyllgor wedi gofyn am atborth ar y mater.

 

Crynhodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad a'r broses ymgynghori a gynhaliwyd fel a ganlyn: -

 

  Amlygwyd pwysigrwydd deall cefndir ac anghenion gwahanol sipsiwn a theithwyr.

  Ystyriwyd bod yr eiriolwr annibynnol wedi gwella’r cyfathrebu gyda'r gymuned o Deithwyr yr Oes Newydd ar Ffordd Pentraeth, o ran bod yn annibynnol a gwyntyllu eu barn.

  Dylid rhoi gwybod i bobl leol, gan gynnwys ffermwyr, ar unwaith am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol. 

  Mae Uwch Swyddogion a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai wedi gwrando ar y sylwadau a wnaed mewn cyfarfodydd ac mae gwersi wedi eu dysgu y gellir eu cynnwys mewn prosesau ymgynghori yn y dyfodol.

  Nod y Cyngor yw cynnal ymarfer ymgynghori pellach yn ystod y mis nesaf.

 

Cododd yr aelodau y materion canlynol: -

 

  Nid yw'r matrics sgorio yn caniatáu ar gyfer rhoi rhesymau pam mae rhai safleoedd yn anaddas.

  Angen i'r Aelodau fod yn rhan o'r broses ymgynghori o'r cychwyn cyntaf.

  Codwyd cwestiwn ynghylch a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Ardal Caergybi pdf eicon PDF 320 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

(Atodiad a gohebiaeth ynglwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu fod yr Asesiad a gynhaliwyd yn 2016 o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Gwynedd ac Ynys Môn wedi nodi gwersylloedd anawdurdodedig yng Nghaergybi, gan greu’r angen am safle aros dros dro.

 

Canolbwyntiodd y broses ymgynghori ar dri safle: -

 

Safle 1 - Plotiau Gwag, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi;

Safle 2 - Tir yn union i'r dwyrain o B & M, Caergybi;

Safle 3 - Tir i'r de o Alpoco.

 

Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu fod ffactorau arwyddocaol wedi eu hamlygu, a hynny’n dilyn proses ymgynghori drylwyr.  Roedd y ffactorau hynny’n awgrymu bod y tri safle yn anaddas ar Man Aros Dros Dro i sipsiwn a theithwyr. Adroddodd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Chyngor Tref Caergybi yn ogystal â Chynghorau Cymuned yn y Fali a Threarddur. Dywedodd fod yna dystiolaeth o'r ymarfer ymgynghori fod yr angen i gael safle i sipsiwn a theithwyr yng Nghaergybi yn parhau, a hynny oherwydd y cynnydd yn nifer y teithwyr sy'n mynd drwy'r porthladd.

 

Cododd yr Aelodau y materion canlynol: -

 

  Mynegwyd pryder am gymunedau sipsiwn a theithwyr sy’n byw yn lleol, a’r   rhagfarnau y maent yn eu hwynebu yn sgil hiliaeth a’r ffaith bod pobl leol yn eu camddeall.  Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd i leddfu pryderon am ragfarnau ac i atal agweddau hiliol a gododd yn ystod yr ymgynghoriad.

Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol nad oedd yr ymateb hwn tuag at sipsiwn a theithwyr yn anarferol, a’i fod yn seiliedig ar gymysgedd o sylwadau dilys, canfyddiadau a rhagfarnau, gan nad yw pob sipsi a theithiwr yn integreiddio i mewn i’r gymuned leol. Bydd yn cymryd amser i oresgyn rhagfarnau ac i ennill ymddiriedaeth.  Mae’r teithwyr sipsiwn sy’n aros am noson neu ddwy yng Nghaergybi yn byw yn rhywle arall, ac maent yn ymweld â Chaergybi am gyfnod byr wrth iddynt deithio i Iwerddon; mae’n annhebygol felly y bydd cyfleon yn codi iddynt ddod i adnabod pobl leol, er bod angen i ni barhau i godi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â rhagfarn.

  Nodwyd y byddai angen asesu patrymau teithio rhwng Caergybi ac Iwerddon. Mae cyfrifoldeb ar Stena, sy'n berchen ar lawer o dir yng Nghaergybi, fel awdurdod porthladd, i fod â rhan yn y broses o ddarganfod datrysiad. Bydd y Prif Weithredwr a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol yn ceisio cynnal trafodaethau gyda Stena.

  Codwyd cwestiwn ynghylch pam na chafodd y safleoedd yr ystyrir eu bod yn anaddas eu hadnabod fel rhai anaddas yn gynharach.  Nodwyd bod y broses wedi dechrau ym mis Ionawr ac ‘roedd raid i’r Cyngor lynu wrth yr amserlen ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.

  Cyfeiriodd Aelodau at y graff sy'n dangos ardal ehangach ar gyfer safle posib y tu allan i ddalgylch tref  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Canolbarth yr Ynys pdf eicon PDF 302 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

(Atodiad a gohebiaeth ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Eiddo (Eiddo) fod dau safle wedi eu hadnabod ar Stad Ddiwydiannol Mona fel rhan o'r broses ymgynghori. Dywedodd y Swyddog fod gwersyll anawdurdodedig wedi sefydlu ym Mona yn ystod y cyfnod ymgynghori. 

 

Nodwyd bod nifer o ffactorau pwysig wedi eu hamlygu o ran iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod ymgynghori, yn bennaf gan y Llu Awyr Brenhinol parthed diogelwch awyrennau a diogelwch personol unigolion sy’n gwersylla ar y tir. Cyfeiriodd y Llu Awyr Brenhinol at faterion sy'n ymwneud â thresmasu a sbwriel yn cael eu chwythu o gwmpas a allai achosi damweiniau neu ddifrod i awyrennau.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -

 

  Bod Pwynt 1 yr adroddiad yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwaith, h.y. na ddylid bwrw ymlaen gyda’r un o'r ddau safle a gafodd eu cynnwys yn y broses ymgynghori ac na ddylidchwaith eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.

  Bod pwyntiau 2 a 3 yn cael eu trin fel sylwadau mewn perthynas â'r dasg o nodi safle arall.

7.

Dadansoddiad o'r Ymateb i'r Ymgynghoriad - Ardal y Fenai pdf eicon PDF 367 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

(Atodiad a gohebiaeth ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn) bod angen i'r Cyngor nodi safleoedd sy'n addas i’r pwrpas.  Ystyriwyd tir yn y Gaerwen a Phenhesgyn a safle’r gwersyll anawdurdodedig cyfredol ym Mhentraeth fel safleoedd posib, yr oedd angen iddynt fod yn ddigon mawr i gartrefu pedair aelwyd. Nid oedd y safle yn y Gaerwen yn addas oherwydd cost darparu cyflenwad dwr.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad oes unrhyw broblemau sy’n ymwneud â throsedd ac anhrefn ar y safle ym Mhentraeth. Eu hunig bryder yw materion diogelwch y ffyrdd, os bydd plant yn byw ar y safle.

 

Cododd yr aelodau y materion canlynol: -

 

  Mae'r teithwyr wedi dweud y byddai’n well ganddynt aros ar y safle ym Mhentraeth. Roedd yr Aelodau'n bryderus y gallai symud y teithwyr fod yn  wastraff arian oni bai eu bod yn fodlon symud i safle newydd.

  Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ddod o hyd i safle addas ar gyfer y teithwyr ac i weithredu mewn ffordd gyfrifol, gan na fyddai’n ddiogel i’w gadael ar y safle ym Mhentraeth.

  Nodwyd bod y safle ym Mhentraeth yn ddatblygiad a oddefir, felly nid oes gan y Cyngor bwerau gorfodi i droi’r teithwyr allan heb baratoi safle addas parhaol yn gyntaf.

  Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sut y byddai'r teithwyr yn ymateb i reolau a rheoliadau. Yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r teithwyr, ‘roedd swyddogion yn teimlo y byddai'r teithwyr yn derbyn y byddai yna reolau ar gyfer safle swyddogol a fyddai’n cael ei fonitro gan y Cyngor, ond ei bod yn bwysig bod y teithwyr yn ymgysylltu’n llawn o ran cytuno’r rheolau gyda’r Cyngor.

 

Dywedodd yr Eiriolwr Annibynnol ei fod ef a Rheolwr y Strategaeth Dai a Datblygu wedi ymweld â’r teithwyr ym Mhentraeth ac wedi trafod materion gyda nhw. Dywedodd fod y teithwyr wedi cael gwybod am yr ymgynghoriad o adroddiadau papur newydd, a bod ymweliadau gan bobl leol cyn i’r ymgynghoriad ddechrau wedi eu gofidio, a bod hynny wedi gwneud drwg i’r broses ymgysylltu. Dywedodd ymhellach fod y teithwyr angen sicrwydd gan y Cyngor ac y dylid eu cynnwys yn y broses gynllunio. Cyfeiriodd at y gwaith ymgynghori sydd wedi cael ei wneud a bod sgôp bellach ar gyfer gwella cyfathrebu.

 

Rhoddwyd caniatâd i aelodau o'r cyhoedd sef Mr Lawrence Gain, Mr Gareth Morgan, Mr Wyn Jones, Mrs Foulkes a phreswylydd lleol wneud sylwadau yn y cyfarfod ac fe ddaru nhw leisio eu pryderon i'r Pwyllgor.

 

Pwyntiau a godwyd: -

 

  Materion Iechyd a Diogelwch ynghylch ansawdd aer a llygredd ym Mhenhesgyn;

  Mae angen trafodaethau pellach gyda chymunedau lleol;

  Maint a chost y datblygiad arfaethedig ym Mhenhesgyn;

  Mae’r safle ym Mhentraeth yn flêr;

  Mae mynediad i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.