Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir.

4.

Cyd-Brotocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Anawdurdodedig pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Tai ar wersylloedd anawdurdodedig yng Ngogledd Cymru.

 

Yn 2013, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ddogfen o’r enw Canllawiau ar Reoli Gwersylla Diawdurdod a gafodd ei gylchredeg i’r holl awdurdodau yn 2015. Mae’r Canllawiau yn rhoi cyngor ar rôl y Bwrdd Iechyd, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr o ran cynorthwyo’r awdurdodau lleol mewn perthynas â gwersylloedd anawdurdodedig, ac yn argymell fod pob awdurdod yn mabwysiadu protocol ar gyfer eu sefydliadau.

 

Datblygwyd Cyd-Brotocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Sipsiwn a Theithwyr Anawdurdodedig gan Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru yn unol ag egwyddorion cyson cytunedig, gan ddarparu fframwaith ar gyfer cynnal safonau a lleihau effeithiau negyddol gwersylloedd.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai bod Fforwm Prif Weithredwyr Gogledd Cymru wedi ystyried y Protocol, a dywedodd y byddai’n croesawu sylwadau’r Pwyllgor arno cyn iddo gael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoes y Pennaeth Gwasanaethau Tai grynodeb o’r adroddiad. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithredu’r protocol ar hyn o bryd, sydd yn gyson o ran ei amcanion, ac yn deg i deithwyr, busnesau a pherchnogion tir lleol. Mae’r protocol yn gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau’r Cyngor mewn perthynas â gwersylloedd anawdurdodedig ar dir y Cyngor a thir preifat.

 

Rhoes y Rheolwr Datblygu a Strategaeth Tai ddiweddariad ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â theithwyr sy’n byw mewn gwersylloedd yn ardal Caergybi ar hyn o bryd. Adroddodd fod rhybuddion wedi eu cyflwyno i deithwyr mewn dau leoliad gwahanol, ond eu bod wedi symud i leoliad arall erbyn hyn. Adroddodd y Rheolwr hefyd ei bod mewn cysylltiad ag Adran Gyfreithiol Cyngor Sir Conwy er mwyn derbyn cyngor cyfreithiol ar faterion yn ymwneud â theithwyr.

 

Trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn:-

 

  Mae teithwyr yn tueddu i wersylla ar dir y Cyngor yn hytrach nag ar dir preifat, gan fod teithwyr yn ymwybodol bod y Cyngor yn wynebu proses gyfreithiol hirfaith er mwyn eu troi nhw allan.

  Mewn perthynas â busnesau ar safle Mona, dylai’r Cyngor ofyn i fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru geisio barn y Ffederasiwn Busnesau Bach, er mwyn tynnu eu sylw at y Protocol, ac i roi cyfle iddynt gynnig sylwadau.

  Nodwyd bod swyddogion prosiect yn y broses o fapio safleoedd ar gyfer datblygu safleoedd teithwyr awdurdodedig, a ddylai fod yn weithredol ymhen deuddeng mis.

  Mewn perthynas â’r gwersylloedd newydd, nodwyd bod swyddogion y Cyngor yn ymweld â, ac yn asesu, safleoedd teithwyr o fewn diwrnod neu ddau iddynt gael eu meddiannu. Mae’n rhaid i’r Protocol fod yn hyblyg a rhoi ystyriaeth i anghenion lleol. Gall gorchmynion gorfodaeth amrywio oherwydd bod y Llysoedd ar gau ar benwythnosau.

 

Mynychodd y Rheolwr Datblygu a Strategaeth Tai Fforwm Sipsiwn a Theithwyr Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn rhan o’r broses o lunio’r Protocol. Roedd trafodaethau’r Fforwm yn canolbwyntio ar brofiadau amrywiol awdurdodau lleol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi  Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd).

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Cyflenwi Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) yn rhoi trosolwg o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd yn ystod 2015/16 a’r datblygiadau ar gyfer 2016/17.

 

Mae gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor hwn bob blwyddyn i gyflwyno trosolwg o’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â hwy. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag Adran 19 a 20, Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006. Mae’n ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a’r diwygiadau dilynol yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i’r agenda diogelwch cymunedol yn lleol.

 

Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ymdrin â:-

 

  Throsedd ac Anhrefn

  Camddefnyddio Sylweddau

  Lleihau aildroseddu

  Cyflawni asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith a wneir ar sail ranbarthol bellach)

  Rhoi cynlluniau ar waith i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)

 

Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai at y negeseuon cadarnhaol a dderbyniwyd a welir ym mhwynt 4 yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

  Mae troseddau meddiangar yn Ynys Môn yn isel o gymharu ag ardaloedd eraill;

  Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau ers 2012;

  Mae’r niferoedd o bobl yn adrodd am drais yn y cartref ar gynnydd ers 2012, ac mae hynny i’w groesawu;

  Mae nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu hadrodd wedi aros yr un fath;

  Mae ail-droseddu wedi gostwng.

 

Adroddodd y Swyddog Cefnogi, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Ynys Môn a Gwynedd) bod cais wedi ei wneud, yn ystod y cyfarfod blaenorol ddeunaw mis yn ôl, am fwy o ddata ar berfformiad, ac mae hyn bellach wedi ei gynnwys yn yr atodiadau i’r adroddiad. Amlinellodd y Swyddog Cefnogi yr adroddiad a chyfeiriodd at y prif gerrig milltir y daethpwyd ar eu traws yn ystod 2016/17 sydd i’w gweld mhwynt 6 yr adroddiad.

 

Cododd yr Aelodau y materion a ganlyn:-

 

  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi arwain mewn perthynas â throsglwyddo rhai gwasanaethau i system ranbarthol, mabwysiadu strwythur rhanbarthol mewn rhai meysydd gwaith y byddent yn atebol amdanynt.

  Cymharwyd lefelau ail-droseddu yn Ynys Môn gydag ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru a dengys y ffigyrau dueddiad tuag at i lawr, gyda chynnydd bychan o safbwynt aildroseddu ymysg oedolion.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oes cynllun strategol yn ei le er mwyn ymdrin â throseddwyr yn CEM Berwyn, Wrecsam yn y dyfodol. Awgrymwyd fod cynrychiolydd o’r carchar newydd yn dod i gyfarfod y Cyngor Sir neu’r Pwyllgor Sgriwtini i roi cyflwyniad ar waith ataliol a chydweithio. Mae Bwrdd Rhanbarthol Goruchwylio Carchar yn bodoli eisoes, a bydd cyrff eraill yn gweithio o’r carchar o fewn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Effeithiolrwydd cefnogaeth GwE wrth wella deilliannau ysgolion categoriau coch ac oren 2014-2016 pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Her (GwE) yn amlinellu dadansoddiad o ganlyniadau gwaith a ymgymerwyd gan y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion (GwE) mewn ysgolion categori oren a choch yn Ynys Môn yn ystod y cyfnod 2014/16.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y broses hunan arfarnu a gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor sgriwtineiddio’r agweddau allweddol canlynol:-

           

  Sut mae’r Awdurdod yn monitro ac yn herio gwaith GwE?

  Sut mae’r Awdurdod yn gwybod os yw’n cael gwerth am arian gan GwE?

  Sut mae’r Awdurdod yn sicrhau bod gwaith GwE wedi’i alinio gyda chynlluniau a bwriadau lleol a bod yr agweddau allweddol sydd angen sylw yn cael eu targedu’n effeithiol?

  Pa wahaniaeth y mae cefnogaeth GwE wedi’i gael ar ddeilliannau, safonau cyflawniad ac ansawdd arweinyddiaeth yn ysgolion categori oren a choch yn Ynys Môn?

  Ym mha ysgolion y gwelir y gwahaniaethau amlycaf?

  Pa agweddau sydd angen eu blaenoriaethu wrth symud ymlaen er mwyn sicrhau gwelliannau pellach?

 

Adroddodd yr Uwch Ymgynghorydd Her fod GwE yn cydweithio â nifer o ysgolion, rhai ohonynt fel astudiaethau achos, sydd yn ddienw. Nodwyd bod yr adroddiad wedi’i seilio’n bennaf ar berfformiad ysgolion cynradd, ond cyfeiriwyd hefyd at y ddwy ysgol uwchradd categori melyn/coch yn Ynys Môn y llynedd. Dim ond gydag un o’r ddwy ysgol uwchradd y bu GwE’n gweithio ac arweiniodd hynny at welliant sylweddol rhwng 2015/16. Roedd yr ysgol arall, a oedd yn rhan o’r blaengaredd cenedlaethol ‘Her Ysgolion Cymru’, a oedd yn cael ei arwain a’i fonitro gan y Gweinidog Addysg, wedi gwneud llai o gynnydd.

 

Rhoes yr Uwch Ymgynghorydd her grynodeb o berfformiad yn erbyn dangosyddion yn ysgolion Ynys Môn. Dywedodd mai prif gyfrifoldebau GwE oedd darparu arweiniad a chefnogaeth a gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i roi sylw i unrhyw heriau, er mwyn datblygu system addysg fydd â’r cynhwysedd, y sgiliau a’r hyder i ymgymryd â rhaglen hunan-wella.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol:-

 

  Mae hybiau Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio’n dda,  ond mae angen  parhau i’w gwella. Mae’r model cefnogi ysgolion a ddefnyddir ar hyn o bryd wedi cael ei addasu o ganlyniad i ganfyddiadau Estyn.

  Cyfeiriwyd at adroddiad Estyn, Ebrill 2016, a oedd yn nodi bod gormod o ffocws wedi ei roi ar wella ysgolion yn y categori oren/coch o gymharu â grwpiau eraill. Nodwyd bod ysgolion yn y categori hwn angen cefnogaeth fwy dwys er mwyn datblygu eu gallu i wella yn unol ag anghenion penodol. Mae ysgolion gorau’r Awdurdod yn rhagori o safbwynt perfformiad ac nid ydynt angen yr un lefel o gefnogaeth.

  Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ar y modelau categoreiddio ysgolion. Nodwyd bod yr Ymgynghorwyr Her yn trafod a monitro gwaith a pherfformiad ysgolion. Er bod cam 1 y broses gategoreiddio yn cael ei yrru gan ddata, Ymgynghorwyr Her  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 516 KB

Cyflwyno’r Rhaglen Waith gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai 2017.

 

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 22 Tachwedd 2016 gyda’r eitemau canlynol ar agenda’r cyfarfod:-

 

  Trawsnewid Gwasanaethau Ieuenctid

  Cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ynys Môn

 

Bydd cynrychiolydd o BIPBC a swyddogion y Cyngor yn bresennol i roi cyflwyniad ar gydweithio rhwng BIPBC a’r Cyngor Sir. Nod y sesiwn fydd sgriwtineiddio integreiddio gwasanaethau ac awgrymu sut y gellir eu gwella er budd pobl Ynys Môn.

 

Cytunodd y Pwyllgor maiTrawsnewid Gwasanaethau Ieuenctidfyddai’r eitem gyntaf ar yr agenda, ac y byddai’r eitem BIPBC yn cychwyn am 3.15 pm, a gwahoddir Aelodau’r Panel Sgriwtini Corfforaethol i fod yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith a gyflwynwyd.