Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 4.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 87 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 26 Medi, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2016 fel rhai cywir.

4.

Barn Sgriwtini ar Opsiynau ail fodelu'r Gwasanaeth Ieuenctid pdf eicon PDF 738 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddwyd bod adolygiad manwl o’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi ei gynnal o 2013/14, o ganlyniad i’r Cynllun Corfforaethol ac anghenion y gwasanaeth, a bod 5 opsiwn wedi eu hadnabod ar gyfer datblygu’r gwasanaeth i’r dyfodol. Adnabuwyd opsiynau gwahanol y gellid eu darparu a fyddai’n arwain at arbedion effeithlonrwydd o rhwng 28% a 67%. Cynhaliwyd ymgynghoriad eang gyda dros 1,000 o bobl ifanc yn ystod yr hydref 2015. Gyda’r opsiynau  oedd yn weddill, cynhaliwyd Cynhadledd Ieuenctid ar 24 Medi 2016, gyda 54 o bobl ifanc yr ynys yn bresennol, gyda chroestoriad o bobl ifanc o 11 i 25 oed o bob rhan o’r ynys. Cyflwynwyd yr opsiynau hefyd i staff yn y Seminar Staff ar 8 Hydref 2016.

 

Yn 2013/14 cafodd Dysgu Gydol Oes y dasg o ganfod toriadau posibl rhwng 10% a 60% yng nghyllideb y gwasanaeth ieuenctid; cyllideb net y Gwasanaeth Ieuenctid ar y pryd oedd £560,170. Cynhwyswyd dadansoddiad o’r modelau/opsiynau ar gyfer lleihau gwariant yn yr adroddiad.

 

Yn ystod yr ail ymgynghoriad, amlygwyd y materion canlynol:

 

·           Dylid cadw’r ddau glwb ieuenctid ar gyfer pobl sydd ag anghenion addysgol arbennig yn agored;

·           Dim cefnogaeth i gael clybiau achredu amser cinio;

·           Nid oeddent yn fodlon teithio i glwb yn y dref os byddai clwb y pentref yn cau;

·           Dylai’r clybiau gael eu rhedeg gan weithwyr ieuenctid cymwys/profiadol, nid gwirfoddolwyr;

·           Ni ddylid cau clybiau ieuenctid bychan yn llwyr er mwyn cadw clybiau mawr ar agor am ddwy noson yr wythnos;

·           Mae’n bwysig bod y gweithwyr ieuenctid yn siarad Cymraeg;

·           Mae’n bwysig cael gweithiwr ieuenctid ym mhob ysgol;

·           Roeddent yn flin/siomedig bod y Cyngor yn gwneud toriadau i’r gwasanaeth ieuenctid.

 

Dywedodd y Prif Weithiwr Ieuenctid yr ystyrir bod risgiau’n gysylltiedig â’r ailfodelu oherwydd y newidiadau i swyddi rhan-amser a cholli staff cymwys sydd â phrofiad sylweddol. Yn ychwanegol, ni fydd yr un ddarpariaeth ar gael i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig, er y bydd yn haws iddynt ddod i gysylltiad â’r Gweithwyr Ieuenctid gan y byddant yn gweithio’n agosach ag ysgolion.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

·           Mae pobl ifanc yn derbyn cyfleoedd gwerthfawr yn y clybiau ieuenctid ac mae angen gwarchod y gwasanaeth;

·           Yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi cefnogi ceisiadau am grant gan Sefydliad y Ffermwyr Ieuainc a’r Urdd, ond nid oes gan glybiau ieuenctid fynediad at arian grant o’r fath;

·           Mae pobl ifanc sy’n mynd i glybiau ieuenctid yn eu pentrefi yn anfodlon teithio i glybiau ieuenctid yn y trefi oherwydd bod cael ymdeimlad o berchnogaeth dros eu clwb ieuenctid yn holl bwysig iddynt. Gallai cau clybiau ieuenctid cymunedol arwain at bobl ifanc yn ymgasglu gan achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned oherwydd diffyg lleoliad iddynt gymdeithasu; nid oes gan rai pentrefi Glwb Ffermwyr Ieuainc nac adran yr Urdd;

·           Byddai lleihau nifer y clybiau ieuenctid yn amddifadu pobl ifanc o deithiau diwylliannol a hanesyddol i ardaloedd gwahanol yn y Deyrnas Unedig;

·           Caiff pobl ifanc gyfle i drafod pynciau amrywiol e.e. bwlio, addysg rhyw, cam-drin, problemau cyffuriau ac  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yn Ynys Môn pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs. Ffion Johnstone – Cyfarwyddwr Ardal (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr. Stephen McVicar – Cyfarwyddwr Meddygol Ardal (Gorllewin) – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr and Ms. Sian Purcell – Prif Swyddog (Medrwn Môn) i’r cyfarfod. Croesawodd hefyd Swyddogion o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Proses Busnes) at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sy’n gosod fframwaith cyfreithiol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gydweithio er mwyn asesu anghenion gofal a chefnogaeth pobl, ac anghenion cefnogaeth gofalwyr. Dywedodd bod y 6 awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru’n cydweithio â’r bwrdd iechyd lleol i gynhyrchu Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru sy’n adnabod anghenion gofal a chefnogaeth pobl ar hyn o bryd ac i’r dyfodol ac yn cefnogi integreiddio gwasanaethau. Cyhoeddir yr asesiad ym mis Ebrill 2017. Yn dilyn hynny bydd rhaid i’r awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd lleol lunio cynllun ardal o fewn deuddeg mis.

 

Cafwyd cyflwyniad byr a amlygodd y gwaith partneriaeth sy’n digwydd rhwng yr Awdurdod, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Trydydd Sector mewn perthynas â Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yn Ynys Môn. Sefydlwyd byrddau gwasanaeth ac esboniwyd eu rolau i’r Pwyllgor fel a ganlyn :-

 

·           Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y Cyd (Gwynedd ac Ynys Môn);

·           Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc (Ynys Môn);

·           Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol;

·           Model Môn;

·           Bwrdd Cyflenwi Integredig (Ynys Môn);

·           Bwrdd Prosiect Un Pwynt Mynediad;

·           Bwrdd Rheoli Gwasanaethau Arbenigol Plant;

·           Bwrdd Cefnogi Teuluoedd Gogledd Cymru;

·           Bwrdd Rheoli Lleol Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd;

·           Nightowls;

·           Tîm Cymunedol Gweithio ar Benwythnosau.

 

Esboniodd Dr. McVicar rôl Tîm Gofal Uwch Môn sy’n cefnogi Meddygon Teulu i gadw cleifion sydd â phroblemau meddygol aciwt yn eu cartrefi pan fyddent fel arall yn cael eu hanfon i’r ysbyty. Lleolir y Tîm o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llangefni ac mae’n cynnwys Uwch-Ymarferwyr Nyrsio, Ymarferwyr Cynorthwyol a Meddygon Teulu ac mae’n cynnig cefnogaeth i bobl oedrannus bregus er mwyn eu cynorthwyo i aros yn eu cartrefi yn ddiogel. Cyfeiriodd Dr. McVicar at Dîm Model Môn sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Ynys Môn a’r Trydydd Sector ac sydd yn monitro prosiectau amrywiol sy’n cyflenwi gofal iechyd a chymdeithasol integredig i drigolion yr Ynys.

 

Cyfeiriodd Dr. McVicar at y tîm ‘Nightowls’ a sefydlwyd gyda chyllid y Gronfa Gofal Integredig. Grŵp o 6 o ofalwyr profiadol yw ‘Nightowls’ gyda 3 yn gweithio shifftiau ar sail rota. Mae ‘Nightowls’ yn cynnig gofal yn ystod y nos i bobl sydd wedi dod adref o’r ysbyty ac sydd bellach yn ôl yn eu cartrefi. Esboniodd bod y tîm Cymunedol Gweithio ar Benwythnosau, yn cynnwys Gweithiwr Cymdeithasol, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol a Thîm o Nyrsys Ardal sy’n golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i bobl Ynys Môn 7 niwrnod yr wythnos.

 

Esboniodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Plant waith y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd sy’n gweithio gyda theuluoedd lle mae camddefnyddio alcohol neu sylweddau yn brif  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 176 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith drafft y Pwyllgor hyd at fis Mai 2017.

 

Mynegodd un o’r Aelodau bryder nad yw datblygwyr mawr posibl ar yr ynys wedi mynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini. Nododd bod angen i ddatblygwyr o’r fath roi gwybodaeth am a thrafod cyfleoedd gwaith posibl fydd yn cael eu creu yn sgil datblygiadau o’r fath ar yr Ynys ac y dylid cynnal cyfarfod arbennig i drafod materion o’r fath. Dywedodd y Swyddog Sgriwtini wrth yr Aelodau ei fod wedi cysylltu â datblygwyr prosiect Land and Lakes (Caergybi) yn y gorffennol ond na fyddent yn gallu derbyn gwahoddiad gan eu bod yn y broses o gyflwyno ceisiadau cynllunio i’r awdurdod lleol ac nad oeddent eisiau rhagfarnu unrhyw benderfyniadau a thrafodaethau masnachol sensitif â sefydliadau eraill.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith ddrafft a gofyn i’r Swyddog Sgriwtini gysylltu â datblygwyr mawr a’u gwahodd i fynychu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor gyda hynny.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.