Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 20fed Ebrill, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Chwefror, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2017.

 

4.

Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar fuddion sefydlu Is-Grŵp Cyllid fel is-banel o’r Pwyllgor hwn, gyda dau aelod etholedig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. Bwriedir cynnal yr Is-Grŵp ar ffurf cyfarfodydd busnes. Nododd ei bod yn fwriad datblygu model o weithio sy’n canolbwyntio ar grŵp llai er mwyn galluogi Aelodau i graffu ar drafodaethau cyllidol mewn mwy o fanylder yng nghyfarfodydd y ddau Bwyllgor Sgriwtini. Sgôp ac ystod arfaethedig y Panel fydd craffu ar y pynciau a ganlyn:-

 

·      Monitro Chwarterol y Gwariant Refeniw a Chyfalaf

·      Cyllideb y flwyddyn i ddod

·      Cynllun Cyllidol Tymor Canol

·      Rheoli Dyledion

·      Polisi Rhyddhad Treth ar Fusnesau

·      Cynllun Busnes y CRT

·      Balansau a chronfeydd wrth gefn y Cyngor

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn -

 

·      Gofynnwyd a fyddai rôl yr Is-Grŵp Cyllid yn dyblygu neu’n ymyrryd â rôl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu? Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mai rôl y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yw monitro risgiau a rheolaeth ariannol y Cyngor a thrwy hynny roi sicrwydd i’r Cyngor;

·      Gofynnwyd cwestiynau am yr hyfforddiant fydd yn cael ei roi i Aelodau’r Is-Grŵp Cyllid. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro y disgwylir y bydd Aelodau Etholedig ar yr Is-Grŵp yn cael eu datblygu yn hytrach na darparu sesiwn hyfforddiant ar eu cyfer. Nododd y bydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’i dîm yn rhoi arweiniad i Aelodau Etholedig ar brosesau/themâu cyllidebol penodol o fewn y Cyngor. Rhagwelir y bydd Aelodau’n gallu craffu ar a chwestiynu’r broses gyllidebol yn drylwyr yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Sgriwtini wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma wrth sefydlu trefniadau craffu cadarn ar gyfer materion cyllidol;

·           awdurdodi’r Rheolwr Sgriwtini Dros Dro, mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i wneud trefniadau i sefydlu Panel Sgriwtini Cyllid.

 

5.

Panel Sgriwtini Plant pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro ar fuddion sefydlu Panel Sgriwtini Plant mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan AGGCC yn dilyn yr arolygiad diweddar o Wasanaethau Plant yn Ynys Môn. Mae’r argymhelliad yn canolbwyntio ar bwysigrwydd parhad cefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol gref ar gyfer y gwasanaethau plant i sicrhau bod y gwelliannau sydd eu hangen ar wasanaethau yn cael eu blaenoriaethu a bod cyflymder y gwelliannau yn cynyddu ac yn cael ei gynnal. Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro at y panel traws bleidiol o Aelodau presennol sydd wedi bod yn edrych ar ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a goruchwylio Cynllun Gwella cyntaf y Gwasanaethau Plant. Dywedodd bod yr adroddiad yn ceisio adeiladu ar y sylfaen a osodwyd yn barod gan y panel traws bleidiol, drwy ddwyn y Pwyllgor Gwaith ac Uwch Reolwyr i gyfrif drwy sgriwtini er mwyn rhoi sicrwydd i’r Awdurdod ac AGGCC bod y broses wella yn un cadarn ac yn gynaliadwy.

 

Adroddodd y Swyddog ar sgôp arfaethedig y Panel a’i nod ac amcanion, sy’n cael eu crynhoir ym mharagraff 5 yr adroddiad. Wrth ystyried aelodaeth y Panel, cyfeiriwyd yn benodol at bwysigrwydd ceisio sicrhau, fel egwyddor allweddol, bod elfen o barhad o ran aelodaeth.

 

Croesawodd yr Aelodau y syniad o sefydlu Panel Sgriwtini Plant a nodwyd y dylid ystyried cynnwys Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf fel aelod o’r Panel.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           nodi’r cynnydd wnaed hyd yma wrth sefydlu trefniadau craffu cadarn ar gyfer y Gwasanaethau Plant;

·           derbyn sgôp ac ystod gwaith y Panel Plant newydd, gyda sicrhau elfen o barhad yn yr aelodaeth yn egwyddor allweddol wrth ystyried aelodaeth y Panel;

·           nodi mai’r cam nesaf fydd cwblhau’r trefniadau ymarferol i sefydlu’r Panel Plant yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol, gan y Rheolwr Sgriwtini, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes).

 

6.

Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 47 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Swyddog Sgriwtini bod y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi ei sefydlu ym mis Tachwedd 2012 a’i bod erbyn hyn yn briodol i ddiweddaru Cylch Gorchwyl y Panel i’w gyflwyno i aelodau newydd y Panel yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl a nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.

Adolygu Sgriwtini Partneriaethau pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Sgriwtini adroddiad cefndir manwl mewn perthynas â phartneriaethau sydd gan y Cyngor ar hyn o bryd â sefydliadau eraill. Nododd bod Uned Archwilio Fewnol y Cyngor wedi cwblhau adroddiad ar drefniadau llywodraethu gwaith partneriaeth ym mis Rhagfyr 2015 a fu’n sbardun i symud ymlaen gyda rhai meysydd datblygu allweddol. Argymhellwyd bod angen creu dogfen bolisi ar gyfer partneriaethau ac ar 14 Mawrth 2015 cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith ddogfen Polisi Partneriaethau Corfforaethol fel sylfaen ar gyfer gwaith partneriaeth a hefyd fel fframwaith i arwain trefniadau monitro partneriaethau.

 

Nododd bod gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio rôl bwysig o ran sicrhau lefel briodol o ymgysylltu gyda sefydliadau eraill sy’n creu unrhyw bartneriaeth. Wrth gyflawni’r rôl mae nifer o feysydd posib y dylid eu hystyried, yn cynnwys y materion canlynol:

 

·           Craffu ar drefniadau llywodraethu;

·           Craffu ar gyfraniad y Cyngor;

·           Arfarnu effeithiolrwydd gwaith partneriaeth yn ei gyfanrwydd

·           Sicrhau ymgysylltiad cyhoeddus a phartneriaethau a strategaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

 

Mae'n briodol bod y Pwyllgor yn canolbwyntio ar bartneriaethau strategol allweddol ond hefyd yn monitro unrhyw bartneriaethau gwasanaeth gweithredol allweddol, fel y cynigiwyd gan naill ai yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth neu’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel rhan o drefniadau gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ei bod yn bwysig fod Aelodau Etholedig sy’n cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor perthnasol ynglŷn â gwaith y sefydliadau hyn. Nododd bod angen ffurfioli proses yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD nodi’r gwaith a wnaethpwyd gan y Pwyllgor o ran craffu ar effeithiolrwydd partneriaethau dros y 12 mis diweddaf a chytuno i adeiladu ar y trefniadau craffu presennol yn ystod blwyddyn newydd y Cyngor.   

8.

Rhaglen Waith 2017/18 pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno drafft o Raglen Waith 2017/18 gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar y Rhaglen Waith Ddrafft ar gyfer 2017/18.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith Ddrafft ar gyfer 2017/18.