Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 24ain Ionawr, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Jim Evans ei ethol yn Gadeirydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Evans i Aelodau’r Pwyllgor am ddangos hyder ynddo i Gadeirio’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. Cyfeiriodd at Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, Mr Derlwyn R Hughes, a oedd wedi penderfynu sefyll i lawr fel Aelod Etholedig ward aml-aelod Lligwy a hynny’n dilyn derbyn cyngor meddygol. Roedd Mr Derlwyn R Hughes wedi cynrychioli Ward Moelfre yn flaenorol wedi iddo gael ei ethol i’r hen Gyngor Bwrdeistref ym 1989. Dywedodd y Cadeirydd fod Mr Derlwyn R Hughes yn uchel iawn ei barch fel Aelod Etholedig ac fel Cadeirydd o’r Pwyllgor hwn.  

 

Roedd yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Alun Mummery, hefyd yn dymuno diolch i Mr Derlwyn R Hughes am yr arweiniad a ddangosodd iddo fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn. Nododd fod gan Mr Derlwyn R Hughes barch mawr tuag at waith y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio. 

 

Mynegodd Aelodau a Swyddogion y Pwyllgor eu dymuniadau gorau i Mr Derlwyn R Hughes.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 61 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 22 Tachwedd, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2016 fel rhai cywir.

5.

Asesiad Anghenion Poblogaeth pdf eicon PDF 8 MB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion ar Pennaeth Gwasanaethau Plant Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant dros dro mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol  (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru yn nodi anghenion gofal a chefnogaeth presennol y boblogaeth ac ar gyfer y dyfodol, ynghyd ag anghenion cefnogaeth gofalwyr. Mae Ardal Gogledd Cymru yn cynnwys chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhaid paratoi un adroddiad ar gyfer Ardal Gogledd Cymru a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y chwe Chyngor Sir a Bwrdd y Gwasanaeth Iechyd Lleol erbyn 1 Ebrill, 2017. Fe nododd fod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) angen i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynhyrchu adroddiad asesiad poblogaeth ar gyfer pob cylch etholiadol llywodraeth leol, bob 5 mlynedd, ynghyd ag adolygiad o’r asesiad ar ôl dwy flynedd. Nodwyd y  bydd yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhelir ym mis Chwefror ac yn dilyn hynny fe’i cyflwynir i’r Cyngor llawn ar gyfer ei gymeradwyo.   

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y bydd yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer ystyried gwasanaethau gofal a chefnogaeth y bydd eu hangen ar bobl yr Ynys yn y dyfodol. Bydd delio â’r cynnydd ym mhoblogaeth y bobl hŷn a phobl anabl yn heriol. Mynegodd Aelodau bryder am lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweithrediad y Cynllun Ardal Lleol.

 

Cododd yr Aelodau y materion canlynol:-

 

·           Gofynnwyd cwestiynau o ran sut roedd yr asesiad anghenion poblogaeth yn cael ei ariannu. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) gan ddweud bod nifer o grantiau wedi eu derbyn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, yn ogystal ag amser swyddogion yr Awdurdod Lleol a byrddau iechyd. Cyfeiriodd yn benodol at y Grant Trawsnewid Datblygiadau (GTD) a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, mae hwn yn grant rhanbarthol er mwyn ariannu cydweithio ac arloesedd ar draws nifer o feysydd. Mae cyllid o’r grant GTD wedi hwyluso cyflogi Swyddog i gydlynu’r gwaith o baratoi’r Asesiad Anghenion Poblogaeth. Mae’r Grant Gofal Canolradd (GGC) hefyd wedi’i dderbyn sy’n canolbwyntio ar roi i bobl y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn eu galluogi i beidio â mynd i’r ysbyty yn ddi-angen, er mwyn eu helpu i fyw mewn modd mor annibynnol a phosibl ar ôl dod allan o’r ysbyty ac er mwyn eu hatal rhag gorfod symud i gartrefi preswyl neu gartrefi nyrsio tan fod gwir angen. Bydd y gronfa hon yn cefnogi’r bartneriaeth ranbarthol er mwyn ystyried gwasanaethau arloesol er mwyn bodloni’r anghenion y tynnwyd sylw atynt yn y PNA wrth symud ymlaen.    

 

·           Codwyd cwestiynau o ran pryd fydd yr awdurdod yn ymgynghori â sefydliadau/grwpiau allanol nad yw rhywun wedi ymgynghori â nhw hyd yma yn ystod y broses ymgynghori bresennol. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr drwy ddweud bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn nodi’r angen i ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth yn ogystal  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - diweddariad ar y broses o lunio Asesiad o Lesiant Lleol pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaeth mewn perthynas â’r uchod.

 

Nodwyd bod cytundeb wedi’i wneud i gydweithio gyda Bwrdd Ardal Awdurdod Gwynedd ac mae’r Bwrdd ar y cyd wedi bod yn cyfarfod bob chwarter yn ystod  blwyddyn ariannol 2016/17. Bydd angen i’r Bwrdd ymgymryd ag Asesiad Llesiant Lleol ar gyfer yr ardal. 

 

Mae is-grŵp wedi’i sefydlu er mwyn arwain y gwaith o ymgymryd â’r asesiad ac mae’r data perthnasol wedi cael eu casglu gan y partneriaid perthnasol drwy’r grŵp hwn. Cynhaliwyd nifer o sesiynau cymunedol yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, 2016 lle cynhaliwyd trafodaethau diddorol o fewn y cymunedau. Mae gweithdy ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer 25 Ionawr, 2017 lle bydd Aelodau yn trafod data, y sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion a grwpiau ac i gytuno ar strwythur yr asesiad. Bydd drafft o’r asesiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 24 Chwefror, 2017 er mwyn ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad anstatudol. Bydd yr Asesiad terfynol yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd yn mis Ebrill ac yn cael ei gyhoeddi’n llawn cyn Etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai, yn unol ag anghenion y Ddeddf.  

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

GWEITHRED: Fel yr uchod.