Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Hydref, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2017.

4.

Diweddariad ynglyn a'r Cynllun Gwelliant - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd pdf eicon PDF 501 KB

Cyflwyno adroddiad gan  Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd mewn perthynas â’r uchod.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan Reolwr Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y gwaith a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn llunio Cynllun Llesiant ar gyfer ardal Awdurdod Lleol Ynys Môn.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mai prif ffocws gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd am y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mai 2017 oedd llunio Asesiad Llesiant ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gynhyrchu Cynllun Llesiant a gyhoeddir ym mis Mai 2018. Er mwyn ymateb i'r amserlen yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd angen cyhoeddi Cynllun Llesiant drafft erbyn canol mis Rhagfyr 2017. Wedi hynny cynhelir ymgynghoriad statudol am gyfnod o 12 wythnos ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, cynhelir gweithdai ar gyfer Swyddogion ac ymwelir â grwpiau cymunedol er mwyn gwerthuso safbwyntiau trigolion yr Ynys.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y cafwyd cyfarfod o'r Bwrdd ym mis Hydref a mis Tachwedd a bod trafodaethau yn parhau er mwyn cytuno ar amcanion Llesiant y Bwrdd. Fodd bynnag, bu llithriad o tua 4 wythnos o ran cyhoeddi Cynllun Llesiant drafft ar gyfer ymgynghoriad statudol. Mae hyn yn adlewyrchu'r her o weithio fel partneriaeth ond hefyd yn amlygu ymrwymiad aelodau'r Bwrdd i gynhyrchu Cynllun cyraeddadwy a chadarn ar gyfer trigolion Ynys Môn a Gwynedd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r adroddiad a chododd y prif faterion canlynol: -

 

  Gofynnwyd am eglurhad ar ddisgwyliadau'r Swyddogion ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar y Cynllun Llesiant oherwydd iddo gael ei nodi mewn cyfarfodydd blaenorol fod y ffigurau’n siomedig o ran y niferoedd a fynychodd y gweithdai yn y 6 rhanbarth yn Ynys Môn. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen y bwriedir i Swyddogion fynychu grwpiau cymunedol yn ystod y cyfnod ymgynghori e.e. Ysgolion, Age Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ifanc. Cynhelir ymarferiad ymgynghori ar-lein hefyd.

  Holwyd pryd y bydd y Pwyllgor Sgriwtini hwn yn cael gwybod am ganlyniadau'r broses ymgynghori. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen trwy ddweud y bydd aelodau’r Pwyllgor Sgriwtini hwn, a'r holl Aelodau eraill, yn cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad fel ymgyngoreion statudol.

Dywedodd hefyd ei bod yn rhagweld y bydd Cynllun Llesiant Drafft yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ei gymeradwyo gyda hyn.

  Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd cydweithio gyda sefydliadau partner yn effeithiol o ran paratoi ar gyfer y Cynllun Llesiant. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod llithriad o 4 wythnos o ran cyhoeddi'r Cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad ond ychwanegodd fod yn rhaid i'r Cynllun Llesiant fod yn gadarn ac yn wydn i fynd i'r afael â materion mewn cymunedau lleol. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen hefyd fod y Bwrdd yn cwrdd bob mis ar hyn o bryd sy'n dangos ymrwymiad y sefydliadau partner a'r ddau awdurdod lleol i lunio Cynllun Llesiant effeithiol.

  Cyfeiriodd yr Aelodau at y 9 prif neges yn yr Asesiad Llesiant a nodwyd yn yr adroddiad a holodd pa mor realistig yw'r nodau hyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd ar y Defnydd o'r Gymraeg o fewn y Weinyddiaeth Fewnol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, y Gymuned a Gwella Gwasanaethau) mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) ar y defnydd o'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant ei fod yn cynrychioli'r Aelod Portffolio ar gyfer Trawsnewid a'r Iaith Gymraeg gan nad oedd y Cynghorydd I. Williams yn gallu mynychu'r cyfarfod. Dywedodd fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu'r Polisi Iaith Gymraeg yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 ac, wrth fabwysiadu'r polisi, penderfynwyd mabwysiadu paragraff 3.2.4 y Polisi Iaith Gymraeg fel y nodwyd yn yr adroddiad i gyflwyno adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor Sgriwtini ar y mater hwn ar yr un pryd â'r adroddiad blynyddol ar weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg. Mae ymrwymiad hefyd yn Strategaeth Iaith y Sir i weithio i sicrhau mai Cymraeg yw prif iaith weinyddol y Cyngor Sir ar gyfer y cyfnod 2016-2022.

 

Rhoddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth drosolwg o'r gwaith a wnaed yn ystod y 12 mis diwethaf mewn perthynas â datblygu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o fewn Gweinyddiaeth y Cyngor. Y nod tymor byr yw cynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg ar lafar trwy annog staff i siarad mwy o Gymraeg, p'un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ddysgwyr da neu'n ddysgwyr llai profiadol; gellir defnyddio’r gweithle a chyfleon anffurfiol i ymarfer. Nododd mai’r Gwasanaeth Tai, ym mis Medi 2016, oedd y gwasanaeth cyntaf i gael ei ddewis i weithio'n ddwys gydag ef er mwyn sefydlu gwaelodlin o'r defnydd a wneir o'r Gymraeg o fewn y gwasanaeth. Cytunwyd ar Gynllun Gweithredu gyda'r Tîm Rheoli yn y Gwasanaeth Tai er mwyn cwrdd â’r amcan o ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Nodwyd Hyrwyddwyr Iaith yn y Gwasanaeth Tai ac maent wedi mynd ati o’u gwirfodd i gynhyrchu a dosbarthu holiadur ac wedi cynnal sesiynau ar gyfer eu cydweithwyr er mwyn sefydlu beth yw eu hanghenion a pha fath o gymorth y maent ei angen. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth mai’r gwasanaethau nesaf a fydd yn cael cymorth i annog staff i siarad mwy o Gymraeg yn y gweithle fydd y Gwasanaeth Hamdden a'r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.

 

Cafodd y cyfarfod gyflwyniad byr gan ddau Hyrwyddwr Iaith o'r Gwasanaeth Tai. Cafwyd gwybod ganddynt fod 8 o Hyrwyddwyr Iaith wedi gwirfoddoli i gynnig eu gwasanaeth i hyrwyddo ac annog defnyddio'r Gymraeg yn y Gwasanaeth Tai. Gwnaed argymhelliad yn ystod y trafodaethau i greu cyfeiriad e-bost generig o fewn y gwasanaeth i Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg fel bod staff yn cael y cyfle i rannu syniadau neu i ofyn am y cymorth y maent ei angen. Trefnwyd i Menter Môn fynychu cyfarfod staff y Gwasanaeth Tai i hyrwyddo'r Gymraeg ac i rannu hanes yr iaith dros ganrifoedd. Rhoddodd yr Hyrwyddwyr Iaith adborth ar 'Sesiwn Dydd Mercher Cymraeg' a gynhaliwyd yn ddiweddar a drefnwyd ar gyfer staff y Gwasanaeth Tai.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r ddau Hyrwyddwr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel SgriwtiniAdolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cefnogol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion, a Swyddogion mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion fod 3 Phanel Sgriwtini wedi'u sefydlu a’u bod oll yn cwrdd yn rheolaidd erbyn hyn; mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed gan y Panel SgriwtiniAdolygu Cynnydd Ysgolion. Sefydlwyd y Panel gan y Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden ar 21 Tachwedd, 2012 ac fe ddeilliodd o argymhellion a wnaed gan Estyn ar ansawdd gwasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ar Ynys Môn. Mae'r Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad Ysgolion yn rhoi arweiniad i'r Panel mewn perthynas ag ysgolion y gall fod yn briodol eu gwahodd i ymddangos gerbron y Panel. Mae'r meini prawf a ddefnyddir i ddewis ysgolion yn seiliedig ar y fframwaith cenedlaethol categoreiddio ysgolion, perfformiad ysgolion ac adroddiadau Estyn a'r nod yw cael cymysgedd da o ysgolion cynradd / uwchradd o wahanol faint.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad Ysgolion y rhoddwyd hyfforddiant i'r Aelodau Etholedig ar y Panel yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd fis Mai diwethaf. Roedd yr hyfforddiant hefyd yn canolbwyntio ar sut mae Pennaeth yn gweinyddu'r ysgol ac a oes gan y Pennaeth weledigaeth i wneud gwelliannau a gwella canlyniadau profion ac arholiadau yn eu hysgolion. Edrychodd yr hyfforddiant hefyd ar rôl Estyn a disgwyliadau Estyn o ysgolion. Yn ogystal, trafododd y Panel rôl GwE a gomisiynwyd gan yr Awdurdod Addysg i gynorthwyo i wella perfformiad ysgolion. Derbynnir adroddiadau monitro gan GwE ar berfformiad ysgolion unigol ac maent yn rhoi’r cymorth a'r arweiniad angenrheidiol pan nad yw ysgol yn perfformio fel y disgwylir iddi wneud. Mae'r Panel hefyd yn arfarnu ac yn monitro perfformiad yr ysgolion yn rheolaidd.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r adroddiad a chododd y prif faterion canlynol: -

 

  Gofynnwyd a yw Cadeirydd ac Aelodau'r Panel yn fodlon â'r gwaith a wnaed gan y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion. Dywedodd aelodau'r Panel fod gwaith y Panel wedi bod yn adeiladol iawn ac wedi rhoi cyfle i'r aelodau fonitro ysgolion sy’n perfformio’n dda ac i herio ysgolion nad ydynt yn perfformio fel y disgwylir. Mae ystadegau a data am gyfnodau allweddol hefyd yn cael eu trafod a'u monitro yn y Panel Adolygu Ysgolion.

  Holwyd a ellir gwneud awgrymiadau i gryfhau gwaith y Panel. Dywedodd aelodau'r Panel fod dau aelod o'r Panel wedi ymweld â GwE yng Nghaernarfon yn ddiweddar; ystyrir ei bod yn hollbwysig eu bod yn gallu gweld a deall y gwaith a wneir gan GwE i wella a chefnogi ysgolion. Ystyrir bod gan GwE yr arbenigedd a'r wybodaeth i gynorthwyo ysgolion. Ystyriwyd hefyd y dylai Aelodau'r Panel hefyd gael y cyfle i ymweld ag ysgolion.

  Gofynnwyd a oedd y Pwyllgor Sgriwtini’n fodlon â chyflymder gwaith y Panel. Dywedodd y Pennaeth Dysgu y bydd y Panel wedi gweld 16 ysgol a bod 6 o'r ysgolion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 657 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai 2018.

 

Roedd y Pennaeth Dysgu yn dymuno newid y cyfeiriad yn y rhaglen waith at Gyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a Chynhwysiad – Gwynedd a Môn: yr enw arno bellach yw’r Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Nododd y Swyddog Sgriwtini y bwriedir rhoi adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor bob 6 mis ar y Bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at Fai 2018.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

8.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 159 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

9.

Trawsnewid Diwylliant - Oriel Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod.

 

Rhoddwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor am y cynnydd a waned gan Oriel Ynys Môn ers mis Ebrill 2017 mewn perthynas â’r themȃu a ymgorfforwyd yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.  Cyflwynwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor am nifer yr ymwelwyr a manylion yr arddangosfeydd yng Nghynllun Busnes Oriel Ynys Môn.

 

Trafodwyd awgrymiadau i gynyddu niferoedd yr ymwelwyr ac i leihau dibyniaeth ar gyllid grant gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn bod cynnydd priodol yn cael ei wneud yn erbyn y targedau yn yr Achos Busnes a’r Cynlluniau Trawsnewid ar gyfer Oriel Ynys Môn.

 

GWEITHREDU : Cyflwyno adroddiadau cynnydd yn rheolaidd i’r Pwyllgor Sgriwtini.