Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Tachwedd, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2017. |
|
Adroddiad Cynnydd : Safonau Ysgolion PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant bod canran y disgyblion oedran ysgol statudol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn Ynys Môn yn ystod y pum mlynedd diwethaf mewn cymhariaeth â Chymru ac awdurdodau unigol wedi gostwng yn sylweddol a bod yr awdurdod bellach yn y 7fed safle mwyaf breintiedig yng Nghymru. Mae hyn yn destun pryder oherwydd nid yw’r gymhariaeth yn cyfateb i economi leol yr Ynys. Nodwyd bod ysgolion yn derbyn grantiau yn ôl niferoedd y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Cyfeiriodd y Swyddog at y tabl yn yr adroddiad, sy'n dangos nifer y disgyblion sydd ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. Mae'r awdurdod wedi bod yn y 4ydd safle o blith yr ALl yn y sector cynradd sydd eto yn ymddangos yn uchel o gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Dywedodd fod angen rhoi blaenoriaeth i'r mater dros y misoedd nesaf o ran y meini prawf ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae wedi cael ei brofi bod nifer y disgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yn ymddangos fel petai’n gostwng wrth i'r disgyblion symud i addysg uwchradd oherwydd mae’r awdurdod yn yr 8fed safle o blith yr ALl yng Nghymru. Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant ymhellach at blant sy'n cael eu haddysgu gartref ac ymddengys bod yr Awdurdod yn cael ei gategoreiddio’n fwy ffafriol o fewn y maen prawf hwn.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Meinir Huws, Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) a Mrs Sharon Vaughan, Cynghorydd Her Ysgolion (Uwchradd) i'r cyfarfod. Dywedodd fod y ddau Swyddog wedi bod yn adrodd yn rheolaidd i'r Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her Ysgolion (Cynradd) ddadansoddiad manwl o'r data perfformiad gan dynnu sylw at y prif agweddau y mae angen i'r Pwyllgor roi sylw iddynt.
Cyfnod Sylfaen
· Gosod disgwyliadau uwch yn y Cyfnod Sylfaen a datblygu gwell gwydnwch i osod targedau, asesu a thracio targedau ysgol er mwyn cau'r bwlch rhwng targedau a pherfformiad; · Hyrwyddo gwell defnydd o ddata a rhaglenni ymyrraeth i yrru'r gwelliannau angenrheidiol; · Parhau i sicrhau gwell cysondeb ar draws ysgolion mewn perthynas â dealltwriaeth o'r 'ffit orau' wrth osod lefelau terfynol; · Gwella addysgeg yn y Cyfnod Sylfaen gyda ffocws penodol ar wella cyfleoedd a gynllunnir i ddatblygu llythrennedd / rhifedd ar draws y meysydd dysgu; sicrhau gweithgareddau gyda lefel uchel o her; sicrhau cyfleoedd gwell i ddefnyddio sgiliau a sicrhau cydbwysedd gwell rhwng tasgau a arweinir gan yr athro / y dysgwr. · Codi safonau yn y Gymraeg fel iaith gyntaf yn y Cyfnod Sylfaen; · Parhau i ddatblygu gallu ysgolion i sicrhau ymagwedd heriol tuag at gynllunio wrth wella perfformiad, yn enwedig ar y lefelau uwch; · Cau'r bwlch ym mherfformiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim / y rhai nad ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim o ran y canlyniadau disgwyliedig ac yn y Gymraeg a Datblygiad Personol a Chymdeithasol o ran y canlyniadau uwch; · Targedu cefnogaeth i ysgolion lle mae ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
GwE - Adroddiad Blynyddol 2016/17 PDF 831 KB Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Cofnodion: Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol GwE 2016/17 gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.
Rhoddodd Rheolwr-gyfarwyddwr GwE adroddiad manwl ar Flaenoriaethau'r Cynllun Busnes ar gyfer 2017/18, ynghyd â throsolwg ar safonau addysgol ar draws Gogledd Cymru (2015/16). Dywedodd fod Gwe yn darparu ystod o raglenni dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr sy'n amrywio o Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch i Brifathrawon profiadol. Roedd yr Uwch Ymgynghorwyr Her a’r Ymgynghorwyr Cymorth ar gyfer pob hyb yn gweithredu'n llawer mwy effeithiol o ran sicrhau ansawdd pob agwedd ar waith yr Ymgynghorwyr Her yn y timau priodol. Adroddodd ymhellach bod gwella safonau a darpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn un o flaenoriaethau GwE. Eleni, cynigiodd GwE raglen gymorth ranbarthol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen am y tro cyntaf, gan dargedu cynllunio, addysgu, asesu ac arwain. Mae'r tîm Ymgynghorwyr Her Llythrennedd a Rhifedd wedi darparu ystod eang o raglenni cymorth a datblygu ar draws y rhanbarth i sicrhau ansawdd y cynllunio a'r ddarpariaeth yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Mae pob ysgol sydd mewn categori cymorth ambr neu goch wedi derbyn rhaglen o gymorth wedi'i theilwra i'w hanghenion penodol.
Yn ogystal â hyn, mae cyflymder y gwelliant yn y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn arafach na'r hyn a welwyd ar lefel genedlaethol. Mae codi safonau yn y Cyfnod Sylfaen yn flaenoriaeth allweddol i’r consortiwm. Yn gyffredinol, mae cyflymder y gwelliant yn y prif ddangosyddion yng Nghyfnod Allweddol 4 wedi bod yn rhy araf o'i gymharu â gweddill Cymru ac mae gwella ei berfformiad yn brif flaenoriaeth i’r consortiwm. Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae perfformiad awdurdodau lleol unigol yn amrywio'n sylweddol ar draws y rhanbarth. Dywedodd fod meysydd y mae angen eu datblygu yn cynnwys: -
· Cynlluniau busnes cadarn sy'n ymateb yn fwy cyson i anghenion datblygu awdurdodau ac ysgolion unigol ac sydd wedi cael eu trafod a'u cytuno gyda rhanddeiliaid. · Bod gan bob ysgol uwchradd a'r holl ysgolion sydd yn y categori cymorth ambr / coch gynlluniau cymorth priodol ar waith. · Defnyddio Ymgynghorwyr Her yn fwy effeithiol a defnyddio rhwydweithiau pwnc i gryfhau cydweithrediad adrannol. · Targedu unigolion sydd â'r potensial i fod yn Benaethiaid ysgolion ac i roi lefel o gefnogaeth i'r unigolion hyn ac i gynllunio'n gynt pan fydd Penaethiaid yn ymddeol i gael yr unigolion gorau posibl i gymryd eu lle; · Bod ar flaen y gad o ran yr heriau a wynebir er mwyn mynd i'r afael â'r prosesau archwilio newydd a gyflwynwyd gan y llywodraeth; · Gall Ynys Môn dderbyn cefnogaeth gan yr Ymgynghorwyr Her yn y sectorau cynradd ac uwchradd.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chododd y materion canlynol: -
· Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam y mae ysgolion categori ‘coch’ yn dal i fodoli pan mae GwE wedi buddsoddi mewn Ymgynghorwyr Her i gefnogi'r ysgolion hyn. Ymatebodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod ysgolion categori 'coch' wedi'u targedu gyda chefnogaeth ac arweiniad i'w helpu i ddarparu’r addysg orau bosibl ar gyfer y disgyblion. Dywedodd fod rhai ysgolion wedi derbyn cymorth uwchlaw eu gofynion a bod ysgolion eraill wedi dioddef o ganlyniad. · Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut roedd ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion PDF 383 KB Cyflwyno adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cefnogi. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a'r Swyddog Cymorth mewn perthynas â'r uchod.
Adroddodd y Cadeirydd fel Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion,bod y Panel wedi cyfarfod bedair gwaith ers yr adroddiad cynnydd diwethaf a gyflwynwyd i'r cyfarfod hwn ar 14eg Tachwedd, 2017. Mae 5 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd wedi bod gerbron y Panel.
Daeth y Panel i'r casgliad bod 10 mater allweddol y byddai angen mynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau bod ysgolion yn parhau i wella: -
Roedd y Pwyllgor yn dymuno mynegi ei werthfawrogiad i’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion am eu gwaith manwl o ran yr ystod o bynciau a'r broses a ddefnyddir i herio ysgolion sydd wedi mynychu'r Panel. Roedd y Cadeirydd hefyd yn dymuno diolch i'r ddau Ymgynghorydd Her Ysgolion a'r Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant am eu cyfraniad at y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion.
PENDERFYNWYD nodi: -
· Y cynnydd a wnaed hyd yn hyn â gwaith y Panel Sgriwtini: Adolygu Cynnydd Ysgol; · Bod y ffrydiau gwaith sy'n ymwneud â Chynllun Gwella'r Gwasanaeth Addysg yn cael sylw; · Nid oes unrhyw faterion ar hyn o bryd y mae angen i'r Panel eu huwchgyfeirio i’r pwyllgor eu penderfynu.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.
|
|
Enwebiad ar gyfer y Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion PDF 70 KB Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas ag enwebu un Aelod o'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion.
Dywedodd y Swyddog Sgriwtini, bod angen, oherwydd ymddiswyddiad y Cynghorydd Eric W Jones o'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, enwebu Aelod o’r Pwyllgor yn ei le ar y Panel Sgriwtini. Nodwyd bod 4 Aelod o'r Pwyllgor hwn yn eistedd ar y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion.
PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd Kenneth P Hughes ar y Panel Sgriwtini – Adolygu Cynnydd Ysgolion.
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai 2018.
PENDERFYNWYD nodi'r Rhaglen Waith hyd at fis Mai 2018.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.
|