Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 10fed Ebrill, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 57 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Mawrth, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2018.

4.

Gwasanaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol a Chynhwysiad ar y Cyd pdf eicon PDF 1 MB

Cyfwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ar y gwasanaeth newydd i blant a phobl ifanc a ddaeth i rym ym mis Medi 2018.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu fod Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad wedi ei sefydlu ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn i gymryd lle’r Cyd Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (Gwynedd ac Ynys Môn). Daeth y Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad i rym ym mis Medi 2016 a chytunwyd i gyflwyno adroddiadau monitro ar berfformiad y Strategaeth i’r Panel Sgriwtini ddwywaith y flwyddyn yn y lle cyntaf.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y ddeddfwriaeth Anghenion Addysgu Ychwanegol (ADY) yn pwysleisio’r angen i roi’r disgybl yn ganolog i bob penderfyniad ynglŷn â’i addysg, ei ddyheadau a’i anghenion. Dywedodd hefyd fod Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gwynedd ac Ynys Môn yn darparu gwasanaeth integredig cynhwysfawr ar draws lleoliadau addysgol yn y ddwy sir er mwyn :-

 

·      Hybu datblygiad ysgolion i fod yn leoliadau cynhwysol;

·      Lleihau effaith ADY ar ddeilliannau plant a phobl ifanc drwy wella sgiliau a chyflawniad;

·      Darparu addysg addas ac o safon uchel i blant a phobl ifanc ag ADY;

·      Lleoli gwasanaethau o safon uchel yn lleol;

·      Ystyried dyheadau ac anghenion unigol, a bod pob plentyn a pherson ifanc yn ganolog i’r gwasanaeth a’r ymyrraeth sy’n cael ei ddarparu ar ei gyfer/ei chyfer;

·      Sicrhau sgiliau o’r ansawdd uchaf o fewn y gweithlu canolog a’r gweithlu ysgolion er mwyn gwella perchnogaeth lawn a chynhwysedd ADY o fewn yr ysgol yn y ddwy sir;

·      Cyfrannu at wella ansawdd bywyd a lles drwy gyfoethogi’r ddarpariaeth addysgol sy’n cael ei darparu;

·      Lleihau’r garfan o blant sydd angen ymyrraeth ychwanegol oherwydd ADY trwy wella chynhwysiad o fewn y ddarpariaeth addysg;

·      Cryfhau cysylltiadau ac atebolrwydd am ADY ar draws haenau’r model darpariaeth.

 

Yn ogystal, adroddodd y Swyddog fod rhan fwyaf o waith y Tîm Arbenigol (heblaw am agweddau o waith y Seicolegwyr Addysg, Swyddogion Ansawdd ADY a Chynhwysiad, a’r Gwasanaeth Lles a Chwnsela) yn cael ei drefnu drwy’r Fforymau ADY a Chynhwysiad fel man cychwyn. Mae modd i unrhyw ysgol wneud cais am fewnbwn i’r Fforwm yn unol â’r Meini Prawf drwy ddefnyddio Cynllun Datblygu Unigol y plentyn. Yn achos y plant hynny sydd ag anghenion dwys a chymhleth, mae trafodaeth ynglŷn â’r anghenion hynny’n cael ei weithredu trwy Banel Cymedroli Sirol. Mae’r Fforymau a’r Panel yn gweithredu yn unol â Meini Prawf yr Awdurdod Lleol ar gyfer cael mynediad at a gadael y gwasanaeth. Rhan allweddol o rôl y Fforymau a’r Panel yw derbyn gwybodaeth ynglŷn â sut mae ysgolion yn defnyddio’r gwasanaethau arbenigol y maent yn eu derbyn ac a ydynt yn rhoi’r argymhellion a gynigir ar waith ar lawr y dosbarth. Mae Llwybr Cefnogaeth y gwasanaeth ADY wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn gweithredu ar draws y ddau awdurdod ac yn cynnwys Uwch Reolwr Cynhwysiad ac Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol sydd yn gyfrifol am arwain y datblygiadau cenedlaethol arfaethedig (deddfwriaeth ADY) yn ogystal â  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 750 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Mehefin 2019.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.