Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Mehefin, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2017 yn gywir.

4.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol i Wynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a oedd yn rhoi trosolwg o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Ynys Môn a Gwynedd.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Y Gymuned a Gwella Gwasanaeth fod gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gyflwyno trosolwg o’i gweithgareddau i’r Pwyllgor hwn yn flynyddol. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag Adrannau 19 a 20 y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006. Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a diwygiadau dilynol yn sgil Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub, i roi sylw i’r agenda diogelwch cymunedol yn lleol. Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ddelio gyda:-

 

·      Throsedd ac Anhrefn

·      Camddefnyddio Sylweddau

·      Lleihau aildroseddu

·      Cyflawni asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith sydd bellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol)

·      Rhoi cynlluniau mewn lle i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun nawr yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)

 

Adroddodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn fod y Bartneriaeth wedi bodoli ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd ers 1998 ond bod Partneriaeth ar y cyd wedi bod yn weithredol am y pum mlynedd diwethaf.  Mae’r bartneriaeth yn gweithio yn unol â Chynllun Blynyddol, sy’n seiliedig ar gynllun tair blynedd rhanbarthol. Mae adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn 2016/17, Cynllun Blynyddol 2017/18 a chynllun gwariant 2017/18 ynghlwm fel Atodiadau 1, 2 a 3 i’r adroddiad. Bydd y Bartneriaeth yn canolbwyntio ar y saith blaenoriaeth a ganlyn ar gyfer 2016/17 a 2017/18 :-

 

·      Lleihau troseddu sy’n seiliedig ar ddioddefwyr (troseddau meddiangar yn unig)

·      Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·      Cefnogi pobl fregus i’w hatal rhag bod yn ddioddefwyr trosedd

·      Codi hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig

·      Codi hyder i adrodd am gam-drin rhywiol

·      Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal

·      Lleihau Aildroseddu

 

Roedd y prif negeseuon a oedd yn deillio o weithgareddau’r Bartneriaeth ar gyfer 2016/17 wedi’u cynnwys ar Dudalen 11 a 12 yr adroddiad.

 

Roedd y Swyddog yn dymuno diwygio’r adroddiad oedd o flaen y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddarpariaeth grant gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd tuag at Adolygiadau Dynladdiad Domestig oherwydd roedd yr adroddiad yn nodi bod y cyllid yn dod i ben. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi datgan y bydd y cyllid grant bellach yn parhau tan y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer y prosiect hwn. 

Nododd ymhellach fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad o Ddiogelwch Cymunedol trwy Gymru ac yn wyneb canfyddiadau’r adolygiad, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad manwl pellach ac hefyd wedi sefydlu Bwrdd i arwain ar y gwaith a wneir. Disgwylir canlyniadau’r adolygiad ar ddiwedd y flwyddyn hon a disgwylir y bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i’r ffordd y mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gweithredu.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y prif faterion a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd am eglurder  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn wedi cael ei sefydlu yn unol â gofynion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cytunwyd y byddai’r bwrdd yn cydweithio â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac mae’n bartneriaeth sy’n cynnwys y prif sefydliadau o’r sector cyhoeddus ar draws y ddwy sir. Prif ffocws y gwaith gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd rhwng mis Ebrill 2016 a Mai 2017 oedd cynhyrchu Asesiad Llesiant ar gyfer y ddwy sir. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gynhyrchu Cynllun Llesiant a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mai 2018. Fe wnaed yr ymgynghoriad cyntaf yn yr hydref 2016 ac fe drefnwyd nifer o weithgareddau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Cyflwynwyd Asesiad Llesiant drafft i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ym mis Ionawr 2017 ac i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth 2017 ac mae gwaith wedi cychwyn nawr i baratoi at gyhoeddi’r Cynllun Llesiant. Trefnwyd gweithdai yn ystod mis Awst 2017 gyda swyddogion o nifer o wahanol sefydliadau ac asiantaethau yn mynychu. Bydd cyfnod ymgynghori statudol am 12 wythnos ar y Cynllun Llesiant drafft a chaiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 14 Tachwedd 2017 i’w ystyried. 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y prif faterion a ganlyn:-

 

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch a oedd tystiolaeth i ddangos bod yr holl sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd i gynhyrchu asesiad o lesiant yn lleol ar gyfer ardal Ynys Môn. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen gan ddweud bod Is-grŵp Llesiant wedi’i sefydlu i arwain y gwaith o gynhyrchu’r asesiad ac roedd pob aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi sicrhau bod swyddogion o’u sefydliad yn mynychu’r is-grŵp. Bu’r aelodau’n cydweithio ar gasglu’r data angenrheidiol ar gyfer yr asesiad. Nododd fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi rhannu’r rhanbarth yn 14 o ardaloedd llai yn hytrach na defnyddio ardal ranbarthol, gyda 6 o’r ardaloedd hynny ar Ynys Môn ac 8 yng Ngwynedd;

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch a oedd y data a gasglwyd yn dangos gwahaniaethau mawr rhwng gwahanol rannau o’r Ynys. Atebodd y Rheolwr Rhaglen na welwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol ar draws yr ardal dan sylw mewn perthynas â’r cwestiynau a ofynnwyd i’r trigolion. Fodd bynnag, rhoddodd enghraifft gan nodi dros y 30 blynedd diwethaf, fod wardiau Aethwy a Seiriol wedi gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n symud i mewn i’r ardal. Dywedodd yr Aelodau fod Ysgol Gynradd Llandegfan wedi gweld cynnydd yn y disgyblion a dderbynnir i’r ysgol sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf;

·      Holwyd a oedd y trigolion wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r diffyg cyfleusterau toiled ar yr ynys. Atebodd y Rheolwr Rhaglen fod yr ymatebion i weld yn canolbwyntio ar y cyfleusterau sydd ar gael yng nghymunedau’r trigolion a sut ganfyddiad sydd o’u canol trefi;

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch y gost a’r manteision o gydweithio â Chyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Tai pdf eicon PDF 483 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol y cafodd y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid ei chyflwyno gyntaf ar Ynys Môn yn 1998 ac mae’n rhoi’r cyfle i denantiaid a phrydleswyr gael dweud eu dweud ar sut mae eu cartref yn cael ei reoli. Fel landlord cymdeithasol yng Nghymru, mae gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn roi pob hawl i denantiaid gyfranogi ac mae gofyn iddo hyrwyddo rhagoriaeth yn y maes cyfranogiad tenantiaid er mwyn cydymffurfio â Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2007. Nododd mai Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid 2015 – 2018 yr Awdurdod yw’r trydydd strategaeth o’r fath ar gyfer y Gwasanaeth Tai. Nod y Strategaeth yw ymgynghori â’r tenantiaid a’u cynnwys yn y gwasanaeth. Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth am y prif lwyddiannau yn ystod 2016 – 2017 fel roeddynt wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y prif faterion a ganlyn:-

 

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch yr effaith bosib ar bobl sydd ar incwm isel yn sgil y newidiadau i’r system fudd-daliadau wrth i’r system Credyd Cynhwysol newydd ddod i rym. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod pryderon difrifol yn cael eu mynegi oherwydd yr effaith ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas yn sgil y system Credyd Cynhwysol, a’r posibilrwydd y bydd teuluoedd ifanc heb arian i dalu am bethau sylfaenol hanfodol gan y bydd rhaid iddynt aros am nifer o wythnosau i’r taliad Credyd Cynhwysol gael ei weinyddu. Nododd y bydd banciau bwyd dan bwysau eithriadol ar ôl i’r Credyd Cynhwysol gychwyn ac mae ymgyrch ‘Dewch â Thun’ wedi cael ei lansio ymysg gweithwyr y sector cyhoeddus i gyfrannu at fanciau bwyd lleol;

·      Mynegwyd pryderon na fyddai’r tenantiaid yn gallu talu eu rhent pan fyddent yn disgwyl am eu budd-daliadau trwy’r system Credyd Cynhwysol newydd; mynegwyd na ddylai pobl fod mewn perygl o golli eu cartref. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai y bydd y Cyngor yn gefnogol i denantiaid sy’n aros am eu taliadau Credyd Cynhwysol cyn iddo gymryd unrhyw gamau trwy’r llys i adfeddiannu eiddo’r awdurdod lleol. Nododd y bydd tenantiaethau preifat a phobl sy’n hunangyflogedig hefyd yn cael eu heffeithio yn sgil cyflwyno’r system Credyd Cynhwysol;

·      Cyfeiriodd yr aelodau at ymgyrch y Gwasanaeth Tai sef y ‘dyddiau glanhau stad’ yn stadau tai yr awdurdod lleol yn ddiweddar. Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod 22 o ddyddiau glanhau stad wedi digwydd yn ystod 2016/17 ac roedd y rhain yn cynnwys stadau yn Llangefni, Caergybi, Moelfre, Llanfairpwll, Aberffraw, Niwbwrch, Pentraeth, Llanddeusant, Llansadwrn, Benllech a Chemaes;

·      Ceisiwyd eglurder ynghylch y berthynas waith gyda Heddlu Gogledd Cymru yng nghyswllt ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau tai. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai Cymunedol fod perthynas waith dda yn bodoli gydag Awdurdod yr Heddlu ac y cynhelir cyfarfodydd misol gydag Arolygydd yr Ynys i rannu gwybodaeth am ddigwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y stadau tai. Nododd ymhellach fod y Swyddogion Cefnogi’r Heddlu yn lleol yn gweithio gyda'r bobl ifanc ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 664 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai 2018.

 

Adroddwyd y bydd Arsyllwr o Swyddfa Archwilio Cymru yn mynychu’r cyfarfod ar 14 Tachwedd, 2017 i werthuso proses sgriwtini yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Mai 2018.

 

CAM GWEITHREDU : Dim