Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 19eg Mehefin, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 61 KB

·      Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Ebrill, 2018.

·      Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Mai, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ebrill, 2018.

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai, 2018.

 

4.

Cymunedau yn Gyntaf - Adroddiad Blynyddol pdf eicon PDF 534 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Tai mewn perthynas â gweithgareddau a pherfformiad Cymunedau’n Gyntaf yn ystod 2017/18 a chynlluniau amlinellol ar gyfer 2018/19. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) bod yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu’r cyllid y mae Cymunedau’n Gyntaf yn ei dderbyn gan yr Awdurdod a Llywodraeth Cymru. Un o’r prif raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Rhaglen Gwrth Dlodi, Y rhaglen Cymunedau Gwaith a’r Rhaglen LIFT sydd â’r nod o wella rhagolygon pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Nododd, yn hanesyddol fod Cymunedau’n Gyntaf wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Tai er mwyn datblygu eu rhaglenni. Sefydlwyd Cymunedau’n Gyntaf i ddechrau er mwyn darparu cymorth i’r wardiau mwyaf difreintiedig yn Ynys Môn ond yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cabinet Cymunedau a Phlant y byddai’r Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn dod i ben ym Mawrth 2017, mae Cymunedau Ymlaen Môn bellach yn darparu cymorth a chyngor ar draws y rhan fwyaf o wardiau ar draws yr Ynys. Dywedodd Mrs Rita Lyon – Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) fod Cymunedau’n Gyntaf bellach wedi ei ail frandio yn Cymunedau Ymlaen Môn. Nododd fod Cymunedau Ymlaen Môn wedi sicrhau cyllid gan WEFO (Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru) er mwyn darparu ‘Rhaglen Gymorth Mewn Gwaith’ sy’n targedu pobl sydd mewn cyflogaeth ond sy’n cael eu tangyflogi h.y. pobl mewn cyflogaeth rhan-amser neu’r rhai hynny sy’n ceisio gwella eu cyflogaeth. Mae Cymunedau Ymlaen Môn yn agor swyddfa newydd ym Mhorthaethwy y mis hwn er mwyn rhoi cymorth a gwasanaethau i ardal Seiriol. Dymunodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) ddiwygio’r adroddiad a oedd gerbron y Pwyllgor a oedd yn darllen ‘Rhaglen Cymunedau ar gyfer Gwaith’ – 72 o bobl wedi ymgysylltu â’r prosiect ac 18 o bobl wedi eu cael i mewn i gyflogaeth.        

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y materion canlynol:-

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ar gyflawniad y rhaglen LIFT a gynigwyd gan Cymunedau’n Gyntaf. Ymatebodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) mai prosiect peilot am gyfnod o 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru oedd LIFT. Roedd Ynys Môn yn un o naw ardal Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf a gafodd ei hadnabod er mwyn targedu pobl sydd allan o waith am gyfnod dros dro; pobl sydd wedi treulio mwy na chwe mis allan o waith neu hyfforddiant; pobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf er mwyn gallu cael eu cyflogi h.y. rhieni sengl ifanc, oedolion ag ond ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol, pobl â record cyflogaeth wael ac unigolion ag anableddau. Mae’r rhaglen LIFT ar Ynys Môn wedi gweithio gyda 402 o unigolion ac wedi cael 144 o bobl yn ôl i waith dros gyfnod y cynllun a ddaeth i ben ym Mawrth 2018. Nododd fod y cynllun bellach wedi’i ddisodli gan y cynllun Cymunedau am Waith + a ariennir drwy WEFO. Gofynnwyd am gadarnhad pellach am faint o bobl sy’n aros mewn cyflogaeth ac a oedd Cymunedau Ymlaen Môn yn gallu monitro a chefnogi’r unigolion hyn. Ymatebodd y Prif Swyddog Gweithredol (Cymunedau Ymlaen Môn) bod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynlluniau Adfywio ar gyfer Amlwch a Biwmares pdf eicon PDF 431 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Datblygu Economaidd a Rheoleiddio mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

(Gwahoddwyd Aelodau Lleol Wardiau Twrcelyn a Seiriol i’r Pwyllgor mewn perthynas â’r eitem hon). 

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Adfywio mai dyhead y Cyngor Sir yw gyrru adfywio cymunedol drwy ddatblygu cynlluniau tref a chymuned holistaidd ar gyfer prif aneddiadau’r Ynys. Nododd fod gan y pum tref gydnabyddedig yn Ynys Môn nodweddion gwahanol a bod hyn wedi effeithio ar lefel y buddsoddiad sector preifat ar gyfer adfywio ym mhob tref. Cafodd y nodweddion allweddol sy’n gallu effeithio ar fuddsoddiadau o’r fath eu hamlygu i’r Pwyllgor yn yr adroddiad. Nododd ymhellach fod y pum tref wedi elwa yn y gorffennol o fuddsoddiadau cyfalaf adfywio megis yr hyn a sicrhawyd gan y Cyngor gan Asiantaeth Datblygu Cymru a rhaglen ‘Môn a Menai’ Llywodraeth Cymru. Mae prif arian adfywio cyfalaf Llywodraeth Cymru wedi bod yn destun lefelau uwch o dargedu daearyddol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i Llywodraeth Cymru yn gynyddol fod angen blaenoriaethu ei adnoddau prin ar nifer llai o aneddiadau strategol. Mae Caergybi a Llangefni yn ddiweddar wedi denu lefelau sylweddol o fuddsoddiadau cyfalaf drwy Lywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd ac arian Loteri ond mae’n profi’n anoddach i’r Cyngor sicrhau cyllid tebyg ar gyfer prosiectau mewn trefi llai o ran maint a sy’n llai difreintiedig. Nododd y Swyddog fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno yn ddiweddar y dylai Swyddogion lobÏo i sicrhau bod arian adnewyddu ar gael i drefi llai ac ardaloedd gwledig. Mae rhaglenni cyllido gwledig y DU yn parhau i ddarparu sgôp ar gyfer buddsoddiad mewn aneddiadau llai ond mae’r cyllidebau hyn fel arfer yn fwy cyfyngedig e.e. LEADER, Y Gronfa Ddatblygu Cymunedau Gwledig (RCDF) a Chynllun Isadeiledd Amwynder Twristiaeth (TAIS). Cafodd tabl yn rhestru rhai o’r prosiectau/materion allweddol sydd ar y gweill neu o dan ystyriaeth eu rhestru yn yr adroddiad a oedd gerbron y Pwyllgor.    

    

·           Cwestiynau a godwyd gan yr Aelodau Etholedig Lleol, Ward Twrcelyn:-

 

Holwyd pam nad yw ardal Amlwch yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer prosiectau adfywio fel y mae Trefi tebyg ar yr Ynys sydd â phoblogaeth debyg. Cyfeiriodd yr Aelodau yn benodol at safle Rhosgoch, tir ger Maes Mona, Canolfan Hamdden Amlwch, Harbwr Amlwch (defnydd posibl o gronfa pysgodfeydd yr UE ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau’r harbwr), Adeiladau Gwag h.y. safle Octel a chyfleusterau sy’n berchen i’r Cyngor (Porth Amlwch) sydd wir angen buddsoddiad er mwyn galluogi tref Amlwch i ddenu cyfleoedd cyflogaeth a thwristiaeth i’r ardal. Mynegwyd pryderon nad oes cyllid wedi’i ddarganfod tuag at brosiectau adfywio yn ardal Amlwch a’r pentrefi cyfagos. Dywedodd yr Aelodau Lleol nad oedd unrhyw amserlen wedi’i nodi ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf yn Amlwch.  

 

Ymatebodd y Rheolwr Adfywio, mewn perthynas â lefel y buddsoddiad yn ardal Amlwch, mai nod  Cynllun Adfywio Ardal Amlwch yw darparu dogfen weledol sy’n adnabod gwelliannau y gellir eu cyflawni ar gyfer ardal Amlwch sy’n seiliedig ar ymgysylltu â chymunedau lleol am eu blaenoriaethau. Nododd, er bod gan Llangefni boblogaeth tebyg a ffigyrau tebyg o ran diweithdra a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Craffu ar Bartneriaethau pdf eicon PDF 742 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini fod gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn rhan bwysig o arferion gwaith yr Awdurdod, sy’n rhoi gwytnwch ychwanegol i gapasiti’r Awdurdod i allu darparu gwasanaethau. Mae nifer o adroddiadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi tynnu sylw at yr angen i wella a chryfhau trefniadau sgriwtini partneriaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd hefyd bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn tynnu sylw ar yr angen i gryfhau’r gwaith o graffu partneriaethau a’i fod yn rhoi cynaliadwyedd hirdymor wrth wraidd y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a’u darparu ac y rhoddir pwyslais hefyd ar gyrff cyhoeddus yn cydweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwell canlyniadau rŵan ac yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini hefyd fod gan y Cyngor Sir brofiad helaeth o weithio mewn partneriaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gyda phwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus, mae gan y Cyngor ganllawiau clir yn eu lle er mwyn penderfynu pryd i sefydlu partneriaethau, pa wasanaeth(au) sy’n briodol a’r canlyniadau a ddisgwylir ohonynt ac ar gyfer rheolaeth gadarn o’r berthynas. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2016 wedi cymeradwyo Polisi Partneriaethau Corfforaethol fel sylfaen ar gyfer gwaith partneriaeth yr awdurdod a hefyd fel fframwaith ar gyfer arwain trefniadau monitro partneriaeth. Nododd ymhellach fod y Cyngor yn cadw cofrestr o’r holl bartneriaethau allweddol, a adolygir yn rheolaidd.      

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y Flaen Raglen Waith 2018/19 a nododd fod angen i’r gwaith o graffu partneriaethau gael ei wneud a’i reoli mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar bartneriaethau strategol allweddol sy’n galluogi’r Cyngor i gyflawni ei amcanion a’i flaenoriaethau. Roedd rhestr o’r prif waith partneriaeth wedi’i chynnwys ym mharagraff 5.9 o’r adroddiad. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·      Holwyd a oes sefydliadau pwysig nad ydynt wedi eu cynnwys yn y ‘Gofrestr Partneriaethau’. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) ei bod hi’n bwysig peidio â dyblygu gwaith o ran y sefydliadau hyn. Nododd fod rhai adrannau eraill yn y Cyngor yn delio gyda ac yn cefnogi rhai sefydliadau e.e. Sefydliadau Addysgol a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd hefyd y dylai’r ‘Gofrestr Partneriaethau’ gynnwys y prif bartneriaethau sy’n derbyn nawdd gan yr Awdurdod. 

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran faint o arian y bydd y sefydliadau hyn ei dderbyn gan yr awdurdod hwn. Ymatebodd y Rheolwr Sgriwtini, unwaith y bydd y Pwyllgor hwn wedi penderfynu ar y prif bartneriaethau i’w cynnwys ar y ‘Gofrestr’ y byddai’r wybodaeth o ran cyllid, a ddylai gynnwys ‘capasiti ac argaeledd staff’, yn cael ei darparu i’r Pwyllgor yn y man;

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu monitro’r partneriaethau hyn y mae’n eu cefnogi. Ymatebodd y Rheolwr Sgriwtini fod gan yr Awdurdod hwn fframwaith i fonitro gwaith partneriaeth â sefydliad; bydd contract yn cael ei lofnodi rhwng y sefydliad, sy’n ddibynnol ar natur y bartneriaeth, â’r Awdurdod hwn. Mynegodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Panel Sgriwtini - Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 545 KB

Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cefnogol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Banel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a Swyddogion Cymorth mewn perthynas â’r uchod. 

 

Adroddodd y Cadeirydd, fel Cadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion, ers yr adroddiad cynnydd diwethaf a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwn ar 6 Chwefror, 2018 bod y Panel wedi cyfarfod 5 gwaith. Mynegwyd fod y Panel yn ystyried hi’n briodol ei fod yn monitro’r Ddarpariaeth o Wasanaethau Dysgu/Cynllun Gwella ac ystyrir y bydd angen cryfhau’r Cylch Gorchwyl.   

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant fod y Panel Sgriwtini wedi canolbwyntio ar y pethau canlynol ers 6 Chwefror, 2018:-

 

·      Mae pedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd wedi bod gerbron y Panel ar wahanol ddyddiadau;

·      Cyn bob cyfarfod, bydd y Panel yn derbyn data perfformiad yr ysgol ac adroddiad ysgrifenedig cryno gan yr Uwch Swyddog Safonau a Chynhwysiant. Bydd y Panel hefyd yn gwneud defnydd da o’r wybodaeth a dderbynnir gan Swyddog GwE sydd ar gael ym mhob cyfarfod i drafod y gefnogaeth a roddir i’r ysgolion er mwyn mynd i’r afael â thanberfformiad. 

·      Ar 9 Chwefror, derbyniodd y Panel ddiweddariadau hanfodol mewn perthynas â pholisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad y Gymraeg drwy’r system Addysg. Derbyniodd y Panel drosolwg o’r heriau sy’n wynebu ysgolion penodol, ynghyd â chrynodeb o’r camau sy’n cael eu cymryd er mwyn bodloni’r Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg 2017 – 2021. 

·      Ar 20 Ebrill, ystyriodd y Panel yr heriau a’r gwersi i’w dysgu wrth agor ysgolion newydd.

·      Ar 8 Mehefin, adolygodd y Panel y gwelliannau mewn ysgol a welwyd gyntaf ym mis Hydref 2017. Cafodd y Panel ei ddarbwyllo bod yr ysgol ar y trywydd cywir ac yn gwneud cynnydd da yn erbyn y chwe argymhelliad a gafodd eu hadnabod gan Estyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaeth, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) fod gwaith y Panel Sgriwtini: Adolygu Cynnydd Ysgolion: yn hanfodol er mwyn herio a gwella safonau ysgolion yr Ynys. Bydd canlyniadau arholiadau ysgolion uwchradd yr ynys yn rhoi syniad o’r gwelliannau o fewn addysg er mwyn gallu cydymffurfio â meini prawf disgwyliedig Estyn.   

 

Ailadroddodd y Deilydd Portffolio Addysg fod gwaith y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi bod yn hanfodol er mwyn gallu herio a gwella ysgolion. Nododd fod un ysgol wedi bod gerbron y Panel ar ddau achlysur. Mynegodd nad yw ysgolion wedi bod yn cwblhau hunan-werthusiadau gonest a manwl gywir sy’n cyd-fynd â disgwyliadau GwE. Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg fod y Siartr Iaith Gymraeg wedi dod yn bell er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn ddewis iaith pob dydd; mae Polisi Llywodraeth Cymru yn disgwyl bod yr holl ysgolion yn dilyn y Cwricwlwm Cymraeg iaith Gyntaf ac na fydd y Cymhwyster Cymraeg Ail Iaith ar gael yn y dyfodol.   

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad ac fe godwyd y materion canlynol:-

 

·      Mae rôl Llywodraethwyr Ysgolion ynghyd â’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion yn hanfodol er mwyn gwella addysg ar yr Ynys. Roedd y Deilydd Portffolio Addysg yn cytuno’n gyfan gwbl bod rôl aelodau etholedig fel Llywodraethwyr Ysgolion yn un hanfodol; 

·      Gofynnwyd am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Enwebiad i'r Panel Sgriwtini Cyllid a'r Bwrdd Trawsnewid Addysg pdf eicon PDF 688 KB

Enwebu un Aelod ar y Panelau canlynol  :-

 

·      Panel Sgriwtini Cyllid

·      Bwrdd Trawsnewid Addysg

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini mewn perthynas ag enwebu un Aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Cyllid a’r Bwrdd Trawsnewid Addysg.  

 

Adroddodd y Swyddog Sgriwtini, o ganlyniad i benodi’r Cynghorydd Robin Williams fel Deilydd Portffolio Cyllid, bod angen i’r Pwyllgor enwebu Aelod newydd yn lle y Cynghorydd Williams ar y Panel a’r Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD enwebu:-

 

·      Y Cynghorydd John Griffith ar y Panel Sgriwtini Cyllid;

·      Y Cynghorydd Margaret M Roberts ar y Bwrdd Trawsnewid Addysg.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

 

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 756 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mehefin 2019. 

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i’w gynnal ar 9 Gorffennaf, 2018 er mwyn ystyried y Strategaeth Gwrthdlodi. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Mehefin 2019. 

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.