Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 4ydd Chwefror, 2020 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau a nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3 (cyflwyniad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) ac mewn perthynas ag Eitem 4 (cyflwyniad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru). Gwahoddwyd y Cynghorydd Rees i fod yn bresennol mewn perthynas â’r ddwy eitem gan ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar y ddau gorff allanol.

 

Datganodd y Cynghorydd Eric W Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3 (cyflwyniad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru) gan ei fod wedi derbyn gwahoddiad i fod yn bresennol fel cynrychiolydd y Cyngor ar y corff allanol.

 

3.

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, i’r cyfarfod.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Mr Gwyn Jones ar swyddogaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn perthynas â diogelwch tân, ymladd tân, mynychu damweiniau ffyrdd ac argyfyngau (achub o ddŵr/llifogydd) yn unol â Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Dywedodd bod yr ystadegau o ddeg mlynedd yn ôl yn dangos bod Gogledd Cymru â’r gyfradd uchaf o farwolaethau ymysg y boblogaeth o ganlyniad i danau damweiniol mewn cartrefi yng Nghymru a Lloegr ac ystyriwyd bod hynny’n annerbyniol. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl Prif Swyddogion Tân i archwilio strategaeth a pholisïau’r Gwasanaeth ar gyfer atal marwolaethau damweiniol o ganlyniad i danau yn y cartref ynghyd ag adolygu prosesau rheoli perfformiad a phroffilio dioddefwyr ac achosion o dân. Cyfeiriodd Mr Jones at y ffactorau sy’n cyfrannu at farwolaethau damweiniol oherwydd tanau sef, bod ar eich pen eich hun; oedran (roedd mwy na hanner dros 60 oed); bod ag anabledd; byw mewn eiddo rhent; ysmygu a gadael bwyd yn coginio heb neb yn edrych ar ei ôl; alcohol a chyffuriau a diffyg larymau tân sy’n gweithio. Dywedodd bod proffil y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cael ei adolygu a chydweithiwyd â gwasanaethau yn yr awdurdodau lleol, yr heddlu, yr ymddiriedolaeth iechyd ac asiantaethau eraill i rannu gwybodaeth ac adnabod pobl fregus er mwyn osgoi achosion posibl o danau a marwolaethau damweiniol. Cyfeiriodd hefyd at gynllun recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar Ynys Môn sydd wedi arwain at recriwtio 10 person.

 

Cyfeiriodd Mr Jones at yr Adroddiad Rheoli Perfformiad - Ebrill 2019 i Fedi 2019 a ddosbarthwyd i Aelodau’r Pwyllgor. Nododd bod y Gwasanaeth wedi delio gyda chyfanswm o 6,601 o alwadau brys ac wedi mynychu 2,653 o ddigwyddiadau yn ystod hanner cyntaf 2019/20. Roedd y Gwasanaeth wedi mynychu ychydig mwy o ddamweiniau ffyrdd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i liniaru pwysau ar Wasanaethau Brys eraill mewn perthynas â ‘Syrthio yn y Cartref’ yn 2018. Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi llwyddo i fynd at berson a oedd wedi syrthio yn y cartref o fewn un awr gan olygu, o bosib, nad oedd y person hwnnw wedi gorfod bod ar y llawr am amser hir ac nad oedd rhaid iddo fynd i’r ysbyty i dderbyn triniaeth. Fodd bynnag, mae’r arian ar gyfer y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ wedi dod i ben erbyn hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) am ei gyflwyniad. Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd a oedd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynorthwyo neu’n gyfrifol am y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ ar ran Gwasanaeth Ambiwlans yr Ymddiriedolaeth Iechyd. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn) bod y cynllun ‘Syrthio yn y Cartref’ yn gynllun peilot hynod o lwyddiannus a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r Uwcharolygydd Richie Green (Gwynedd ac Ynys Môn) i’r cyfarfod.

 

Siaradodd Mr Arfon Jones am rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Yn dilyn ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yn 2012, dywedodd bod dyletswydd arno i gynhyrchu Cynllun Heddlu a Throsedd o fewn 12 mis o gychwyn yn y swydd. Mae’r Cynllun yn amlinellu cyfeiriad strategol Heddlu Gogledd Cymru yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Dywedodd ei fod wedi nodi pump o flaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throsedd ar gyfer 2017-2021 fel a ganlyn :-

 

·      Cam-drin Domestig

 

  • Bob dydd mae Heddlu Gogledd Cymru yn cofnodi 26 o ddigwyddiadau domestig ar gyfartaledd. Yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf, cafodd 936 o ferched eu lladd gan ddynion yng Nghymru a Lloegr;
  • Cam-drin domestig yw’r risg mwyaf sy’n wynebu Heddlu Gogledd Cymru oherwydd yr effaith eang ar y dioddefwr (corfforol, ffisiolegol ac ariannol), y nifer o droseddau a gofnodir ac am fod achosion yn cynyddu.

 

·      Caethwasiaeth Fodern

 

·        Term a ddefnyddir i gyfeirio at ecsploetio pobl fregus drwy weithgareddau megis masnachu pobl a llafur dan orfodaeth yw Caethwasiaeth Fodern. Yn aml mae hwn yn drosedd gudd, ac mae dioddefwyr yn gyndyn o fynd at yr heddlu oherwydd eu bod yn cael eu rheoli ac yn byw mewn ofn.

·        Mae angen sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr ac nad ydynt yn cael eu cyhuddo o droseddau eraill megis mewnfudo anghyfreithlon, puteindra neu ddwyn;

·        Mae Gogledd Cymru yn ardal allweddol ar gyfer Caethwasiaeth Fodern yn y DU oherwydd Porthladd Caergybi.

 

Troseddu Difrifol a Threfnedig

 

·        Mae’r Llywodraeth yn ystyried bod troseddu difrifol a threfnedig yn un o’r bygythiadau mwyaf i ddiogelwch cenedlaethol y DU ac mae’r gost i’r DU dros £24 biliwn y flwyddyn. Mae’r Strategaeth Genedlaethol Troseddu Difrifol a Threfnedig yn seiliedig ar y fframwaith a ddefnyddir ar gyfer gwrthderfysgaeth ac mae’n amlinellu'r camau fydd yn cael eu cymryd i atal pobl rhag ymwneud â throsedd difrifol a threfnedig, cryfhau mesurau amddiffyn yn ei erbyn a’r ymateb iddo, ac erlid y troseddwyr;

·        Ymchwiliwyd i nifer o achosion o droseddau difrifol a threfnedig ym Mhorthladd Caergybi ac ar draws Gogledd Cymru.

 

·      Cam-drin Rhywiol (gan gynnwys cam-fanteisio’n rhywiol ar blant)

 

·           Mae llawer iawn o achosion o drais ac ymosodiadau rhyw difrifol yn cael eu hadrodd i’r heddlu ac yn aml mae’r troseddwr yn bartner i’r dioddefwr neu’n berson y maent yn eu hadnabod. Fodd bynnag, mae angen annog dioddefwyr i roi gwybod am y digwyddiadau hyn.

·           Sefydlwyd Tîm gan Heddlu Gogledd Cymru i daclo camfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae’r heddlu yn cydweithio gyda sefydliadau eraill hefyd i sicrhau bod popeth y gellir ei wneud i ddiogelu’r plant hyn yn cael blaenoriaeth deilwng. Yn ogystal, bu cynnydd yn nifer y digwyddiadau o ‘feithrin perthynas amhriodol ar-lein’ (online grooming) ar draws y wlad.

 

·      Darparu Cymunedau Mwy Diogel

 

5.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol - 2020/2024 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adorddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywiaeth bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi dyhead yr Awdurdod am gydraddoldeb er mwyn creu cymdeithas decach i holl ddinasyddion Ynys Môn ac i helpu’r Cyngor gyflawni ei weledigaeth ar gyfer Ynys Môn fydd yn iach a llewyrchus lle bydd teuluoedd yn ffynnu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y swyddog Arweiniol mewn perthynas â Chydraddoldeb ar yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol a bod rhaid adolygu ei amcanion o leiaf bob pedair blynedd. Mae’n rhaid cyhoeddi Cynllun newydd ar gyfer y cyfnod 2020-2024 a phwrpas y Cynllun yw nodi’r camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau penodol mewn perthynas â chydraddoldeb. Nodwyd y bydd y Cynllun ar gyfer 2020/2024 yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn er mwyn ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth bod amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft 2020/20204 sydd ynghlwm i’r adroddiad yn seiliedig ar y prif heriau sy’n wynebu Cymru, y mae angen rhoi sylw iddynt, a nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’. Mae’r amcanion yn seiliedig hefyd ar flaenoriaethau rhanbarthol a nodwyd drwy waith ymgysylltu ar y cyd a gynhaliwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWPSEN) a blaenoriaethau lleol a nodwyd drwy ymgysylltu â Rhwydwaith Llesiant Medrwn Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth bod y Cyngor yn cydnabod y gofynion statudol i gynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb a bod cynnal asesiadau cadarn yn ffordd effeithiol o wneud yn siŵr bod unrhyw feysydd lle gall anghydraddoldeb fodoli yn cael eu nodi a’u bod yn derbyn sylw prydlon, a bod sicrhau ymagwedd gyson ar draws yr awdurdod o ran cwblhau asesiadau effaith effeithiol wedi ei nodi fel blaenoriaeth yn 2011/2012. Trwy gydol y cyfnod hwn mae trefniadau’r Cyngor wedi cael eu datblygu’n barhaus gyda’r nod o brif-ffrydio’r broses hon i waith dydd i ddydd y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth at adran 5.1 yn y Cynllun – ‘Gwella diogelwch personol a mynediad i gyfiawnder’; bydd mwy nag un sefydliad yn cyfrannu at gyflawni’r flaenoriaeth hon, gyda’r Cyngor yn cyfrannu at yr agwedd diogelwch personol a’r heddlu at agweddau eraill.

 

Amlinellodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth y blaenoriaethau o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft ar gyfer 2020/2024 a nododd nad yw pob un o’r blaenoriaethau’n berthnasol i bob gwasanaeth o fewn yr Awdurdod a rhoddodd enghraifft, sef bod amcan 3 yn y Cynllun yn cyfeirio at wella mynediad ffisegol at wasanaethau, trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig a mannau agored; mater i’r Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fyddai mynd i’r afael â’r flaenoriaeth hon. Dywedodd bod y blaenoriaethau wedi cael eu dosbarthu’n gyfartal ar draws Wasanaethau’r Cyngor. Fodd bynnag, dywedodd bod rhaid pwysleisio bod cyfrifoldeb ar Aelodau Etholedig a Staff i roi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ar gyfer 2018/19 pdf eicon PDF 11 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr Adroddiad Blynyddol yn darparu trosolwg o waith Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru a Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019, a’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni amcanion allweddol ar draws y rhanbarth er mwyn diogelu pobl. Dywedodd bod Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn Fwrdd Diogelu Rhanbarthol.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Cyngor, fel rhan o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, yn credu bod gan bob plentyn ac oedolyn hawl i fod yn rhydd rhag niwed. Un o gyfrifoldebau Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru yw sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn diogelu’r bobl sy’n byw yn y siroedd hynny. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 yn ymwneud â sefydlu’r Byrddau Diogelu a’u swyddogaeth. Mae Rheoliadau 5 a 6 yn ymwneud â Byrddau Diogelu yn llunio Cynlluniau Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol. Nododd bod Canllawiau Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl yn nodi mai amcanion Bwrdd Diogelu Plant yw diogelu plant yn ei ardal sy’n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu’n dioddef mathau eraill o niwed, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed ac atal plant yn ei ardal rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed. Amcanion Bwrdd Diogelu Oedolion yw amddiffyn oedolion yn ei ardal sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth (p’un a yw awdurdod lleol yn cwrdd ag unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio) ac sy’n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, ac atal yr oedolion hynny yn ei ardal rhag dod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae’r amcanion hyn o fewn y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn berthnasol nid yn unig i awdurdodau lleol ond yr holl asiantaethau partner yng Ngogledd Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd at y blaenoriaethau a nodwyd yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018/19 a 2019/20. Cyfeiriodd at gyflawniadau allweddol y Byrddau Diogelu yn ystod 2018/19 a dywedodd bod digwyddiad cymuned ymarfer wedi’i sefydlu i ddod â gwasanaethau ynghyd ac i rannu arfer dda, heriau ac ymchwil gyda gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau. Lansiwyd fideo diogelu ‘Gweld Rhywbeth / Dweud Rhywbeth’, sydd ar gael ar wefan y Bwrdd Diogelu, a gall asiantaethau lleol ei defnyddio. Nododd bod nifer fawr o bobl yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Diogelu a bod yr holl asiantaethau sydd ynghlwm â diogelu yn wynebu gofynion, cymhlethdodau a disgwyliadau cynyddol a helaeth.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·      Nodwyd bod gan y Bwrdd Diogelu a’r Is-Grwpiau restr hir o gynrychiolwyr, a holwyd am bresenoldeb nifer o asiantaethau yn y cyfarfodydd hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol bod presenoldeb yng  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 972 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolydd Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2020.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 10 Mawrth 2020 a nododd y bydd rhaid aildrefnu’r cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau annisgwyl ac y gwneir trefniadau i newid dyddiad y cyfarfod. Dywedodd y bydd angen ail-raglennu’r eitem – Cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – er mwyn sicrhau bod cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd ar gael.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Ebrill 2020.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.