Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 13eg Mehefin, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 63 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn:-

 

·      9 Ebrill, 2019

·      14 Mai, 2019 (Ethol Cadeirydd a Is-gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a ganlyn:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill, 2019.

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2019 (Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd).

 

 

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 25 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

5.

Contract Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoedd

Derbyn adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog 151 ar Pennaeth Dros Dro (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a Phennaeth Dros Dro Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff mewn perthynas â’r cynnig i gaffael contract rheoli gwastraff a glanhau strydoedd newydd o 5 Ebrill, 2021.

 

Cynhaliwyd trafodaeth fanwl ar yr opsiynau yn yr adroddiad i sicrhau fod y Contract Rheoli Gwastraff a Glanhau Strydoedd yn cyfarfod ag anghenion presennol y Cyngor a’i anghenion yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r opsiynau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU : Cyfeirio’r argymhelliad i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhelir ar 17 Mehefin, 2019.

 

Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Glyn Haynes ar Eitem 5.

 

 

6.

Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gwynedd a Môn pdf eicon PDF 644 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed gan ddisgyblion drwy’r bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a ddaeth i rym ym mis Medi 2017.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar gyfer Gwynedd a Môn yn weithredol ers mis Medi 2017 a bod yr adroddiad yn amlygu cynnydd a wnaed gan ddisgyblion o fewn y gwasanaeth.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr (FEE) – Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar gyfer Gwynedd a Môn (ADY a Ch) fod y Gwasanaeth ADY a Ch wedi canolbwyntio ar ysgolion Ynys Môn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae asesiadau mewn lle gan y Timau o fewn y Gwasanaeth i adrodd ar gynnydd disgyblion sy’n derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaeth. Nodwyd bod y wybodaeth a gasglwyd gan y Gwasanaeth ADY wedi cael ei defnyddio i gymharu’r prosesau a ddilynwyd ar ddechrau’r flwyddyn ac ym mis Mai, 2019, a gwelwyd bod y prosesau a’r darpariaethau wedi gwella mewn 52% o ysgolion. Ym mis Mai, roedd 89% o ysgolion yn gallu dangos bod ganddynt brosesau a darpariaeth o ansawdd dda ac mae hynny’n welliant ers y broses CAG flaenorol. Nododd bod yr holl wasanaethau o fewn y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yn gallu dangos eu bod wedi cyfrannu at ddatblygu ansawdd y ddarpariaeth drwy’r hyfforddiant y maent wedi’i ddarparu a’r sgiliau y maent wedi’u trosglwyddo (a ddangosir yn Atodiad 3 – 7 yr adroddiad) ac mae ganddynt brosesau i sicrhau fod y wybodaeth yn cael ei gwreiddio yn yr ysgolion. Ychwanegodd fod Holiadur Gwasanaeth wedi’i anfon at ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn ym mis Mai 2019 ynghylch a yw darpariaeth y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yn mynd i’r afael ag anghenion ysgolion. Nodwyd mai ychydig o ymatebion a dderbyniwyd, fodd bynnag, roedd yn amlwg o’r ymatebion fod angen i’r gwasanaeth ADY a Ch wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu gydag ysgolion, disgyblion a’u teuluoedd. Ychwanegodd y Swyddog fod sylwadau cadarnhaol wedi’u derbyn am waith y Timau Gwasanaeth ADY a Ch sy’n ymweld ag ysgolion a’r budd gwerth chweil y mae’r disgyblion yn ei gael o’r Gwasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlysoedd (2018) a’r gwaith a wnaed i gyfarfod â gofynion y Ddeddf pan ddaw i rym ym mis Medi, 2020. Ym mis Ebrill, 2018, cwblhawyd Arolwg Parodrwydd Cychwynnol gyda’r Awdurdod a’r Arweinydd Trawsnewid ADY Rhanbarthol (Llywodraeth Cymru). Pan ailadroddir yr arolwg ym mis Gorffennaf 2019, disgwylir y bydd yr ardaloedd sy’n cael eu datblygu yn dangos digon o gynnydd fel y gellir ystyried eu bod o fewn y categori ‘diogel’.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y berthynas waith rhwng ysgolion Môn a’r Gwasanaeth ADY a Ch yn gyffredinol ac am sicrwydd fod ysgolion yn gallu helpu disgyblion, yn unol â’u hanghenion penodol, cyn eu cyfeirio at y Gwasanaeth ADY a Ch. Dywedodd yr Uwch Reolwr (FEE) - Gwasanaeth ADY a Ch, ei bod yn bwysig cefnogi staff ADY  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Blynyddol - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 225 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Drafft 2018/19 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod sefydliadau cyhoeddus yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi cytuno i gydweithio, o dan Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (2015), drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Is-grwpiau cysylltiedig wedi gweithredu yn unol â’r pum egwyddor datblygu cynaliadwy cenedlaethol fel y nodir yn yr adroddiad. Nodwyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno, drwy’r Cynllun Llesiant, i ychwanegu dwy egwyddor sy’n bwysig i drigolion Gwynedd ac Ynys Môn, sef yr Iaith Gymraeg a chydraddoldeb. Nododd yr Arweinydd bod y Pwyllgor Sgriwtini hwn yn rhan o’r broses ymgynghori ar Adroddiad Blynyddol Drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. O dan flaenoriaeth yr Iaith Gymraeg, mae’r Bwrdd wedi sefydlu prosiect, o’r enw ‘ARFER’, a fydd yn gwella’r defnydd o’r Iaith Gymraeg yn y sefydliadau hynny sy’n gysylltiedig â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr Is-grŵp ‘Cartrefi ar gyfer Pobl Leol’ wedi cytuno i gynnwys y Cymdeithasau Tai yn y Grŵp. Erbyn hyn mae’r Is-grŵp yn canolbwyntio ar gynlluniau tai arloesol. Rhagwelir y gall arwain at wella effeithiolrwydd ynni, cael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd ac ar dlodi tanwydd. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn fod gan Menter Môn brosiect arloesol, Cartrefi Clyfar, a holodd a fyddai modd cynnwys mewnbwn gan Menter Môn yn yr Is-grŵp ‘Cartrefi ar gyfer Pobl Leol’.

 

Ar ôl cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol Drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

GWEITHREDU : Fel yr uchod.

 

8.

Aelodaeth y Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 544 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini mewn perthynas ag enwebu un Aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio i fod yn aelod o’r Panel Sgriwtini Cyllid.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Glyn Haynes i wasanaethau ar y Panel Sgriwtini Cyllid.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

 

 

9.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 240 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

GWEITHREDU : Fel yr uchod.