Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 9fed Chwefror, 2021 9.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 22 Hydref, 2020.

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Tachwedd, 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir: -

 

  • Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2020.
  • Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd, 2020.

 

4.

Adroddiad Cynnydd GwE - Rhaglen Waith a chefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19 pdf eicon PDF 9 MB

·           AdroddiadCynnydd GwE 2020/21: cefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19; ;

·           Adroddiad cylch gorchwyl Estyn parthed gwaith yr Awdurdod i gefnogi cymunedau dysgu mewn ysgolion ers Mawrth 2020

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·           Adroddiad Cynnydd GwE 2020/21: cefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19

 

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd - GwE 2020/21: cefnogaeth i ysgolion yn ystod pandemig Covid 19.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc fod yr adroddiad yn cyfeirio at y gwaith sydd wedi'i wneud rhwng GwE a'r awdurdod lleol er mwyn cefnogi ysgolion yn ystod y pandemig. Dywedodd y bu parodrwydd rhwng y sefydliadau i drafod, i rannu syniadau ac i addasu i wireddu gweledigaeth y gefnogaeth i ysgolion a disgyblion. Dywedodd ei fod, fel Aelod Portffolio, yn dymuno mynegi ei werthfawrogiad i staff yr Adran Addysg (Tîm Môn), GwE ac Estyn am eu gwaith mewn perthynas â’r   pandemig a'i effaith ar ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod GwE a'r awdurdod lleol wedi addasu eu ffyrdd o weithio er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth effeithiol i'w holl gymunedau ysgol yn ystod y pandemig. Bu angen sicrhau bod lles arweinwyr ysgolion, eu staff a'u dysgwyr o'r pwys mwyaf i'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu darparu’r lefel gywir o gefnogaeth weithredol neu broffesiynol. Croesawyd y cyswllt rheolaidd ag arweinwyr ysgol ac mae wedi cyfrannu at Brifathrawon yn teimlo y gallent droi at gydweithiwr proffesiynol i rannu materion heriol ac i ddod o hyd i ddatrysiadau i fynd i'r afael â materion dydd i ddydd. Dywedodd ymhellach, er nad yw addysg rithwir mor effeithiol â dysgu plant yn yr ysgolion, gwnaed pob ymdrech i ddarparu'r addysg orau bosib i'r disgyblion.

 

Dywedodd Mrs Sharon Vaughan, GwE fod yr adroddiad a gyflwynwyd i'r cyfarfod hwn yn dangos sut mae'r consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth â'r Awdurdodau Lleol, wedi esblygu ac addasu i gefnogi ysgolion yn ystod y pandemig. Trwy gydol y pandemig, mae'r cydweithredu rhwng yr Adran Addysg, GwE ac ysgolion wedi bod yn effeithiol, yn agored, yn dryloyw ac yn adeiladol. Roedd crynodeb o'r gwaith a wnaed ynghlwm wrth yr adroddiad fel a ganlyn: -

 

·      Cam 1 - Cyn y cyfnod clo

·      Cam 2 - Cefnogi ysgolion ar ddechrau'r cyfnod clo

·      Cam 3 - Dysgu o Bell

·      Cam 4 - Cefnogi ysgolion i ailagor

·      Cam 5 - Dysgu Cyfunol

·      Cam 6 - Cyflymu Dysgu / Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau

·      Cam 7 - Dyfnhau cydweithredu a datblygu rhwydweithiau cadarn

 

Rhoddodd Mrs Sharon Vaughan grynodeb byr o Atodiadau 2 i 5 a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad i'r Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Rhys Williams o GwE fod lles a llesiant wedi bod yn hollbwysig yn y gweithio ar y cyd rhwng yr awdurdod lleol a GwE dros gyfnod anodd y pandemig. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, cefnogodd GwE yr awdurdod lleol trwy gyflwyno a chefnogi gweithdrefnau Asesu Risg a chynhyrchu arweiniad ar gyfer defnyddio Ffrydio Byw mewn dosbarthiadau. Mae egwyddor gwaith Tîm Ynys Môn yn hollbwysig  i'r dull o weithredu a'r llinellau cyfathrebu clir rhwng pawb. O ganlyniad, mae cefnogaeth benodol wedi'i theilwra i gwrdd ag anghenion pob ysgol ac mae'r camau gweithredu dilynol yn gadarn iawn. Mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid (adroddiad ymgynghori) pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan  Arweinydd Tîm Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn mewn perthynas ar uchod. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Arweinydd Tîm, Gwasanaeth Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yn absenoldeb yr Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, mai rôl y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yw rhoi cyngor manwl ar bolisïau arbennig sy'n gysylltiedig â thwristiaeth er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn gyson ar draws ardal y Cynllun ac i gefnogi Swyddogion Cynllunio pan gyflwynir ceisiadau. Yn dilyn y broses ymgynghori wreiddiol yn 2018 ac o ganlyniad i'r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd ei bod yn briodol gwneud diwygiadau pellach i'r Canllawiau. Cymeradwywyd fersiwn ddrafft o'r CCA hyn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar 4 Medi, 2020. Wedi hynny bu'r CCA yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Hydref, a 27 Tachwedd, 2020. Nododd fod cydnabyddiaeth bod twristiaeth yn bwysig i'r Ynys a gellir gweld o fewn y CCA bod cydbwysedd rhwng cefnogaeth i'r sector twristiaeth a'r angen i ddiogelu cymunedau lleol i'r dyfodol. 

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro fod y sector twristiaeth yn bwysig i economi'r Ynys. Y gobaith yw y bydd llacio'r cyfyngiadau'n raddol yn gweld y sector twristiaeth yn ailagor pan fydd yn ddiogel gwneud hynny ac mewn modd cynaliadwy. Mae'r CCA yn rhoi polisïau clir i'r awdurdod cynllunio ar ansawdd, yr amgylchedd a'r Gymraeg wrth ddelio â cheisiadau cynllunio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod twristiaeth yn bwysig i'r Ynys a bod y polisïau cynllunio yn gyffredinol yn hyrwyddo datblygiad y fath weithgareddau twristiaeth ar yr amod eu bod yn gynaliadwy ac o safon uchel.

 

Dywedodd Arweinydd Tîm Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn fod y CCA wedi'u cynhyrchu i gefnogi'r polisïau yn y CDLlC.  Yn ystod cyfarfod y Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2019 cyflwynwyd yr Adroddiad Ymgynghori ar yr ymgynghoriad pellach hwn, a oedd yn nodi nad oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau pellach i'r Canllawiau o ganlyniad i'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, a gofynnwyd am i'r Canllawiau gael eu cyflwyno i gyfarfod o'r Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio i'w mabwysiadu. Ers y cyfarfod cyflwynwyd y canllawiau i Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd ar 4 Ebrill, 2019. O ganlyniad i'r drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw, ystyriwyd y byddai'n briodol gwneud mân newid i weithrediad y Canllawiau. At hynny, mae penderfyniad apêl diweddar mewn perthynas ag ystyriaethau sy’n gysylltiedig ag asesu ‘gorddarpariaeth' o lety gwyliau wedi tynnu sylw at yr angen i ddiwygio’r Canllawiau ymhellach. Cymeradwywyd fersiwn ddrafft o'r CCA ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar 4 Medi, 2020. Paratowyd y drafft hwn mewn ymgynghoriad â Swyddogion perthnasol y ddau Awdurdod. Ymgynghorwyd gyda’r cyhoedd ar y CCA o 16 Hydref hyd at 27 Tachwedd 2020. Nodwyd bod y prif newid  i'r Canllawiau a arweiniodd at y trydydd cyfnod ymgynghori yn ymwneud â gwneud newid pellach i'r diffiniad sy’n gysylltiedig â gorddarparu llety gwyliau. Erbyn hyn, mae'r diffiniad fel y gwelir yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Waith ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD nodi’r rhaglen waith am y cyfnod Medi 2020 hyd at Ebrill, 2021.