Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol, wedi'i ffrydio yn fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganid o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·        Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 15 Mehefin, 2021;

·        Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 28 Mehefin, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 15fed o Fehefin, 2021;

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 28ain o Fehefin, 2021.

 

4.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru : Adroddiad Cynnydd Chwarter 1 - 2021/2022 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod adroddiad perfformiad Chwarter 1 yn rhoi trosolwg o gynnydd ar raglenni a phrosiectau’r Cynllun Twf. Fodd bynnag, nododd, er nad yw'n amlwg yn yr adroddiad, bod cryn dipyn o waith wedi'i wneud yn y cefndir o ran gweithdrefnau a threfniadau llywodraethu i sicrhau llwyddiant y Cynllun Twf. Yn ystod y chwarter hwn, ystyriwyd a chymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol cyntaf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac ers hynny mae'r broses sicrwydd ar gyfer y prosiect wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Prosiect Ynni Llanw Morlais, sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, yn symud i’r cam nesaf ac yn cyflwyno Achos Busnes Llawn er ystyriaeth unwaith bydd y broses cydsynio wedi ei chwblhau. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y prosesau sydd wedi eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gadarn er mwyn sicrhau fod y prosiectau o fewn y Cynllun Twf yn cael eu craffu gan fod y ddwy Lywodraeth wedi rhoi adnoddau ariannol sylweddol. Roedd hi'n falch mai'r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo oedd prosiect ar yr Ynys - Prosiect Ynni Llanw Morlais.

 

Ailadroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr sylwadau'r Prif Weithredwr o ran y Prosiect Ynni Llanw Morlais. Dywedodd ymhellach fod y ddau Achos Busnes Amlinellol pellach - Hwb Economi Gwledig Glynllifon ai arweinir gan Grŵp Llandrillo Menai  a’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ai arweinir gan Brifysgol Bangor, wedi dechrau’r broses gymeradwyo. Mae’r ddau brosiect wedi cwblhau eu Hadolygiadau Gateway annibynnol ac y bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn ffurfiol o fewn adroddiad cynnydd Chwarter 2 y Pwyllgor hwn. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni yn adrodd fel Amber ar hyn o bryd yn dilyn adolygu’r amserlenni datblygu achosion busnes gan arwain at oedi o gymharu â’r amserlen a’i hamlinellwyd yn yr Achos Busnes Portffolio. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y prosesau'n cymryd mwy o amser na'r hyn a amcangyfrifwyd yn wreiddiol oherwydd cymhlethdod o ran caniatâd cynllunio, ystyriaeth ariannol, llywodraethu a’r broses gaffael. Dywedodd ymhellach fod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi penodi partner cyfathrebu strategol newydd - Ateb Cymru - i gefnogi cyfathrebu a gweithgareddau marchnata tra bod Hatch Regeneris wedi eu penodi i ddarparu ymgynghoriaeth achos busnes cyffredinol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio. Mae Wavehill hefyd wedi eu comisiynu i gefnogi’r datblygiad o achos economaidd ar gyfer y Prosiect Ynni Lleol Smart a Real Wireless i ddarparu astudiaeth gwmpasu i gefnogi’r proseict Coridor Cysylltu o fewn y Rhaglen Ddigidol. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach mai'r flaenoriaeth yw gweld cymaint o'r prosiectau yn y Cynllun Twf yn cael eu gweithredu a gwaith cyfalaf ar waith cyn gynted â phosibl.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Datblygiad Economaidd a Phrosiectau Mawr bod angen cryn dipyn o waith i symud y Cynllun Twf yn ei flaen ac roedd yn falch bod Prosiect Ynni Llanw Morlais bellach wedi symud ymlaen i'r cam nesaf. Dywedodd ymhellach fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, busnesau preifat ynghyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion pdf eicon PDF 153 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd ar waith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd y penderfynwyd cyflwyno rhaglen dros dro yn ystod y pandemig gyda’r ffocws cychwynnol ar graffu ar ymateb y Gwasanaeth Dysgu i’r pandemig Covid 19 a’r trefniadau a roddwyd ar waith yn ystod y cyfnod argyfwng. Mae'r gwaith o fonitro safonau ysgolion unigol wedi'i hen sefydlu, ac mae'n parhau i ddatblygu. Nododd fod diweddariad ar yr Iaith Gymraeg o fewn System Addysg Ynys Môn wedi ei roi gan yr Uwch Reolwr Cynradd i’r Panel. Cyfeiriwyd hefyd at Gynllun Strategol Cymru mewn Addysg sy'n gynllun 10 mlynedd gyda 7 canlyniad a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Cadeirydd ymhellach at yr Hunanwerthuso a wnaed o waith y Panel a nodwyd bod gwaith y Panel wedi cael effaith gadarnhaol iawn ac wedi dal ysgolion yn atebol, herio a chynorthwyo yn eu datblygiad a'u gwelliant parhaus. O ran y meysydd i'w datblygu ymhellach, teimlwyd nad oedd dilyniant digonol yn digwydd yn dilyn Aelodau'r Panel yn ymweld ag ysgolion unigol. Awgrymwyd y dylid trefnu ymweliad dilynol oddeutu chwe mis ar ôl yr ymweliad gwreiddiol i weld a oes unrhyw ddatblygiadau neu welliannau wedi'u rhoi ar waith.

 

Dywedodd y Cadeirydd ymhellach bod adroddiad ar lafar wedi ei gyflwyno i’r Panel ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 gan ffocysu ar oblygiadau'r ddeddf yn lleol. Amlinellwyd y prif newidiadau sef bod yr oedran bellach wedi ymestyn o 0-25 oed, a bod cyfnod o 7 wythnos i benderfynu a oes gan unigolyn Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n llawer cynt na gofynion y ddeddf flaenorol. Cyfeiriwyd at y gwaith arloesol sef bod gan y Cyngor system Cynllun Datblygiad Personol, gyda phob ysgol ar yr ynys a mynediad at y system, sy’n golygu fod y data yn gyfredol ac yn fyw. Nodwyd mai Ynys Môn a Gwynedd yw’r unig siroedd yng Nghymru sydd â system o’r fath ac felly’n arwain y ffordd o ran hynny. Nododd y Cadeirydd fod llythyr wedi ei anfon at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryderon fod diffyg Seicolegwyr Cymraeg o Ogledd Cymru yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, a fydd yn arwain ar ddiffyg staff yn y blynyddoedd i ddod. Ymhellach, derbyniodd y Panel fewnbwn gan ddau Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac fe nodwyd y pwyntiau a godwyd yn ystod eu cyflwyniad o fewn yr adroddiad. Nodwyd y bydd y Panel yn derbyn diweddariadau rheolaidd i fonitro'r cynnydd yn erbyn gofynion y Ddeddf.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid fod y Panel wedi derbyn adroddiadau pwysig o ran y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Iaith Gymraeg o fewn System Addysg Ynys Môn yn ddiweddar. Dymunodd ddiolch i’r Panel am eu gwaith ond mae blaenoriaethau addysg yn parhau i newid yn enwedig yn ystod y pandemig. Heriodd y Deilydd Portffolio y Panel i ddangos sut y mae wedi datblygu ers ei sefydlu dros 8 mlynedd yn ôl. Ymatebodd y Cadeirydd ei fod yn gyntaf yn ystyried bod y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi perswadio’r Penaethiaid eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 163 KB

Cyflwyno Blaen Raglen Waith.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cytuno’r fersiwn bresennol o’r blaen raglen waith ar gyfer 2021/22.

·           Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran rhoi’r blaen raglen waith ar waith.