Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol wedi'i ffrydio'n fyw (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru (Rhan 9)- 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r uchod. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod hi’n ofynnol o fewn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn paratoi, cyhoeddi a chyflwyno eu Hadroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithio gyda’i bartneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, gofalwyr a phlant. Mae’n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gyd-weithio a, ac i ddarparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaeth gofal cymdeithasol. Esboniodd tra bod yr Awdurdod yn cyfrannu oddi fewn i’r Bwrdd Partneriaeth, mae hefyd yn cymryd mantais o’r cyfleoedd sydd wedi dod yn sgil y Bwrdd.

 

Fe wnaeth y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol adrodd fod y Bwrdd Partneriaeth wedi parhau i gwrdd yn fisol, er bod y pandemig wedi effeithio ar brosiectau’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn parhau i adolygu’r prif egwyddorion o fewn y Ddeddf ac yn sicrhau fod blaenoriaethau’r Bwrdd yn gynaliadwy ac yn cwrdd â'r gofyniad mewn perthynas â gofal a chefnogaeth ar gyfer plant ac oedolion. Nododd mai pwrpas Rhan 9 o’r Ddeddf yw gwella canlyniadau a lles pobl, ynghyd a gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd darpariaeth y gwasanaeth. Felly, gellir disgrifio

amcanion allweddol cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio fel a ganlyn:

 

·           Gwella gofal a chefnogaeth, gan sicrhau fod gan bobl fwy o lais a rheolaeth;

·           Gwella canlyniadau ac iechyd a lles;

·           Darparu gofal a chefnogaeth gydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn;

·           Gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau, sgiliau ac arbenigedd.

 

Dywedodd Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllaw Statudol Rhan 9 wedi’i ddiweddaru yn Ionawr 2020 ac mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn gweithio yn unol â’r Canllaw hwn. Mae’r prif newidiadau yn ymwneud ag aelodaeth ychwanegol, ffocws ychwanegol ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc a ffocws bellach ar integreiddio gwasanaethau. Cyfeiriodd at y gwaith peilot wedi’i ymgymryd gan Gyngor Sir Ynys Môn o ran y ‘gyllideb gyfun’ ac mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r prosiect am ei fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r cynllun ‘cyllideb gyfun’ yn llwyddiannus; disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r cynllun ‘cyllideb gyfun’ i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol eraill fel arfer da. Mae cyfanswm o £3.4m wedi ei dod o gyllid ICF tuag at ariannu 40 prosiect at yr Ynys.

 

Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried yr adroddiad a gwneud y pwyntiau canlynol :-

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch lleoliad y 40 prosiect sydd wedi derbyn cyllid ICF ar yr Ynys. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y darperir y prosiectau ar draws yr Ynys yn ddibynnol ar anghenion penodol e.e. Cartrefi Clyd sydd wedi eu lleoli ble mae adeiladau ar gael o fewn dalgylchoedd ysgolion. Nododd ymhellach fod prosiectau eraill wedi cynnwys y trydydd sector e.e. Mencap Môn (am fod diffyg cefnogaeth i rieni newydd sydd â phlant gydag anghenion addysgol arbennig). Nododd y gallai gynllun peilot o’r fath gael ei gyflwyno ar draws Gogledd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2020/21 pdf eicon PDF 692 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod gwaith y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus wedi ei effeithio gan y pandemig ynghyd a blaenoriaethau sefydliadau partner yn gorfod cael eu newid. Fodd bynnag, mae’r sefydliadau partner wedi bod yn gweithio’n agos a'i gilydd i gefnogi’r cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang. Nododd fod yr adroddiad wedi’i strwythuro i gyfeirio ar gynnydd gwaith pedwar is-grŵp y Bwrdd. Mae arweinwyr is-grwpiau’r Bwrdd yn aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac maent wedi bod yn gyfrifol am adrodd ar gynnydd yn ystod cyfnod 2020/21. Fe wnaethon nhw adrodd fod y cynydd wedi arafu am fod ymateb i’r argyfwng ac adfer cymunedau lleol wedi cymryd blaenoriaeth. Sefydlodd y Bwrdd bedwar is-grŵp gweithredu :-

 

·           Newid Hinsawdd - bu i’r Is-grŵp gael ei sefydlu i annog cydweithio rhwng sefydliadau cyhoeddus ar liniaru effaith newid hinsawdd, ac yn benodol effaith llifogydd arfordirol a mewndirol ar gymunedau. Cynhaliwyd trafodaethau oddi fewn i’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ynghylch yr angen i weithio’n agos a chymunedau er mwyn cynnal trafodaethau angenrheidiol ynglŷn â beth sy’n bwysig o ran newid hinsawdd a llifogydd yn benodol. Yn ogystal, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd a Chyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn drafod eu blaenoriaethau o ran newid hinsawdd tra ei bod yn rhaid ystyried bod gan awdurdodau lleol eu blaenoriaethau newid hinsawdd eu hunain a bydd angen sicrhau nad oes dyblygu gwaith a sicrhau fod gwaith yr Is-grŵp Newid Hinsawdd yn ychwanegu gwerth ac yn cefnogi’r rhaglen newid hinsawdd.

 

·         Cartrefi i bobl leol - yn wreiddiol gofynnwyd i’r Is-grŵp sefydlu trefn cydweithio yn y sector tai ac i ddatblygu cartrefi mwy addas a fforddiadwy yn y lleoedd cywir. Mi oedd gan nifer o bartneriaid y Bwrdd gynlluniau eisoes i ddatblygu tai fforddiadwy ond un budd o weithio ar y cyd oedd cyflawni darbodion maint - yn benodol datblygiad tai ar y cyd i leihau costau datblygu ac i alluogi medru canolbwyntio ar ddatblygu tai arloesol. Dywedodd fod yr Is-grŵp Cartrefi wedi ystyried a chytuno fod eu gwaith yn dirwyn i ben am nad oes unrhyw werth pellach y byddent yn medru ei gyfrannu i’r gwaith sydd yn mynd ymlaen mewn datblygu tai gan sefydliadau unigol. Bydd rhaid i’r Bwrdd felly ail-ystyried y flaenoriaeth hon a chytuno ar ffordd ymlaen.

 

·           Gofal Iechyd a Chymdeithasol Integredig - profodd gwaith yr Is-Grwp mewn gofal iechyd a chymdeithasol yn allweddol yn ystod y pandemig ac yn enwedig i’r gwaith o adfer cymunedau lleol yn dilyn yr argyfwng. Mae ffyrdd newydd o weithio wedi eu datblygu yn rhithiol sydd wedi bod o fudd i’r timau amlddisgyblaethol. Trefnwyd cyfarfodydd wythnosol rhwng partneriaid yn ystod y cyfnod argyfwng i drafod y gwasanaethau o dan y mwyaf o bwysau a chynnig at ymatebion ar y cyd. Dangoswyd parodrwydd i weithio gyda’i gilydd ac addasu i amgylchiadau gwaith heriol. Mae gwaith nawr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Adroddiad Chwarter 4 Cynllun Twf pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd– adroddiad gan Gyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ynghylch yr uchod.  

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygiad Economaidd fod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn gyfle i adfywio economi Gogledd Cymru yn dilyn y pandemig a Brexit.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod yn dymuno gweld y Bid Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn llwyddo a bod y prosiectau yn cael eu cyflawni i gymryd mantais o’r cyllid sydd ar gael. Dywedodd fod gan yr Ynys brosiectau arloesol fel rhan o fidiau twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd Gyfarwyddwr Portffolio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gyflwyniad byr i’r Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Y Portffolio Bid Twf

 

·           Amcanion Gwariant dros y 15 mlynedd nesâd - creu rhwng 3,400 a 4,200 net o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru.

·           GVA - i gefnogi cynnydd ychwanegol net GVA o rhwng £2 biliwn a £2.4 biliwn ar gyfer economi Gogledd Cymru drwy’r Bid Twf erbyn 2036.

·           Buddsoddiad – cyflawni cyfanswm buddsoddiad o hyd at £1.1 biliwn yn Economi Gogledd Cymru drwy’r Bid Twf erbyn 2036. 

 

Bwriad y Bid Twf yw adeiladu economi cynaliadwy a llewyrchus yng Ngogledd Cymru gyda’r prif amcan o gael twf cynaliadwy cynhwysol sydd yn rhan o’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Y Rhaglenni

 

  • Rhaglen Ddigidol – Cyflawni newid amlwg yn y cysylltedd digidol sydd ei angen i sicrhau y gall Gogledd Cymru fodloni galw’r defnyddwyr, cynnal

cyflymdra â gweddill y DU, datgloi potensial sectorau a safleoedd â blaenoriaeth am dwf a thanategu ecosystem arloesi ffyniannus. Creu hyd at 380 o swyddi erbyn 2036.                                       

                                         Cyfanswm Buddsoddiad £41.7m

 

  • Rhaglen Tir ac Eiddo – Mynd i’r afael â’r diffyg tir ac eiddo addas ar gyfer twf busnes a dod â safleoedd ymlaen ar gyfer datblygiadau tai. Cyflawni

gwelliannau sy’n symbylu buddsoddiad mewn safleoedd ac eiddo ym mhorthladd Caergybi a’r ardal ehangach. Creu 2,280 o swyddi erbyn 2036.                                          Cyfanswm Buddsoddiad £355.4m

 

 

  • Rhaglen Ynni Carbon Isel - Datgloi buddion economaidd prosiectau ynni carbon isel trawsffurfiol a sefydlu Gogledd Cymru fel un o leoliadau arweiniol y DU ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel, arloesedd a buddsoddi yn y gadwyn gyflenwi. Creu 980 swydd erbyn 2036. 

                                                                 Cyfanswm Buddsoddiad £668.5m

 

 

  • Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Cyfnerthu lleoliad Gogledd Cymru fel clwstwr gweithgynhyrchu gwerth uchel pwerus ac arloesol, sy’n adeiladu ar arbenigedd presennol ac arbenigedd byd-eang i greu sail economaidd gwerth uwch, mwy amrywiol sy’n cefnogi trosglwyddo i ynni carbon isel. Creu 180 swydd erbyn 2036.

                                                                 Cyfanswm Buddsoddiad £39.5m

 

  • Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth  – Adeiladu economi sylfaen mwy cynaliadwy, bywiog a gwydn o fewn y rhanbarth, gan wneud y gorau o gyfleoedd am gyflogaeth a ffyniant drwy ein hamgylchedd a’n tirwedd. Creu 380 o swyddi erbyn 2036.

                                                      Cyfanswm Buddsoddiad £41.3m

 

Fe wnaeth Mr Hedd Williams adrodd ar yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i’r Pwyllgor. Nododd mai ffocws y chwarter hwn oedd symud i’r cyfnod cyflawni gyda’r gwaith a gychwynnodd yn Ionawr 2021 gydag adolygiad sylfaenol o’r holl brosiectau i ail-gadarnhau amserlenni ar gyfer datblygu a darparu achosion busnes. Yn ystod Chwarter  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Raglen Waith pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwyno y Raglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cytuno ar y fersiwn presennol o’r blaen raglen waith ar gyfer 2021/22;

·           Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran cyflawni’r blaen raglen waith.