Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel a nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Euryn Morris ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Bu i’r Cynghorydd T Ll Hughes MBE ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd Ac Ynys Môn: 2021/22.

 

Bu i’r Cynghorydd Dafydd R Thomas ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd Ac Ynys Môn: 2021/22.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 315 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2022. 

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2022 yn gywir, yn amodol ar ychwanegu enw’r Cynghorydd Ken Taylor i’r rhestr o’r aelodau a oedd yn bresennol.

4.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn: 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer 2021/22

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol bod gofyn i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i’r pwyllgor hwn bob blwyddyn er mwyn cyflwyno trosolwg o weithgareddau.  Nododd bod presenoldeb wedi gwella ers i’r cyfarfodydd hyn gael eu cynnal yn rhithiol.

 

Adroddodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn bod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol, yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn

1998, a'r diwygiadau dilynol yn sgil deddf Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a

2006, i weithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth

Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub er mwyn rhoi sylw i'r agenda diogelwch cymunedol yn lleol. Mae gofyniad hefyd i bartoi a gweithredu strategaeth ar gyfer atal a lleihau trais difrifol

yn dilyn newidiadau i’r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn o ganlyniad i’r Ddyletswydd Trais Difrifol y flwyddyn nesaf. Aeth ymlaen i ddweud mai un o’r prif heriau y mae’r bartneriaeth yn ei wynebu ar hyn bryd ydi colli grantiau lleol - mae'r holl grantiau a fyddai’n arfer dod i’r bartneriaeth, naill ai wedi dod i ben, neu wedi symud i fod yn grantiau rhanbarthol sy’n cael eu rheoli ar sail Gogledd Cymru. Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol at y data troseddu ar gyfer Ynys Môn ar gyfer Tachwedd 2022 a dderbyniwyd gan y Dadansoddwr Partneriaeth o fewn Heddlu Gogledd Cymru fel y nodir yn yr adroddiad.  Aeth ymlaen i nodi yn dilyn cydweithrediad rhwng yr Heddlu, yr Awdurdod Lleol a’r Cyngor Tref, cyflwynwyd cais llwyddiannus ar gyfer Caergybi ym mis Mai o dan Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4 y Swyddfa Gartref.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Er eu bod yn croesawu’r cais llwyddiannus o dan y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4 ar gyfer Caergybi, nododd yr aelodau nad oes modd i gymunedau gwledig elwa o brosiect o’r fath a chodwyd cwestiynau ynglŷn ag argaeledd camerâu CCTV symudol mewn cymunedau gwledig. Atebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol bod y meini prawf cymhwystra ar gyfer y Gronfa Strydoedd Mwy Diogel 4  yn ymwneud â’r lefel troseddu a adroddir mewn ardal benodol.  Nododd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Heddlu mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer cymunedau gwledig. Mewn perthynas â chamerâu CCTV nododd mai’r Cynghorau Tref sydd bellach yn gyfrifol am gamerâu CCTV, fodd bynnag rhoddodd sicrwydd i’r aelodau y byddai’n gwneud ymholiadau mewn perthynas ag argaeledd camerâu CCTV symudol. Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr y byddai, fel Cadeirydd y Bartneriaeth, yn codi’r mater yn ystod y cyfarfod nesaf o’r Bartneriaeth. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai pryderon yn ymwneud â throseddau gwledig fod yn fater priodol i’w godi yn Fforwm Gwledig CLlLC;

·           Cyfeiriwyd at Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 a chodwyd cwestiynau o ran y modd y mae’r bartneriaeth yn gweithredu mewn modd effeithiol ac effeithlon yn unol â disgwyliadau’r Ddeddf. Ymatebodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol bod sefydliadau partner o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (Rhan 9): 2021/22 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer 2021-22.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol baratoi, cyhoeddi a chyflwyno ei Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru yn unol â Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad â'u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion ag anghenion am ofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithredu, a darparu gwybodaeth i’r awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau

gwasanaethau cymdeithasol. 

 

Adroddodd Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol (Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru) mai rôl y bartneriaeth yw dod â sefydliadau partner ynghyd h.y. Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, y trydydd sector a phartneriaid eraill er mwyn integreiddio gwasanaethau.  Mae’r Tîm Rhanbarthol yn rheoli a chefnogi’r sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael er mwyn galluogi i bartneriaid gyflawni’r gwaith. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyfarfod yn fisol, ac mae’n gosod cyfarwyddyd clir i sefydliadau partner mewn perthynas â chylch gwaith y Bartneriaeth ar gyfer gwaith sy’n ddisgwyliedig o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Nid oes gan y Bwrdd unrhyw ffrydiau ariannu pwrpasol ac mae ei weithgareddau’n cael eu hariannu drwy gymysgedd o gyllid yr awdurdod lleol wedi’i gyfuno a chyllid cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid. Amlygodd waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol dros y deuddeg mis diwethaf a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Aeth ymlaen i ddweud bod argyfwng ym maes recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol ar hyn o bryd ac mae’r Bwrdd Partneriaeth yn cefnogi pecyn recriwtio cenedlaethol drwy ei sefydliadau partner.   Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol bod Is-grŵp Plant wedi cael ei sefydlu i amlygu gwaith y Gwasanaethau Plant ledled y rhanbarth sydd hefyd wedi’i amlygu yn yr adroddiad. Aeth ymlaen i ddweud bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn mynd i gyfnod newydd gyda’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol 5 mlynedd yn ysgogi newid a thrawsnewid ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â Chronfa Gyfalaf Tai â Gofal 4

blynedd a Chronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso 3 blynedd. 

 

Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried yr adroddiad a chodi’r prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Holwyd ynglŷn â’r prif flaenoriaethau y bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn canolbwyntio arnynt o 2022/2023 ymlaen.  Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu bod y Bwrdd Partneriaeth wedi bod yn canolbwyntio ar waith yn ymwneud â’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ynghyd â’r ddwy gronfa gyfalaf arall a dderbyniwyd ac ar sefydlu rhaglen waith mewn ymgynghoriad â’r sefydliadau partner.  Mae’r asesiad anghenion y boblogaeth hefyd wedi cael ei adolygu ynghyd â’r adroddiad sefydlogrwydd y farchnad.  O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd y Bwrdd Partneriaeth yn mynd i’r afael ag egwyddorion y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ac yn adeiladu ar y rhaglen a roddwyd ar waith gan y Bwrdd ynghyd â’r Cynllun Ardal;

·           Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag i ba raddau y mae’r Bwrdd wedi cyflawni ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pdf eicon PDF 7 MB

·        Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: 2021/22

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

·        Adroddiadau Cynnydd Ch1 : 2022/23 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

 

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd  - yr adroddiadau canlynol gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:-

 

·           Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru 2021/2022

·           Adroddiad Cynnydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Ch1 2022/2023

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu cynnydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r Fargen Twf a’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r prosiectau ynghyd â cherrig milltir allweddol eraill yn ystod y flwyddyn. Dywedodd bod yr Adroddiad Cynnydd Chwarter 1 yn rhoi trosolwg o’r cynnydd mewn perthynas â rhaglenni a phrosiectau’r Fargen Twf.

 

Rhoddodd Pennaeth Gweithrediadau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru grynodeb o waith y Bwrdd Uchelgais o ran cyflawni prosiectau’r Fargen Twf.  Adroddodd ar amcanion y Bwrdd Uchelgais i greu 4,200 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £2.4 biliwn o GVA ychwanegol.  Adroddodd y Rheolwr y Rhaglen Tir ac Eiddo a Rheolwr y Rhaglen Ddigidol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru  ar yr uchafbwyntiau o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022:-

 

Ebrill 2021 – Sicrhawyd cyllid o £500k o Gynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan Llywodraeth Cymru i helpu ffermwyr i ddatgarboneiddio;

Mai 2021 Sicrhawyd grant o £200,000 o gynllun Adfer Gwyrdd OFGEM i ddatblygu technolegau carbon isel ar gyfer cartrefi megis pwyntiau gwefru cerbydau trydan a systemau gwresogi;

Mehefin 2021 – Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda'r sectorau preifat a chyhoeddus i helpu i adnabod blaenoriaethau ar gyfer cysylltedd symudol ar draws rhwydweithiau trafnidiaeth y rhanbarth;

Gorffennaf 2021 Trefnwyd ymweliadau gan Weinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru;  

Awst 2021 Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Canolbwynt Economi Wledig Glynllifon;

Medi 2021 -Lansiwyd Strategaeth Ynni ar gyfer y Gogledd gyda Llywodraeth Cymru, i drawsnewid y ffordd y defnyddir ynni ar draws y rhanbarth;

Hydref 2021 Codwyd £2,300 ar gyfer Mind, gyda'r rhoddion yn cael eu rhannu ar draws canghennau’r Gogledd;

Tachwedd 2021 - Sicrhawyd grant o £387,600 drwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol i gynnal astudiaethau dichonoldeb y System Ynni Lleol Blaengar;

Rhagfyr 2021 Cymeradwywyd yr Achos Busnes Llawn cyntaf ar gyfer y Ganolfan Prosesu Signal Digidol ym Mhrifysgol Bangor

Ionawr 2022 Diweddarwyd gwasanaethau band llydan mewn 300 safle drwy'r Cynllun Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol;

Chwefror 2022 Rhoddwyd cefnogaeth i dri sefydliad i lansio systemau amaethyddol newydd a fydd yn helpu ffermwyr i ddatgarboneiddio;

Mawrth 2022 Daeth Morlais, y prosiect llif llanw a redir gan Menter Môn, yn barod i ddechrau ar y gwaith adeiladu.

 

Adroddodd y Pennaeth Gweithrediadau ar y cynnydd ers mis Ebrill 2022 yn cynnwys yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y Ganolfan Peirianneg ac Optegol gyda Phrifysgol Glyndŵr a’r prosiect Ychydig % Olaf.  Ym mis Gorffennaf 2022 lansiwyd y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Cyfeiriodd at benderfyniadau diweddar i dynnu’r prosiect Safle Strategol Allweddol  a Fferm Sero Net Llysfasi yn ôl o’r Fargen Twf. Aeth ymlaen i ddweud  bod Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru wedi cytuno i fenter ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd  adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn nodi Rhaglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23 i’w ystyried. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r blaen raglen waith ar gyfer 2022/23

·      Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith.