Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 321 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023, yn gywir.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Ynys Môn gan GwE 2021/2022 pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn 2021/2022.

 

Yn absenoldeb yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod Adroddiad Blynyddol GwE yn amlygu’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2021/22. Nododd hefyd fod yr adroddiad yn cyfeirio at y rhaglen waith a’r cymorth a dderbyniodd ysgolion gan yr awdurdod lleol a GwE yn ystod y pandemig i liniaru’r effaith ar ddisgyblion. Roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i gynrychiolwyr GwE am y cymorth a’r arweiniad sy’n cael ei roi ganddynt i ysgolion yn ddyddiol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid fod gorgyffwrdd rhwng y Portffolio Addysg a’r Portffolio Gwasanaethau Plant mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a’u hanghenion addysgol. Nododd fod yr adroddiad yn trafod ymwybyddiaeth o drawma a bod tair ysgol gynradd yn cael eu nodi fel ysgolion sy’n ystyriol o drawma. Ychwanegodd fod perthynas weithio agos yn bodoli gyda GwE ers bron i ddeg mlynedd ac mae’r adroddiad yn amlygu nid yn unig yr elfennau addysgol, ond materion lles a gafodd eu cynnal yn ystod y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw’r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Dysgu Ynys Môn o ran gwella ysgolion, rhannu arfer da, gwybodaeth a sgiliau, gwella cryfderau a datblygu capasiti. Mae adroddiad Estyn ar yr arolygiad o Wasanaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022 yn amlygu’r gwaith partneriaeth. Nododd fod Estyn, yn ystod yr arolygiad, wedi nodi dau argymhelliad i’r Awdurdod Lleol eu rhoi ar waith, sef cryfhau prosesau ar gyfer arfarnu effaith gwaith y Gwasanaeth Dysgu a datblygu a chryfhau trefniadau sgriwtini ffurfiol. Mae’r Panel Sgriwtini Addysg yn craffu’n rheolaidd ar waith y Gwasanaeth Dysgu (gan gynnwys gwaith GwE). Fodd bynnag, i gryfhau’r broses sgriwtini, ac ymateb i argymhellion Estyn, mae’r Pwyllgor hwn yn craffu ar waith y Gwasanaeth Dysgu a’i bartneriaid yn flynyddol. Ychwanegodd fod y gwasanaeth dysgu’n wynebu cyfnod o newidiadau sylweddol, gyda Chwricwlwm newydd a’r Ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, ynghyd â heriau ariannol, recriwtio staff a’r ymateb yn dilyn covid. Fel rhan o’r diwygiadau hyn, mae’r broses atebolrwydd yn esblygu, gan gynnwys adrodd ar addysg a chraffu arno, ac mae hyn yn cynnwys perfformiad ac effeithiolrwydd ysgolion. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc hefyd at y Canllawiau Gwella Ysgolion newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac a fydd yn statudol o fis Medi 2024. Bydd y canllawiau’n cryfhau systemau atebolrwydd, gydag ysgolion yn cael eu dal i gyfrif yn uniongyrchol gan eu cyrff llywodraethu ac Estyn am ansawdd y ddarpariaeth a chynnydd dysgwyr. Yn ogystal, mae’r canllawiau’n nodi’n glir fod pob partner yn rhan o’r broses, ac mae atebolrwydd clir ar y gwasanaethau cymorth megis y Gwasanaeth Dysgu a GwE. Bydd angen cydweithio agos rhwng Awdurdod Lleol Ynys Môn a GwE wrth ddarparu cefnogaeth yn seiliedig ar y blaenoriaethau gwella yng nghynllun  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Addysg pdf eicon PDF 656 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru ar gynnydd y Panel Sgriwtini Addysg. Dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg, mai hwn yw ail adroddiad cynnydd y Panel ac mae’n ymwneud â Chwarter 2 y flwyddyn weinyddol bresennol. Nododd fod dwy ran o dair o aelodau’r Panel yn aelodau newydd a gafodd eu hethol am y tro cyntaf yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Felly, mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i greu’r amodau i bob Aelod gyfrannu’n llawn at waith craffu’r Panel e.e. sgiliau ar gyfer craffu a chwestiynu effeithiol, dealltwriaeth o’r gyfundrefn Addysg, codi ymwybyddiaeth am ffrydiau gwaith cenedlaethol ym maes addysg, a’r bwriad yw manteisio i’r eithaf ar y rhaglen waith i sicrhau mewnbwn a chefnogaeth briodol ac amserol i gefnogi aelodau’r Panel Sgriwtini Addysg. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones fod y Panel wedi cyfarfod pum gwaith yn ystod Chwarter 2 ac ystyriwyd y materion canlynol:-

 

·           Adroddiad Arolygiad Estyn ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn

·           Cwricwlwm i Gymru

·           Cysgodi GwE

·           Rôl a Disgwyliadau’r Fframwaith Rheoleiddio – Arweinyddiaeth Wleidyddol a Sgriwtini

·           Cylch Gorchwyl a Chyd-destun Gwaith y Panel

·           Canllawiau Gwella Ysgolion – Fframwaith ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd (Llywodraeth Cymru)

·           Rôl Aelodau Etholedig, Llywodraethwyr Ysgol a’r broses ar gyfer ysgolion sy’n peri pryder

·           Adroddiad Blynyddol GwE ar Ynys Môn: 2021/2022

·           Rhaglen waith y Panel Sgriwtini ar gyfer y cyfnod Medi 2022 – Ebrill 2023

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Panel wedi bod yn gefnogol o waith y Gwasanaeth Addysg ac mae datblygu addysg plant a phobl ifanc yn flaenllaw yng ngwaith y Panel.

 

Wrth ystyried Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Addysg, trafododd y Pwyllgor y canlynol:-

 

·           I ba raddau y mae’r Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon â chyfeiriad cychwynnol gwaith y Panel?

 

Dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod Swyddogion Addysg a’r Rheolwr Sgriwtini yn cynghori ac yn cynorthwyo’r Panel yn ei waith. Nododd fod y Panel yn craffu ar yr adroddiadau a gyflwynir i’r Panel a bydd rhagor o waith yn cael ei wneud mewn rhai meysydd yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Nododd fod cynrychiolwyr o Estyn a GwE wedi mynychu cyfarfodydd i gefnogi gwaith y Panel.

 

·           Ym marn y Pwyllgor Sgriwtini, pa feysydd eraill y mae angen i’r Panel Sgriwtini Addysg graffu arnynt?

 

Gan fod dwy ran o dair o aelodau’r Panel yn newydd, dywedodd Cadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg fod trafodaethau wedi’u cynnal ynghylch darparu rhaglen ddatblygu i wella sgiliau Aelodau mewn perthynas â gwaith y Panel. Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd rhaglen ddatblygu bwrpasol yn cael ei rhoi ar waith, mewn cydweithrediad â Chadeiryddion y tri Phanel Sgriwtini, gan dargedu’r Panel Sgriwtini Addysg yn y lle cyntaf. Nododd fod arbenigedd cyllid wedi’i gomisiynu ar gyfer y Panel Sgriwtini Cyllid er mwyn caniatáu i’r Panel graffu ar gyllidebau ariannol y Cyngor ac ati. Y gobaith yw cynnig rhaglen gymorth debyg i’r ddau Banel arall maes o law. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd yn ofynnol i’r Panel Sgriwtini Addysg gynnwys y Cwricwlwm newydd i Gymru ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2022/23.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Cytuno ar fersiwn gyfredol y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·           Nodi cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Flaen Raglen Waith.