Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni /Yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 19eg Ebrill, 2023 9.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 15 Mawrth, 2023, yn gofnod cywir.

 

4.

Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Mon pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd ar Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Ar ddechrau’r cyfarfod, ac yn absenoldeb Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid fod canol trefi yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd ledled y DU wedi newid dros y blynyddoedd. Dywedodd fod Cynllun y Cyngor, a gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddar, yn cynnwys targed i ‘wella bywiogrwydd a hyfywedd canol ein trefi’ a ‘bod pobl Ynys Môn, a’i chymunedau, yn mwynhau, yn diogelu ac yn gwella eu hamgylchedd adeiledig a naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i awdurdodau lleol ymdrin â llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd. Aeth ymlaen i ddweud bod Archwilio Cymru wedi cynnal astudiaeth ar Adfywio Canol Trefi yng Nghymru, ac wedi cyhoeddi adroddiad ym mis Medi 2021 yn cyflwyno sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Cafodd yr adroddiad hwn, ac ymateb y Cyngor, ei adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Chwefror 2022. Tynnodd y broses hon sylw at yr angen i’r Cyngor ddatblygu dull strategol ar gyfer gwella canol trefi. Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru’n cynnwys nifer o gydrannau, gan gynnwys grantiau cyfalaf a benthyciadau ar gyfer gwneud gwelliannau yng nghanol trefi. Mae nifer o strategaethau/cynlluniau adfywio canol trefi neu drefi wedi’u paratoi ar Ynys Môn yn y gorffennol, gyda’r rhan fwyaf yn cyd-fynd â chyfleoedd ariannu allanol penodol, ac mae nifer wedi’u paratoi ar gyfer Caergybi dros y blynyddoedd. Bellach, cynigir bod un strategaeth ar gyfer y sir gyfan, yn ymdrin â phob canol tref ar Ynys Môn, yn cael ei pharatoi, ac nad yw wedi’i chlymu ag unrhyw raglen neu gyllid allanol, ond yn hytrach, yn adlewyrchu anghenion ehangach y sir a’i threfi. Mae’r angen mwyaf yn y tair tref fwyaf sef Caergybi, Amlwch a Llangefni, ac mae Porthaethwy a Biwmares yn ymddangos yn fwy ffyniannus.

 

Aeth yr Aelod Portffolio ymlaen i ddweud, yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer yr argymhellion o fewn yr adroddiad, bydd proses ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu rhoi ar waith i gasglu safbwyntiau, sylwadau, a cheisio cefnogaeth ar gyfer y strategaeth arfaethedig, gyda’r bwriad o’i chwblhau a’i mabwysiadu yn ystod 2023. Defnyddir y broses ymgynghori hefyd i gasglu safbwyntiau, sylwadau ac argymhellion ar gyfer gwelliannau i ganol trefi unigol ac i lywio’r gwaith o baratoi cynlluniau siapio lleoedd unigol a/neu brosiectau perthnasol, yn dibynnu ar adnoddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Adnewyddu fod trefi a chanol trefi Ynys Môn wrth wraidd gweithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yr Ynys. Dywedodd bod y  nifer sylweddol o siopau gwag yng nghanol tref Caergybi yn adlewyrchu problemau’r economi leol, a datblygiad y parc manwerthu ar gyrion y dref fel y brif ardal siopa. Dywedodd fod menter siopau gwag Caergybi wedi helpu busnesau bach i ddechrau masnachu o siopau gwag, a bod hyn wedi gostwng y cyfraddau gwacter uchel blaenorol, ond yn ystod y pandemig, mae nifer y siopau gwag  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Porthladdoedd Rhydd Ynys Môn pdf eicon PDF 747 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd am Borthladd Rhydd Ynys Môn.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Portffolio ar gyfer Datblygiad Economaidd, ar 23 Mawrth 2023, fod y Cyngor Sir wedi cael gwybod ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am Borthladd Rhydd. Mae hyn wedi bod yn bosibl oherwydd y gwaith sylweddol wnaed gan Swyddogion y Cyngor, Stena Line a’r ymrwymiad i gyflwyno’r cynnig am y Porthladd Rhydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynnig am statws Porthladd Rhydd wedi bod yn llwyddiannus yn sgil cwblhau achos busnes manwl. Cynhelir cyfarfodydd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ynghyd â Stena Line, er mwyn egluro cyfrifoldebau, atebolrwydd a darparu rhagor o arweiniad. Aeth ymlaen i ddweud y bydd angen dechrau gwaith yn ystod y 6 mis nesaf er mwyn gallu rhyddhau’r £25m o gyllid cyfalaf. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ddatblygiadau prosiectau eraill yng Nghaergybi, e.e. adfer y Morglawdd, Morlais, Hwb Hydrogen a bod Stena Line yn bwriadu clirio cyn safle Anglesey Aluminium. Dywedodd y bydd angen cynllunio strategol o fewn tref Caergybi, gan gynnwys meysydd gwasanaeth eraill, fel darpariaeth addysg ac iechyd, a sicrhau nad yw datblygiadau’n cael effaith andwyol ar breswylwyr.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·         Dywedwyd fod cynllun y prosiect yn rhagweld y bydd rhwng 3,500 a 13,000 o gyfleoedd gwaith newydd yn cael eu creu dros gyfnod o 15 mlynedd. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau fydd ar waith i sicrhau eu bod nhw’n swyddi o ansawdd, a bod gan drigolion Ynys Môn y sgiliau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn? Cynghorwyd y Pwyllgor bod peth ansicrwydd ynghylch buddion y statws Porthladd Rhydd, a phwysleisiwyd bod y ffigwr o 13,000 o gyfleoedd gwaith yn berthnasol i ogledd Cymru gyfan, nid Ynys Môn yn unig. Pwysleisiwyd y bydd angen cwblhau gwaith gyda Stena Line a rhanddeiliaid rhanbarthol, partneriaeth sgiliau rhanbarthol a Llandrillo Menai, er mwyn galluogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd gwaith fydd yn deillio o’r Porthladd Rhydd.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch statws y drydedd bont ar draws y Fenai, a’r gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer y rhwydwaith priffordd oherwydd y statws Porthladd Rhydd? Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod angen cryfhau gwytnwch a’r cysylltiadau rhwydwaith ledled yr Ynys, ac mae pwysau’n parhau ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu’r drydedd bont ar draws Y Fenai.

·         Gofynnwyd cwestiynau ynghylch faint o gwmnïau sydd wedi mynegi diddordeb mewn adleoli ar yr Ynys oherwydd y statws Porthladd Rhydd? Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod nifer o gwmnïau a sefydliadau wedi mynegi diddordeb gan gynnwys GE-Hitachi, Rolls Royce SMR, Bechel, BP Lightsource a phrosiect Morlais Menter Môn, pan gyflwynwyd y cynnig gwreiddiol. Dywedwyd, unwaith fydd y strwythurau llywodraethu ar waith, bydd trafodaethau gyda busnesau sydd â diddordeb yn parhau. Pwysleisiwyd ei bod hi’n bwysig denu busnesau a all greu gwaith tymor hir gwerthfawr. Mynegodd y Pwyllgor ei bod hi’n bwysig fod pobl ifanc yn cael cyfleoedd megis prentisiaethau gyda’r cwmnïau sydd wedi dangos diddordeb mewn adleoli ar yr Ynys, a dylid hysbysu pobl  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.