Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybird - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 21ain Mehefin, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Deryn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 317 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, y cofnodion canlynol:-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2023;

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai, 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd canlynol yn gywir:

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ebrill, 2023

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai, 2023 (Ethol Cadeirydd/Is-gadeirydd)

4.

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022/2023 pdf eicon PDF 492 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·      Derbyn Adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-23

·      Nodi ei gynnwys a bod sylwadau Sgriwtini yn cael eu hanfon ymlaen i’r Aelod Portffolio Sgriwtini fel rhan o benderfyniad wedi’i ddirprwyo ac yna ei gyhoeddi.

 

 

5.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - 2022/2023 : Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 612 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

  • Derbyn diweddariad ar ddata 2022-2023 CSGA Ynys Môn, a chynnig dull o rannu’r wybodaeth hon.
  • Cadarnhau trefniadau i ail-gategoreiddio ysgolion Ynys Môn yn unol â chanllawiau anstatudol cenedlaethol.

 

6.

Adroddiad Cynnydd - Panel Sgriwtini Addysg

Derbyn adroddiad llafar gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad cynnydd.

7.

Adroddiad Blynyddol - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn pdf eicon PDF 438 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

  • Derbyn yr Adroddiad Blynyddol a nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Llesiant – 2018/2023;
  • Nodi y bydd y Cynllun Llesiant – 2023/2028 yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023.

 

 

8.

Cynllun Rheolaeth Cyrchfan pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblgu Economaidd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

  • Argymell bod y Cynllun Rheoli Cyrchfan yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith;
  • Gofyn i’r Fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini ystyried priodoldeb rhaglennu eitem benodol ar effaith twristiaeth ar gymunedau lleol ar gyfer cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn y dyfodol. 

 

9.

Adroddiad Perfformiad Cynllun Twf Gogledd Cymru Chwarter 4 : 2022/2023 (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru) pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod Chwarter 4: 2022/2023.

10.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·      Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2023/24

·      Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.