Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Materion Addysg - Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybrid, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 19eg Medi, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel yr uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb sy’n rhagfarnu yn Eitem 4, Ymgynghoriad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (Adolygiad o Ddarpariaeth Brys) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater.

 

Datganodd y Cynghorwyr Jeff Evans a John I. Jones ddiddordeb personol yn Eitem 4 – Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 223 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 21 Mehefin, 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023 yn gywir.

4.

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Adolygiad Darpariaeth Brys) pdf eicon PDF 169 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Gan fod Cadeirydd y Pwyllgor wedi datgan diddordeb sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, roedd yr Is-gadeirydd yn y Gadair ar gyfer yr eitem). Etholwyd y Cynghorydd Ken Taylor yn Is-gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd yn y Gadair fod Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhoi cyflwyniad i Aelodau mewn Sesiwn Friffio ym mis Gorffennaf. Nododd fod y Prif Swyddog Tân wedi tynnu sylw at y cynigion a’r opsiynau yn y ddogfen ymgynghori mewn perthynas ag Adolygiad o Ddarpariaeth Brys. Nodwyd fod y Prif Swyddog Tân wedi darparu sylwadau ychwanegol yn dilyn cyhoeddi Rhaglen y cyfarfod hwn a bydd cyfle i’r Pwyllgor ymateb i’r sylwadau hynny.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr ymgynghoriad yn cyfeirio at Adolygiad o Ddarpariaeth Brys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chyflwynwyd 3 Opsiwn i’w trafod ac ymgynghori arnynt, ynghyd â’r oblygiadau ariannol. Mae ymateb drafft ar ran y Cyngor ynghlwm i’r adroddiad. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Pwyllgor Sgriwtini gael cyfle i wneud sylwadau ar yr ymateb drafft. Ychwanegodd fod y mwyafrif o gyllid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cael ei dderbyn ar ffurf ardoll gan y chwe Awdurdod unedol yn yr ardal. Mae’r Cyngor yn cyfrannu at y gronfa gyfun hon, gyda’r cyfraniad yn seiliedig ar faint y boblogaeth. Byddai unrhyw newid yng nghyllideb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cael effaith ar yr ardoll a byddai’n creu pwysau ychwanegol ar gyllideb y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) fod y cyfnod ymgynghori ar gyfer ymateb i’r Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dod i ben ddiwedd mis Medi. Nododd mai bwriad yr ymateb drafft i’r ymgynghoriad yw crynhoi’r prif bryderon y dymuna’r Cyngor eu hamlygu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai Opsiwn 3 yn y ddogfen ymgynghori’n cael effaith ar yr Ynys ond ni fyddai’r ddau opsiwn arall yn cael effaith ar y gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod Tân ac Achub, ond byddai’n cael effaith ariannol ar yr awdurdodau lleol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif materion canlynol:-

 

·         Gofynnwyd a yw’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ystyried adolygu ei gostau gweinyddu canolog er mwyn achub gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd y Prif Weithredwr fod cwestiynau tebyg am dorri costau gweinyddol i achub gwasanaethau rheng flaen wedi’u gofyn y llynedd wrth osod yr ardoll. Nododd fod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi lleihau costau gweinyddol canolog dros y blynyddoedd, yn debyg iawn i’r Awdurdod hwn. Ychwanegodd fod yr Awdurdod Tân ac Achub wedi gweld yr ymateb drafft, yn dilyn cyhoeddi’r Rhaglen ar gyfer y Pwyllgor hwn, ac maent wedi darparu manylion i ddangos sut y bu iddynt dorri hyd at 10% oddi ar eu costau yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae’n dangos hefyd fod costau canolog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn is na chostau canolog unrhyw Awdurdod Tân arall yng Nghymru. Serch hynny, roedd y Prif Weithredwr o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Materion Addysg pdf eicon PDF 814 KB

·       Adroddiad Blynyddol ar Ynys Môn gan GwE : 2022/2023

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

 

·       Adroddiad Cynnydd Panel Sgriwtini Addysg

 

Cyflwyno adorddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Addysg.

 

·       Siarter Craffu Addysg

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar Cyfarwyddwr Stategol (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer Ynys Môn : 2022/2023

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg a’r Gymraeg ei fod yn croesawu’r adroddiad a bod y cydweithio gyda GwE yn golygu fod y rhan fwyaf o ysgolion ar Ynys Môn yn perfformio’n dda.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn partneriaeth agos ac effeithiol gyda GwE. GwE yw’r consortiwm addysg rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn er mwyn gwella ysgolion, rhannu arfer dda, gwybodaeth a sgiliau, cynyddu cryfderau lleol ac adeiladu capasiti. Nododd fod yr adroddiad yn cynnwys atodiadau ar Gynnydd ac Effaith mewn Ysgolion Uwchradd ac Ysgolion Arbennig; Cynnydd ac Effaith mewn Clystyrau Cynradd a Data ar Hyfforddiant a Chefnogaeth a ddarparwyd i Ynys Môn. Nodwyd blaenoriaethau i’w datblygu ymhellach yng nghynlluniau gwella ysgolion uwchradd, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif bwyntiau canlynol:-

 

  • Gofynnwyd beth yw’r safonau yn ysgolion Môn ar hyn o bryd ac i ba raddau y mae gwaith GwE yn effeithio ar safonau yn ysgolion Môn? Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda chynrychiolwyr GwE i drafod safonau, dysgu ac addysgu ac arweinyddiaeth ym mhob ysgol, yn ogystal â materion eraill yn ôl y gofyn. Mae prosesau arfarnu’r ysgolion yn gwella ac mae rôl GwE’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth mewn ysgolion. Nododd fod gan bob ysgol gynllun cymorth sy’n seiliedig ar anghenion yr ysgol thrafodir cynnydd mewn perthynas â’r anghenion hynny yn yr ysgolion mewn cyfarfodydd rheolaidd gyda chynrychiolwyr GwE. Ychwanegodd fod gan Gyrff Llywodraethu rôl hanfodol o ran prosesu gwybodaeth fanwl ynglŷn â safonau yn yr ysgolion. Cyfeiriodd Mrs Sharon Vaughan, Uwch Arweinydd GwE (Ysgolion Uwchradd), at y sector uwchradd a dywedodd fod GwE yn cyfarfod ag arweinwyr yr ysgolion i gefnogi a chynllunio gwelliannau yn yr ysgolion. Mae swyddogion yn ymweld â’r 5 ysgol uwchradd ar yr Ynys er mwyn mesur safonau yn yr ysgolion a gall hynny nodi’r cryfderau a’r meysydd i’w datblygu. Cyfeiriodd Mrs Gwenno Jones, Uwch Arweinydd GwE (Ysgolion Cynradd), at y sector Cynradd a dywedodd fod y blaenoriaethau gwella yn yr ysgolion cynradd yn cael eu harfarnu. Mae grwpiau o Benaethiaid yn cyfarfod yn rheolaidd, yn ogystal â staff ysgolion, i drafod y gwelliannau sydd eu hangen a rhannu arferion da ym mhob ysgol.
  • Cyfeiriwyd at y cyfeiriad yn adroddiad Gwe bod ‘cynhaliaeth ddwys wedi ei roi i un ysgol uwchradd ar yr ynys i geisio gwella ansawdd ac effeithiolrwydd uwch arweinyddiaeth. Maent yn parhau ar y daith wella ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth ddwys. Yn yr ysgol hon, er bod meysydd datblygu yn cael eu hadnabod yn gywir, nid yw’r cynllunio ar gyfer gwelliant na’r diwylliant ar gyfer sicrhau gwelliannau ar y cyd yn ddigon grymus.’ Gofynnwyd a oedd hyn yn feirniadaeth deg a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 362 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar gyfer 2023/2024 er ystyriaeth.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·     Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2023/24;

·     Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.