Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Euryn Morris fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol – Adroddiad Blynyddol : 2022/2023.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 19 Medi, 2023.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2023 yn rhai cywir.

 

4.

Adroddiad Blynyddol - Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio at Argyfwng : 2022/2023 pdf eicon PDF 200 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor ddyletswyddau cynllunio ac ymateb brys o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae'r Cyngor yn brif ymatebwr ac yn cyflawni ei rwymedigaethau trwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru trwy Wasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru. Dywedodd, yn dilyn ymgynghoriad a chadarnhad trwy'r broses wleidyddol ym mhob Awdurdod Lleol, bod swyddogaethau Cynllunio at Argyfwng pob un o'r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi'u cyfuno'n un gwasanaeth o dan gytundeb rhwng awdurdodau ers 2014. Ychwanegodd, yn ynys gyda dwy bont dros y Fenai, ei bod yn bwysig bod y Cyngor hwn yn gwbl ymroddedig yn y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol fel ei fod yn mynd i’r afael ag unrhyw argyfwng a allai ddigwydd ar yr Ynys a bod y gwasanaethau brys yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr Adroddiad Blynyddol a nododd ei fod yn rhoi sicrwydd bod y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn wasanaeth gwydn a bod y Cyngor hwn yn cydweithio’n llawn â'r gwasanaeth.

 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch y risgiau allweddol sy'n wynebu'r ynys a pharodrwydd y Cyngor o ran argyfyngau yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) gan ddweud y câi risgiau eu nodi a'u rheoli'n effeithiol yn ystod trafodaethau mewn Fforwm Gwydnwch a gynrychiolir gan yr Awdurdod. Nododd fod yna Gofrestr Risg Genedlaethol a bod y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol a'r Cyngor yn cyfrannu at adnabod unrhyw risgiau posibl. Ychwanegodd mai toriadau mewn pŵer, stormydd, seibr-ddiogelwch, ac effeithiau ar wydnwch pont Menai a phont Britannia oedd y prif risg allweddol. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod o’r farn bod yr Awdurdod yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, gan fod y lefelau llywodraethu a chyfranogiad yn eu lle; fodd bynnag, roedd yn dibynnu ar gefnogaeth sefydliadau brys eraill. Mynegodd mai cadernid y ddwy bont a’r posibilrwydd y gallai'r ddwy bont gael eu cau’r un pryd oedd y prif bryderon, gan y gallent beri problemau mawr pe ceid argyfwng ar yr Ynys. Dywedodd ei bod yn bwysig parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod rhaid i’r ddwy bont fod yn wydn ac y gellid dibynnu arnynt.

 

  • Cyfeiriwyd at y risg o danau gwyllt yng Nghoedwig Niwbwrch oherwydd y tywydd sych, gan mai dim ond un briffordd sydd trwy bentref Niwbwrch ac allan ohono a dim ond un maes parcio yn y cyffiniau. Codwyd cwestiynau ynghylch pa drefniadau oedd ar waith i gefnogi’r trefniadau cynllunio at argyfwng i fynd i’r afael â thanau gwyllt posibl yn yr ardal ac i ba raddau yr ymgynghorwyd â phartneriaid allanol. Ymatebodd y Prif Weithredwr drwy ddweud mai Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yr awdurdod cyfrifol ar gyfer Coedwig Niwbwrch a bod ganddynt gynllun ymateb brys ar waith. Nododd nad oedd y Cyngor wedi bod yn rhan o unrhyw ymarfer brys gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd yr Aelod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol : 2022/2023 pdf eicon PDF 7 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion mai nod Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru oedd gweithio ar y cyd ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i helpu i gefnogi cymunedau gwydn a sicrhau gwasanaeth di-dor i unigolion yr oedd angen gofal a chymorth arnynt. Nododd mai dyma Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru am 2022/23, fel oedd yn ofynnol yn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yr oedd pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei baratoi, ei gyhoeddi ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad wedi'i osod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwblhau'r Adroddiad Blynyddol.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu'r gwaith oedd wedi ei gyflawni’n rhanbarthol ac yn isranbarthol gyda'r Cynllun Ardal, a nodai'r Cynllun Awtistiaeth, y Cynllun Gofalwyr, y Cynllun Gofalwyr Ifanc, y Cynllun Plant a Phobl Ifanc a'r Strategaeth Anawsterau Dysgu. Nododd, hefyd, y canolbwyntiwyd ar anghenion plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y broses ariannu cyfalaf.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch rôl a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud fod y broses lywodraethu’n gymhleth yn y Bwrdd Partneriaeth. Nododd y gellid egluro rôl a phwrpas y Bwrdd Partneriaeth mewn Sesiwn Briffio i Aelodau Etholedig.

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch y berthynas rhwng Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddweud y câi'r ddau adroddiad eu hymgorffori yn ei gilydd gan fod y cyllid cyfalaf i ariannu llawer o brosiectau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei ariannu'n rhanbarthol.

 

  • Codwyd cwestiynau ynglŷn â rôl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wrth hwyluso sefyllfa nifer uchel o gleifion oedd yn methu cael eu rhyddhau o Ysbyty Gwynedd i fynd adref i’w preswylfa barhaol oherwydd nad oedd darpariaeth Gofal ar eu cyfer. Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gan ddweud bod rhaid i'r Awdurdod Lleol drafod anghenion claf, y mae angen pecyn gofal arno, gyda'r darparwyr Gofal yn dilyn asesu’r claf hwnnw. Nododd bod perthynas waith agos rhwng y Bwrdd Iechyd ac Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Môn i ddarparu gofal mewn Cartrefi Preswyl cyn i glaf allu dychwelyd i’w brif breswylfa. Roeddynt, hefyd, yn trafod gyda theulu’r claf i ganfod a allent gynorthwyo i ofalu amdano cyn rhoi pecyn gofal yn ei le. Dywedodd fod yna broblem recriwtio genedlaethol yn y sector gofal gan nad oedd y tâl yn ddeniadol i bobl ymgeisio am swyddi yn y sector hwnnw. Dywedodd mai parhau fyddai problemau parhaus cleifion na allant gael eu rhyddhau o ysbytai, oni byddai Llywodraeth Cymru’n mynd i'r afael â'r mater hwn.

 

  • Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau yr oedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cyflawni ei flaenoriaethau allweddol yn ystod 2022/2023 a beth oedd blaenoriaethau allweddol y Bwrdd am 2023/2024. Ymatebodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus : 2023/2028 pdf eicon PDF 773 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid i'r Pwyllgor ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid bod rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gynhyrchu Strategaeth Gyfranogi sy’n nodi sut y câi pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses benderfynu’r Cyngor. Nod y strategaeth oedd annog pobl i gymryd rhan ym musnes y Cyngor ac ychwanegu at lwyddiant y Cyngor wrth ymgysylltu â thrigolion fel y cydnabyddid gan Archwilio Cymru. Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori gyda Swyddogion y Cyngor am gyfnod o bedair wythnos. Roedd canran uchel o ymatebwyr yn cytuno â chynnwys y Strategaeth, a ddangosai gefnogaeth i'r Strategaeth a'r bwriad i'w hadolygu'n rheolaidd. Cydnabuwyd bod angen gwella cyfraniad cynyddol plant a phobl ifanc ym mhenderfyniadau’r Cyngor, edrych ar ddulliau newydd o gasglu a chyflwyno adborth yn ddigidol ac ystyried ffyrdd o adrodd ar y llwyddiant/diffyg llwyddiant o ran cymryd rhan. Nododd y câi Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 24 Hydref 2023 ac, wedi hynny, i'r Cyngor llawn ar 26 Hydref 2023, i'w gadarnhau.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y prif faterion a ganlyn:-

 

·     Holwyd beth oedd y trefniadau a'r prosesau ychwanegol y bwriedid eu rhoi yn eu lle i sicrhau y byddid yn cydymffurfio’n llawn â'r gofynion newydd. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen gan ddweud bod angen gwella cyfranogiad ac ymatebion i ymgynghoriadau, yn enwedig gan fod ymatebion i'r ymgynghoriadau yn is ymhlith y grŵp oedran 16 i 24. Byddid yn ailsefydlu’r Fforwm Plant a Phobl Ifanc er mwyn denu ymatebion i waith y Cyngor gan y genhedlaeth iau. Roedd angen ailsefydlu'r Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori er mwyn sicrhau y byddid yn cydymffurfio â Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd. Ychwanegodd fod angen asesu gwahanol ffyrdd o gasglu ymatebion digidol i ymgynghoriadau. Roedd angen ystyried ffactorau demograffig oherwydd y boblogaeth oedd yn heneiddio ar Ynys Môn. Mewn rhai achosion, nid oedd y boblogaeth hŷn yn defnyddio’r llwyfan digidol i ymateb i ymgynghoriadau a’i bod yn well ganddynt ymateb yn y dulliau traddodiadol.

 

·     Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen annog yr ieuenctid i gymryd rhan yn swyddogaethau democrataidd y Cyngor. Dywedodd yr Is-Gadeirydd fod yr Arweinydd wedi gwahodd plant o Ysgol Gynradd y Fali yn ddiweddar i weld y swyddogaethau democrataidd ac i esbonio iddynt waith adrannau’r Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Wasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai fod llais plant a phobl ifanc yn hollbwysig i wasanaethau’r Awdurdod Lleol, oedd yn cael effaith arnynt yn feunyddiol. Dywedwyd, hefyd, y dylid annog disgyblion Ysgolion Uwchradd i ddod i’r Cyngor ac estyn gwahoddiad iddynt a bod ganddynt farn gref ar yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd yn eu cymunedau. Holwyd a oedd y Cyngor yn cynnig profiad gwaith ac a oedd yr ysgolion a'r asiantaethau lleol, oedd yn gweithio gyda phobl ifanc, yn ymwybodol o gyfleoedd i gael profiad gwaith. Ymatebodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid gan ddweud, mai fel  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 424 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn nodi blaenraglen waith ddangosol y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio am 2023/2024.

 

PENDERFYNWYD:-

 

    Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaenraglen waith am 2023/2024;

     Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r rhaglen waith i'r dyfodol.