Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Cyfarfod Hybird - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mercher, 13eg Mawrth, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno, i’w gadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Chwefror, 2024.  

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror, 2024 yn gofnod cywir. 

 

3.

Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-2029 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD argymell bod y Cynllun Strategol Taclo Tlodi 2024-2029 yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn. 

 

4.

Diweddariad Diogelu Corfforaethol Strategol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi datblygiadau’r 12 mis diwethaf sy’n cynnig sicrwydd fod y Cyngor yn bodloni eu goblygiadau diogelu.

 

5.

Cronfa Ffyniant Bro - Caergybi pdf eicon PDF 869 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio ac Datblygu Economaidd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

  • Nodi’r cynnydd o ran datblygu a chyflwyno'r rhaglen LUF yng Nghaergybi
  • Nodi bod y Rhaglen LUF yn cael ei chyflawni’n unol â chanllawiau Llywodraeth y DU
  • Cydnabod rôl y Cyngor wrth gefnogi Partneriaid Darparu'r Rhaglen.

 

6.

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb - 2022/2023 pdf eicon PDF 746 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog 151.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022/2023.

7.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2023/2024 pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

  • Cytuno i’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2023/24

·       Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.