Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Iau, 12fed Mehefin, 2025 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 221 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol:-

 

·         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Ebrill, 2025;

·         Cofnodion Ethol Cadeirydd a Is-gadeirydd a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-

 

·          Cofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2025

·         Cofnodion Ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd a gynhaliwyd 20 Mai, 2025.

3.

Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2024-2025 pdf eicon PDF 702 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·          Derbyn Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg – 2024 i 2025

·         Nodi ei gynnwys ac anfon sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini at yr Aelod Portffolio er mwyn ei gyflwyno am gymeradwyaeth dirprwyedig gan yr aelod portffolio a’i gyhoeddi.

4.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg : 2024/2025 - Mesur Cynnydd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar y Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Ynys Môn: data 2024/2025.

 

5.

Rhaglen Ariannol Llywodraeth Cymru y DU (Cronfa Ffyniant Bro Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·             Nodi’r cynnydd o ran darparu Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi.

·             Nodi bod y Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi yn cael ei gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU

·             Cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran cefnogi Partneriaid Darparu’r Rhaglen.

 

6.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor : 2025/2026 pdf eicon PDF 311 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Penderfyniad:

 PENDERFYNWYD :-

 

·          Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2025/26.

·          Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.